Neidio i'r prif gynnwy

Hoffen ni glywed eich barn ynghylch a ddylid gwneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth safonau marchnata yng Nghymru ar gyfer cig dofednod ac wyau maes.

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
9 Medi 2024
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae cyfnod rhanddirymiad o 16 wythnos yn bodoli pan fydd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru yn ei gwneud yn ofynnol cadw heidiau adar o dan do os bydd achos o ffliw adar.

Gosodir y safonau marchnata gan Reoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 a Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011.

Byddai newidiadau arfaethedig yn dileu'r cyfnod rhanddirymiad o 16 wythnos ar gyfer wyau a chywion. Byddai wyau'n parhau i gael eu labelu'n wyau maes yn ystod y cyfnod pan fydd yn ofynnol cadw adar o dan do.

Byddai'r rhanddirymiad 12 wythnos presennol ar gyfer cig dofednod hefyd yn cael ei ddileu. Byddai hyn yn galluogi cig i gael ei labelu'n gig maes yn ystod unrhyw fesurau gorfodol i gadw adar o dan do.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 9 Medi 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Post

Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.

Cwblhewch a dychwelyd i:

Is-adran Bwyd
Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Llywodraeth Cymru
Tŷ Ladywell
Stryd y Parc
Y Drenewydd

SY16 1JB