Neidio i'r prif gynnwy

1. Nodau’r gwaith ymchwil a’r fethodoleg

Nodau’r Arolwg Tenantiaid oedd:

  • cyfrannu at yr asesiad parhaus o SATC sy’n weithredol ar hyn o bryd
  • i helpu i lywio’r fersiwn nesaf o SATC
  • dysgu am newidiadau o ran sut roedd tenantiaid yn gweithredu mewn perthynas â’u cartrefi a’u hamgylchedd lleol yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws.

Roedd yn canolbwyntio’n arbennig ar:

  • feini prawf cyfredol SATC
  • deall pa mor dderbyniol fyddai gwaith datgarboneiddio yng nghartrefi tenantiaid
  • ymchwilio i bryderon tenantiaid o ran pandemig y coronafeirws a chyfnod clo cyntaf 2020

Datblygwyd yr arolwg gan ddefnyddio meddalwedd ar-lein SmartSurvey. Roedd ar agor ar gyfer ymatebion o 16 Medi tan 14 Hydref 2020, ac fe’i rhannwyd â thenantiaid cymdeithasol a’i hyrwyddo yn eu plith gan TPAS Cymru a landlordiaid cymdeithasol Cymru. Mae 1,016 o ymatebion yn y dadansoddiad, 945 ohonynt gan denantiaid cymdeithasol.

2. Y prif ganfyddiadau

Nododd 44% o ymatebwyr yr arolwg nad oeddent wedi clywed am SATC. Nododd 17.5% fod ganddynt ddealltwriaeth dda neu dda iawn o’r safon.

Roedd y mwyafrif helaeth yn ystyried bod pob un o saith maen prawf SATC, y caiff cartrefi cymdeithasol eu hasesu yn eu herbyn, yn bwysig iawn (sef eu bod mewn cyflwr da; yn ddiogel; yn ddigon cynnes, yn effeithlon o ran tanwydd ac wedi’u hinswleiddio’n dda; bod ceginau ac ystafelloedd gwely modern ynddynt; eu bod yn cael eu rheoli’n dda; mewn amgylchedd deniadol a diogel; a hyd y bo modd yn addas i ofynion penodol yr aelwyd.

Yn achos y rhan fwyaf o feini prawf SATC, roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf eu bod yn cael eu bodloni yn eu cartref nhw. Yr unig eithriad oedd y maen prawf yn ymwneud â rheolaeth dda ar y cartref gan y landlord. 48% o’r ymatebwyr oedd yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu cartrefi yn cael eu rheoli’n dda.

Nododd mwyafrif mawr o’r ymatebwyr y byddent yn hapus neu’n hapus iawn i fân waith a gwaith sylweddol gael ei wneud yn eu cartref er mwyn gwella effeithlonrwydd y system danwydd.

Holodd yr arolwg p’un a wnaeth pryderon tenantiaid ynghylch rhai agweddau ar eu cartrefi (cael mynediad at amwynderau lleol, defnyddio ardaloedd a rennir ag eraill, band eang/mynediad at y rhyngrwyd, biliau, diogelwch o fewn y gymdogaeth a diogelwch yn y cartref) gynyddu yn ystod cyfnod clo cyntaf 2020 yn sgil y coronafeirws. Ar gyfer pob elfen yr oedd modd eu cymharu, roedd y lefelau pryder yn uwch, er mai ychydig oedd y cynnydd mewn perthynas â diogelwch o fewn y gymdogaeth, diogelwch yn y cartref a mynediad at y rhyngrwyd. Roedd y cynnydd mwyaf yn y lefelau pryder yn ymwneud â sut i gael mynediad at amwynderau lleol a sut i dalu biliau.

3. Casgliadau

Roedd yr arolwg hwn yn ystyried safbwyntiau tenantiaid cymdeithasol ledled Cymru ynghylch SATC, a’u profiadau o fyw yn eu cartrefi yn ystod cyfnod clo cyntaf 2020 yn sgil y coronafeirws..

Nododd 56% o’r ymatebwyr (rh=510) eu bod wedi clywed am SATC o leiaf, ond roedd y canlyniadau yn dangos nad oedd 44% wedi clywed am y Safon (rh=404). Gallai fod o fudd i landlordiaid cymdeithasol a Llywodraeth Cymru, felly, ystyried ffyrdd o gynyddu ymwybyddiaeth o SATC fel bod gan denantiaid cymdeithasol fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn y gallant ei ddisgwyl o’u trefniant llety.

Roedd yr arolwg yn asesu pa mor bwysig oedd pob un o feini prawf y SATC cyfredol ym marn yr ymatebwyr, a nododd mwyafrif mawr fod pob un ohonynt yn ‘bwysig iawn’. Mae hyn yn awgrymu bod y SATC cyfredol yn canolbwyntio’n gywir ar y meini prawf sy’n bwysig i denantiaid, ac y byddai’n fuddiol cadw’r meini prawf cyfredol ar gyfer fersiwn nesaf SATC.

Roedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn cytuno bod eu cartrefi yn bodloni meini prawf SATC, ond roedd yna leiafrif sylweddol yn anghytuno. Yr unig faen prawf yr oedd llai na hanner yr ymatebwyr yn cytuno ei fod yn cael ei gyflawni mewn perthynas â’u cartref nhw oedd ‘rheolaeth’. Daeth y thema hon i’r amlwg hefyd yn y cwestiynau agored, yn enwedig mewn perthynas ag ymgysylltu a chyfathrebu gwael gan landlordiaid. Mae’r canfyddiad hwn yn awgrymu y gallai gwella systemau cyfathrebu effeithiol a phrydlon helpu i fynd i’r afael â’r canfyddiad bod cartrefi yn cael eu rheoli’n wael.

Nododd mwyafrif o’r ymatebwyr y byddent yn hapus i fân waith a gwaith sylweddol gael ei wneud yn eu cartrefi i wella effeithlonrwydd y system danwydd. Efallai bod pryderon amgylcheddol ymhlith yr ymatebwyr y tu ôl i hyn ynghyd â phroblemau gwres ac inswleiddio mewn rhai cartrefi. O gofio’r ymrwymiad i ganolbwyntio’n fwy ar ddatgarboneiddio yn y fersiwn nesaf o SATC, mae hwn yn ganfyddiad positif, sy’n awgrymu y byddai rhaglenni ôl-osod offer arbed ynni a gwaith datgarboneiddio domestig pellach yn dderbyniol, efallai, i rai tenantiaid cymdeithasol.

Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn awgrymu bod mwyafrif yr ymatebwyr yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi yn sgil cyfnod clo cyntaf y coronafeirws, a bod pryderon ynghylch agweddau ar y cartref wedi cynyddu yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd pryder am filiau yn amlwg iawn, sy’n awgrymu bod yr ymatebwyr, yr oedd llawer ohonynt hefyd yn pryderu am filiau cyn y cyfnod clo, wedi’u taro’n arbennig o galed yn sgil y cyfnod clo.

Datgelwyd lefelau uchel o bryder hefyd ynghylch diogelwch o fewn y gymdogaeth ac yn y cartref, ac roedd y lefelau hyn yn gymharol sefydlog cyn ac yn ystod y cyfnod clo. Nododd nifer sylweddol o’r ymatebwyr lefel straen uwch hefyd o ganlyniad i newidiadau yn y gofynion gofod yn ystod y cyfnod clo. Roedd rhai yn teimlo y byddai angen iddynt symud yn y dyfodol yn sgil newid y gofynion gofod yn ystod y cyfnod clo.

Er bod y gyfradd a ymatebodd i’r arolwg yn weddol uchel, mae’r dull a ddefnyddiwyd i recriwtio, sef holi pobl ar hap, ynghyd â’r ffaith bod cyfradd ymateb gwahanol awdurdodau lleol yn amrywio, yn golygu nad yw canfyddiadau’r arolwg hwn, o reidrwydd, yn adlewyrchu safbwyntiau tenantiaid cymdeithasol yng Nghymru yn gyffredinol. Dylid eu trin, yn hytrach, fel canfyddiadau sy’n rhoi rhyw syniad yn unig inni o’r sefyllfa.

4. Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Katy Addison a Lucy Campbell

Adroddiad Llawn o’r Gwaith Ymchwil: Addison, Katy a Campbell, Lucy (2021); Safon Ansawdd Tai Cymru: Adroddiad Cryno o’r Arolwg Tenantiaid. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif yr adroddiad GSR 6/2021.

Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn, nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

I gael gwybod mwy, cysylltwch â:

Katy Addison
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ymchwildyfodolcynaliadwy@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN Digidol: 978-1-80082-553-6