Neidio i'r prif gynnwy

Mae safonau newydd wedi cael eu pennu i wella’r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer unigolion sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod cam-drin domestig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru yn torri tir newydd ac yn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio mwy ar sicrhau bod y rhai sy’n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn atebol am hynny ac yn cael cyfle i newid eu hagwedd. 

Bydd y safonau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gosod meincnod ar gyfer gwasanaethau sy’n cynorthwyo cyflawnwyr trais o’r fath ac yn ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau cyson, o ansawdd uchel, sy’n ddiogel. 

Wrth lansio’r safonau newydd yng Nghaerdydd, dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James:

“Mae dioddefwyr a goroeswyr yn ganolog i’n gwaith o fynd i’r afael ag ymddygiad bygythiol. Er hynny, er mwyn gweld gwir wahaniaeth, rhaid i ni gydweithio â’r unigolion sy’n cyflawni’r troseddau hyn er mwyn newid eu hymddygiad a chaniatáu iddynt fyw bywyd gwell a mwy diogel. Bydd hyn wedyn yn newid bywyd y rhai sy’n dioddef y trais, yn bartneriaid, darpar bartneriaid a phlant. 

“Bydd y safonau hyn yn codi’r bar ar gyfer y gwasanaethau hyn, gan sicrhau eu bod yn gweithio’n effeithiol ac yn ddiogel i dorri’r cylch dieflig o drais.”

Mae’r gwaith hwn o newid agweddau yn cynnwys edrych ar yr hyn sydd y tu ôl i’r ymddygiad bygythiol a meddwl am yr effaith y mae profiadau mawr, fel trawma, yn eu cael. Mae cefnogaeth ar gael hefyd i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, gan gynnwys datblygu a meithrin sgiliau i reoli gwrthdaro heb droi at drais neu ymddygiad bygythiol

Mae’r safonau newydd yn cynnwys prosesau effeithiol ar gyfer dewis, hyfforddi a goruchwylio staff ac yn sicrhau gwell sylfaen dystiolaeth wrth ddewis pa wasanaethau i’w darparu, cyfathrebu effeithiol rhwng asiantaethau  er mwyn rheoli risg a chysylltiadau gwell â gwasanaethau plant a dioddefwyr.