Neidio i'r prif gynnwy

Yn amlinellu dull Llywodraethau’r DU o sicrhau coedwigoedd cynaliadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n cynnwys manylion am safonau a gofynion, rheoliadau a monitro a hefyd adrodd.

Mae safon coedwigaeth y DU yn cydweithio â:

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

er mwyn sicrhau llesiant hirdymor Cymru a hefyd sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy.  Ein nod yw sicrhau:

  • Economi lewyrchus
  • Amgylchedd iach a chydnerth
  • Cymunedau cydlynus a llewyrchus

Coedwigaeth gynaliadwy

Mae safon Coedwigaeth y DU yn cefnogi rheoli a chreu coedwigoedd mewn modd cynaliadwy. Rydym yn rheoli ein coetiroedd a’n coedwigoedd er mwyn:

  • Diwallu ein hymrwymiadau o ran cynaliadwyedd
  • Diwallu ein hanghenion presennol
  • Galluogi cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw
  • Cybwyso eu manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

Mae ein holl goedwigoedd yn cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn cael eu ardystio o dan Safon Coedwigaeth y DU.