Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i dai y mae cymdeithasau tai a'r awdurdodau lleol yn eu perchen fod mewn cyflwr da fel rhan o'r safon ansawdd ar gyfer tai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i bob tŷ cymdeithasol gael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da. Y cymdeithasau tai a'r awdurdodau lleol â thai rhent cymdeithasol sy'n gyfrifol am sicrhau bod tai yn cyrraedd ac yn cadw’r safon ansawdd tai.

Mae’r safon wedi’i diweddaru i adlewyrchu newidiadau o ran y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teimlo am eu cartrefi. Bydd Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) 2023 yn parhau i wella safon cartrefi pobl, gan osod targedau newydd i fynd i’r afael â datgarboneiddio ac effeithlonrwydd dŵr.

Fel bod landlordiaid Cymdeithasol yn bodloni’r safon mae’n rhaid i gartrefi:

  • fod mewn cyflwr da
  • bod yn saff ac yn ddiogel
  • cael eu gwresogi'n ddigonol, bod yn effeithlon o ran tanwydd a bod wedi'u hinswleiddio'n dda
  • cael ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
  • bod wedi’u rheoli’n dda (o ran tai wedi’u rhentu)
  • bod wedi'u lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
  • bod yn addas ar gyfer anghenion penodol y rheini sy'n byw ynddynt, os yw hynny'n bosibl, er enghraifft pobl ag anableddau

Noder – Mae Gweinidogion Cymru yn cynnig pennu rheol(au) benodol mewn perthynas ag ymateb landlordiaid cymdeithasol i leithder, llwydni a pheryglon eraill. Caiff unrhyw reol(au) o’r fath gael ei chyhoeddi fel atodiad i WHQS 2023 pan fydd unrhyw ymgynghori sydd ei angen wedi cael ei gwblhau a phan fydd y fersiwn derfynol o’r rheol wedi cael ei llunio. Pan fydd y rheol(au) wedi cael ei phennu, bydd angen bodloni’r rheol er mwyn cydymffurfio â WHQS 2023.

Rydym yn gweinyddu dwy gronfa ariannol i helpu cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol gyda’u stoc o dai cymdeithasol:

  • lwfans atgyweiriadau mawr
  • cyllid llenwi bwlch gwaddol

Lwfans atgyweiriadau mawr

Rydym yn rhoi cyllid i 11 o awdurdodau lleol sy'n parhau i reoli a chynnal tai cymdeithasol.

Cyllid rhwng 2024 a 2025

  • Caerffili £7,300,000
  • Caerdydd £9,570,000
  • Sir Gaerfyrddin £6,200,000
  • Sir Ddinbych £2,370,000
  • Sir y Fflint £4,980,000
  • Ynys Môn £2,690,000
  • Sir Benfro £4,000,000
  • Powys £3,720,000
  • Abertawe £9,280,000
  • Bro Morgannwg £2,770,000
  • Wrecsam £7,520,000

Cyllid llenwi bwlch gwaddol

Rydym yn rhoi cyllid i 10 o gymdeithasau tai i'w helpu i wella eu tai cymdeithasol. Cafodd y cymdeithasau tai hyn eu sefydlu pan drosglwyddodd awdurdodau lleol eu cyfrifoldeb am dai cymdeithasol draw i’r sefydliadau hyn.

Cyllid rhwng 2024 a 2025

  • Trivallis (Cartrefi RCT cyn hynny) £7,300,000
  • Cartrefi Dinas Casnewydd £6,500,000
  • Tai Tarian (Cartrefi NPT cyn hynny) £6,200,000
  • Tai Cymunedol Bron Afon £5,800,000
  • Tai Calon £4,200,000
  • Adra (Cartrefi Cymunedol Gwynedd cyn hynny) £4,100,000
  • Cartrefi Cymoedd Merthyr £2,900,000
  • Cartrefi Conwy £2,600,000
  • Cymdeithas Tai Sir Fynwy £2,600,000
  • Barcud £1,600,000