Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 29 Ebrill 2015.

Cyfnod ymgynghori:
12 Chwefror 2015 i 29 Ebrill 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 363 KB

PDF
363 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y safonau interim anstatudol sy'n cael eu cynnig ar gyfer SuDS yng Nghymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae SuDS yn cynnig ffordd amgen o ddraenio dŵr wyneb sy’n wahanol i’r systemau confensiynol o ddraenio drwy bibellau. Fel rheol mae’n defnyddio cyfuniad o ddulliau megis palmentydd athraidd ffosydd cerrig toeon gwyrdd pantiau a phyllau dŵr. Gellir eu defnyddio mewn ardaloedd gwledig a threfol i gefnogi datblygiad newydd.

Gall system o’r fath arafu llif dŵr gan leihau’r perygl o lifogydd a diogelu ansawdd dŵr. Trwy leihau llif y dŵr ffo i garthffosydd cynyddir capasiti’r carthffosydd hynny heb waith peirianyddol drud tra bo systemau mwy naturiol yn gwella ansawdd y dŵr a’r amgylchedd.

Mae’n hanfodol cytuno â’r awdurdod lleol neu’r ymgymerwr carthffosydd ar drefniadau mabwysiadu a rheoli seilwaith y system SuDS a’r holl elfennau draenio a hynny yn y cyfnod cynllunio i sicrhau bod seilwaith yr SuDS yn cael ei gynnal a’i gadw’n briodol a’i fod yn gweithio’n effeithiol am ei oes.

Yn ôl Deddf Rheoli Llifogydd a dŵr 2014 (Atodlen 3) sydd heb ei gychwyn rhaid i ddatblygiadau newydd gynnwys nodweddion SuDS sy’n bodloni’r safonau cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cyhoeddi’r safonau interim hyn at ddibenion cynghori tan y daw Atodlen 3 i rym.

Bydd hyn yn galluogi dylunwyr datblygwyr eiddo awdurdodau lleol a phartïon eraill sydd â buddiant i ddangos eu bod wedi ystyried cyngor cynllunio Llywodraeth Cymru ar Ddatblygu a Pherygl Llifogydd a phrofi’r safonau fel bod modd eu hadolygu os oes angen cyn iddynt gael grym statudol.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 890 KB

PDF
890 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.