Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Yn ystod 2021/22 roedd llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru yn y broses o adfer ar ôl aflonyddwch y pandemig. Wrth i’r cyhoedd ddod yn fwy hyderus i fynd i fannau cyhoeddus, bu modd i lyfrgelloedd ailddechrau mwy o’u gwasanaethau wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, am nifer o resymau, mae cyflymder ailddechrau’r gwasanaethau wedi amrywio rhwng awdurdodau. O ganlyniad i hynny, mae’r graddau y mae gwasanaethau a nifer defnyddwyr wedi adfer yn anghyson ac nid oeddwn o’r farn ei bod yn briodol gofyn i wasanaethau adrodd yn erbyn fframwaith llawn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. 

Mae’r adroddiad hwn yn cynrychioli ymarfer casglu data mwy penodol. Mae gwasanaethau wedi adrodd am eu perfformiad yn erbyn Dangosyddion Craidd darparu gwasanaeth fel y nodir yn chweched fframwaith Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.  Mae gweddill yr adroddiad yn canolbwyntio ar gasglu data ansoddol. O’r wybodaeth sydd wedi ei darparu rwy’n falch o weld bod llyfrgelloedd cyhoeddus, wrth i’r pandemig gilio, wedi parhau i gefnogi eu cymunedau lleol a chyfrannu at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd a lles. 

Rebecca Evans AS

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Trosolwg

Ar gyfer cyfnod 2021/22, fe wnaeth pob gwasanaeth: 

  • adrodd ar 12 Hawl Craidd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru (WPLS) (mae Atodiad 1 yn crynhoi i ba raddau yr oedd pob awdurdod yn bodloni’r Hawliau Craidd);
  • adrodd ar eu cynnydd yn erbyn chwe dangosydd ansawdd y WPLS (yn hytrach na’r 16 llawn), ond nid ydynt wedi cael eu profi i weld a oeddent naill ai’n bodloni neu’n methu’r dangosyddion ansawdd hynny;
  • ddarparu adroddiad ar eu naratif strategol a’u cyfeiriad yn y dyfodol;
  • ddarparu astudiaethau achos yn dangos effaith y gwasanaethau llyfrgell ar eu cymunedau; a
  • chael eu gwahodd i ddarparu data digidol. Roedd hyn yn gofyn am wybodaeth am wasanaethau ‘Clicio a Chasglu’; nifer y sesiynau ar-lein a gynhaliwyd; a nifer yr unigolion a gymerodd ran mewn sesiynau ar-lein.

Mae adroddiadau gwasanaeth unigol eleni yn seiliedig ar asesiadau annibynnol o’r wybodaeth hon. Yn ogystal â’r adroddiadau gwasanaeth unigol, mae’r aseswyr annibynnol wedi darparu crynodeb o’r ‘penawdau’ cyffredinol ar gyfer cyfnod 2021/22:  

Defnydd o’r llyfrgell

  • Gwellodd y nifer o fenthycwyr gweithredol, ar ôl gostwng bron yn gyffredinol yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig. Serch hynny, mae cyflymder yr adferiad yn amrywio’n fawr. Yn 2020/21, disgynnodd y niferoedd ym mhob gwasanaeth ac eithrio un. Yn 2021/2022, cynyddodd y ffigurau hyn ledled Cymru, gyda dim ond tri gwasanaeth heb weld cynnydd. Roedd y cynnydd yn amrywio o 7% i 172% ond roedd pob un yn dal yn is na’r lefelau cyn y pandemig.
  • Mae nifer y benthyciadau llyfrau i oedolion yn dilyn patrwm tebyg i fenthycwyr gweithredol ond gydag amrywiaeth eang rhwng gwasanaethau. Rhwng 2020/2021, gostyngodd y niferoedd ym mhob gwasanaeth, ond cododd ym mhob man yn 2021/2022. Roedd y cynnydd yn amrywio o 43% i 600%, ond dim ond un gwasanaeth sydd wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.
  • Mae’r patrwm ar gyfer benthyciadau llyfrau i blant yn debyg ond yn fwy amrywiol fyth. Yn 2020/21, disgynnodd y niferoedd ym mhob gwasanaeth, ond cododd y niferoedd ym mhob man yn 2021/22. Roedd y cynnydd yn amrywio o 85% i 1,700%, ond dim ond dau wasanaeth sydd wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig.
  • Mae e-fenthyciadau wedi codi 212% ar y lefelau cyn y pandemig. Yn gyffredinol, fodd bynnag, bu gostyngiad o 88% mewn e-fenthyciadau rhwng 2021-22 a’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn efallai gan fod defnyddwyr yn gallu cael gafael ar stoc ffisegol o lyfrgelloedd. Mae chwe gwasanaeth wedi gweld cynnydd yn y ffigurau rhwng 2020-21 a 2021-22 ond mae’r gweddill wedi gostwng.

Themâu ehangach

  • Mae'r amrywiad eang a welwyd yn y data ar niferoedd a benthyciadau yn cael ei adlewyrchu'n fwy eang yn adroddiadau eleni. Dengys hyn bod rhai gwasanaethau llyfrgell yn gwella ac yn ffynnu, tra bod eraill yn parhau i'w chael yn anoddach adfer ar ôl effaith y pandemig. 
  • Roedd y gefnogaeth tuag at yr iaith Gymraeg yn amlwg yn gryf ar draws nifer o wasanaethau.
  • Mae modelau canolfannau (cydleoli llyfrgelloedd â gwasanaethau eraill) wedi cael eu cyflwyno mewn sawl gwasanaeth. Mae angen monitro effaith y model darparu hwn.
  • Roedd nifer fawr yn manteisio ar fentrau cenedlaethol ac mae’n ymddangos eu bod wedi cael derbyniad da. Mae’r Gaeaf Llawn Lles a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn un enghraifft o hyn.
  • Mae modelau Agored+ (sy’n galluogi mynediad â cherdyn y tu allan i oriau staff) yn cael eu mabwysiadu fwyfwy naill ai i ymestyn oriau agor, neu i ddisodli oriau staff.
  • Roedd enghreifftiau o gynlluniau newydd yn cael eu lansio dros y flwyddyn, hyd yn oed ymysg gwasanaethau a oedd yn cael trafferth gydag adnoddau a staffio. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyflwyno Borrowbox (e-lyfrau ac e-lyfrau llafar), Stordy Creadigol, ‘llyfrgell o bethau’ (benthyg offer), a mentrau i fesur gwerth cymdeithasol.
  • Mae’n ymddangos bod cael gwared ar ddirwyon, naill ai’n barhaol neu fel cynllun peilot, yn batrwm cynyddol, gyda’r nod o gynyddu’r defnydd o lyfrgelloedd a chyrraedd defnyddwyr newydd.
  • Roedd rhai gwasanaethau’n gallu adolygu eu pwrpas a’u nodau cyffredinol, yn ogystal â chyhoeddi’r rhain fel strategaethau newydd yn ystod y cyfnod adrodd. Ond, mae llawer yn dibynnu ar waith a wnaed cyn y pandemig.
  • Nid oedd gan rai gwasanaethau wybodaeth gyfredol am anghenion preswylwyr a defnyddwyr. Yn aml, roedd hyn oherwydd bod y pandemig wedi’i gwneud yn anodd cynnal arolygon defnyddwyr. Mae casglu data ehangach am anghenion preswylwyr nad ydynt yn defnyddio llyfrgelloedd ar hyn o bryd yn wendid mewn rhai gwasanaethau.

Atodiad 1

Hawl Craidd

Wedi’i fodloni’n llawn

Wedi’i fodloni’n rhannol

Ddim wedi'i fodloni

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

22

0

0

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

22

0

0

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

22

0

0

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

21

1

0

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

21

1

0

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

20

2

0

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

21

0

1

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

22

0

0

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

22

0

0

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

22

0

0

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

17

4

1

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

15

4

3

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin)

Trosolwg a lleoliad

Darparwyd gwasanaethau llyfrgell Blaenau Gwent gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin. Roedd y gwasanaeth yn cynnwys chwe changen gyda 98% o drigolion yn byw o fewn 2.5 milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Blaenau Gwent dystiolaeth ei fod wedi bodloni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

 12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 31 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 7% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 108% i 662 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 309% i 94 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Gwelwyd gostyngiad yn nifer yr archebion Clicio a Chasglu ond mae cwsmeriaid yn dal i ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae Blaenau Gwent hefyd yn cynnig gwasanaeth danfon i’r cartref sy’n cynnwys llyfrau yn ogystal ag offer sydd wedi’i ddylunio’n arbennig ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg.

Nid oes arolwg cwsmeriaid wedi cael ei gynnal ers 2019, ond roedd un ar y gweill ar gyfer 2022/23. Roedd Blaenau Gwent yn rhan o’r broses o adfer gwasanaethau o’r cyfnod cyn y pandemig, gan sicrhau bod asesiad risg cyson wedi’i gymeradwyo gan adran iechyd a diogelwch yr awdurdod lleol. Mae hyn wedi golygu bod y gwasanaeth wedi gallu dychwelyd at y ddarpariaeth oedd yn bodoli cyn y pandemig.

Uchafbwyntiau

Y datblygiad mwyaf arwyddocaol fu uno hybiau cymunedol y Cyngor yn llyfrgelloedd, sydd wedi denu llawer mwy o ymwelwyr i bob llyfrgell ac wedi arwain at ehangu cynlluniau partneriaeth yn sylweddol. Er enghraifft, mae Adran Adfywio Cyngor Blaenau Gwent wedi hyrwyddo prosiectau lleol, wedi ariannu sgriniau digidol ar gyfer pob llyfrgell ac wedi cynnwys y gwasanaeth yn y gwaith hyrwyddo ‘Siopa’n Lleol’.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau eraill:

  • Mae’r gwasanaeth llyfrgell wedi cryfhau’r gwaith partneriaeth ymhellach drwy ddarparu hybiau cymunedol ym mhob llyfrgell, gydag amrywiaeth gynyddol o gymorth wyneb yn wyneb i breswylwyr, gan gynnwys ar gyfer ceisiadau am Fathodyn Glas a chynlluniau ad-dalu Costau Byw.
  • Ym mis Hydref 2021, lansiwyd prosiect llyfrgell chwaraeon mewn llyfrgelloedd sydd ar agor 30 awr a mwy yr wythnos, lle gallai defnyddwyr fenthyg amrywiaeth o offer chwaraeon o’r llyfrgell yn rhad ac am ddim.
  • Ers mis Medi 2021, mae amrywiaeth o weithgareddau wedi cael eu hailgyflwyno, gan gynnwys Ioga Babis, Grŵp Ysgrifennu Creadigol, Grŵp Inside Out (celf ar gyfer iechyd meddwl) a llawer mwy.
  • Mae’r gwasanaeth wedi gweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl lle gall unigolion gasglu pecynnau adnoddau, yn ogystal â bod yn rhan o’r gwasanaeth danfon i’r cartref.
  • Roedd y rhaglen ‘Gaeaf Llawn Lles’ yn darparu amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim i deuluoedd, a darparodd y gwasanaeth 29 o ddigwyddiadau a fynychwyd gan 152 o rieni a 596 o bobl ifanc, gan ganiatáu ar gyfer ailgysylltu â phobl ifanc ym Mlaenau Gwent ar ôl y pandemig.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Dangosodd Blaenau Gwent ddarlun cymysg o ran deunyddiau. Er bod Blaenau Gwent yn y chwartel isaf o ran gwariant ar ddeunyddiau fesul 1,000 o’r boblogaeth, cynyddodd cyfanswm y gwariant ar ddeunyddiau dros y flwyddyn, gyda 17% o’r gyllideb yn cael ei gwario ar ddeunyddiau plant. Mae’r gyllideb hon ar gyfer llyfrau plant yn chwartel cyntaf y gwasanaethau’n genedlaethol. O ran y Gymraeg, mae Blaenau Gwent yn y chwartel uchaf ar gyfer gwariant fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg. Roedd yn yr ail chwartel ar gyfer nifer y benthyciadau Cymraeg a gwelwyd cynnydd o dros 1000% mewn benthyciadau Cymraeg ers y flwyddyn flaenorol.

O ran gwaith maes, darparodd Blaenau Gwent wasanaeth danfon i’r cartref i breswylwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad i’r llyfrgelloedd sefydlog. Roedd Blaenau Gwent hefyd yn darparu amrywiaeth o wahanol wasanaethau o iechyd a lles i ddysgu gydol oes. Dywedodd Staff eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am adnoddau a chyfleoedd newydd mewn cyfarfodydd.

Staffio

Mae cyfanswm nifer y staff wedi aros yr un fath ers 2021. Dim ond un aelod o staff proffesiynol sydd yno, ac mae disgrifiadau swydd wedi cael eu hadolygu i greu swydd broffesiynol newydd. Mae deiliad newydd y swydd yn gweithio tuag at gymhwyster MCLIP, ac mae gan y rheolwr gweithredol gymhwyster MCLIP yn barod.

Data digidol

Darparodd Blaenau Gwent ddata digidol gan gynnwys ystadegau ‘Clicio a Chasglu’. Wrth i gyfyngiadau’r pandemig lacio, gwelodd Blaenau Gwent ostyngiad o 58% yn y defnydd o’u gwasanaethau ‘Galw a Chasglu’. Fodd bynnag, dywedasant fod pobl yn dal i fwynhau’r gwasanaeth am amryw o resymau, ac maent hefyd yn darparu gwasanaeth danfon i’r cartref. Ni chasglwyd data am sesiynau ar-lein ac unigolion a oedd yn cymryd rhan ar gyfer 2022 ond mae’r gwasanaeth yn nodi bod cwsmeriaid yn gofyn am i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ddychwelyd. Roedd rhai gwasanaethau’n dal ar-lein fel celf a chrefft ac Ioga Babis. Ar eu gwefan, mae Blaenau Gwent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys e-lyfrau drwy Borrowbox, adnodd astudio ar-lein a rhestrau o’r gweithgareddau maen nhw’n eu darparu.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Un o brif gynlluniau’r gwasanaeth i’r dyfodol yw adleoli Llyfrgell Abertyleri i leoliad newydd gan fod y prosiect wedi’i ohirio oherwydd pandemig Covid-19. Bydd y gwasanaeth hefyd yn gweithio i gyflwyno agendâu lleol a chenedlaethol, ac mae cefnogaeth gymunedol yn dal yn rhan gref o’r gwasanaeth. Gyda llawer o staff ar fin ymddeol, mae’r gwasanaeth yn cynllunio ymgyrch recriwtio fawr a fyddai’n newid hanner y gweithlu. Bydd yn gweithio gyda staff i ddefnyddio’r broses recriwtio hon fel cyfle i ddatblygu’r gwasanaeth a cheisio grantiau gan y ffrwd Ariannu Blaenoriaethau Sgiliau i recriwtio dau swyddog datblygu llyfrgelloedd newydd. Mae trigolion wedi bod yn gofyn am amseroedd agor cynharach ar gyfer y llyfrgelloedd sydd ar agor yn rhan amser. Nid yw wedi gallu gwneud hyn eto, ond mae’n ceisio gwneud hynny. Bydd iechyd a lles yn rhan annatod o’r amrywiaeth o wasanaethau y mae’r llyfrgelloedd yn eu darparu, ac mae’n datgan ei fod wedi ymrwymo o hyd i’w ethos o greu effeithiau cadarnhaol drwy iechyd corfforol a meddyliol.

Astudiaethau achos

Darparodd Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin bedair astudiaeth achos i ddangos effaith gadarnhaol y gwasanaeth, gan gynnwys un ar unigolyn a oedd yn dioddef o Covid hir ac un ar sut roedd defnyddio’r gwasanaeth llyfrgell wedi helpu teulu newydd i ymgartrefu ac i deimlo’n rhan o’r gymuned. 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen)

Trosolwg a lleoliad

Darperir gwasanaethau llyfrgell ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae 11 llyfrgell, yn ogystal â gwasanaeth danfon i’r cartref, ac mae 99% o’r preswylwyr yn byw o fewn 2.5 milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Awen dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

 

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 85 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 23% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 229% i 1,224 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 834% i 831 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Mae Awen yn darparu gwasanaeth danfon i’w cwsmeriaid i helpu’r rheini nad ydynt yn gallu dod i’r llyfrgelloedd. Nid yw’r gwasanaeth wedi’i gyfyngu i’r rheini sy’n analluog oherwydd salwch, oedran neu anabledd, mae hefyd yn cynnwys gofalwyr a theuluoedd ifanc.

Uchafbwyntiau

Mae’r gwasanaeth wedi bod yn gweithio i adfer gwasanaethau i’r lefelau cyn y pandemig yn ddiogel ac yn ofalus, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol gyda strategaeth newydd tair blynedd. Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  • Dychwelyd gwasanaethau ar yr un pryd â chadw at gamau diogelwch a chefnogi staff. Mae hyn yn cynnwys cefnogi staff sydd angen ynysu, mesurau arbennig fel gwisgo masgiau safonol FFP2 ar gyfer danfon i’r cartref, a chefnogi staff y byddai’n well ganddynt wisgo masgiau;
  • Gweithio i wella llythrennedd digidol. Mae hyn yn cynnwys darparu cymorth i ddefnyddwyr fel help i wneud cais am docyn bws, a chymorth cyffredinol i’r rheini sydd wedi’u heithrio’n ddigidol neu sydd heb lawer o hyder i ddefnyddio dyfeisiau. Mae PCs cyhoeddus hefyd wedi helpu gyda chymorth cyflogaeth;
  • Mae’r rhaglen ‘Bounce and Rhyme’ wedi rhoi’r cyfle i bobl a fyddai fel arall yn teimlo’n ynysig i gwrdd, yn enwedig mamau sengl;
  • Yn Llyfrgell Porthcawl, roedd y grŵp darllen presennol yn llawn; felly dechreuwyd grŵp newydd, a gweithiodd y Llyfrgell i drefnu cyfarfodydd zoom ar gyfer grŵp o’r enw The Bookies.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Mae Awen yn yr ail chwartel ar gyfer gwariant ar ddeunydd fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd 23% o’r gwariant hwn ar ddeunyddiau plant, ar gyfer poblogaeth lle mae 17% dan 16 oed. Mae hyn yn ei roi yn y chwartel uchaf ar gyfer y gyllideb a wariwyd ar adnoddau plant. Mae Awen hefyd wedi buddsoddi mewn ffyn cof gydag e-lyfrau wedi’u llwytho i lawr y gellir eu chwarae ar Boombox (seinydd symudol), gan ei gwneud yn haws i’r rheini sydd â nam ar eu golwg gael mynediad i’r gwasanaeth.

Er gwaethaf yr anawsterau o adfer ar ôl y pandemig, mae Awen wedi cael dros 33,000 o bobl (plant ac oedolion) yn mynychu eu digwyddiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r digwyddiadau hyn wedi cynnwys Dungeons and Dragons, Carer Afternoons, Code Clubs, a Knit and Natter

O ran adnoddau Cymraeg, mae’r gwasanaeth wedi cyflwyno tair sesiwn Bounce and Rhyme ddwyieithog newydd, yn ogystal â mwy o gefnogaeth i sesiynau Bore Coffi. Mae adolygiad o adnoddau wedi nodi’r angen am fwy o bapurau newydd a chylchgronau Cymraeg, gan gynnwys rhai ar gyfer plant. Ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth yn y chwartel isaf ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau Cymraeg, gyda gwariant o ddim ond 2%. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth ymysg canolrif y gwasanaethau ar gyfer nifer y benthyciadau fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg, a gwelwyd cynnydd o 577% mewn benthyciadau Cymraeg, sy’n fwy na benthyciadau’n gyffredinol.

Staffio

Mae gan 15 aelod o staff gymwysterau sy’n gysylltiedig â llyfrgelloedd, ac mae gan reolwr gweithredol y gwasanaeth llyfrgell gymhwyster MCLIP. Cafodd pob swydd wag ei llenwi erbyn mis Mawrth 2022, ac ychwanegwyd swydd newydd Rheolwr Treftadaeth, sy’n goruchwylio gwaith treftadaeth ac adnoddau hanes lleol a theuluoedd.

Roedd yr amser a dreuliwyd ar hyfforddi a datblygu staff wedi cynyddu 1.8% i 9.7% dros y cyfnod. Mae’r hyfforddiant hwn yn cynnwys sesiwn gynefino tri mis, hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, Microsoft 365 a diogelu. Anogir staff hefyd i awgrymu cyrsiau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt, ac adrodd yn ôl i’r tîm ar gyfer dysgu ar y cyd.

Data digidol

Roedd Awen yn darparu data digidol gan gynnwys clicio a chasglu, sesiynau ar-lein a gynhaliwyd a nifer yr unigolion a wyliodd sesiynau byw/wedi’u recordio. Gwelodd Awen ostyngiad yn y tri mesur o ran defnyddio gwasanaethau digidol, yn ogystal ag e-fenthyciadau yn ystod y cyfnod. O ran ‘Clicio a Chasglu’, roeddent wedi gweld gostyngiad o 61% rhwng 2021 a 2022 ac roedd yn y canolrif ar draws y gwasanaethau ar gyfer clicio a chasglu fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd y gwasanaeth yn y chwartel uchaf ar gyfer sesiynau ar-lein er bod nifer y sesiynau ar-lein wedi gostwng 46%, a bod yr unigolion a gymerodd ran wedi gostwng 73%. Gellir priodoli’r gostyngiad hwn yn rhannol i Awen yn symud oddi wrth adnoddau ar-lein i ganolbwyntio ar wasanaethau wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae wedi ymrwymo o hyd i gyrraedd grwpiau agored i niwed drwy ei wasanaethau ar-lein a thrwy’r rhaglen ‘Books on Wheels’. Gostyngodd nifer yr e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth 33% ac mae yn y chwartel cyntaf ar draws y gwasanaethau. Mae’r gwasanaeth yn honni’n rhannol bod hyn oherwydd newid yn y darparwr eMagazine a’r gwahaniaeth rhwng dull graddnodi benthyciadau’r cyflenwr.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

O dan ei strategaeth newydd ar gyfer 2022-25, mae’r gwasanaeth yn rhoi effaith gymdeithasol wrth galon pob cynllun i’r dyfodol, gan ddefnyddio cerrig milltir a dangosyddion perfformiad SMART i werthuso effaith a newid. Mae’r blaenoriaethau ar gyfer 2022/23 yn cynnwys cwblhau datblygiad Neuadd y Dref Maesteg ac ailddatblygu llyfrgell Pencoed.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn ceisio ymgysylltu ymhellach â’r rheini nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd a chyflwyno amrywiaeth o fentrau amgylcheddol gan gynnwys ymchwilio i’r posibilrwydd o roi’r gorau i ddefnyddio siacedi plastig, cyflwyno cardiau aelodaeth di-blastig a gosod paneli solar a bylbiau LED.

Bydd y gwasanaeth yn parhau i drafod gyda chwsmeriaid a staff i werthuso digwyddiadau, gweithgareddau, oriau agor, ac effaith cynllun y llyfrgell.

Astudiaethau achos

Darparodd Awen dair astudiaeth achos helaeth gyda delweddau a dyfyniadau gan ddefnyddwyr y llyfrgell i ddangos y gwaith da ar draws y gwasanaeth. Roedd y rhain yn cynnwys pwysigrwydd gwasanaethau digidol fel ffordd allweddol o hyrwyddo darllen ar gyfer unigolion a allai fel arall ei chael yn anodd cael gafael ar wasanaethau, a sut mae defnyddio’r lle wedi cyfrannu at les a chynhyrchiant ar gyfer gweithiwr gartref

Caerffili

Trosolwg a lleoliad

Mae gwasanaeth llyfrgelloedd Caerffili yn cael ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac mae’n cynnwys 18 llyfrgell gyda 98% o drigolion o fewn 2.5 milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Caerffili dystiolaeth ei fod wedi bodloni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

 

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

 

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

 

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 79 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 172% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 178% i 636 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 431% i 409 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Mae Caerffili hefyd yn darparu gwasanaeth danfon i’r cartref sydd ar gael i’r rheini sydd wedi cofrestru ac mae wedi cael ei ymestyn i’r rheini sy’n gwarchod, sydd dros 70 oed neu sydd heb fynediad at wasanaethau digidol. Roedd archebion ‘Clicio a Chasglu’ hefyd wedi cynyddu 161% yn ystod y flwyddyn.

Uchafbwyntiau

Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar amcanion llesiant ac addysg, ac mae uchafbwyntiau’r flwyddyn yn adlewyrchu’r amcanion hyn:

  • Mae’r cynllun Bookstart a Blynyddoedd Cynnar yn darparu deunyddiau am ddim i rieni plant ifanc, ac archwiliadau iechyd ar gyfer plant bach yn y gwasanaeth llyfrgell.
  • Mae cynllun benthyg B4U rhwng llyfrgelloedd wedi’i wreiddio fel rhan o’r gwasanaeth a gynigir i breswylwyr ac mae 13 awdurdod llyfrgelloedd cyhoeddus wedi ymrwymo iddo. Mae staff gwasanaethau llyfrgell Caerffili yn gyfarwydd iawn â’r system ac mae’r cynllun yn caniatáu ystod ehangach o lyfrau i’r cwsmeriaid.
  • Mae’r Cynllun Ymgysylltu ag Ysgolion wedi cael ei ddechrau i gefnogi ysgolion o amgylch tair thema allweddol: darllen, gwybodaeth a dysgu. Mae cymorth yn cynnwys cymorth gyda dealltwriaeth, llythrennedd digidol, a chymorth gyda geirfa.
  • Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i gefnogi dinasyddion yr UE i gael statws sefydlog neu cyn-sefydlog yn y DU fel rhan o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

O ran gwariant ar ddeunyddiau fesul 1,000 o’r boblogaeth, mae Caerffili yn nhrydydd chwartel y gwasanaethau. Mae 22% o’r gyllideb deunyddiau yn cael ei dyrannu i adnoddau plant, gan ei roi ar y trydydd chwartel. Roedd buddsoddiadau eraill yn y gwasanaeth yn cynnwys cyfrifiaduron newydd gyda thrwyddedau Windows a Microsoft, yn ogystal â chyllideb hyfforddi benodol i gefnogi staff gyda datblygiad (gan gynnal eu patrwm hirsefydlog o fuddsoddiad uchel mewn mynediad cyhoeddus at adnoddau digidol).

Roedd adnoddau Cymraeg wedi gweld mwy o ddyraniad o’r gyllideb gyffredinol, o 3% i 8% yn ystod y flwyddyn. Mae’r gwasanaeth ar frig y gwasanaethau o ran gwariant fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg, ond yn y chwartel isaf ar gyfer benthyciadau Cymraeg fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg. Gall y sgôr isel hon fod oherwydd bod llai o deitlau i oedolion ar gael yn Gymraeg na theitlau i blant. Mae’r gwasanaeth yn cydweithio ag amrywiol bartneriaid i sicrhau bod adnoddau Cymraeg ar gael a bod holl ddeunydd hyrwyddo’r gwasanaeth llyfrgelloedd yn ddwyieithog.

Mae Caerffili yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau y mae’n eu hyrwyddo drwy gopi caled, cyfryngau cymdeithasol a’r tîm cyfathrebu corfforaethol, sy’n cysylltu ag ysgolion a grwpiau cymunedol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys clybiau codio i blant, clybiau gwaith cartref a grwpiau darllen Cymraeg.

Staffio

Dangosodd yr arolwg gofal cwsmeriaid fod 99% o gwsmeriaid yn credu bod gofal cwsmeriaid gwasanaeth llyfrgelloedd Caerffili naill ai’n dda neu’n dda iawn. Mae gan yr uwch reolwr gymhwyster ffurfiol, ac mae 8.6 o swyddi’n cael eu llenwi gan staff sydd â chymwysterau sy’n gysylltiedig â llyfrgelloedd, gyda mwy yn cwblhau cyrsiau MA llyfrgellyddiaeth dysgu o bell.

Mae Caerffili wedi gweithio i sicrhau datblygiad staff parhaus gyda’i gyllideb hyfforddi bwrpasol. Mae’r gwasanaeth hefyd wedi diweddaru ei lawlyfr cynefino yn ddiweddar ac wedi cynnwys cymorth cyntaf iechyd meddwl. Mae’n cefnogi staff sy’n dymuno cwblhau hyfforddiant ar-lein mewn amrywiaeth o gyrsiau gwahanol fel hyfforddiant cydraddoldeb, Iaith Arwyddion Prydain, dysgu Cymraeg a chymorth cyntaf.

Data digidol

Roedd Caerffili yn darparu data digidol gan gynnwys ‘Clicio a Chasglu’, sesiynau ar-lein a gynhaliwyd a nifer yr unigolion a wyliodd sesiynau byw/wedi’u recordio. Gwelodd Caerffili gynnydd o 161% yn ei archebion Clicio a Chasglu ond gostyngodd y mesurau data digidol eraill. Yn 2022, roedd Caerffili yn y trydydd chwartel ar gyfer archebion ‘Clicio a Chasglu’ y gwasanaethau llyfrgelloedd a gyflwynodd ddata digidol. Roedd nifer y sesiynau ar-lein wedi gostwng 51% ac roedd nifer yr unigolion a oedd yn mynychu wedi gostwng 73% hefyd. Roedd e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth hefyd wedi gostwng 37% ac mae’n dal yn y chwartel isaf. Efallai mai’r rheswm am hyn yw newidiadau i’r fethodoleg adrodd ar gyfer Overdrive. Mae Caerffili yn darparu gwasanaeth danfon i’r cartref i bobl dros 70 oed, sy’n gwarchod neu sy’n methu cael mynediad at ddeunyddiau digidol o’u cartrefi.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Er mai dim ond ym mis Hydref 2021 y dychwelodd yn llawn i’r gwasanaeth ‘arferol’, mae llyfrgelloedd Caerffili wedi gweld cynnydd sylweddol yn y defnydd. Mae Caerffili’n bwriadu cydweithio ag athrawon, disgyblion a rhieni i gefnogi preswylwyr ifanc yn yr ardal, ac mae eisiau bod yn ‘angor cymunedol’ i sicrhau bod y gwasanaethau’n gyfredol ac yn cael eu parchu gan breswylwyr. Mae’r gwasanaeth yn amcangyfrif y bydd angen gwneud arbedion a thorri costau oherwydd y pandemig, yr argyfwng costau byw a chyfyngiadau ariannol eraill. Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu’r ddarpariaeth Llyfrgell Gyhoeddus orau posibl ac mae’n parhau i fesur ei berfformiad yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Astudiaethau achos

Darparodd Caerffili dair astudiaeth achos helaeth gyda thystiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Roedd hyn yn cynnwys astudiaeth achos a oedd yn dangos pwysigrwydd gwasanaethau llyfrgelloedd sy’n cynnig ac yn darparu mynediad parhaus at wasanaethau am ddim, a sut, drwy gysylltiadau, y gallai defnyddwyr gwasanaeth feithrin eu hyder a’u gwybodaeth i gael mynediad at wasanaethau digidol.

Caerdydd

Trosolwg a lleoliad

Mae gwasanaeth hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnwys 20 llyfrgell ac un llyfrgell symudol. Caiff y gwasanaeth ei redeg gan Gyngor Caerdydd.  Mae 99% o’r preswylwyr o fewn 2 filltir i Lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell 

Darparodd Caerdydd dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

 

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 146 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n ostyngiad o 15% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 250% i 843 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 1,747% i 1,330 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd benthyciadau ‘Clicio a Chasglu’ wedi gostwng 28% ac mae’r gwasanaeth yn priodoli hynny i gael gwared ar gyfyngiadau a gwasanaethau wyneb yn wyneb yn dychwelyd.

Er bod gwasanaeth llyfrgell symudol Caerdydd wedi’i ohirio ar hyn o bryd, parhaodd i ddarparu gwasanaeth danfon i’r cartref i breswylwyr nad ydynt yn gallu cyrraedd y llyfrgelloedd oherwydd salwch, unigedd a gofal ar ôl llawdriniaeth.

Uchafbwyntiau

  • Mae’r gwaith adnewyddu diweddar yn llyfrgell y plant yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, wedi cynnwys gwneud y lle’n fwy cynhwysol a chefnogol i breswylwyr sy’n byw gyda niwroamrywiaeth.
  • Mae Her Ddarllen yr Haf, ynghyd â darparu adnoddau am ddim i blant, wedi darparu rhagor o gyfleoedd ar gyfer dysgu a chefnogi llythrennedd yng Nghaerdydd.
  • Cyflwynodd Caerdydd ‘Gynllun Gweithredu Oed-Gyfeillgar’ i Sefydliad Iechyd y Byd i helpu i ddarparu mannau sy’n cefnogi poblogaeth sy’n heneiddio, ac roedd y cais yn llwyddiannus.
  • Cydlynodd y gwasanaeth ddigwyddiadau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen ‘Gaeaf Llawn Lles’ ar gyfer pob un o’r 22 o wasanaethau llyfrgelloedd awdurdodau lleol ledled Cymru. Roedd hyn yn cefnogi lles meddyliol plant a phobl ifanc ledled Cymru ac arweiniodd yr ymgyrch ar ran Cymdeithas y Prif Lyfrgellwyr.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Roedd y gwasanaeth yn yr ail chwartel ar gyfer gwariant fesul 1000 o’r boblogaeth. Roedd 24% o’r gyllideb hon ar ddeunyddiau plant, gan osod Caerdydd yn chwartel uchaf y gwasanaethau ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau plant.

O ran adnoddau Cymraeg, gwariwyd 6% o’r gyllideb gyffredinol ar ddeunyddiau Cymraeg, sy’n gyson â’r flwyddyn flaenorol. Mae Caerdydd yn nhrydydd chwartel y gwasanaethau o ran gwariant fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg a’r chwartel uchaf ar gyfer benthyciadau fesul 1,000 o siaradwyr. Mae’r gwasanaeth hefyd yn gweithio gyda Menter Caerdydd, sefydliad sy’n hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yng Nghaerdydd ac mae wedi ymrwymo i gynnal rhagor o ddigwyddiadau Cymraeg.

Mae Caerdydd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau gwahanol, gyda gweithgareddau digidol yn parhau’n boblogaidd ar ôl y pandemig. Mae’r rhain yn aml yn ddigwyddiadau hybrid gan gynnwys clybiau garddio, grwpiau cymdeithasol, grwpiau llyfrau, tylino babis, adrodd rhigymau a digwyddiadau awduron. Mae ymweliadau â’r wefan dair gwaith yn uwch nag yn 2019.

Staffio

Mae gwasanaeth hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd yn gweithio fel tîm integredig ac mae pob gweithiwr newydd yn dilyn hyfforddiant llyfrgelloedd fel mater o drefn. Mae’r ddarpariaeth hyfforddiant staff yn uchel ar y cyfan. Mae 5.5 o swyddi’n cael eu llenwi gan staff sydd â chymwysterau llyfrgelloedd cydnabyddedig ac mae staff eraill yn gweithio tuag at statws cymwysedig. Roedd cyfran yr amser a dreuliwyd gan y gwasanaeth ar hyfforddi a datblygu yn 4.3% ac roedd yn cynnwys modiwlau ar ddiogelu, ynysu cymdeithasol a thlodi. Cafwyd cyfleoedd hefyd i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer hyfforddiant sgrinio a hyfforddiant gweithrediad effaith isel (wedi’i anelu at atal torri esgyrn ymhlith trigolion hŷn). Mae’r holl staff yn cael hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia a hyfforddiant gwasanaeth i gwsmeriaid.

Data digidol

Roedd Caerdydd yn darparu data digidol gan gynnwys ‘Clicio a Chasglu’, sesiynau ar-lein a gynhaliwyd a nifer yr unigolion a wyliodd sesiynau byw/wedi’u recordio. Er bod Caerdydd wedi gweld gostyngiad o 28% mewn archebion ‘Clicio a Chasglu’, bu cynnydd cyffredinol yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau digidol. Mae Caerdydd yn parhau i fod yn gryf o ran allgymorth digidol gyda chynnydd o 269% yn nifer y sesiynau ar-lein a gynhaliwyd, a chynnydd o 457% o ran unigolion a oedd yn mynychu ers y flwyddyn flaenorol. Roedd y sesiynau ar-lein yn cynnwys clwb coginio cymunedol yn ystod y pandemig, sydd wedi parhau. Cynyddodd e-fenthyciadau 1% yn ystod y flwyddyn ac roedd Caerdydd yn y chwartel uchaf ar draws holl wasanaethau Cymru fesul 1,000 o’r boblogaeth. Darparodd Caerdydd ystod eang o e-adnoddau ar-lein, gan gynnwys e-lyfrau drwy’r gwasanaeth Borrowbox a mynediad at ymarfer IELTS (System Profi Iaith Saesneg Rhyngwladol) ymysg adnoddau eraill.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Nod gwasanaeth hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd yw parhau i hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol, gyda chynlluniau ar gyfer Hybiau Iechyd mewn sawl lleoliad a fydd yn darparu mannau a rennir ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu a chlinigau. Maent hefyd yn gweithio i ddarparu cymorth iechyd meddwl i grwpiau difreintiedig fel gofalwyr di-dâl a phobl sy’n byw gyda HIV. Bydd adnoddau digidol yn cael eu datblygu ymhellach, ac mae Caerdydd yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant y rhaglen Darllen yn Well. Mae’r gwasanaeth hybiau a llyfrgelloedd hefyd yn rhan bwysig o gynlluniau Cyngor Caerdydd i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar.

Astudiaethau achos

Darparodd Caerdydd bedair astudiaeth achos gyda thystiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Roedd hyn yn cynnwys astudiaethau achos a oedd yn dangos bod Llyfrgelloedd Caerdydd yn llefydd croesawgar ac anfeirniadol i bobl a theuluoedd sydd ag amrywiaeth o anghenion niwrolegol a bod y llyfrgelloedd yn helpu i ddarparu mannau croesawgar a lleihau unigrwydd drwy glybiau coginio ar-lein a oedd yn annog cyfranogwyr i goginio gyda’i gilydd a rhannu straeon am ryseitiau. Roedd y rhain yn cynnwys adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Sir Gaerfyrddin

Trosolwg a lleoliad

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd yn Sir Gaerfyrddin eu darparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae gan y gwasanaeth 14 cangen a thair llyfrgell symudol, a gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi gyda 95% o’r preswylwyr yn byw o fewn tair milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd gwasanaeth llyfrgelloedd Caerdydd dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

 

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 70 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 32% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 134% i 1,517 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 119% i 606 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Uchafbwyntiau

Mae’r gwasanaeth llyfrgelloedd yn parhau i adfer yr holl wasanaethau i lefelau cyn y pandemig ac yn addasu i anghenion sy’n newid. Mae cynlluniau arwyddocaol dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  • Mae llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin wedi cyflwyno model Drws Agored yn llyfrgell Castell Newydd Emlyn (un o’u llyfrgelloedd cymunedol). Mae hyn wedi cynnwys cyflwyno peiriannau gwerthu hunanwasanaeth a loceri ar gyfer casglu eitemau sydd wedi’u cadw, sydd wedi galluogi defnyddwyr i gael mynediad at eu catalog llyfrgell ar adeg sy’n gyfleus iddynt heb fod angen iddynt deithio i’r llyfrgelloedd rhanbarthol mwy. Mae’n cael ei weld fel catalydd ar gyfer arloesi pellach yn y gwasanaeth.
  • Datblygodd Sir Gaerfyrddin wasanaethau Stordy Creadigol ar draws ei thair llyfrgell ranbarthol. Mae’r gweithgareddau hyn yn darparu mynediad at godio, cyfryngau digidol/gweithgynhyrchu a thechnolegau argraffu 3D sydd nid yn unig yn darparu gwasanaethau newydd arloesol a hwyliog ond sy’n gallu helpu i feithrin sgiliau digidol ar gyfer y gymuned leol.
  • Mae Sir Gaerfyrddin yn parhau i ailadeiladu ei gwasanaethau wyneb yn wyneb wrth weithio i gefnogi trawsnewid i ddarpariaeth ddigidol a ffisegol cyfunol.
  • Drwy fentrau cydlynol fel cefnogaeth blynyddoedd cynnar ‘Dechrau’n Deg’, a thrwy gydweithio a rhannu adnoddau gyda llyfrgelloedd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, gall y gwasanaeth sicrhau mwy o effaith a datblygu ffyniant a lles lleol.
  • Wrth i wasanaethau ailagor, mae Sir Gaerfyrddin wedi gweithio i ailddatblygu ei darpariaeth ffisegol a’i hymgysylltiad ar yr un pryd â pharhau i ddarparu presenoldeb rhithiol cryf i’r rheini sydd ei angen.
  • Mae Sir Gaerfyrddin wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflwyno agendâu iechyd a lles lleol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn eu rôl fel hybiau cymunedol, mae llyfrgelloedd yn cynnig mannau anghlinigol lle gall grwpiau iechyd a llesiant weithio gyda’r gymuned mewn lleoliad dibynadwy nad yw’n fygythiol.  Mae’n cynnig amrywiaeth o wybodaeth sy’n seiliedig ar iechyd sydd ar gael yn rhwydd i’r gymuned.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Mae cyfanswm y gwariant ar ddeunyddiau yn aros yr un fath â’r flwyddyn flaenorol, ar ôl gostwng rhywfaint ym mhob un o’r pedair blynedd flaenorol. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth yn parhau i fuddsoddi yn eu adnoddau, gyda’r gwariant uchaf ar ddeunyddiau ymysg holl wasanaethau Cymru fesul 1,000 o’r boblogaeth. Mae’r gwasanaeth yn dal wedi ymrwymo i ddiweddaru deunyddiau darllen er gwaethaf toriadau yn y gyllideb dros y blynyddoedd diwethaf.

Roedd benthyciadau Cymraeg wedi cynyddu 139% ers y llynedd ac mae gan y gwasanaeth y nifer uchaf o fenthyciadau Cymraeg uchaf fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg. Mae Sir Gaerfyrddin yn cynnal nifer o ddigwyddiadau Cymraeg, yn ogystal ag annog staff i feddu ar sgiliau iaith Gymraeg. Fodd bynnag, o’i gymharu â gwasanaethau eraill, mae ei wariant fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg yn dal yn isel ond gellir priodoli hyn i ddewis gofalus a pherthnasol o ddeunyddiau a chasgliad Cymraeg mawr sy’n bodoli eisoes.

Mae amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael i ddefnyddwyr o bob oed a gwahanol ddiddordebau. Roedd llawer ar gael ar-lein yn ystod 2021/22 ac yna’n cael eu hailgyflwyno’n raddol wyneb yn wyneb wrth i adeiladau llyfrgelloedd cyhoeddus ailagor.

Staffio

Mae’r gwasanaeth yn y chwartel uchaf ar gyfer staff cymwys fesul 1,000 o’r boblogaeth er y bu gostyngiad yn nifer y swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE) â chymhwyster llyfrgelloedd o 3.3 i 2.7 yn ystod y flwyddyn adrodd ddiwethaf. Mae staff yn parhau i gael eu hannog i gymryd rhan mewn datblygiad personol parhaus fel cyrsiau arwain a rheoli. Ar ben hynny, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datblygu Porth Dysgu lle mae staff yn cymryd rhan mewn cyrsiau hanfodol allweddol ar-lein, gan gynnwys Diogelu Data, Iechyd Meddwl yn y Gweithle, Chwythu’r Chwiban ac ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.

Digidol

Roedd Sir Gaerfyrddin wedi darparu ond ychydig o ddata digidol ar ‘Clicio a Chasglu’, sesiynau ar-lein a gynhaliwyd a nifer yr unigolion a wyliodd gynnwys digidol. Er bod e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth wedi aros yn wastad dros y cyfnod, mae Sir Gaerfyrddin yn aros yn y chwartel uchaf ar draws y gwasanaethau ar gyfer e-fenthyciadau a ddarperir drwy’r gwasanaeth Borrowbox. Yn y cyfamser, roedd y gwasanaeth wedi gweld gostyngiad mawr ers y flwyddyn flaenorol mewn data darpariaeth ddigidol arall, ac mae’n priodoli hynny i ailgyflwyno darpariaethau ffisegol a chyfyngu ar ddarpariaeth digidol, fel dileu’n raddol y gwasanaeth ‘cais a chasglu’ ddiwedd haf 2021. Cynhaliwyd sesiynau ar-lein yn ystod y pandemig, ond mae amlder a phresenoldeb mewn sesiynau wedi gostwng yn 2022 ac roeddent yn wythfed ar gyfer cyfranogiad unigol fesul 1,000 o bobl o’i gymharu â gwasanaethau llyfrgelloedd eraill.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae’r gwasanaethau stordy creadigol a gyflwynwyd yn nhair llyfrgell ranbarthol Sir Gaerfyrddin yn cael eu hystyried yn ddarpariaeth arloesol a fydd yn chwarae rhan bwysig yng nghynlluniau’r dyfodol. Mae esblygiad y gwasanaeth yn cael ei ystyried yn bwysig er mwyn sicrhau bod y llyfrgell yn parhau i ddenu defnyddwyr newydd o gymuned sydd ag anghenion deinamig. Bydd cyflwyno’r model Agored+ yn cefnogi cwsmeriaid newydd a phresennol i barhau i gael mynediad at ddeunyddiau mewn ffordd ddiogel a chyfleus. Mae’r gwasanaethau hyn yn helpu i gadw’r llyfrgelloedd cymunedol llai, ond mae Sir Gaerfyrddin nawr yn chwilio am ragor o gyfleoedd i ehangu Agored+.

Astudiaethau achos

Darparodd Sir Gaerfyrddin bedair astudiaeth achos gyda dyfyniadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Roedd y rhain yn cynnwys y bartneriaeth barhaus i gefnogi gofalwyr, yn enwedig gofalwyr ifanc a sut roedd y penderfyniad i adleoli Llyfrgell Castell Newydd Emlyn i leoliad newydd yn y dref yn gyfle i fabwysiadu dull newydd modern a ffres o ddatblygu gwasanaethau yn yr ardal.

Ceredigion

Trosolwg a lleoliadau

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd yng Ngheredigion eu gweithredu gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg pum cangen a thair llyfrgell symudol, gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi, a llyfrgell gymunedol ychwanegol yng Ngheinewydd. Mae 81% o’r boblogaeth yn byw o fewn tair milltir neu daith 15 munud ar drafnidiaeth gyhoeddus o lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Ceredigion dystiolaeth yn dangos eu bod wedi cyflawni 10 o’r 12 hawl craidd yn llawn ac nad oeddent wedi cyflawni dau (CE11 a CE12). Mae’r hawliau craidd sydd heb eu cyflawni yn ymwneud â pheidio ag ymgynghori â defnyddwyr y llyfrgell ynghylch eu barn am y gwasanaeth a pheidio â chynhyrchu strategaeth lyfrgell.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Heb ei gyflawni

Heb ei gyflawni

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Heb ei gyflawni

Heb ei gyflawni

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

10

10

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

2

2

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 99 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n ostyngiad o 15% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 173% i 1,598 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 182% i 562 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Mae yn y trydydd chwartel o wasanaethau ar gyfer nifer yr e-fenthyciadau, gan gynnig adnoddau megis cylchgronau, profion theori a gwyddoniadur. Yn ogystal â’u gwasanaeth llyfrgell sefydlog, mae gan Geredigion wasanaeth danfon i’r cartref a llyfrgelloedd symudol sy’n ymweld bob pedair wythnos.

Uchafbwyntiau

Mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i gyfrannu at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’i nodau llesiant, gan gynnwys gweithio tuag at wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau. Dyma rai o fanylion ei gyfraniadau:

  • Mae’r gwasanaeth yn cynnal dosbarthiadau TG a ‘chlybiau swyddi’ lle caiff pobl ddi-waith eu helpu i ddod o hyd i waith a’u dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd. Dangosodd arolwg TG y gwasanaeth fod 29% o’r defnydd o gyfrifiaduron ar gyfer chwilio am swyddi a cheisiadau, gyda 18% arall yn cael ei ddefnyddio i greu neu ddiweddaru CVs.
  • Mae’r gwasanaeth yn rhan o gynllun bibliotherapi Cymru gyfan, lle mae gweithwyr clinigol proffesiynol yn rhagnodi llyfrau er mwyn rhoi hwb i fyw’n iachach yn yr ystyr ehangach.  Mae wedi datblygu ei gefnogaeth i’r rheini sy’n byw gyda dementia yn ystod y flwyddyn.
  • Cynhaliodd gyfres o sgyrsiau a digwyddiadau, gan gynnwys darlith flynyddol T Llew Jones y mae’n bwriadu ei chynnal eto’r flwyddyn nesaf.  Bu’n gweithio gyda grwpiau cymunedol megis Merched y Wawr a Sefydliad y Merched.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Mae Ceredigion yn gweithio’n agos iawn gydag awdurdodau llyfrgelloedd eraill yng Nghymru, gan brynu’r rhan fwyaf o’r deunyddiau drwy gonsortia prynu llyfrau. Bu i gyfanswm y gwariant ar ddeunyddiau gynyddu’n sylweddol o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac mae Ceredigion yn y chwartel uchaf ar gyfer gwariant fesul 1000 o’r boblogaeth. Mae 19% o’r gyllideb yn cael ei wario ar ddeunyddiau plant. Mae yn y chwartel uchaf ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau.

Mae’r gwasanaeth yn un o’r rhai sy’n perfformio orau o ran benthyciadau llyfrau Cymraeg fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg a chynyddodd canran y gyllideb deunyddiau a wariwyd ar stoc y Gymraeg ychydig eleni. Mae hyn yn caniatáu i’r gwasanaeth ddarparu ar gyfer y boblogaeth fawr sy’n siarad Cymraeg ac yn atgyfnerthu gwaith y gwasanaeth i hyrwyddo dwyieithrwydd o oedran ifanc.

Mae’n cefnogi’r cynllun Dechrau Da, gan sicrhau bod pob baban a phlentyn bach yn gallu cael gafael ar lyfrau, ac yn cefnogi cynlluniau llythrennedd oedolion. Mae ganddo gasgliad hanes lleol helaeth sy’n cynnwys dros 8,000 o eitemau.

Staffio

Mae gan Geredigion lefel uchel o staff cymwysedig gyda 0.7 o staff cyfwerth ag amser llawn (FTE) am bob 10,000 o’r boblogaeth yn meddu ar gymwysterau perthnasol. Anogir staff i gymryd rhan mewn hyfforddiant ac i rannu arferion gorau. Gan adlewyrchu’r gyfran uchel o drigolion sy’n siarad Cymraeg, mae’r holl staff yn ddwyieithog ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Data digidol

Nid oedd data penodol ar gyfer ‘Clicio a Chasglu’ ar gael gan fod y data hwn wedi cael ei fudo i’w wasanaethau cadw cyffredinol. Gostyngodd nifer y sesiynau ar-lein 57% o’r flwyddyn flaenorol a gostyngodd nifer yr unigolion a oedd yn mynychu 63%. Mae’r wybodaeth am ddata digidol yn gyfyngedig. Fodd bynnag, drwy ei wefan, mae Ceredigion yn cynnig ystod eang o e-adnoddau, gan gynnwys e-lyfrau a chynnwys arall drwy Borrowbox. Mae’n cynnwys amrywiaeth o ddeunyddiau gan gynnwys dolenni at eiriaduron Oxford English a Sbaeneg. Cynyddodd e-fenthyciadau 16% fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae’r gwasanaeth yn parhau i adfer ar ôl Covid, ond mae cryn waith i’w wneud eto. Mae benthyciadau llyfrau’n codi’n raddol ond mae’r gwasanaeth yn ceisio cyflymu ei adferiad drwy gynnig mwy o wasanaethau y mae pobl eu heisiau a denu cwsmeriaid newydd. Nid oedd y gwasanaeth yn gallu cynnal digwyddiadau tan ddau fis olaf y flwyddyn adrodd.

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, nid oedd Ceredigion wedi codi unrhyw ffioedd na thaliadau. Fodd bynnag, oherwydd ei bod yn rhaid cyrraedd targedau incwm y Cyngor, bydd y rhain yn cael eu hailgyflwyno y flwyddyn nesaf. Mae’n ystyried dileu dirwyon yn y tymor canolig i’r tymor hir.

Astudiaethau achos

Darparodd Ceredigion ddwy astudiaeth achos, gan gynnwys un ar sut roedd y gwasanaeth yn cefnogi defnyddiwr gyda symudedd cyfyngedig.

Conwy

Trosolwg a lleoliad

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghonwy eu gweithredu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys pum cangen sefydlog, un gwasanaeth cartref a symudol cyfun, a phum llyfrgell gymunedol a reolir. Mae 89% o’r boblogaeth yn byw o fewn tair milltir neu daith 15 munud ar drafnidiaeth gyhoeddus o lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Conwy dystiolaeth ei fod wedi bodloni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn 

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn 

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 91 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 69% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 107% i 831 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 250% i 364 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Ar ôl codi cyfyngiadau’r pandemig, mae digwyddiadau wyneb yn wyneb wedi dychwelyd ac mae nifer dda yn mynychu, a chynyddodd nifer yr ymweliadau â’r llyfrgelloedd bob chwarter. Mae gwasanaethau galw a chasglu yn dal i gael eu cynnig. Mae’r gwasanaeth wedi gweld cwsmeriaid yn symud o un flwyddyn i’r llall tuag at ddefnyddio e-adnoddau, ac mae hyn wedi adlewyrchu buddsoddiad parhaus yn y casgliad hwn. Mae’r gwasanaeth yn eirioli dros sicrhau bod mwy o ddeunydd Cymraeg ar gael ar draws llwyfannau digidol.

Uchafbwyntiau

Parhaodd Llyfrgelloedd Conwy i gefnogi nifer o strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol yn ymwneud â llythrennedd, iechyd a lles, pobl hŷn, cynhwysiant digidol ac atal tlodi. Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn yn cynnwys:

  • Yn ystod cyfyngiadau’r pandemig, darparodd Conwy amrywiaeth o gyfleoedd digidol, gan gynnwys amseroedd stori a ‘chalendrau Adfent y Nadolig’ ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn cynnwys dewisiadau llyfrau a fideos ar grefftau tymhorol. Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb wedi ailddechrau erbyn hyn ac mae nifer dda yn mynychu.
  • Mae’r cynllun Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl wedi cael ei nodi fel maes blaenoriaeth yn Agenda Trawsnewid y gwasanaeth. Mae’r cynllun hwn yn cael ei weithredu mewn partneriaeth â gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ac mae’n cynnwys ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth â llywyr cymunedol i’w galluogi i gefnogi eu cleientiaid.
  • Mae llyfrgelloedd newydd yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy a Llyfrgell Llanrwst yng Nglasdir wedi cael derbyniad da, gyda Chonwy yn arbennig o brysur. Mae gan yr adeilad newydd yn Llanrwst lyfrgell fawr bwrpasol i blant, sy’n adlewyrchu’r angen i estyn allan at gynulleidfa ifanc.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Gan adlewyrchu buddsoddiad cyfalaf sylweddol gan gynnwys mewn stoc llyfrau, cynyddodd y gwariant ar ddeunyddiau o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gan ei roi yn y chwartel uchaf. Mae 21% o hynny wedi cael ei wario ar ddeunyddiau plant. Roedd y deunyddiau hyn hefyd yn cynnwys adnoddau hygyrch fel llyfrau print bras, yn ogystal â deunydd clywedol y gellir ei lwytho i lawr. Mae mynediad at ddeunyddiau wedi’i wella gan aelodaeth o’r System Rheoli Llyfrgelloedd i Gymru sy’n caniatáu mynediad at gatalogau o bob rhan o chwe sir Gogledd Cymru. Mae’r gwasanaeth wedi cynnal ei ymrwymiad i wario ar ddeunyddiau Cymraeg ac mae yn hanner uchaf y gwasanaethau ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau Cymraeg a benthyca deunydd Cymraeg. Mae gan y gwasanaeth gyllideb a chynllun marchnata penodol, sydd wedi canolbwyntio ar gynyddu presenoldeb y gwasanaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r ffocws hwn ar hyrwyddo yn ganolog i Strategaeth Ddiwylliant newydd yr awdurdod lleol.

Staffio

Mae gan Gonwy 6.9 o staff cyfwerth ag amser llawn sydd â chymwysterau llyfrgell, gan ei roi yn y chwartel uchaf o wasanaethau ar gyfer nifer y staff cymwysedig. Ochr yn ochr â hyn, gwnaed gwaith recriwtio ar gyfer staff rheng flaen, gan gynyddu cyfanswm nifer y staff cyfwerth ag amser llawn i 2.9 am bob 10,000 o’r boblogaeth. Mae nifer o staff y gwasanaeth yn cymryd rhan mewn cyrsiau proffesiynol neu academaidd, ac mae hyfforddiant Llysgenhadon Twristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cael ei gynnig i staff.

Darperir cyllideb hyfforddi staff gyda chyfleoedd hyfforddi gan gynnwys cymorth cyntaf meddyliol, sgiliau digidol, a hwyluso darllen ar y cyd i ddarparu grwpiau darllen i gefnogi lles emosiynol. Mae staff yn cael eu hyfforddi i ddelio â sefyllfaoedd anodd a phryderon diogelu a allai godi mewn llyfrgelloedd.

Digidol

Roedd Conwy wedi darparu data digidol gan gynnwys ‘Clicio a Chasglu’, sesiynau ar-lein a gynhaliwyd a nifer yr unigolion a wyliodd sesiynau byw/wedi’u recordio. Roedd archebion ‘Clicio a Chasglu’ wedi gostwng 77% yn ystod y flwyddyn, ond mae hyn yn rhannol yn adlewyrchu data coll wrth drosglwyddo systemau llyfrgell. O ran ymgysylltu ar-lein, mae gan fideos storïol gynulleidfaoedd mawr; fodd bynnag, mae nifer y sesiynau ar-lein a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod wedi gostwng 49% ac mae nifer yr unigolion sy’n cymryd rhan wedi gostwng 86% yn gyffredinol. Yn yr un modd â gwasanaethau eraill, mae hyn yn adlewyrchu newid yn ôl i wasanaethau wyneb yn wyneb yn dilyn y pandemig. Yn y cyfamser, mae allgymorth ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu oherwydd cynnydd mewn postio cynnwys. O ran e-fenthyciadau, bu gostyngiad o 50%, ond mae yn y trydydd chwartel ar gyfer benthyciadau fesul 1000 o’r boblogaeth. Mae Conwy yn cynnig amrywiaeth eang o adnoddau, gan gynnwys ymarfer ar gyfer arholiadau theori gyrru a chyrsiau ar-lein am ddim ar amrywiaeth o bynciau.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Yn hydref 2021, cynhyrchodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy strategaeth pum mlynedd newydd ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth sy’n gosod cyfeiriad strategol newydd. Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys cefnogi Strategaeth Diwylliant Conwy drwy ddarparu gweithgareddau diwylliannol a gweithio gydag iechyd a gofal cymdeithasol i archwilio rôl llyfrgelloedd o ran cefnogi iechyd a lles. Roedd y strategaeth ddrafft yn cynnig adleoli llyfrgell Bae Colwyn i swyddfeydd canolog y Cyngor. Fodd bynnag, mewn ymateb i adborth cymunedol, a oedd yn gryf o blaid cadw’r llyfrgell yn ei hadeilad presennol, cafwyd cyllid i ailddatblygu’r llyfrgell fel hyb cymunedol.

Fel rhan o adferiad y gwasanaeth ar ôl y pandemig, bydd yn parhau i ymgysylltu â’r rheini a ddaeth yn fwy ynysig yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae’r gwasanaeth symudol yn ôl ar ei draed ac mae staff ar gael i sgwrsio â phobl i’w helpu i deimlo’n fwy cysylltiedig. Nod y gwasanaeth yw ymgysylltu ymhellach â cheiswyr gwaith i’w helpu i ddod o hyd i waith. Mae hyn yn rhan o nod strategol ehangach i wella llyfrgelloedd fel hybiau cymunedol lle gall cwsmeriaid gael gafael ar amrywiaeth eang o wasanaethau.

Astudiaethau achos

Darparodd Conwy bum astudiaeth achos gyda dyfyniadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Roedd hyn yn cynnwys sut mae’r gwasanaeth yn darparu gwasanaethau digidol ym mhob lleoliad a sut mae wedi ymateb i anghenion pobl o’r gymuned LGBTQ+.

Sir Ddinbych

Trosolwg a lleoliad

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd yn Sir Ddinbych eu darparu gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys wyth cangen sefydlog a gwasanaeth danfon i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi, gydag 88% o’r trigolion yn byw o fewn 2.5 milltir neu daith 10 munud ar drafnidiaeth gyhoeddus o’r llyfrgell. Mae gan lyfrgelloedd Sir Ddinbych fodel ‘siop un stop’ sy’n golygu bod y cyhoedd yn defnyddio llyfrgelloedd i gael mynediad at wasanaethau eraill y Cyngor yn ogystal â gwasanaethau llyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Sir Ddinbych dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r 12 hawl craidd.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn 

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn 

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn 

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn 

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn 

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn 

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn 

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn 

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn 

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn 

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 124 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 70% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 93% i 1,013 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 202% i 592 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Gwelodd Sir Ddinbych lwyddiant arbennig mewn benthyciadau e-ddeunyddiau, lle’r oedd yn y chwartel uchaf o wasanaethau ar gyfer e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Yn ystod y flwyddyn, roedd llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn gallu cynyddu oriau agor, wrth i’r gwasanaeth barhau i adfer o effeithiau’r pandemig.

Roedd y gwasanaeth wedi cadw ei wasanaethau archebu a chasglu a’i wasanaethau casglu a danfon i’r cartref. Yn ystod y flwyddyn, gwelwyd cynnydd o 19% yn y defnydd o’r gwasanaeth danfon i’r cartref. Rhan o hygyrchedd y gwasanaeth llyfrgelloedd yw bod aelodaeth hefyd yn cael ei chynnig i’r rheini sydd heb gyfeiriad sefydlog.

Uchafbwyntiau

Cyflawnodd Llyfrgelloedd Sir Ddinbych nifer o weithgareddau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar les trigolion y sir. Dyma uchafbwyntiau’r gweithgareddau hyn:

  • Prosiect buddsoddi i uwchraddio a gwella cyfleusterau TG mynediad cyhoeddus a ddechreuodd yn ystod haf 2021. Mae pob cyfrifiadur cyhoeddus wedi cael ei ddisodli gan ddyfeisiau newydd ac mae peiriannau argraffu a sganwyr hunanwasanaeth newydd wedi cael eu gosod. Mae cysylltiad band eang â Llyfrgell y Rhyl wedi cael ei wella. Bydd cyfleuster argraffu yn y cwmwl ac archebu ar-lein yn weithredol erbyn 2022/23.
  • Mae llyfrgelloedd yn bartner allweddol ym mhrosiect Cyngor Sir Ddinbych sy’n ceisio canfod sut y gall y cyngor leihau allgáu digidol. Fel rhan o’r prosiect hwn, prynodd Llyfrgelloedd Sir Ddinbych ddyfeisiau cludadwy, sydd wedi cael eu defnyddio i gefnogi cwsmeriaid ar lawr y llyfrgell, gan gynnwys dangos e-adnoddau ac apiau.
  • Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn darparu mynediad at yr ystod lawn o gynlluniau Darllen yn Well sy’n darparu cymorth ar gyfer dementia, iechyd meddwl oedolion, ac iechyd meddwl a lles emosiynol plant. Mae prosiect a ariennir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ceisio gwreiddio Darllen yn Well mewn ymarfer gofal sylfaenol. Gan weithio gyda Llyfrgelloedd Conwy ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, cafodd y prosiect hwn ei ailwampio i gyrraedd cwsmeriaid wrth i wasanaethau ddechrau ailagor.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Mae Sir Ddinbych yn y chwartel isaf o wasanaethau ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau fesul 1,000 o’r boblogaeth, er bod y gyfran y mae’n ei chyfeirio tuag at ddeunyddiau plant, sef 24%, ymhlith yr uchaf yn genedlaethol. Rhennir y catalog rhwng awdurdodau Gogledd Cymru, gyda stoc yn cael ei fenthyg rhwng llyfrgelloedd ar draws y rhanbarth.

Mae swm sylweddol, 13%, o’r gyllideb deunyddiau yn cael ei wario ar ddeunyddiau Cymraeg, gyda’r gwasanaeth yn y chwartel uchaf ar gyfer gwariant a benthyciadau. Mae’r stoc yma ar gael ym mhob llyfrgell, gyda mwy o stoc ar gael yn y cymunedau hynny sydd â chyfran uchel o siaradwyr Cymraeg. Mae’r gwariant uchel ar ddeunyddiau Cymraeg a nifer y benthyciadau yn awgrymu bod y stoc yma yn diwallu anghenion cymunedau Sir Ddinbych.

Mae’r gwasanaeth wedi hyrwyddo defnydd drwy ddychwelyd ei ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a pharhau i hyrwyddo heriau darllen. Mae nifer y cyfranogwyr mewn gweithgareddau wyneb yn wyneb wedi cael eu cadw’n yn isel er mwyn helpu cyfranogwyr i deimlo’n ddiogel.

Staffio

Mae Sir Ddinbych yn yr hanner uchaf o wasanaethau ar gyfer staff cymwys fesul 10,000 o’r boblogaeth. Anogir staff i barhau i ddysgu ac roedd 1.7% o amser staff yn cael ei dreulio ar ddatblygu. Mae yna e-ddysgu gorfodol ac mae staff hefyd wedi ymgymryd â hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau digidol a chyfathrebu. Anogir staff hefyd i ddilyn cymwysterau addysgol ffurfiol.

Mae’r pynciau hyfforddi’n cynnwys Makaton ac ymwybyddiaeth o awtistiaeth, diogelwch digidol, Gofyn a Gweithredu (trais domestig), newid yn yr hinsawdd, codi a chario, cymorth cyntaf, a defnyddio’r system NetLoan newydd. Yn ogystal, anogir staff i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, ac mae 56% o staff eisoes yn ddwyieithog.

Data digidol

Gwelodd Sir Ddinbych ostyngiad ar draws metrigau data digidol ac eithrio e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, a gynyddodd. Roedd archebion ‘Clicio a Chasglu’ wedi gostwng 71% ac mae’r gwasanaeth yn priodoli hynny i wasanaethau wyneb yn wyneb yn dychwelyd. O ran sesiynau ar-lein ac unigolion a oedd yn mynychu, gostyngodd y rhain hefyd o’r flwyddyn flaenorol, 74% ac 84% yn y drefn honno, er bod defnydd parhaus o sesiynau Facebook Live a llawer o opsiynau ‘dal i fyny’n ddiweddarach’. Cynyddodd e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth 15% ac mae’r gwasanaeth yn aros yn y chwartel uchaf. Mae Sir Ddinbych yn darparu set helaeth o adnoddau ar-lein, gan gynnwys adnoddau yn iaith Wcráin. Priodolir y twf hwn mewn e-adnoddau i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae cynlluniau’r gwasanaeth llyfrgell i’r dyfodol yn cael eu llywio gan Strategaeth y Llyfrgell 2019-22 a Chynllun Busnes y Gwasanaeth 2022/23. Mae’r rhain yn nodi nifer o ddatblygiadau gan gynnwys: cynnal digwyddiadau i annog ail-ymgysylltu â’r llyfrgell; mynd i’r afael â datblygiad plant, gan gynnwys drwy weithio gyda phartneriaid addysg; a sicrhau mynediad cyfartal i bawb.

Mae’r gwasanaeth yn ceisio datblygu ei ddarpariaeth iechyd a lles, gan barhau â’i waith gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn dilyn y gwelliannau i gyfleusterau TG cyhoeddus, bydd cyfleuster argraffu yn y cwmwl ac archebu ar-lein yn weithredol y flwyddyn nesaf. Wrth i’r strategaeth bresennol ddod i ben, bydd y gwasanaeth yn gweithio gyda’r Cyngor i’w diweddaru a’i disodli.

Astudiaethau achos

Darparodd Sir Ddinbych ddwy astudiaeth achos helaeth iawn gyda delweddau a dyfyniadau i ddangos eu gwaith. Roedd hwn yn manylu ar y gwaith helaeth a wnaed i ddarparu gweithgareddau i blant drwy’r cynllun Gaeaf Llawn Lles a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r gwaith parhaus gydag awduron, gan gynnwys mewn gwyliau fel Gŵyl Rhuthun a Gŵyl Ganol Haf Dinbych.

Sir y Fflint

Trosolwg a lleoliad

Gweithredir gwasanaethau llyfrgell yn Sir y Fflint gan Aura Leisure and Libraries Limited, mudiad elusennol di-elw. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys chwe changen statig, un gwasanaeth symudol a gwasanaeth danfon i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi. Mae 83% o’r trigolion yn byw o fewn 2.5 milltir neu daith 10 munud ar drafnidiaeth gyhoeddus o lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Aura Wales dystiolaeth bod Sir y Fflint wedi cyflawni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn. Mae’r asesiad annibynnol yn dangos eu bod wedi cyflawni 11 o’r hawliau craidd yn llawn ac wedi cyflawni un yn rhannol. Aseswyd bod CE12 wedi’i gyflawni'n rhannol oherwydd, er bod strategaeth llyfrgelloedd yn rhan o Gynllun Busnes Aura 2018-23, nid oedd modd ei chael o wefan Aura, ac nid oedd fersiwn ar gael yn Gymraeg ychwaith.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

11

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

1

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 73 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 62% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 139% i 629 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 300% i 432 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Mewn arolwg o ddefnyddwyr llyfrgelloedd, roedd dros 90% yn dweud bod llyfrgelloedd yn llefydd pleserus i ymweld â nhw a bod ganddynt amgylchedd a gwasanaethau da. I’r rheini nad ydynt yn gallu ymweld â changhennau llyfrgell, mae’r gwasanaeth yn cynnig llyfrgell deithiol ar gyfer ardaloedd gwledig ac ynysig, yn ogystal â gwasanaeth danfon i’r cartref. Mae holl lyfrgelloedd y gwasanaeth ar agor o leiaf bum gwaith yr wythnos rhwng 9am a 5pm.

Uchafbwyntiau

Cynhaliodd llyfrgelloedd Sir y Fflint nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus yn ystod y flwyddyn adrodd, gyda nifer cynyddol o’r rhain wyneb yn wyneb ar ôl llacio cyfyngiadau Covid-19. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

  • Drwy Her Ddarllen yr Haf, llwyddodd y gwasanaeth i ennyn diddordeb oddeutu 3,000 o blant, gyda thros 2,500 o blant yn cwblhau’r her. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gydag ysgolion, cynlluniau chwarae lleol a chanolfan gelfyddydau yn yr Wyddgrug i annog plant i ddarllen a gwella eu sgiliau llythrennedd.
  • Ar ôl llacio cyfyngiadau Covid-19, dychwelodd gweithgareddau wyneb yn wyneb i’r llyfrgell, gan ganolbwyntio ar blant ifanc a theuluoedd. Canfu ymgynghoriad â phartneriaid yn y Blynyddoedd Cynnar a’r Bwrdd Iechyd fod diffyg cyswllt wyneb yn wyneb wedi cael effaith negyddol ar ddatblygiad plant 0-3 oed. O’r herwydd, blaenoriaethwyd cyfleoedd cymdeithasol megis sesiynau adrodd rhigymau.
  • Roedd y gwasanaeth llyfrgell yn cynnal amrywiol ddigwyddiadau ar gyfer pobl hŷn, y rheini sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr. Mae hyn yn cynnwys sesiwn Atgofion Chwaraeon wythnosol lle gall y rheini sy’n bresennol gwrdd i siarad a rhannu atgofion am ddigwyddiadau chwaraeon a phersonoliaethau. Mae rhai digwyddiadau’n cael eu cynnal ar y cyd â Gofal Pobl Hŷn Home Instead a Chymunedau Dementia Gyfeillgar yn yr Wyddgrug.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Mae Sir y Fflint yn y chwartel uchaf ar gyfer gwariant ar ddeunydd fesul 1000 o’r boblogaeth. Gwariwyd 17% ar adnoddau plant, gan ei roi yn y chwartel cyntaf yn genedlaethol. Mae Sir y Fflint yn y chwartel uchaf o ran gwariant ar ddeunyddiau Cymraeg fesul 1,000 o’r boblogaeth, ond mae benthyciadau deunyddiau Cymraeg yn y chwartel isaf. Mae Llyfrgelloedd Sir y Fflint wedi ymrwymo i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’i diwylliant, darparu deunydd mewn amrywiaeth o fformatau a chynnal dosbarthiadau sgwrsio Cymraeg mewn tair o’i lyfrgelloedd.

Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda’r awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru i rannu stoc ac adnoddau eraill. Mae hyn yn cynnwys adnoddau hygyrch fel stoc clyweledol a phrint bras. Mae’r gwasanaeth yn darparu dyfais darllen testun o’r enw C-Pen. Mae hyn yn helpu’r rheini sydd â nam ar eu golwg a gellir eu defnyddio hefyd i gyfieithu’r Saesneg i ieithoedd eraill. Mae gan bob llyfrgell gasgliad o astudiaethau lleol hefyd, gyda chasgliad canolog mwy yn cael ei gynnal yn llyfrgell yr Wyddgrug.

Staffio

Mae Sir y Fflint yn y chwartel isaf ar gyfer nifer y staff, a staff cymwys fesul 10,000 o’r boblogaeth. Mae staff yn cael eu hannog i hyfforddi drwy gydol y flwyddyn ac maent wedi cwblhau hyfforddiant ar: drydar yn Gymraeg; seiberddiogelwch; ymgysylltu â darllenwyr a’u datblygiad; sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu; nodweddion sylfaenol Makaton; ymwybyddiaeth o awtistiaeth; ffrindiau dementia; diogelu; a chymorth cyntaf iechyd meddwl. Mae staff newydd hefyd yn cael cynnig cyfle i ymuno â’r cymhwyster Lefel 3 Gwasanaethau Llyfrgell, Gwybodaeth ac Archifau a ariennir. Mae staff ym mhob cangen yn darparu hyfforddiant TG i gwsmeriaid gan ddefnyddio cynnwys Learn My Way.

Data digidol

Nid oedd Sir y Fflint wedi cofnodi data digidol ar wahân i e-fenthyciadau a gynyddodd 1%. Roedd yn cynnig amrywiaeth o adnoddau digidol drwy Borrowbox, ac roedd ganddo ddolenni i gylchgrawn Cymraeg. Gellir cadw llyfrau a CDs ar-lein, ac mae’r cynllun benthyciadau digidol ar gael i roi cymorth digidol i bobl hŷn i helpu i liniaru unigrwydd.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Wrth i’r gwasanaeth barhau i adfer o effeithiau’r pandemig, mae’n ceisio cynyddu nifer y digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ei lyfrgelloedd. Yn ystod y flwyddyn adrodd ddiwethaf, cwblhaodd y gwasanaeth brosiect i fesur y gwerth cymdeithasol. Roedd yn amcangyfrif bod £8.75 o werth cymdeithasol yn cael ei greu am bob £1 a fuddsoddir yn y gwasanaeth drwy fanteision economaidd a chymdeithasol lleol, a bod costau i wariant cyhoeddus yn cael eu hosgoi mewn meysydd eraill. Dros y flwyddyn nesaf, mae’n bwriadu cymhwyso’r fethodoleg i rannau eraill o’r gwasanaeth i ddangos ei werth i gwsmeriaid a chymunedau.

Astudiaethau achos

Darparodd Sir y Fflint bedair astudiaeth achos helaeth gan gynnwys enghreifftiau gan ddefnyddwyr. Roedd hyn yn cynnwys sut roedden nhw’n cefnogi mam newydd i deimlo’n llai ynysig a chyflwynodd ei mab newydd i lyfrau, a’r gwasanaethau arbennig a gynigir i bobl hŷn, y rheini sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr fel rhan o’r cynnig iechyd a lles helaeth.

Gwynedd

Trosolwg a lleoliadau

Caiff gwasanaethau llyfrgell yng Ngwynedd eu darparu gan Gyngor Gwynedd. Mae gan y gwasanaeth 13 cangen a gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi gyda 80% o’r trigolion yn byw o fewn tair milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Gwynedd dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

 

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 120 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 107% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 122% i 980 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 212% i 469 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Dim ond mannau gwasanaeth statig y mae’r gwasanaeth yn eu rhedeg, ac nid oes unrhyw gerbydau llyfrgell symudol bellach yn cael eu defnyddio, ond darperir gwasanaeth danfon rhad ac am ddim sy’n cyrraedd 100% o’r trigolion.  Yn ogystal, llyfrgelloedd Gwynedd sydd â’r ail nifer uchaf o geisiadau ‘Clicio a Chasglu’ ar draws holl wasanaethau llyfrgell Cymru.

Uchafbwyntiau

Mae rhai camau sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  • Cynhaliwyd 87 o sesiynau gweithgaredd ar gyfer plant (ar-lein ac wyneb yn wyneb) gyda 747 o blant yn mynychu. Roedd y sesiynau hyn yn amrywio o greu podlediadau gyda phobl ifanc yn Nyffryn Ogwen i gynnal sesiynau cerddoriaeth. Comisiynodd y gwasanaeth raglen ddarllen i deuluoedd ac mae wedi sefydlu ‘llyfrgell o bethau’ mewn partneriaeth â phartner lleol sy’n rhoi benthyg eitemau wedi’u hanelu at deuluoedd a phlant.
  • Parhaodd Gwynedd i gydlynu’r cynllun cenedlaethol ar gyfer llyfrau print bras Cymraeg gyda Y Lolfa i gynhyrchu fersiynau print bras o lyfrau yn benodol ar gyfer llyfrgelloedd Cymru.
  • Adnewyddwyd llyfrgell Pwllheli yn llwyddiannus, a chynyddodd ei horiau agor o 31 i 43.
  • Mae Gwynedd yn parhau i fod yn aelod o gynllun pontio LINC rhwng awdurdodau llyfrgell cyhoeddus a cholegau addysg bellach ac uwch yng Ngogledd Cymru.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Roedd Gwynedd yn ail o ran gwariant ar ddeunyddiau fesul 1000 o’r boblogaeth. Gwariwyd 18% o’i gyllideb ar adnoddau plant, y canolrif ar gyfer yr holl wasanaethau.

Mae sicrhau bod adnoddau digidol ar gael yn Gymraeg ymhlith blaenoriaethau llyfrgelloedd Gwynedd. Mae benthyciadau Cymraeg fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg ymhlith yr uchaf yng Nghymru, ac mae Gwynedd yn parhau i geisio gwella ei hadnoddau Cymraeg yn ogystal â chwarae rôl arweinyddiaeth genedlaethol wrth ddatblygu’r ddarpariaeth o ddeunyddiau Cymraeg mewn llyfrgelloedd. Mae canran y gwariant ar ddeunyddiau Cymraeg wedi cynyddu 2% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac mae yn y trydydd chwartel ar gyfer gwariant fesul 1000 o’r boblogaeth.  Mae Gwynedd yn rhoi pwyslais sylweddol ar gyflenwi adnoddau sy’n adlewyrchu anghenion cymunedau. Mae stoc yn cael ei adolygu a’i gylchdroi’n aml mewn ymgynghoriad â staff ym mhob maes gwasanaeth ac yn 2021/22 darparodd 2,528 o becynnau llythrennedd dwyieithog i deuluoedd er mwyn hyrwyddo llyfrau a darllen.

Staffio

Er bod gostyngiad bach wedi bod mewn staffio yn 2021/22, bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu yn 2022/23. Mae’r gwasanaeth wedi gwneud llawer o ymdrech i wella’r ddarpariaeth ddigidol, gan gynnwys cyflogi swyddog digidol a dysgu newydd sy’n cefnogi staff eraill bob dydd. Mae llyfrgelloedd Gwynedd hefyd wedi cymryd rhan mewn cynllun peilot sy’n cael ei redeg gan Cymunedau Digidol Cymru i wella sgiliau a gwybodaeth digidol staff rheng flaen. Mae ganddo gynlluniau i barhau i wella’r ddarpariaeth datblygu i staff yn y dyfodol agos.

Digidol

Er mai ychydig iawn o ddata digidol a ddarparodd Gwynedd gan gynnwys ar ‘Clicio a Chasglu’, sesiynau ar-lein a gynhaliwyd, a nifer yr unigolion a wyliodd sesiynau byw neu wedi’u recordio, hwn oedd yr unig wasanaeth llyfrgell i gynyddu ei holl fetrigau data digidol o’r flwyddyn flaenorol. Cynyddodd gwasanaethau ‘clicio a chasglu’ 11%, a gellir archebu’r gwasanaeth danfon i’r cartref drwy’r wefan. Mae yn y chwartel uchaf ar gyfer gwasanaethau ‘Clicio a Chasglu’. O ran sesiynau ar-lein, cynigiodd Gwynedd sesiynau digidol yn canolbwyntio ar wasanaethau plant gan gynnwys Amser Stori, Amser Rhigwm, a Stori a Chrefft Ar-lein.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae llyfrgelloedd Gwynedd yn bwriadu ail-adeiladu ei ddarpariaeth gwasanaeth i lefelau cyn y pandemig. Y gobaith yw y bydd dileu dirwyon yn 2021 yn parhau i helpu i gynyddu’r defnydd o lyfrgelloedd wrth i heriau ariannol gynyddu dros y misoedd nesaf. Mae Gwynedd yn bwriadu datblygu cynllun llyfrgell newydd yn 2022/23, mae’r gwaith hwn wedi bod yn cael ei ohirio ers 2020. Bydd hyn yn datblygu ac yn cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol a fydd yn diwallu anghenion y gymuned ac yn sicrhau gwasanaeth llyfrgell sy’n goroesi ac yn ffynnu yn y dyfodol agos.

Bwriedir i gynllun hyfforddi mewnol ar gyfer staff y llyfrgell gefnogi datblygiad eu darpariaeth gwasanaeth a’u heffeithlonrwydd. Mae wedi derbyn grant Cronfa Trawsnewid Cyfalaf a fydd yn cael ei ddefnyddio i wella llyfrgelloedd Penygroes a Dyffryn Ogwen yn ystod y flwyddyn nesaf, gyda chynllun i sefydlu gwasanaeth Petha (Llyfrgell Pethau) newydd mewn tair llyfrgell, a chreu hwb realiti rhithwir ym Mhenygroes, a gardd les ym Methesda.

Astudiaethau achos

Darparodd Gwynedd bedair astudiaeth achos gyda dyfyniadau gan ddefnyddwyr.  Roedd hyn yn cynnwys effaith y cynllun peilot gan Gymunedau Digidol Cymru yn canolbwyntio ar sgiliau digidol hanfodol a llwyddiant y sesiynau ‘Stori a Chân’ cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant dan 5 oed.

Ynys Môn

Trosolwg a lleoliad

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd ar Ynys Môn eu darparu gan Gyngor Sir Ynys Môn. Mae 60% o boblogaeth Ynys Môn yn byw o fewn tair milltir i un o’r pum llyfrgell sefydlog ac mae 30% o gartrefi o fewn 0.25 milltir i stop symudol. Mae’r llyfrgell deithiol yn ymweld â 110 o leoliadau ar amserlen reolaidd.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Ynys Môn dystiolaeth ei bod wedi cyflawni 10 o’r hawliau craidd yn llawn a’i bod wedi cyflawni dau yn rhannol.  Cytunodd yr asesydd annibynnol â’r asesiad hwn. Y ddwy hawl graidd na chawsant eu cyflawni’n llawn yw CE11 a CE12; aseswyd bod CE11 wedi’i gyflawni'n rhannol gan fod yr arolwg defnyddwyr diwethaf ym mis Chwefror 2017, sydd y tu allan i gyfnod y meini prawf, ond mae wedi cynnal ymgynghoriad arall. Cafodd CE12 ei gyflawni’n rhannol oherwydd er bod strategaeth ar waith ar gyfer 2017-22, nid yw’n bosibl cael gafael arni ar-lein yn Gymraeg nac yn Saesneg.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyflawnwyd yn rhannol

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

10

10

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

2

2

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 66 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 22% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 43% i 828 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 85% i 371 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Parhaodd Ynys Môn i gynnig mynediad am ddim at gyfrifiaduron personol a Wi-Fi i drigolion ym mhob llyfrgell. Mae staff wedi helpu gyda materion TG dros y ffôn ac e-bost, yn ogystal â chefnogi pobl i gael mynediad at eu hadnoddau a’u meddalwedd ar-lein fel Zoom. Nid oedd cyrsiau TGCh wyneb yn wyneb ar gael yn ystod y cyfnod adrodd.

Mae’r gwasanaeth wedi dechrau cyflwyno rhai gweithgareddau hyrwyddo drwy gyfryngau cymdeithasol, fel cyflwyno tudalen Facebook a rhywfaint o bresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yr awdurdod lleol. Roedd tystiolaeth o waith partneriaeth cryf i gynyddu’r defnydd o lyfrgelloedd, yn enwedig ym maes addysg drwy sesiynau codio a ddarparwyd i bum ysgol.

Uchafbwyntiau

Mae’r gwasanaeth yn parhau i weithio tuag at fod yn wasanaeth cynhwysol sy’n cyfrannu at flaenoriaethau a nodau ehangach Llywodraeth Cymru. Mae uchafbwyntiau 2021/22 yn cynnwys:

  • Mae gwybodaeth gymdeithasol a demograffig yn cael ei dadansoddi’n rheolaidd i lunio Strategaeth y Gwasanaeth Llyfrgell ac i greu gwasanaeth perthnasol sy’n diwallu anghenion lleol.
  • Mae gwasanaeth llyfrgell yr ysgol yn cefnogi plant ac athrawon oed cynradd drwy ddarparu pecynnau prosiect sy’n seiliedig ar y cwricwlwm a darllen ar gyfer dosbarthiadau pleser.
  • Mae’r gwasanaeth yn annog pobl ifanc i ymweld â’r llyfrgell drwy weithgareddau fel sesiynau codio.
  • Roedd llyfrgelloedd Ynys Môn yn cefnogi’r economi leol drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau a’r gweithlu, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor i fusnesau.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Roedd y gwasanaeth, ar y cyd â’r adran addysg, yn blaenoriaethu gwasanaethau i blant yn ystod y cyfnod hwn ac adlewyrchir hyn yng nghyfran y gwariant ar ddeunyddiau ar gyfer defnyddwyr iau. Gan gynnwys gwariant gwasanaeth llyfrgell yr ysgol, roedd y gwariant ar ddeunyddiau ar gyfer y cyfnod adrodd hwn yn yr ail chwartel ac roedd 28% o hyn yn cael ei wario ar blant, yr uchaf ar draws yr holl wasanaethau.  Yn gyffredinol, prynodd lawer mwy o eitemau ac roedd cynnydd o 135% mewn deunyddiau o’i gymharu â’r cyfnod adrodd diwethaf.

Mae’r gwasanaeth llyfrgell yn sicrhau bod ei gyllideb adnoddau yn cael ei defnyddio i ddarparu adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth eang o fformatau gan gynnwys y Gymraeg, print bras ac e-lyfrau. Roedd yn parhau i ddarparu adnoddau i gartrefi pobl drwy ddanfon ar garreg y drws. Ynys Môn sydd â’r gyfran uchaf ond un o siaradwyr Cymraeg o’r holl ardaloedd gwasanaeth ac mae 16% o’r gyllideb yn cael ei wario ar ddeunydd Cymraeg, sy’n gynnydd o 3% ers yr adroddiad diwethaf. Roedd yn y chwartel uchaf ar gyfer benthyciadau Cymraeg fesul 1000 o siaradwyr. Roedd yn hyrwyddo’r defnydd o ddeunyddiau Cymraeg fel rhan o arddangosfeydd cyffredinol a hyrwyddiadau unigol.

Mae ganddo ystod lawn o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar effaith i ddiwallu anghenion y gymuned, gan gynnwys gweithgareddau dysgwyr Cymraeg, sesiynau sgiliau digidol a gweithgareddau ar gyfer plant sydd wedi’u hintegreiddio â gwasanaeth llyfrgell yr ysgol.

Staffio

Mae cyfanswm nifer y staff wedi cynyddu ond mae gwasanaeth llyfrgell Ynys Môn yn dal yn is na safon cyfanswm lefel staff, sef 2.47 FTE fesul 10,000 o’r boblogaeth, ac mae effeithiau parhaus swyddi gwag a nodwyd yn y cyfnod adrodd blaenorol wedi parhau i effeithio ar gapasiti. Cafodd swyddi eu gadael yn wag oherwydd ymddeoliadau a’r pandemig. Mae angen i recriwtio i sicrhau bod y safonau gofynnol yn cael eu bodloni fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Mae gan bedwar aelod o staff gymwysterau proffesiynol, gan gynnwys rheolwr y gwasanaeth llyfrgelloedd. Mae hyn yn cyfateb i 0.55 FTE fesul 10,000 o’r boblogaeth. Mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i hyfforddi staff, ac mae staff yn cwblhau hyfforddiant mewn amrywiaeth o feysydd fel gofal cwsmeriaid, diogelu data, a’r iaith Gymraeg. Nid oes gan y gwasanaeth gyllideb hyfforddi benodol, ond nodir anghenion hyfforddi yn ystod y broses werthuso sy’n bwydo i mewn i’r gyllideb hyfforddiant adrannol a chorfforaethol lle dyrennir cyllid ar gyfer y flwyddyn. Nid oes data arolwg defnyddwyr diweddar, er y dywedir bod gofal cwsmeriaid yn flaenoriaeth o fewn yr awdurdod.

Data digidol

Nid oedd Ynys Môn wedi cofnodi data digidol ar wahân i e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, olygai nad oedd gwneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol yn bosibl. Awgrymir bod hyn yn deillio o’r anallu i gasglu data cadarn, ond gan nad yw hyn yn broblem i wasanaethau eraill, mae hwn yn faes arall y dylai’r gwasanaeth ystyried ei ddatblygu. O ran e-fenthyciadau, gwelodd y gwasanaeth ostyngiad o 63%, ac aeth o’r chwartel uchaf i’r ail chwartel. Mae yna wasanaeth papur newydd digidol newydd, a chafodd e-ddarllen ei gryfhau gyda buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Borrowbox.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae’r gwasanaeth yn ymwybodol o heriau sy’n gysylltiedig ag ailgyflwyno digwyddiadau wyneb yn wyneb mawr fel sesiynau Amser Rhigwm yn ystod y cyfnod adfer ar ôl Covid-19. Mae galw mawr am weithgareddau o’r fath, ond mae capasiti yn broblem. Yn y dyfodol, nod y gwasanaeth yw gwella’r hyn mae’n ei gynnig drwy ymgysylltu â phartneriaid.

Mae gwasanaeth llyfrgell Ynys Môn yn parhau i fod yn ymrwymedig i’r weledigaeth a’r nodau craidd a amlinellir yn Strategaeth Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Sir Ynys Môn 2017-22 ar yr un pryd â chael adferiad ar ôl Covid-19 yn elfen ganolog o’u gwaith. Mae effaith y pandemig yn golygu bod y gwasanaeth yn bwriadu canolbwyntio ar y ddarpariaeth iechyd a lles yn llyfrgelloedd Ynys Môn, yn ogystal â’u presenoldeb ar-lein i gynyddu eu cyrhaeddiad.

Un o’r prif flaenoriaethau yw llenwi’r swyddi gwag i helpu i ddatblygu’r gwasanaeth a lleihau’r pwysau ar staff. Bydd strwythur staffio llawn yn meithrin cadernid ac yn caniatáu i’r gwasanaeth ailagor yn llwyr ac ailffocysu’r gwasanaeth llyfrgell ar ôl Covid-19.

Astudiaethau achos

Darparodd Ynys Môn dair astudiaeth achos gyda dyfyniadau gan ddefnyddwyr llyfrgelloedd i ddangos eu gwaith. Roedd hyn yn cynnwys manteision cadw ‘Galw a Chasglu’ i gefnogi defnyddwyr agored i niwed i barhau i gael mynediad at wasanaethau yn ystod y cyfnod adfer ar ôl y pandemig, a gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg lle bu 140 o blant o bum ysgol yn cymryd rhan mewn Sesiynau Codio, gan ddefnyddio Lego WeDo, a Scratch.

Merthyr Tudful (LlesMerthyr)

Trosolwg a lleoliad

Caiff llyfrgelloedd Merthyr Tudful eu darparu ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gan LlesMerthyr (Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful gynt). Mae ganddynt bum pwynt gwasanaeth llyfrgell sefydlog yn ogystal â gwasanaeth llyfrgell cartref gydag 88% o’r boblogaeth yn byw o fewn 2.5 milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd LlesMerthyr dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn. Roedd yr asesiad annibynnol yn cytuno ei fod wedi bodloni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn.

Hawl craidd 

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol 

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 60 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 122% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 191% i 1,568 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 104% i 237 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Mae lawrlwythiadau electronig wedi gostwng, efallai am fod llyfrgelloedd yn ailagor, ac mae mwy o stoc ffisegol ar gael.

Mae’r gwasanaeth fel arfer yn cynnal ymgynghoriadau bob blwyddyn gyda’i ddefnyddwyr, ond ni ddigwyddodd hyn eleni oherwydd y pandemig. Maent yn awyddus i gasglu data mewn ffyrdd eraill a chael cardiau adborth cwsmeriaid ym mhob safle.

Uchafbwyntiau

Dros y flwyddyn ddiwethaf, parhaodd LlesMerthyr i gefnogi ei gymunedau ac roedd ei uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Mae’r holl ddirwyon wedi cael eu dileu gan fod dirwyon yn aml yn rhwystr rhag defnyddio.
  • Roedd y gwasanaeth Cyswllt Cartref yn darparu gwasanaeth hanfodol i fenthycwyr sy’n gaeth i’w cartrefi. Yn ogystal â’r dewisiadau sydd wedi’u dewis yn arbennig, mae’n cynnig blychau o stoc pori y gall cwsmeriaid ddewis llyfrau ychwanegol ohonynt.
  • Bu’n gweithio gyda phartneriaid lleol i gryfhau eu darpariaeth iaith Gymraeg a chael staff sy’n siarad Cymraeg sy’n darparu gweithgareddau.
  • Cynigiodd fenthyciadau i ofalwyr i’r rheini a allai fod angen cyfnodau benthyg hwy.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Mae’r gwariant ar ddeunyddiau wedi cynyddu 67% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac mae yn yr ail chwartel. Gwariwyd 21% o’r gyllideb ar adnoddau plant, cynnydd sylweddol o’i gymharu â ffigur y flwyddyn flaenorol sef 7%.

Adroddodd y gwasanaeth, er bod cyfran isel o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, bod y Gymraeg ‘yn tyfu’n araf’ a bod eu allu i gynnal gweithgareddau dwyieithog, yn eu barn nhw, wedi cyfrannu at y cynnydd mewn benthyciadau Cymraeg, yn enwedig yn achos stoc iau. Fodd bynnag, roedd gwariant y gwasanaeth ar stoc Cymru yn dal yn isel iawn ar 3%. (Roedd yn dal yn y chwartel isaf ar gyfer benthyciadau Cymraeg fesul 1000 o siaradwyr.

Mae’n rhoi cynhwysiant yn flaenllaw yn y gwasanaeth ac yn cynnig technoleg addasol ar gyfrifiaduron ym mhob adeilad ac mae ganddo arwyddion a gwasanaethau addasol fel dolenni sain.

Mae Merthyr wedi cadw model hybrid (digidol a ffisegol) ar gyfer gweithgareddau yn ystod 2021/22 ac wedi adrodd ei fod wedi cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb diogel.

Staffio

Mae’r rhan fwyaf o ganmoliaeth defnyddwyr y mae’r gwasanaeth yn ei derbyn yn ymwneud â’r staff a pha mor groesawgar ydynt. Fodd bynnag, un o’r problemau parhaus sydd gan y gwasanaeth yw’r lefel isel o lyfrgellwyr cymwysedig. Er mai dim ond dau aelod o staff sydd â chymwysterau sy’n gysylltiedig â’r llyfrgelloedd, mae’n tynnu sylw at werth staff rheng flaen sy’n frwdfrydig ac sy’n gallu darparu gwasanaeth rhagorol.

Dim ond 0.6% o’r amser yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a dreuliwyd ar hyfforddi staff. Gall hyn adlewyrchu’r ffaith bod gan y gwasanaeth dîm staff cymharol fach. Mae hwn yn faes y gellid ei archwilio gyda’r bwriad o wella faint o amser a dreulir ar hyfforddi staff.

Data digidol

Roedd Merthyr Tudful wedi sgorio’n uchel ar draws y gwasanaethau ym mhob mesur fesul 1,000 o’r boblogaeth ond nid yw data o 2020/21 ar gael ar gyfer cymhariaeth, ac eithrio e-fenthyciadau. O ran ‘Clicio a Chasglu’ fesul 1,000 o’r boblogaeth, roedd yn y chwartel uchaf yn 2021/22 ar draws y gwasanaethau llyfrgell. Roedd hefyd yn hanner uchaf y gwasanaethau ar gyfer sesiynau ar-lein a nifer yr unigolion a gymerodd ran. Roedd sesiynau byw yn cynnwys defnyddio Facebook a YouTube i ffrydio digwyddiadau’n fyw, fel cwisiau. Gostyngodd nifer yr e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth 33% o’r flwyddyn flaenorol. Mae e-lyfrau’n bennaf mewn categorïau ffuglen neu ffeithiol hamdden, ond mae’n cynnig e-adnoddau eraill fel cymhorthion astudio. Gall cwsmeriaid adnewyddu a chadw eitemau ar-lein ac mae’r amseroedd agor ar gyfer llyfrgelloedd ar gael yn rhwydd ar y wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Er bod y cyfyngiadau wedi llacio, mae’r gwasanaeth wedi wynebu anawsterau o hyd o ran cynnal mesurau diogelwch wrth ailgyflwyno ei ddarpariaeth. Mae wedi parhau â’r ddarpariaeth gref ar-lein wrth gynnal mwy o weithgareddau wyneb yn wyneb. Mae’r diffyg rhyngweithio cymdeithasol, yn enwedig ymysg plant ifanc a gafodd eu geni yn ystod y cyfyngiadau symud ac oedolion hŷn ynysig, wedi bod yn sbardun ar gyfer gweithgareddau o’r fath.

Yn ogystal, mae’n bwriadu canolbwyntio ar bobl ifanc ac ymgorffori’r flaenoriaeth ‘Dechrau Gorau mewn Bywyd’ gan ei fod yn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a datblygu sgiliau.

Mae LlesMerthyr yn rhagweld heriau yn y blynyddoedd nesaf o ran cynyddu costau ynni a lleihau’r ffi reoli a dderbynnir gan y Cyngor, ond bydd yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gefnogi’r gymuned yn y ffordd orau. Bydd strategaeth llyfrgelloedd wedi’i diweddaru, y mae’n gweithio arni ar hyn o bryd, yn helpu’r gwasanaeth llyfrgell i gyflawni’r nodau y mae wedi’u gosod.

Astudiaethau achos

Darparodd Merthyr Tudful bedair astudiaeth achos helaeth gyda lluniau a dyfyniadau. Roedd y rhain yn cynnwys un sesiwn ‘llyfrau lloffion’ wythnosol a oedd yn cael ei ariannu fel rhan o Gaeaf Llawn Lles; ac un gweithgareddau ar gyfer ‘Diwrnod Elmer’ a drefnwyd gan Andersen Press, sy’n cyhoeddi llyfrau Elmer, ble ceir straeon ar gyfer plant a rhieni ar themâu fel cynhwysiant, cyfeillgarwch a goddefgarwch.

Sir Fynwy

Trosolwg a lleoliad

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Fynwy yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Fynwy. Mae ganddo chwe phwynt gwasanaeth ledled ardal yr awdurdod lleol ac mae 73% o’r boblogaeth yn byw 2.5 milltir neu lai o lyfrgell. Mae’r chwe llyfrgell bellach wedi’u huno â gwasanaethau cwsmeriaid ac fe’u gelwir yn Hybiau Cymunedol. Mae hefyd yn cynnwys gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Sir Fynwy dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r 11 hawl craidd yn llawn, ac wedi cyflawni un yn rhannol. Cafodd CE11 ei gyflawni’n rhannol oherwydd bod yr ymgynghoriad â defnyddwyr yn anghyflawn oherwydd effeithiau Covid-19. Cytunodd yr asesiad annibynnol â’r hunan-asesiad.

Hawl craidd 

Hunanasesiad

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyflawnwyd yn rhannol

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

11

11

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

1

1

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 102 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 73% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 371% i 938 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 946% i 638 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd yn y chwartel uchaf ar gyfer e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth gydag 814 o fenthyciadau.

Uchafbwyntiau

Mae’r gwasanaeth llyfrgell yn parhau i weithio tuag at adfer yr holl wasanaethau i lefelau cyn y pandemig. Mae cynlluniau arwyddocaol dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:

  • Roedd rhestr lyfrau Darllen yn Well ar gyfer plant yn edrych ar amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys awtistiaeth, anhwylder gorfywiogrwydd diffyg canolbwyntio (ADHD), anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), dyslecsia, ac anableddau corfforol.
  • Agorwyd Hyb Cymunedol newydd yn Y Fenni gyda safle ymholiadau’r Cyngor ar y llawr gwaelod a’r llyfrgell i fyny’r grisiau.
  • Mae dysgu cymunedol wedi’i leoli mewn pedwar Hyb Cymunedol – Cil-y-coed, Cas-gwent, Trefynwy a Brynbuga. Roedd yr ystod ehangach o gyfleoedd dysgu gydol oes yn cynnwys cyfrifiaduron, ieithoedd, Saesneg a mathemateg, celf a chrefft, Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL), a llawer mwy.
  • Gweithiodd y gwasanaeth danfon i’r cartref mewn partneriaeth â Sight Cymru i ddarparu llyfrau llafar wedi’u llwytho i lawr i ffyn cof, i wrando arnynt drwy Boomboxes. Dechreuodd y swyddog allgymorth gynllun peilot a oedd yn galluogi cwsmeriaid oedrannus a/neu gwsmeriaid â nam ar eu golwg nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd i fenthyg tabledi gyda llyfrau llafar wedi’u llwytho ymlaen llaw.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Roedd y gwasanaeth yn y chwartel uchaf ar gyfer gwariant ar ddeunydd fesul 1000 o’r boblogaeth. Gwariwyd 11% o’i gyllideb ar adnoddau plant, hwn oedd y swm isaf ymysg yr holl wasanaethau.

Dim ond 1% o’r gyllideb a wariwyd ar adnoddau Cymraeg ac roedd y gwasanaeth yn y chwartel isaf ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau Cymraeg a nifer y benthyciadau Cymraeg fesul 1000 o siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, adroddodd y gwasanaeth ei fod yn awyddus i wella ei ymrwymiad i’r Gymraeg a’i fod yn canolbwyntio ar adnoddau i ddysgwyr, er ei fod mewn ardal gyda nifer gymharol fach o siaradwyr Cymraeg. Roedd yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg yn y llyfrgelloedd ac yn gweithio gyda Cymraeg I Blant i gynnig sesiynau straeon a rhigymau. Roedd casgliadau hanes lleol ym mhob hyb.

Staffio

Mae rhannu gwybodaeth ac arbenigedd yn cael ei ystyried yn hanfodol yn Sir Fynwy er mwyn parhau i ddatblygu ei wasanaeth i gwsmeriaid. Mae gan y gwasanaeth 2.9 o swyddi cyfwerth ag amser llawn allan o gyfanswm o 14.2 a ddelir gan staff sydd â chymwysterau llyfrgell ffurfiol, ond nid yw hyn yn cynnwys y rheolwr gwasanaeth. Mae pob aelod o staff yn cael gwerthusiad blynyddol sy’n cynnig adborth dwy ffordd am ddatblygiad y gwasanaeth, gyda’r pwyslais ar ddatblygiad proffesiynol parhaus. Nid oes cyllideb hyfforddi benodol, ond mae staff yn dal i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi, gyda 0.8% o amser staff yn cael ei dreulio ar ddatblygu a hyfforddi.

Data digidol

Er bod gan y gwasanaeth llyfrgelloedd gasgliad da o e-adnoddau megis dolenni i gymorth prawf theori gyrru, e-Lyfrau, ac adnoddau drwy Borrowbox a gwasanaeth cais a chasglu ar-lein, dim ond nifer y ceisiadau ‘Clicio a Chasglu’ ac e- Fenthyciadau (gweler uchod am e-fenthyciadau) a ddarparodd Sir Fynwy yn ei adroddiad data ddigidol. Gwelodd Sir Fynwy ostyngiad o 14% mewn archebion Clicio a Chasglu o’r flwyddyn flaenorol, gan roi’r gwasanaeth yn y chwartel isaf ar gyfer y flwyddyn. Ei nod yw ehangu ei Llyfrgell Benthyca Digidol yn y dyfodol.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Daeth strategaeth gwasanaeth llyfrgelloedd bresennol Sir Fynwy i ben yn 2022 ac mae’n bwriadu dechrau cynhyrchu strategaeth newydd yn sgil nodau Cyngor Sir Fynwy a’r sefyllfa ar ôl Covid-19. Mae’n bwriadu adnewyddu Hyb Cymunedol Cil-y-coed gyda dwy ystafell ddosbarth newydd a gwella datblygiad y darllenydd a’r arddangosfa llyfrau. Bydd y Llyfrgell Benthyca Digidol yn cael ei datblygu, gyda chynllun peilot ar gyfer pobl sy’n wynebu allgáu digidol. Ar draws yr holl gynlluniau hyn, bydd y gwasanaeth yn parhau i gydweithio â phartneriaid ehangach.

Astudiaethau achos

Darparodd Sir Fynwy dair astudiaeth achos helaeth gyda dyfyniadau gan nifer o wahanol ddefnyddwyr. Roedd y rhain yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd drwy gynllun Gaeaf Llawn Lles a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac enghreifftiau o weithgareddau ehangach y mae’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn eu darparu i gefnogi cymunedau lleol.

Castell-nedd Port Talbot

Trosolwg a lleoliad

Mae gwasanaeth llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot yn cael ei redeg gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ac mae ganddo wyth pwynt gwasanaeth sefydlog gydag un llyfrgell symudol a gwasanaeth i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi, yn ogystal â chwe llyfrgell a reolir gan y gymuned. Mae 90% o’r boblogaeth yn byw o fewn 2.5 milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Castell-nedd Port Talbot dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn. Roedd yr asesiad annibynnol yn cadarnhau ei fod wedi bodloni pob un o’r hawliau craidd yn llawn.

Hawl craidd 

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 96 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 78% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 110% i 968 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 215% i 346 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd y defnydd o lawrlwythiadau electronig hefyd yn dal yn uchel.

Uchafbwyntiau

Roedd uchafbwyntiau cyfnod adroddiad 2021/22 yn cynnwys:

  • Ymgynghoriad helaeth i gwmpasu prosiect newydd i greu Stordy Creadigol yn Llyfrgell Port Talbot sy’n cynnwys staff, defnyddwyr llyfrgell, ysgolion a cholegau, artistiaid, arbenigwyr digidol a dylunwyr.
  • Dileu dirwyon am eitemau hwyr yn barhaol.
  • Yn 2021 cynhaliwyd rhaglen Her Ddarllen yr Haf fwyaf llwyddiannus y gwasanaeth llyfrgell ac wythnos boblogaidd i ddysgwyr sy’n oedolion.
  • Roedd y staff yn gweithio gyda chydweithwyr ym maes Datblygu Plant, Partneriaeth Teulu Meddwl, Ysgolion Castell-nedd Port Talbot a theatrau Castell-nedd Port Talbot i ddarparu gweithgareddau Gaeaf Llawn Lles a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.
  • Sefydlwyd grŵp Cyfryngau Cymdeithasol a Hyrwyddo yn 2021 i weithio ar wahanol ymgyrchoedd, marchnata a hyrwyddo llyfrgelloedd. Gweithiodd y grŵp yn rhagweithiol gyda chydweithwyr yng ngwasanaethau llyfrgell y GIG i ddarparu adnoddau a negeseuon llyfrgelloedd i staff a chleifion mewn ysbytai lleol.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Mae Castell-nedd Port Talbot yn y chwartel isaf ar gyfer gwariant ar ddeunydd fesul 1000 o’r boblogaeth. Gwariwyd 18% o’i gyllideb ar adnoddau plant, sef y canolrif ar gyfer yr holl wasanaethau.

Mae’r polisi dewis stoc Cymraeg yn cael ei adolygu’n flynyddol, ac mae wedi newid ei drefniadau cyflenwi yn 2021 i greu partneriaeth â chyflenwr lleol newydd er mwyn diwallu anghenion lleol yn well. Gwariwyd 7% o’r gyllideb deunyddiau ar eitemau Cymraeg, cynnydd o 4% ers y cyfnod adrodd blaenorol. Mae yn y trydydd chwartel ar gyfer caffaeliadau fesul 1000 o siaradwyr Cymraeg, a’r canolrif ar gyfer benthyciadau fesul 1000 o siaradwyr Cymraeg. Bu’n gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a’i grwpiau darllen, gan gyflwyno caneuon a rhigymau Cymraeg gyda Menter Iaith.

Staffio

Mae gan y gwasanaeth 7.5 o swyddi cyfwerth ag amser llawn a lenwir gan staff sydd â chymwysterau sy’n gysylltiedig â llyfrgelloedd, gan gynnwys rheolwr y gwasanaeth. Yn ogystal, mae gan dair prif lyfrgell uwch lyfrgellydd sydd â chymwysterau proffesiynol. Yn ystod 2021/22 roedd Castell-nedd Port Talbot wedi ailddechrau sesiynau hyfforddi staff wyneb yn wyneb, ochr yn ochr â chynnal cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant rhithiol, a threuliodd staff 0.7% o’u hamser ar hyfforddiant. Mae hyn yn llai na’r flwyddyn flaenorol oherwydd heriau o ran salwch, Covid-19 a gorfod canolbwyntio ar gadw canghennau ar agor. Roedd y cyrsiau’n cynnwys hyfforddiant amrywiaeth, diogelu a chymorth cyntaf. Mae staff yn cael gwerthusiadau perfformiad blynyddol i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar eu potensial ac mae’r rhain yn sicrhau bod y cyrsiau hyfforddi sy’n cael eu cwblhau yn berthnasol. Mae gan y gwasanaeth llyfrgelloedd gyllideb hyfforddi i sicrhau bod staff yn gallu parhau â’u datblygiad proffesiynol. Mae llawer o aelodau staff wedi gwella eu sgiliau yn ystod y cyfnod adrodd ac erbyn hyn maent wedi cymhwyso’n well.

Data digidol

Darparodd Castell-nedd Port Talbot ddata digidol gan gynnwys sesiynau ar-lein a gynhaliwyd a nifer yr unigolion a wyliodd sesiynau byw/wedi’u recordio. Rhoddodd y gorau i gasglu data defnyddio ar archebion ‘Clicio a Chasglu’ yn 2022, ond mae’r gwasanaeth yn dal yn weithredol. Darparodd 56 sesiwn ar-lein yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys sesiynau ysgol byw gyda chyfranogwyr, ond nid yw union nifer y bobl yn hysbys oherwydd nad oedd dosbarthiadau mawr a phresenoldeb yn cael eu cofnodi. Darparwyd cynnwys ar-lein arall drwy Facebook a YouTube. O ran e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, gwelwyd cynnydd o 25%, gan symud i fyny i’r trydydd chwartel eleni. Darparodd Castell-nedd Port Talbot weithdai iechyd a lles ar-lein i staff y Cyngor, gan ddefnyddio stoc ar-lein ar Borrowbox. Darparodd e-adnoddau gan gynnwys Press Reader sy’n rhoi mynediad i 7,000 o bapurau newydd a chylchgronau’r DU ac yn rhyngwladol, a chyfieithu ar y pryd mewn hyd at 18 iaith.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae llawer o argymhellion Adolygiad Llyfrgelloedd 2019 wedi cael eu rhoi ar waith ac maent yn parhau i fod yn sail i gynlluniau yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaeth llyfrgell symudol gwell a mwy hyblyg a fydd yn gallu gwasanaethu mwy o gymunedau, a gwasanaeth danfon i’r cartref wedi’i adnewyddu a fydd yn darparu gwelliannau i rai o’r trigolion mwyaf agored i niwed. Un o brif gynigion Adolygiad 2019 oedd llyfrgell ganolog newydd ar gyfer Castell-nedd. Mae hyn bron â chael ei gwblhau fel rhan o waith adfywio canol tref Castell-nedd, a oedd i fod i agor yn hydref 2022 ond bydd nawr yn agor yn gynnar yn 2023.

Mae’n bwriadu cyhoeddi Strategaeth Llyfrgelloedd newydd yn 2023. Bydd Llyfrgell Port Talbot yn cael ei datblygu’n Stordy Creadigol.

Astudiaethau achos

Darparodd Castell-nedd Port Talbot bedair astudiaeth achos helaeth gydag adborth esboniadol gan ddefnyddwyr, gan gynnwys sut mae’r Gwasanaeth yn cyfrannu at wella lles plant, plant ifanc ac oedolion, ac yn gallu helpu i wneud pobl yn fwy annibynnol a chyfrannu at y gymuned.

Casnewydd

Trosolwg a lleoliad

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghasnewydd eu darparu gan Gyngor Dinas Casnewydd. Mae’r y gwasanaeth yn cynnwys naw cangen gyda 97% o drigolion yn byw o fewn 2.5 milltir i lyfrgell, ac un llyfrgell gymunedol annibynnol. Nid yw’r gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth symudol ar hyn o bryd.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd y gwasanaeth dystiolaeth yn dangos ei fod wedi cyflawni 11 o’r 12 hawl craidd yn llawn, a chytunodd yr asesiad annibynnol. Roedd y gwasanaeth wedi cyflawni CE12 yn rhannol gan fod y strategaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd yn cwmpasu 2017-20, er y dywedodd fod cynlluniau bellach ar waith i gynhyrchu strategaeth newydd.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

 Cyflawnwyd yn rhannol

 Cyflawnwyd yn rhannol

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

11

11

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

1

1

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 30 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 20% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 169% i 466 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 682% i 297 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd gan y gwasanaeth 203 o aelodau fesul 1000 o’r boblogaeth, sy’n ostyngiad o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mewn ymateb, creodd y gwasanaeth gynllun ail-ymgysylltu gydag amnest benthyg a llyfrau wedi’i gyhoeddi’n eang ynghyd â rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Uchafbwyntiau

  • Yn ystod 2021/22 bu’r gwasanaeth llyfrgell yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen ac Academi StoryFutures ar y prosiect Story Trails. Roedd hwn yn brofiad adrodd straeon trochi i archwilio straeon heb eu hadrodd o’r gorffennol, yn enwedig o wahanol ddiwylliannau yn y dinasoedd. Canolbwyntiodd Casnewydd ar hanes y gymuned Affro-Caribïaidd yn hen ardal ddociau Pillgwenlli. Roedd hyn yn tynnu sylw at rôl bwysig y gymuned hon yn natblygiad y sîn gerddoriaeth yng Nghasnewydd.
  • Roedd y gwasanaeth wedi cydweithio’n gyson â Mudiad Meithrin, mudiad gwirfoddol sy’n arbenigo mewn darparu addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Drwy hyn roedd yn darparu nifer o sesiynau rhigymau Cymraeg a sesiynau ioga i fabanod.
  • Dechreuodd grŵp Hanes Ringland ym mis Mawrth 2022 ar ôl dwy flynedd o darfu. Defnyddiodd y grŵp le yn y llyfrgell i siaradwyr gwadd siarad am ddigwyddiadau hanesyddol.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Roedd gwariant ar ddeunyddiau wedi cynyddu ers y flwyddyn flaenorol, gan ei roi yn yr ail chwartel yn genedlaethol. Gwariwyd 23% ar adnoddau plant, sydd yn y chwartel cyntaf yn genedlaethol. Fodd bynnag, mae nifer y benthyciadau sy’n ymwneud â phlant fesul 1000 o’r boblogaeth yn y chwartel isaf. Mae hyn yn awgrymu efallai nad yw’r stoc yn diwallu anghenion defnyddwyr, neu fod diffyg ymwybyddiaeth yn y gymuned. Mae’r gwasanaeth yn darparu amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau sy’n ceisio adlewyrchu ei gymuned. Mae hyn yn canolbwyntio’n benodol ar blant, gyda chlybiau straeon a chlybiau codio ar gael o ystyried y nifer cymharol isel o fenthyciadau llyfrau plant.

Roedd y gwariant ar y Gymraeg yn parhau i fod yn 4%, gan adlewyrchu’r gyfran fach o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal ond sy’n dal i roi gwariant fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg yn y chwartel uchaf yn genedlaethol. Fodd bynnag, o ystyried bod nifer y benthyciadau fesul 1,000 yn y chwartel isaf, mae hyn yn awgrymu efallai nad yw’r deunyddiau Cymraeg yn diwallu anghenion defnyddwyr. Roedd yn canolbwyntio ymdrechion iaith Gymraeg ar ddysgwyr a phlant, drwy gydweithio â’r Mudiad Meithrin.

Mae gan y gwasanaeth gasgliad Ieithoedd Cymunedol yn y llyfrgell Ganolog a Phillgwenlli, sy’n adlewyrchu’r cymunedau aml-ethnig y mae’r ddwy lyfrgell hynny’n eu gwasanaethu. Mae gan y Llyfrgell Ganolog gasgliad mawr o astudiaethau lleol o dros 50,000 o eitemau sy’n adlewyrchu hanes, diwylliant a daearyddiaeth gyfoethog Casnewydd a Gwent.

Mae’r oriau agor yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr ac maent yn cael eu gwasanaethu gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n llawn.

Staffio

Roedd cyfanswm nifer y staff wedi aros yr un fath â 2020/21, gan gynnwys wyth aelod o staff â chymwysterau sy’n gysylltiedig â llyfrgelloedd. Mae’r staff fesul 10,000 o’r boblogaeth yn y chwartel isaf o wasanaethau ond mae nifer y staff cymwysedig am bob 10,000 yn yr hanner uchaf. Roedd hyfforddiant staff yn cynnwys sgiliau digidol ac roedd anogaeth frwd i ddatblygu’r proffesiwn yn barhaus, a oedd yn cael ei fonitro gan reolwyr.

Data digidol

Roedd Casnewydd wedi darparu data digidol gan gynnwys ‘Clicio a Chasglu’, sesiynau ar-lein a gynhaliwyd a nifer yr unigolion a wyliodd sesiynau byw/wedi’u recordio. Gwelodd y gwasanaeth ostyngiad yn ei holl fesurau data digidol o’r flwyddyn flaenorol. O ran archebion ‘Clicio a Chasglu’, gostyngodd y nifer a oedd yn eu defnyddio 51% yn ystod y cyfnod. Roedd yn cynnig gwasanaeth danfon i’r cartref i’r rheini sy’n agored i niwed, ac roedd yn bwriadu ail-lansio’r cynllun Ffrindiau Darllen ar gyfer y rheini sydd wedi’u hynysu ac sydd angen cymorth. O ran sesiynau ar-lein, gwelwyd gostyngiad o 80% mewn sesiynau yn ystod y flwyddyn a gostyngiad o 19% yn nifer yr unigolion a fynychodd. O ran e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, gwelodd ostyngiad o 2% yn eu gwasanaeth ond o’i gymharu â gwasanaethau eraill, cododd o’r chwartel isaf i’r canol. Roedd e-adnoddau fel e-lyfrau ar gael drwy Borrowbox.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Ar ôl uno gwasanaethau llyfrgell â hybiau cymdogaeth yn ddiweddar, mae ailstrwythuro corfforaethol dilynol bellach wedi penderfynu y bydd y gwasanaeth llyfrgelloedd yn mynd yn ôl i fod yn wasanaeth ar wahân. Bydd llyfrgelloedd yn rhan o dîm o fewn yr Adran Adfywio sy’n cynnwys dysgu oedolion yn y gymuned ac adfywio cymunedol. Dylai hyn alluogi cydweithio a helpu’r gwasanaeth llyfrgelloedd i gael mwy o effaith.

Bydd strategaeth llyfrgelloedd newydd yn cael ei datblygu yn 2022/23 a bydd yr arolwg defnyddwyr hwyr yn cyfrannu at hyn. Bydd yr arolwg yn helpu’r gwasanaeth llyfrgell i adolygu ei ddarpariaeth bresennol a deall sut mae angen iddo addasu i anghenion sy’n newid. Ar ben hynny, mewn ymateb i fenthyciadau cymharol isel o ran llyfrau plant o’i gymharu â gweddill Cymru, bydd y gwasanaethau’n parhau i ddatblygu eu rhaglenni sydd wedi’u hanelu at bobl iau a ddylai helpu’r gwasanaeth i adennill darllenwyr.

Astudiaethau achos

Darparodd Casnewydd dair astudiaeth achos gyda dyfyniadau ac enghreifftiau, gan gynnwys sesiynau llythrennedd digidol i oedolion a phlant a Grŵp Hanes Ringland – a ‘grŵp hanes amgen’, gan rannu straeon anhysbys am hanesion y mae pobl yn meddwl eu bod yn eu gwybod.

Sir Benfro

Trosolwg a lleoliad

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd yn Sir Benfro eu darparu gan Gyngor Sir Benfro. Roedd y gwasanaeth yn cynnwys 12 cangen ac un gwasanaeth symudol, gyda phedair o’r rhain yn llyfrgelloedd a reolir gan y gymuned. Mae 81% o breswylwyr yn byw o fewn tair milltir i lyfrgell neu o fewn 0.25 milltir i stop llyfrgell symudol.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd gwasanaeth llyfrgelloedd Sir Benfro dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r hawliau craidd yn llawn. Cytunodd yr asesiad annibynnol.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

 Cyflawnwyd yn llawn

 Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

 Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 49 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 26% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 212% i 928 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 415% i 345 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Cadwodd y gwasanaeth ‘Archebu a Chasglu’ a sefydlwyd yn ystod y pandemig, er bod y nifer sy’n defnyddio’r gwasanaeth hwn wedi gostwng yn sylweddol. Parhaodd i gynnal digwyddiadau rheolaidd yn y llyfrgelloedd mwyaf, gan gynnwys Amser Rhigymau i Fabanod, a gweithiodd ar y cyd â Dechrau Da i hwyluso dosbarthu pecynnau Dechrau Da o lyfrgelloedd am y tro cyntaf.

Uchafbwyntiau

Roedd yr uchafbwyntiau ar gyfer y cyfnod adrodd yn cynnwys:

  • Drwy arolwg blynyddol Gwneud Gwahaniaeth (MAD) y gwasanaeth, roedd 99.6% o’r ymatebwyr o’r farn bod eu llyfrgell yn lle pleserus, diogel a chynhwysol i ymweld ag ef.
  • Dechreuodd y gwasanaeth gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar y broses o wneud cais am Wobr Arian Buddsoddwyr mewn Gofalwyr. Cynhaliodd staff y llyfrgell hyfforddiant priodol ac maent yn casglu tystiolaeth o weithgareddau perthnasol.
  • Bwriad cyflwyno technoleg hunanwasanaeth Agored+ oedd rhoi mynediad i ddefnyddwyr at lyfrgelloedd y tu allan i amseroedd agor rheolaidd a rhyddhau staff ar gyfer tasgau eraill. Cafodd Agored+ ei gyflwyno am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2021 mewn un gangen, ond roedd y niferoedd defnyddio yn is na’r disgwyl oherwydd y pandemig. Adeg adrodd, dim ond 41 o ddefnyddwyr cofrestredig oedd gan y gwasanaeth newydd a oedd wedi gwneud 820 o drafodion yn ystod oriau Agored+, sef tua 10% o gyfanswm y trafodion yn y gangen lle cafodd ei gyflwyno.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Gostyngodd cyfanswm y gwariant ar ddeunyddiau 12.8% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r gwasanaeth ar y lefel isaf o ran gwariant fesul 1000 o’r boblogaeth. Gwariwyd 13% o’r gyllideb deunyddiau ar adnoddau plant. Mae hyn yn y chwartel isaf yn genedlaethol. Mae nifer yr eitemau gafodd eu caffael hefyd wedi gostwng o 11,367 yn 2020/21 i 9,686 yn 2021/22.

Maent wedi cynnal 4% o’r gwariant hwn ar ddeunyddiau Cymraeg; fodd bynnag, maent yn y chwartel isaf ar gyfer gwariant deunyddiau fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg ac yn yr ail chwartel ar gyfer benthyciadau fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg. Mae’r gwasanaeth yn gwneud ymdrech i ddewis deunyddiau yn ôl defnydd ac mae’n parhau i ymgysylltu â grwpiau Cymraeg i godi ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth.

Staffio

Mae cyfanswm nifer y staff wedi cynyddu ychydig ers y flwyddyn flaenorol. Mae nifer y staff sydd â chymwysterau proffesiynol wedi gostwng o 7.1 yn y flwyddyn flaenorol i 5.9 yn y cyfnod adrodd.

Mae’r gwasanaeth yn annog staff i ddysgu Cymraeg drwy eu cefnogi’n ariannol i gymryd gwersi Cymraeg. Mae ymdrech ar y cyd i uwchsgilio staff gyda chyllideb hyfforddi benodol, ac mae nifer yr oriau sy’n cael eu neilltuo ar gyfer hyfforddiant wedi cynyddu ychydig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Roedd arolwg defnyddwyr Gwneud Gwahaniaeth (MAD) ym mis Mawrth 2022 yn awgrymu bod dros 99% o gwsmeriaid yn credu bod safonau gofal cwsmeriaid yn ‘dda’ neu’n ‘dda iawn’. Mae’r gwasanaeth yn yr hanner uchaf yn genedlaethol o ran staff cymwys fel canran o’r boblogaeth.

Yn llyfrgell Neyland, sydd newydd gael ei hail-leoli, maen nhw’n cynnig system hunanwasanaeth ‘Agored+’ sy’n rhoi’r dewis i gwsmeriaid ddefnyddio’r llyfrgell y tu allan i oriau agor arferol. Mae hyn wedi cael ei asesu ar sail risg gyda sesiwn gynefino ar gyfer cwsmeriaid sy’n cofrestru. Maent yn bwriadu dod â’r model hwn i ddwy lyfrgell arall dros y blynyddoedd nesaf. Mae cyflwyno technoleg Agored+, ochr yn ochr â recriwtio gwirfoddolwyr, yn rhan bwysig o strategaeth gyffredinol y gwasanaeth llyfrgelloedd.

Data digidol

Ychydig iawn o ddata digidol a ddarparodd Sir Benfro. Nid oes gan y gwasanaeth ddata ar ddefnydd o sesiynau ar-lein nac ar unigolion a oedd yn mynychu. Roedd archebion ‘Clicio a Chasglu’ y gwasanaeth wedi gostwng 85% ac roedd yn y chwartel isaf ar draws y gwasanaethau. Gostyngodd e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth 30% o’r flwyddyn flaenorol ac mae yn y chwartel isaf yn genedlaethol. Roedd y gwasanaeth yn cydnabod nad yw ei wefan yn hawdd ei defnyddio a dywedodd fod ganddo gynlluniau i’w gwella.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae Sir Benfro yn ailadeiladu ei wasanaeth yn dilyn effaith Covid-19, a’i phrif flaenoriaeth yw adfer defnydd wyneb yn wyneb. Mae’n ymchwilio i ddileu dirwyon i weld a all hyn annog defnyddwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd. Roedd gan y gwasanaeth record dda o ran ymgysylltu ac adborth wedi’i dargedu, ac mae’n gobeithio adeiladu ar hynny. Ar ôl cwblhau ei asesiad risg ar wasanaethau, bydd yn ceisio ailgyflwyno llawer o’r gweithgareddau partneriaeth sydd wedi bod yn gyfyngedig dros y blynyddoedd diwethaf, a cheisio gwella adnoddau Cymraeg. Bydd ei chais am gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod modd gwella’r gofodau llyfrgell yn Llyfrgell Arberth.

Yn ystod haf 2022, bydd y gwasanaeth o’r diwedd yn arddangos gwaith fel rhan o’r Daith Masterpiece gan yr arlunydd Degas yn Llyfrgell Glan yr Afon yn Hwlffordd, ar fenthyg gan yr Oriel Genedlaethol ac mewn partneriaeth â’r Oriel Genedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac ysgolion lleol.

Astudiaethau achos

Darparodd Sir Benfro ddwy astudiaeth achos helaeth gydag enghreifftiau gan ddefnyddwyr gwasanaeth gan gynnwys adleoli Llyfrgell Neyland mewn ‘hyb’ newydd gyda neuadd chwaraeon, bar a chlwb cymdeithasol, Swyddfa Clerc y Dref ac ystafelloedd ar gyfer defnydd cymunedol; a chyfleoedd i blant a phobl ifanc ail-ymgysylltu a rhoi cynnig ar bethau newydd ar ôl y pandemig fel rhan o fenter Gaeaf Llawn Lles.

Powys

Trosolwg a lleoliad

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Powys. Mae ganddo 18 o lyfrgelloedd sefydlog, ac mae tri ohonynt yn lyfrgelloedd a reolir gan y gymuned sydd â mynediad i’r catalog, ac mae un yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr heb fynediad i’r catalog. Mae 76% o’r trigolion o fewn 2.5 milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Cyflwynodd Powys dystiolaeth i ddangos bod ei wasanaeth wedi cyflawni wyth o’r hawliau craidd yn llawn a’i fod wedi cyflawni pedwar yn rhannol. Roedd yr asesiad annibynnol yn ystyried bod Powys wedi cyflawni 10 o’r hawliau craidd yn llawn ac wedi cyflawni dau yn rhannol (CE6 a CE12). Canfu’r asesiad annibynnol fod CE6 wedi’i gyflawni’n rhannol oherwydd costau defnyddwyr o ganlyniad i ofyn am eitemau o Gymru yn ogystal â pheidio â bod yn rhan o gynllun benthyca rhyng-lyfrgelloedd. Aseswyd bod CE12 wedi’i gyflawni’n rhannol gan fod y strategaeth llyfrgelloedd ddiweddaraf wedi dyddio, er bod Powys wedi adrodd ei bod yn gweithio ar strategaeth ddiwylliannol newydd.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyflawnwyd yn rhannol

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

8

10

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

4

2

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 97 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 41% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 136% i 955 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 295% i 383 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd hyn er gwaethaf patrwm tymor hir o wariant is na’r cyfartaledd.

Nid yw’r gwasanaeth llyfrgell symudol yn gweithio mwyach, gyda Phowys yn gweithio ar raglen Trawsnewid Symudol i geisio rhoi dulliau allgymorth eraill ar waith ar gyfer trigolion sy’n gaeth i’w cartref. Roedd y gwasanaeth yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i ddanfon nwyddau i garreg y drws i gwsmeriaid ynysig.

Uchafbwyntiau

Roedd yr uchafbwyntiau ar gyfer y cyfnod adrodd yn cynnwys:

  • Roedd Powys yn cefnogi ei chymunedau gwledig drwy fynediad am ddim at dechnoleg a chynllun benthyg iPad. Roedd hyn yn bwysig gan mai dim ond band eang a Wi-Fi gwael sydd gan rai trigolion. Roedd y gwasanaeth felly’n cefnogi addysg, chwilio am waith a busnesau bach drwy’r darpariaethau TGCh hyn.
  • Roedd casgliad llyfrau Darllen yn Well yn parhau i gael ei hyrwyddo a’i ehangu. Roedd grant gan Gronfa Elusennol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn galluogi’r gwasanaeth i brynu pedair set o 50 llyfr am ganser, a argymhellwyd gan weithiwr proffesiynol cymorth canser Macmillan.
  • Parhaodd sesiynau rhithiol fel Amser Stori, Clwb Lego a Dungeons and Dragons, gyda’r nod o ailgyflwyno mwy o weithgareddau wyneb yn wyneb.
  • Roedd staff Cymraeg ac arwyddion cwbl ddwyieithog yn golygu bod Powys yn creu amgylchedd mwy cyfartal i’w thrigolion Cymraeg eu hiaith.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Tyfodd gwariant Powys ar ddeunyddiau 35.5% dros y flwyddyn a oedd yn golygu ei fod yn gallu prynu mwy o eitemau ar gyfer y llyfrgelloedd. Roedd y cynnydd hwn yn ei godi o’r chwartel isaf yn y flwyddyn flaenorol i’r ail chwartel yn y cyfnod adrodd hwn. Roedd 16% o’r gwariant deunyddiau ar adnoddau plant, sydd yn y chwartel isaf yn genedlaethol.

Gwariodd y gwasanaeth 5% o’i gyllideb ar ddeunyddiau Cymraeg a oedd 1% yn llai na’r flwyddyn flaenorol, er bod y gyllideb ar gyfer deunyddiau Cymraeg wedi cynyddu mewn termau real. Roedd y gwasanaeth yn yr ail chwartel o wasanaethau ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau a benthyciadau Cymraeg. Nod y gwasanaeth yw dychwelyd i gynnal dosbarthiadau Cymraeg wyneb yn wyneb ynghyd ag Amser Rhigymau Cymraeg ac Amser Stori.

Staffio

Bu cynnydd yn nifer y staff cyfwerth ag amser llawn, ac mae gan staff eraill amrywiaeth o gymwysterau, gan gynnwys un aelod yn astudio ar gyfer Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes ac un arall sydd newydd gwblhau Prentisiaeth Uwch ILM Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Mae’r gwasanaeth wedi bod heb Brif Lyfrgellydd oherwydd secondiad, ond mae disgwyl i’r Prif Lyfrgellydd ddychwelyd ym mis Ebrill 2023. Roedd y pandemig yn gyfle i staff gwrdd ar-lein, a helpodd i gael gwared ar gyfyngiadau daearyddol neu logistaidd blaenorol. Mae hefyd wedi golygu bod y gwasanaeth wedi gallu cynnal cyfarfodydd chwarterol gyda Llyfrgellwyr Cangen ar draws y sir.

Mae’r gwasanaeth yn darparu hyfforddiant cynefino i bob aelod o staff ac unrhyw hyfforddiant ychwanegol yn ôl yr angen. Yn dilyn y cais llwyddiannus i’r Gronfa Adferiad Covid, roedd gan staff fynediad at offer digidol newydd a chawsant hyfforddiant digidol ar Squarespace, Canva a Facebook. Anogir mynediad at hyfforddiant allanol yn ogystal â rhannu’r hyn a ddysgwyd o hyfforddiant unigol.

Data digidol

Darparodd Powys ddata digidol gan gynnwys sesiynau ‘Clicio a Chasglu’ a sesiynau ar-lein. Roedd yn y trydydd chwartel ar gyfer benthyciadau fesul 1000 o’r boblogaeth. Gwelwyd gostyngiad o 72% mewn archebion Clicio a Chasglu. Ar y wefan, darparodd Powys fynediad at archebion ar-lein, adnewyddu llyfrau a gwirio’r llyfrgell gyfeiriadau. Roedden nhw’n darparu e-adnoddau fel e-lyfrau, cylchgronau a benthyg iPads. Mae Grŵp Presenoldeb Digidol wedi cael ei greu sy’n canolbwyntio ar gyflawni’r strategaeth ar-lein a’r wefan newydd.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Roedd Cyngor Sir Powys yn blaenoriaethu’r gwaith o adfer gwasanaethau ar ôl y pandemig. Roedd y strategaeth gwasanaeth llyfrgelloedd ddiweddaraf i fod i gael ei diweddaru yn 2019/20 ond nid wnaed hynny. Mae cynllun bellach i gynhyrchu Strategaeth Gwasanaethau Diwylliannol pum mlynedd ar gyfer 2022-27. Mae Strategaeth Ddigidol Gwasanaethau Diwylliannol Powys eisoes wedi cael ei chwblhau yn 2021/22 ac erbyn hyn mae yna grŵp Presenoldeb Digidol sydd â’r bwriad o wella cyfathrebu digidol ar draws pob rhan o wasanaethau diwylliannol. Roedd StoriPowys, gwefan newydd ar gyfer y gwasanaeth llyfrgelloedd a gwasanaethau diwylliannol eraill, bron â chael ei chwblhau ar yr adeg y cyflwynodd Powys ei thystiolaeth.

Astudiaethau achos

Darparodd Powys ddwy astudiaeth achos yn cynnwys sut roedd gan ddefnyddiwr fynediad at dechnoleg am y tro cyntaf drwy’r Cynllun Benthyca iPad ac un arall ar sut roedd defnyddiwr wedi gwella ei sgiliau digidol drwy ddefnyddio’r Cynllun.

Rhondda Cynon Taf

Trosolwg a lleoliad

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn cael ei redeg gan Gyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf. Roedd y gwasanaeth yn cynnwys 13 llyfrgell a gwasanaeth llyfrgell danfon i’r cartref. Mae 93% o’r trigolion yn byw o fewn 2.5 milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Rhondda Cynon Taf dystiolaeth ei fod wedi bodloni pob un o’r hawliau craidd yn llawn. Cytunodd yr asesiad annibynnol â’r asesiad hwn.

Hawl craidd 

Hunanasesiad y gwasanaeth 

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned. 

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 60 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n ostyngiad o 37% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 135% i 747 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 662% i 495 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd yr arolwg boddhad cwsmeriaid (2022) yn dangos bod 99% o ddefnyddwyr yn dweud bod y gwasanaeth yn dda neu’n dda iawn.

Uchafbwyntiau

Roedd uchafbwyntiau’r cyfnod adrodd hwn yn cynnwys:

  • Mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i helpu ei drigolion i wella eu sgiliau digidol ac mae’n cynnig mynediad am ddim at TGCh a mynediad 24/7 at amrywiaeth o adnoddau digidol. Bu’n gweithio gyda Chymunedau am Waith a Mwy a Chlybiau Swyddi i wella rhagolygon gwaith y trigolion.
  • Mae datblygu hybiau cymunedol gyda llyfrgelloedd ynddynt wedi galluogi dinasyddion i gael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau mewn un lle ac wedi galluogi staff llyfrgelloedd i weithio’n agos gyda chydlynwyr cymunedol i gyfeirio defnyddwyr a thargedu cymorth.
  • Roedd y gwasanaeth yn darparu amrywiaeth o gynlluniau i helpu gyda iechyd a lles, gan gynnwys ‘Lles Llyfrau’ a ‘Darllen yn Well – Dementia ac Iechyd Meddwl’. Cynhaliodd ymgyrch Gaeaf Llawn Lles a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru 36 o ddigwyddiadau gyda 316 o blant yn bresennol.
  • Roedd Llyfrgell Treorci yn bartner yng nghynllun Ardal Gwella Busnes (Caru Treorci) i helpu i godi proffil y dref a darparu lle ar gyfer digwyddiadau ar gyfer Caru Treorci. Datblygwyd Llyfrgell Treorci fel hyb diwylliannol ar y cyd â’r theatr leol.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Cynyddodd cyllideb Rhondda Cynon Taf ar ddeunyddiau ychydig o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd yn yr ail chwartel ar gyfer gwariant ar ddeunydd fesul 1000 o’r boblogaeth. Gwariwyd 15% ar adnoddau plant, gan ei roi yn y chwartel isaf yn genedlaethol.

Gwariodd y gwasanaeth 4% o’i gyllideb ar ddeunyddiau Cymraeg, ac mae yn yr ail chwartel ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau a benthyciadau Cymraeg fesul 1000 o siaradwyr Cymraeg. Nod Rhondda Cynon Taf oedd hyrwyddo ei stoc iaith Gymraeg a chynyddu nifer y digwyddiadau Cymraeg a gynigir i gael benthyca’n ôl i lefelau cyn y pandemig. Cynyddodd nifer y teitlau Cymraeg a lwythwyd i lawr o 341 i 456 o’r blynyddoedd blaenorol.

Agorodd tair llyfrgell ardal 49 awr yr wythnos gan gynnwys bore Sadwrn ac un fin nos bob wythnos. Datblygodd y llyfrgelloedd canghennau fodel clwstwr i sicrhau bod llyfrgell ar agor chwe diwrnod yr wythnos ym mhob ardal.

Gweithiodd y gwasanaeth gyda sefydliadau allanol ac adrannau eraill y Cyngor i ddarparu mwy o weithgareddau i blant yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys clybiau llyfrau, grwpiau dementia a grwpiau iaith arwyddion.

Staffio

Cynyddodd nifer y gweithwyr amser llawn o ganlyniad i benodi Cydlynydd Prosiect Treftadaeth. Ar hyn o bryd mae gan 10 aelod o staff gymwysterau cydnabyddedig sy’n gysylltiedig â llyfrgelloedd, gan gynnwys y rheolwr gweithredol. Mae dau aelod o staff yn gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol ar hyn o bryd.

Roedd nifer yr oriau staff a neilltuir ar gyfer hyfforddiant ar-lein wedi cynyddu o’r flwyddyn flaenorol. Mae gan y gwasanaeth gyllideb i ariannu hyfforddiant, ac eithrio ariannu’r cymwysterau proffesiynol a hyfforddiant mewnol, ac anogir cyrsiau i wella’r Gymraeg. Cynhaliwyd cyfarfodydd rheolaidd gyda staff a rheolwyr i nodi’r arferion gorau.

Data digidol

Roedd Rhondda Cynon Taf wedi darparu data digidol gan gynnwys ‘Clicio a Chasglu’, sesiynau ar-lein a gynhaliwyd a nifer yr unigolion a wyliodd sesiynau byw/wedi’u recordio. Gwelodd y gwasanaeth ostyngiad yn ei ffigurau data digidol, ac eithrio unigolion a oedd yn cymryd rhan mewn sesiynau ar-lein, a oedd wedi cynyddu. Roedd Clicio a Chasglu wedi gostwng 60% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond roedd yn y chwartel uchaf yn genedlaethol. Roedd e-fenthyciadau wedi gostwng 7% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond roedd yn y chwartel isaf yn genedlaethol. Roedd yn rhaid i’r gwasanaeth dynnu rhywfaint o gynnwys oherwydd bod cyhoeddwyr yn gosod cyfyngiadau ar yr amser y gallai cynnwys aros ar-lein. Er bod nifer y sesiynau ar-lein wedi gostwng 28%, roedd nifer yr unigolion a gymerodd ran yn y sesiynau ar-lein wedi cynyddu 11%. Roedd y gwasanaeth yn darparu e-adnoddau, fel llyfrgell i blant, y gallu i gadw ac adnewyddu eitemau a chwilio catalogau. Roedd y gwasanaeth yn honni bod y cynnig ar-lein yn eang yn fwriadol, gan gynnwys cerddoriaeth ar-lein am ddim, rhaglen dysgu iaith ar-lein sydd ar gael mewn dros 110 o ieithoedd, ac adnoddau ar-lein sy’n cefnogi iechyd meddwl.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Blaenoriaethau Rhondda Cynon Taf yw parhau i gynyddu’r gynulleidfa a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth cyn y pandemig, datblygu’r Hwb diwylliannol yn Nhreorci ochr yn ochr â Theatr Parc a Dâr a monitro cydbwysedd adnoddau digidol a ffisegol yn y llyfrgell. Mae’r gwasanaeth hefyd yn anelu at gynyddu buddsoddiad yn ei gasgliadau digidol, gan ychwanegu tri chasgliad newydd at ei adnoddau ar-lein, yn ogystal â gwario arian ychwanegol ar e-lyfrau ac e-lyfrau llafar.

Astudiaethau achos

Darparodd Rhondda Cynon Taf dair astudiaeth achos gyda dyfyniadau gan ddefnyddwyr. Roedd hyn yn cynnwys un ar ddefnydd anhraddodiadol o wasanaethau llyfrgelloedd fel man diogel lle gall defnyddwyr gael cyngor ac atgyfeiriadau i wasanaethau eraill; ac un ar “Llyfrgell Pobl Cymru” a oedd â llyfrau dynol i ddangos profiad uniongyrchol a herio rhagfarnau.

Abertawe

Trosolwg a lleoliad

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd yn Abertawe eu darparu gan Gyngor Abertawe. Roedd y gwasanaeth yn cynnwys 17 cangen ac un cerbyd danfon i’r cartref, gyda 96% o’r trigolion yn byw o fewn 2.5 milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Abertawe dystiolaeth ei fod wedi bodloni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn. Cytunodd yr asesiad annibynnol.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 167 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 30% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 600% i 2,505 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 1470% i 2,073 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Yn y cyfamser, gostyngodd aelodaeth dros 4,500, er y gellir priodoli rhywfaint o hyn i lanhau data trwm. At ei gilydd, mae’r ddarpariaeth ffisegol wedi codi’n ôl yn dda yn llyfrgelloedd Abertawe, gyda lawrlwythiadau electronig a ‘Clicio a Chasglu’ yn lleihau wrth i fenthyciadau ffisegol gynyddu’n sylweddol.

Uchafbwyntiau

Mae uchafbwyntiau’r flwyddyn yn cynnwys:

  • Bu’r gwasanaeth yn gweithio gyda Good Things Foundation ar y fenter ‘Cysylltu Pawb’ i ddosbarthu data a dyfeisiau personol am ddim i’r rheini sydd mewn tlodi data.
  • Parhaodd y gwasanaeth i gefnogi a hyrwyddo’r cynlluniau Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl ym mhob llyfrgell ac roedd yn cefnogi’r gwasanaeth Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP), a oedd yn darparu amrywiaeth o gyrsiau hunanreolaeth am ddim i bobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor ac i ofalwyr.
  • Gweithiodd y gwasanaeth tuag at ddad-gytrefu ei gasgliadau. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio Pencadlys Casglu i fonitro amrywiaeth y stoc a gweithio i wneud y stoc ar draws y llyfrgelloedd yn gynrychioliadol o ddiwylliannau Du, Asiaidd a lleiafrifol yn ogystal â’r gymuned LGBTQIA+.
  • Dileodd y gwasanaeth ddirwyon llyfrgell dros dro – bydd hyn yn parhau i 2022/23.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Mae gwariant deunyddiau’r gwasanaeth wedi dychwelyd i’r lefel flaenorol ar ôl gostyngiad cyffredinol o 25% yn 2020/21. Gosodwyd y gwasanaeth yn y chwartel uchaf o ran cyllideb llyfrau ac yn y trydydd chwartel ar gyfer gwariant deunyddiau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd 18% o’r gwariant deunyddiau ar adnoddau plant, sydd yn gosod y gwasanaeth yn y canolrif yn genedlaethol. Mae’r nifer uchel o fenthyciadau llyfrau plant ac oedolion yn awgrymu bod y stoc bresennol yn boblogaidd ac yn seiliedig ar ddetholiad da o ddeunyddiau newydd.

Gostyngodd canran y gwariant ar adnoddau Cymraeg, ond cynyddodd y gwariant gwirioneddol fesul 1,000 o’r boblogaeth, gyda’r gwasanaeth yn y trydydd chwartel yn genedlaethol o ran benthyciadau am bob siaradwr Cymraeg. Defnyddiodd y gwasanaeth gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu cynnwys Cymraeg a pharhaodd i feithrin perthynas ag ysgolion cynradd Cymraeg i helpu i gefnogi disgyblion.

Er bod rhai materion yn ymwneud â Covid-19 yn dal i fodoli, darparodd y gwasanaeth amrywiaeth o ddigwyddiadau i blant ac oedolion, gyda dros 33,000 o bobl yn mynychu. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys sesiynau rhigymau rheolaidd, clybiau codio a phrynhawniau gofalwyr yn ogystal â mentrau mwy newydd fel croesawu Cymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan i ddarparu lle ar gyfer eu gwaith sy’n cefnogi cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd.

Staffio

Roedd y gwasanaeth yn y chwartel uchaf ar gyfer cyfanswm y staff fesul 10,000 o’r boblogaeth, ond ar gyfer staff sydd â chymhwyster llyfrgell roedd yn y chwartel isaf. Roedd y gwasanaeth yn cydnabod yr angen i adeiladu cymwysterau llyfrgell a hyfforddiant staff ac roedd yn cymryd camau i fynd i’r afael â hyn, gan gynnwys cefnogi carfan o staff i gwblhau hyfforddiant ‘Hyrwyddwyr Digidol’.

Data digidol

Darparodd Abertawe ddata digidol gan gynnwys sesiynau clicio a chasglu a nifer y sesiynau ar-lein a gynhaliwyd. Roedd archebion ‘Clicio a Chasglu’ wedi gostwng o 69%, ac e-fenthyciadau wedi gostwng 20%, er bod y gwasanaeth yn y trydydd chwartel ar gyfer y ddau wasanaeth hyn yn genedlaethol. Roedd y sesiynau ar-lein wedi cynyddu 628% ond roedd y cynnydd mawr hwn yn rhannol oherwydd y defnydd newydd o lwyfan rheoli cyfryngau cymdeithasol a oedd yn darparu mwy o ddata ar weithgarwch ac ymgysylltu na’r flwyddyn flaenorol. Roedd y gwasanaeth yn darparu ceisiadau adnewyddu ac eitemau ar-lein, a dolenni at les, cymorth busnes a phapurau newydd.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Roedd llyfrgelloedd Cyngor Abertawe yn dangos llawer o arwyddion cadarnhaol o adferiad. Mae’r cynnydd mewn benthycwyr a benthyca yn awgrymu bod llawer o’r gwaith caled o ddod â defnyddwyr yn ôl i lyfrgelloedd wedi gweithio. Yn ystod 22/23, bydd y cynllun yn adeiladu ar ei adferiad drwy barhau i feithrin perthynas ag ysgolion yn yr ardal leol i ddenu defnyddwyr newydd, gwesteio Cydlynydd Cymuned Ddiwylliannol newydd i ddatblygu gwaith partneriaeth ac effaith ar draws y sector diwylliannol ehangach, a pharhau i fod yn amlwg wrth gyflawni blaenoriaethau cynhwysiant digidol.

Her a chyfle mawr ar y gorwel yw’r bwriad i symud Llyfrgell Ganolog Abertawe i leoliad newydd a gefnogir gan gyllid Grantiau Cyfalaf Trawsnewid Trefi a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru, a chyllid Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Astudiaethau achos

Darparodd Abertawe bedair astudiaeth achos gyda straeon gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau gan wirfoddolwyr lleol yng Nghymdeithas Cwrdaidd Cymru Gyfan sy’n darparu dosbarthiadau Cwrdeg am ddim i blant 6-8 oed a’r berthynas well rhwng Llyfrgell Penlan ac ysgol Gymraeg leol.

Torfaen

Trosolwg a lleoliadau

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd yn Nhorfaen eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Roedd y gwasanaeth yn cynnwys tair cangen ac un cerbyd danfon i’r cartref, gyda 97% o’r trigolion yn byw o fewn 2.5 milltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Torfaen dystiolaeth ei fod wedi bodloni pob un o’r 12 hawl craidd yn. Cytunodd yr asesiad annibynnol.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

12

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

0

Cyfanswm - heb gyflawni

0

0

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 77 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 108% ers y flwyddyn flaenorol, gan osod y gwasanaeth yn yr ail chwartel yn genedlaethol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 103% i 648 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 301% i 365 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Roedd y pandemig wedi cynyddu’r defnydd o wasanaeth Borrowbox. Er bod nifer yr e-fenthyciadau wedi gostwng ychydig, roedd e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth yn dal yn yr ail chwartel eleni, hyd yn oed ar ôl i lyfrgelloedd ailagor ar gyfer benthyca ffisegol.

Uchafbwyntiau

Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Roedd cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Gaeaf Llawn Lles wedi galluogi darparu digwyddiadau o ansawdd uchel i blant lleol. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau ysgrifennu creadigol, sesiynau adrodd straeon a gweithdai straeon digidol ymysg eraill, ac roedd 753 o blant Torfaen wedi mynychu mewn tair llyfrgell.
  • Arweiniodd partneriaeth newydd gyda Tai Cymdeithasol Bron Afon at weithgarwch allgymorth ar y cyd gyda theuluoedd Cwmbrân a chynllun Partneriaeth Iach Blaenafon. Arweiniodd y digwyddiad a gynhaliwyd ar gyfer y Diwrnod Gwybodaeth Cymorth Cymunedol at 79 o ryngweithiadau gyda rhai yr oedd eu haelodaeth wedi dod i ben a rhai nad oeddent yn aelodau o’r llyfrgell.
  • Roedd y sgiliau digidol a ddysgwyd gan staff drwy brosiect Estyn Allan wedi galluogi rhaglen barhaus o weithgareddau ar-lein, gan gynnwys y sesiynau poblogaidd ‘Jukebox’ Amser Rhigwm, a ffyrdd gwell o hyrwyddo Her Ddarllen yr Haf i ysgolion lleol.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Mae Torfaen yn y chwartel isaf ar gyfer gwariant ar ddeunydd fesul 1000 o’r boblogaeth. Ond, gwariwyd 17% ar adnoddau plant, gan ei roi yn y chwartel cyntaf. Roedd benthyciadau plant fesul 1000 o’r boblogaeth wedi cynyddu 400% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, o 91 i 365.

Roedd y gwasanaeth yn y chwartel isaf ar gyfer benthyciadau iaith Gymraeg fesul 1,000 o’r boblogaeth a dim ond 2% o’r gwariant deunyddiau a wariwyd ar ddeunyddiau Cymraeg. Er bod y gwariant ar ddeunyddiau Cymraeg yn isel, dywedodd uwch staff eu bod yn gweithio’n galed i hyrwyddo eu hadnoddau a’u gwasanaethau Cymraeg, sy’n rhan o’r ddarpariaeth plant.

Gwelodd y gwasanaeth ostyngiad dros dro mewn oriau agor ar draws ei holl lyfrgelloedd ym mis Ionawr 2022, ond mae gweithgareddau wyneb yn wyneb wedi cynyddu. Wrth i gyfyngiadau Covid-19 ddod i ben, cafodd grwpiau ‘wyneb yn wyneb’ fel Amser Rhigwm, sesiynau Stori a Chrefft, Knit and Natter, a grwpiau darllen eu hailgyflwyno (roedd pob un ond y grŵp Knit and Natter yn cael eu cynnal yn ddigidol yn ystod cyfnod Covid-19 y flwyddyn flaenorol.) Credid bod ailsefydlu cysylltiadau gydag ysgolion trwy waith maes wedi cyfrannu at fwy o fenthyciadau plant.

Staffio

Mae gan y gwasanaeth un o’r lefelau staff isaf, a staff sydd â chymwysterau llyfrgell yn genedlaethol, sef 1.44 FTE fesul 10,000 o’r boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys pedwar cynorthwyydd llyfrgell rhan-amser a dwy swydd broffesiynol ran-amser a oedd yn wag gyda’r cynnig i gyfuno i swydd broffesiynol lawn-amser yn y dyfodol. Mae’r gwasanaeth yn cydnabod anawsterau o ran datblygu staff, yn enwedig staff uwch, ond mae’n cynnig darparu mwy o gyfleoedd yn 2022/23. Fodd bynnag, roedd yr oriau staff a dreuliwyd mewn hyfforddiant wedi cynyddu’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf gyda Chyngor Torfaen yn cynnig rhaglen o hyfforddiant iechyd a lles i staff.

Data digidol

Roedd Torfaen yn darparu data digidol gan gynnwys nifer y sesiynau ar-lein a gynhaliwyd ac unigolion a gymerodd ran mewn sesiynau byw neu wedi’u recordio, ond nid ‘Clicio a Chasglu’ oherwydd anawsterau ymddangosiadol wrth gasglu data dibynadwy. Bu gostyngiad yn nifer y sesiynau ar-lein a’r unigolion a gymerodd ran yn ystod y flwyddyn. O ran e-fenthyciadau, roedd gostyngiad o 18% ers y flwyddyn flaenorol, a oedd yn cael ei briodoli i ddychwelyd at fenthyca wyneb yn wyneb a’r nifer uchel a oedd yn defnyddio hynny yn ystod y pandemig. Mae Tor-faen yn yr ail chwartel ar gyfer e-fenthyciadau yn genedlaethol. Roedd eu gwefan yn rhoi mynediad at amrywiaeth o adnoddau ar-lein, gan gynnwys e-lyfrau a chymorth ar gyfer iechyd a lles, ac yn egluro manylion ffioedd y llyfrgell. Mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i wneud ‘Clicio a Chasglu’ yn rhan o’r ddarpariaeth graidd yn y dyfodol.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Dywed Tor-faen fod ganddynt gyfnod ansicr o’u blaen. Mae’r penderfyniad i leihau oriau agor yn un dros dro ond mae disgwyl i hynny barhau tra bo’r gwasanaeth yn ‘myfyrio ar y trawsnewid a gynigir yn y Strategaeth Llyfrgelloedd ac ar effeithiau hirdymor Covid ar y gwasanaeth’.

Mae cydleoli’r gwasanaeth gyda’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, Gwasanaeth Undeb Credyd Gateway, a gwasanaeth cwsmeriaid y Cyngor yn gyfleoedd i gynyddu defnydd ac effaith. Sefydlwyd partneriaethau newydd gydag asiantaethau tai ac iechyd ac mae’r gwasanaeth yn bwriadu parhau i ddatblygu gwaith maes i gynulleidfaoedd newydd.

Astudiaethau achos

Darparodd Torfaen bedair astudiaeth achos helaeth, gan gynnwys dyfyniadau. Roedd y rhain yn cynnwys partneriaeth newydd â Bron Afon a gweithgareddau a ddarparwyd drwy’r rhaglen Gaeaf Llawn Lles ar gyfer plant a phobl ifanc.

Bro Morgannwg

Trosolwg a lleoliadau

Mae gwasanaethau llyfrgelloedd ym Mro Morgannwg yn cael eu gweithredu gan Gyngor Bro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys pedair cangen sefydlog, pum llyfrgell a gefnogir gan y gymuned a gwasanaeth llyfrgell cartref dan arweiniad gwirfoddolwyr. Mae 94% o’r trigolion yn byw o fewn 2.5 milltir neu daith 10 munud ar drafnidiaeth gyhoeddus o lyfrgell. Ceir hefyd un llyfrgell gymunedol annibynnol.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Bro Morgannwg dystiolaeth a oedd yn dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r 12 hawl craidd yn llawn. Yr asesiad annibynnol oedd bod y gwasanaeth wedi cyflawni 10 o’r hawliau craidd yn llawn, wedi cyflawni un yn rhannol (CE11), ac heb gyflawni un (CE12). Aseswyd bod CE11 wedi’i gyflawni’n rhannol oherwydd, er bod ymgynghoriad wedi’i gynnal ar gyfer y Stordy Creadigol yn Llyfrgell Penarth, ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth o ymgynghori ar draws y gwasanaeth nac arolygon defnyddwyr. Aseswyd nad oedd CE12 wedi’i gyflawni gan nad oedd gan y gwasanaeth strategaeth ar waith ar hyn o bryd.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn llawn

Cyflawnwyd yn rhannol

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn llawn

Heb ei gyflawni

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

12

10

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

0

1

Cyfanswm - heb gyflawni

0

1

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 84 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 71% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 120% i 696 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 436% i 407 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Ar ôl ailagor ei ddrysau ar ôl llacio cyfyngiadau’r pandemig, roedd llyfrgelloedd Bro Morgannwg yn ailsefydlu eu hunain fel man cyfarfod cymunedol, gan gyfrannu at lesiant eu cymunedau. Mae’r holl fesurau defnyddio, gan gynnwys ymweliadau â gwefannau, wedi cynyddu ac eithrio lawrlwythiadau electronig. Yn ogystal â dychwelyd ei wasanaeth wyneb yn wyneb, roedd gwirfoddolwyr yn galluogi Bro Morgannwg i barhau â’i wasanaeth danfon i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi.

Uchafbwyntiau

Yn ystod y flwyddyn adrodd, gwnaeth llyfrgelloedd Bro Morgannwg nifer o welliannau i’w cyfleusterau. Roedd uchafbwyntiau’r gwaith hwn yn cynnwys:

  • Lansio ‘Stordy Creadigol’ yn Llyfrgell Penarth gydag offer ar gael i greu a golygu prosiectau a gefnogir gan Gyllid Cyfalaf Trawsnewid Llywodraeth Cymru. Roedd yr adnoddau a oedd ar gael yn cynnwys: golygu a chreu meddalwedd ar gyfer cerddoriaeth, delweddau a chynnyrch; peiriant argraffu 3D; torwyr laser ar gyfer pren, metel, plastig a cherdyn; a pheiriannau argraffu ar gyfer crysau-T.
  • Diweddaru offer cyfrifiaduron cyhoeddus. Yn dilyn hyn a diweddariad cynharach yn 2020, mae pob cyfrifiadur bellach yn defnyddio Windows 10 ac yn ddim mwy na 18 mis oed. Roedd hefyd wedi ail-lansio eu cynllun benthyciadau iPad llwyddiannus.
  • Darparodd Cyfeillion Llyfrgell Penarth weddnewidiad ar gyfer eco-ardd sy’n gysylltiedig â’r Llyfrgell, i’w ddefnyddio ar gyfer adrodd straeon a gweithgareddau i blant. Mae gan lyfrgelloedd eraill ardaloedd gardd y gellir eu defnyddio mewn ffyrdd tebyg.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Roedd Bro Morgannwg yn y chwartel uchaf o wasanaethau ar gyfer gwariant cyfalaf a refeniw ac roedd yn y trydydd chwartel ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau fesul 1,000 o’r boblogaeth. Gwariwyd 14% ar adnoddau plant, gan ei roi yn y chwartel isaf yn genedlaethol. Roedd aelodaeth y cynllun Books4U yn caniatáu mynediad am ddim i lyfrau ar draws llyfrgelloedd yn ne ddwyrain Cymru. Roedd y gwasanaeth yn darparu mynediad at ymchwil academaidd, gyda’r ddolen Mynediad at Ymchwil ar gael ar gyfrifiaduron y llyfrgelloedd.

Roedd Bro Morgannwg yn y trydydd chwartel o wasanaethau ar gyfer gwariant ar adnoddau Cymraeg. Roedd yn yr ail chwartel ar gyfer benthyciadau Cymraeg fesul 1000 o siaradwyr. Er bod amrywiaeth o adnoddau wedi’u prynu, roedd llyfrau ac adnoddau ar gyfer plant a dysgwyr ifanc yn arbennig o boblogaidd ac yn cael eu hyrwyddo gan staff a thiwtoriaid. Mae’r gwasanaeth wedi recriwtio staff dwyieithog ac mae staff yn cael eu cefnogi i ddysgu Cymraeg yn y gwaith.

Roedd y gwasanaeth yn darparu adnoddau hygyrch megis llyfrau print bras, llyfrau llafar a thechnoleg gynorthwyol. Roedd y stoc yn cynnwys casgliad o lyfrau sy’n ystyriol o ddementia ac mae’r holl staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia. Hefyd, roedd grŵp llyfrau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg yn cael ei gynnal yn fisol yn Llyfrgell Penarth.

Staffio

Roedd niferoedd staff yn uchel o’i gymharu â gwasanaethau eraill, gyda Bro Morgannwg yn y chwartel uchaf ar gyfer cyfanswm nifer y staff a staff sydd â chymhwyster llyfrgell fesul 10,000 o’r boblogaeth. Caiff llyfrgelloedd eu harwain gan dîm o saith rheolwr sydd â chymwysterau proffesiynol sy’n mynychu cyfleoedd datblygu rheolaidd. Mae gan y gwasanaeth gyllideb hyfforddi ar gyfer sgiliau llyfrgelloedd arbenigol ac ar gyfer hyfforddiant cyffredinol fel gofal cwsmeriaid ac iechyd a diogelwch. Yn ystod y flwyddyn adrodd, treuliwyd 0.6% o amser staff yn hyfforddi ac yn datblygu. Roedd hyn ychydig yn is na’r flwyddyn flaenorol, ond roedd hynny oherwydd bod staff wedi cwblhau eu hyfforddiant gorfodol yn ystod y pandemig.

Data digidol

Darparodd Bro Morgannwg ddata digidol ar wahanol feysydd. Roedd y defnydd o ‘Clicio a Chasglu’ wedi gostwng 25% ac roedd e-fenthyciadau hefyd wedi gostwng 25% ond roedd yn y trydydd chwartel ar gyfer gwasanaethau’n genedlaethol. Roedd y ddarpariaeth ar-lein yn gynhwysfawr, gan gynnig amrywiaeth o wasanaethau ar-lein, gan gynnwys gwybodaeth am ble mae mannau cynnes yn yr ardal, mynediad hawdd at wybodaeth am ffioedd, gwasanaethau amlddiwylliannol a gwasanaethau ar-lein eraill, gan gynnwys gwybodaeth am les gan Dewis Cymru. Roedd y defnydd o adnoddau ar-lein yn gryf, gan gynnwys gwasanaethau tanysgrifio fel Ancestry. Yn ystod y flwyddyn adrodd, prynodd y gwasanaeth danysgrifiad i Press Reader, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gael gafael ar bapurau newydd a chylchgronau.  Roedd hefyd yn cynnig gwasanaeth benthyca tabledi.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Yn dilyn llwyddiant Stordy Creadigol yn Llyfrgell Penarth, sicrhaodd y gwasanaeth grant Cronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth tebyg yn Llyfrgell y Barri. Bydd y gwaith yn dechrau yn 2022/23 a bydd y gwasanaeth yn cael ei deilwra i ddefnyddwyr a sefydliadau lleol.

Bydd y gwasanaeth yn parhau i ganolbwyntio ar adferiad o effeithiau’r pandemig. Mae’r gwasanaeth yn gobeithio adeiladu ar y cynnydd misol yn y defnydd o lyfrgelloedd, gan anelu at ddychwelyd yn llawn i’r lefelau cyn y pandemig. Mae’r gwasanaeth yn gobeithio y bydd staff newydd, gan gynnwys rheolwr newydd y llyfrgell, yn adeiladu ar sylfeini cadarn ac yn dod â syniadau newydd i’r gwasanaeth.

Astudiaethau achos

Darparodd Bro Morgannwg dair astudiaeth achos helaeth, gan gynnwys straeon gan ddefnyddwyr. Roedd hyn yn cynnwys partneriaeth gyda Tai Taf i gefnogi plant ffoaduriaid Affganistan, a chynnwys defnyddiwr gwasanaeth ifanc yn y gwaith o ddylunio’r Stordy Creadigol yn Llyfrgell Penarth.

Wrecsam

Trosolwg a lleoliadau

Caiff gwasanaethau llyfrgelloedd yn Wrecsam eu darparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys 10 cangen, un symudol, un cerbyd danfon llyfrgell cartref, ac un llyfrgell a reolir gan y gymuned. Mae 92% o’r trigolion yn byw o fewn 2 filltir i lyfrgell.

Perfformiad y gwasanaethau llyfrgell

Darparodd Wrecsam dystiolaeth a oedd yn dangos ei fod wedi cyflawni pedwar o’r 12 hawl craidd yn llawn, wedi cyflawni saith yn rhannol ac heb gyflawni un. Yr asesiad annibynnol oedd bod y gwasanaeth wedi cyflawni wyth o’r hawliau craidd yn llawn, wedi cyflawni dau yn rhannol, ac heb gyflawni dau. Mae’r hawliau craidd sydd heb eu cyflawni yn ymwneud â diffyg offer TGCh mynediad cyhoeddus (CE7) a chael strategaeth gwasanaeth nad yw wedi cael ei chyhoeddi ar ffurf derfynol (CE12), er y dywedir wrthym y bydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.

Hawl craidd

Hunanasesiad y gwasanaeth

Asesiad annibynnol

1 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

Cyflawnwyd yn rhannol

Cyflawnwyd yn llawn

2 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn sicrhau bod staff cyfeillgar, gwybodus a chymwys wrth law i helpu.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

3 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o fformatau i gefnogi dysgu, lles a datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol, a diwylliant a hamdden.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

4 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau gwybodaeth priodol i unigolion a grwpiau ag anghenion arbennig.

Cyflawnwyd yn rhannol

 

Cyflawnwyd yn rhannol

5 Bydd llyfrgelloedd yn darparu mannau ffisegol priodol, diogel, deniadol a hygyrch gydag oriau agor addas gyda staff.

Cyflawnwyd yn rhannol

 

Wedi’i gyflawni’n rhannol

6 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn benthyg llyfrau am ddim ac yn darparu mynediad am ddim at wybodaeth, gan gynnwys adnoddau gwybodaeth ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyflawnwyd yn rhannol

 

Cyflawnwyd yn llawn

7 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu defnydd o’r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron am ddim, gan gynnwys Wi-Fi.

Heb ei gyflawni

 

Heb ei gyflawni

8 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at wasanaethau, gweithgareddau diwylliannol ac adnoddau o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

9 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i rannu catalogau a hwyluso mynediad at adnoddau holl lyfrgelloedd Cymru.

Cyflawnwyd yn rhannol

 

Cyflawnwyd yn llawn

10 Bydd Llyfrgelloedd yng Nghymru yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i hyrwyddo a darparu gwasanaethau i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, gan alluogi mwy o bobl i elwa o’u gwasanaethau.

Cyflawnwyd yn llawn

 

Cyflawnwyd yn llawn

11 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn ymgynghori’n rheolaidd â defnyddwyr i gasglu eu barn am y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion newidiol.

Cyflawnwyd yn rhannol

 

Cyflawnwyd yn llawn

12 Bydd llyfrgelloedd yng Nghymru yn darparu mynediad at strategaeth, polisïau, amcanion a gweledigaeth y gwasanaeth llyfrgell, mewn print ac ar-lein, mewn amrywiaeth o ieithoedd sy’n briodol i’r gymuned.

Cyflawnwyd yn rhannol

 

Heb ei gyflawni

Cyfanswm - cyflawnwyd yn llawn

4

8

Cyfanswm - cyflawnwyd yn rhannol

7

2

Cyfanswm - heb gyflawni

1

2

Defnydd o’r llyfrgell

Yn ystod y flwyddyn adrodd, roedd gan y gwasanaeth 62 o fenthycwyr gweithredol fesul 1,000 o’r boblogaeth, sy’n gynnydd o 41% ers y flwyddyn flaenorol. Cynyddodd benthyciadau llyfrau oedolion 67% i 903 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, tra cynyddodd benthyciadau llyfrau plant 257% i 450 o fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth.

Uchafbwyntiau

Mae’r gwasanaeth yn parhau i ganolbwyntio ar gyrraedd defnyddwyr newydd a chefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed ac mae wedi datblygu strategaeth newydd. Er gwaethaf cyfyngiadau o ran adnoddau, mae wedi darparu nifer o wasanaethau arloesol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys:

  • Mewn partneriaeth â’r Canolfannau Cyngor ar Bopeth a’r Cynghorau Cymuned, ail-gyflwynwyd ‘Sesiynau Allgymorth CAB (Canolfan Cyngor ar Bopeth)’ yn  Llyfrgelloedd Cefn Mawr a Rhos. Mae hyn wedi galluogi unigolion, trigolion a chymunedau i gael gafael ar gyngor cyfrinachol diduedd ar unrhyw bwnc, gan gynnwys cyflogaeth, budd-daliadau, dyled ac arian. Mae’r llwyddiant wedi golygu y bydd y sesiynau allgymorth yn parhau i gael eu cynnig yn 2022/23.
  • Darparu gweithdai celf amgylcheddol, gweithdai crefft gyda gofalwyr ifanc, a sioe deithiol iechyd a lles fel rhan o Gaeaf Llawn Lles i bobl ifanc a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Deunyddiau, y Gymraeg a’r gwariant cyffredinol

Cynyddodd cyllideb llyfrau Wrecsam 27% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac mae yn y trydydd chwartel ar gyfer gwariant ar ddeunyddiau fesul 1000 o’r boblogaeth. Roedd 16% o’r gyllideb deunyddiau wedi’i wario ar adnoddau plant, sydd yn y chwartel isaf yn genedlaethol.

Mae benthyciadau Cymraeg fesul 1,000 o siaradwyr Cymraeg yn gosod y gwasanaeth yn y trydydd chwartel o wasanaethau yng Nghymru, a pharhaodd i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau Cymraeg a gafodd eu hyrwyddo drwy nifer o sefydliadau Cymraeg. Mae hyn er gwaethaf gwariant cymharol isel ar adnoddau Cymru o 2% o’r gyllideb deunyddiau, sy’n awgrymu bod y dewis o adnoddau’n dal yn gryf, a bod y deunyddiau’n gyfredol ac yn berthnasol.

Oherwydd pwysau o ran cyllideb ac adnoddau, roedd oriau agor y gwasanaethau llyfrgelloedd wedi lleihau. Er gwaethaf hyn, parhaodd y gwasanaeth i ddarparu lefel dda o fynediad at wasanaeth. Mae ei wasanaeth llyfrgell HomeLink/i rai sy’n gaeth i’r cartref ar gael ledled y sir ar gyfer pob cwsmer sy’n gaeth i’r cartref ac ar gyfer gofalwyr cyflogedig a di-dâl.

Staffio

Roedd gan Wrecsam 1.7 o staff cyfwerth ag amser llawn fesul 10,000 o’r boblogaeth, 0.28 o staff â chymwysterau proffesiynol fesul 10,000 o’r boblogaeth a 3.8 staff proffesiynol cyfwerth ag amser llawn, sy’n ei roi yn y chwartel isaf yn genedlaethol ar gyfer y mesurau hyn. Mae cyfyngiadau o ran adnoddau wedi cael effaith sylweddol ar lefelau staffio, ac nid oedd y gwasanaeth yn dangos llawer o dystiolaeth o waith ar ddatblygu a chynnydd staff. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y gwasanaeth wedi llwyddo i gynnal safon dda o ofal cwsmeriaid; mae 93% o oedolion yn credu bod safon gofal cwsmeriaid gan staff yn ‘dda iawn’ neu’n ‘dda’ yn ôl eu harolwg boddhad, er gwaethaf y gostyngiad parhaus mewn lefelau staffio.

Digidol

Darparodd Wrecsam ddata digidol ‘Clicio a Chasglu’ ac e-fenthyciadau. Roedd y gwasanaeth yn wynebu anawsterau o ran adrodd oherwydd prinder staff, ac roedd wedi lleihau’r ddarpariaeth o wasanaethau ar-lein yn sylweddol ar ôl i’r cyfyngiadau lacio ym mis Medi 2021. Roedd diffyg offer TGCh yn effeithio’n sylweddol ar ei ddarpariaeth ddigidol. O ran e-fenthyciadau fesul 1,000 o’r boblogaeth, bu gostyngiad o 33% yn Wrecsam o’r flwyddyn flaenorol ac mae nawr yn y chwartel isaf yn genedlaethol. Er bod ‘Clicio a Chasglu’ wedi gweld gostyngiad o 62% ers y flwyddyn flaenorol, roedd y gwasanaeth yn aros yn y trydydd chwartel yn genedlaethol.  Mae’r nodau strategol yn cynnwys darparu gwasanaethau i gymunedau sy’n byw bellaf o lyfrgelloedd drwy wasanaethau llyfrgell allgymorth.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Roedd Wrecsam yn ymwybodol o’r heriau a ddaw yn sgil cyllidebau isel a staffio isel, a’r pwysau parhaus ar gyllidebau presennol cynghorau. Mae wedi ymrwymo o hyd i ddatblygu gwasanaeth cadarn sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol. Roedd strategaeth newydd yn cael ei datblygu sy’n addo datblygu llwyfan y gall y gwasanaeth adeiladu arno i wella. Erbyn haf 2022, roedd Wrecsam yn bwriadu treialu ‘Darpariaeth Mynediad Cyhoeddus at Gyfrifiaduron’ newydd. Ar ôl datrys yr holl broblemau, bydd y ddarpariaeth hon yn cael ei chyflwyno ym mhob llyfrgell cangen. Bydd hyn yn galluogi pob llyfrgell i gynnig rhaglen o sesiynau hyfforddi ffurfiol ac anffurfiol i ddiwallu anghenion eu cymunedau a’u hunigolion lleol.

Roedd y gwasanaeth hefyd yn ystyried sut y gallai barhau i ymgynghori â defnyddwyr, ar ôl canfod hyn yn fwy anodd yn dilyn effaith Covid-19. Ar ben hynny, mae’n gobeithio y bydd adleoli Cyswllt Wrecsam (a gynlluniwyd ar gyfer 2022/23) ac Archifau Wrecsam (a gynlluniwyd ar gyfer 2023/24) i Lyfrgell Dinas Wrecsam yn gwella ac yn cyfoethogi’r ddarpariaeth llyfrgelloedd i drigolion, ymwelwyr a chymunedau. Ei nod yw ystyried pob opsiwn o ran adleoli gwasanaethau, sefydliadau a/neu fusnesau eraill i adeiladau llyfrgelloedd er mwyn cyrraedd mwy o ddefnyddwyr, gwella’r ddarpariaeth a phrofiad cwsmeriaid. 

Astudiaethau achos

Darparodd Wrecsam ddwy astudiaeth achos gyda delweddau i ddangos y gwaith a wnaed yn ystod Gaeaf Llawn Lles ac mewn sesiynau Allgymorth Canolfannau Cyngor ar Bopeth.