Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n hysbysu defnyddwyr y ffyrdd o leoliadau sydd â chrynodiadau uchel o ddamweiniau ar gyfer 2014 i 2016.

Rhwng 2014 a 2016, roedd 41 safle clwstwr damweiniau ar y Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd yng Nghymru. Roeddent yn cynnwys 172 damwain a achosodd anafiadau personol ac roedd 17 ohonynt yn ddamweiniau lladd neu eu hanafu’n ddifrifol.

Yn y Gogledd

  • Mae 5 ffordd ar lwybr y Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd yn y Gogledd.
  • Roedd 6 safle clwstwr damweiniau ar a arweiniodd at 25 o ddamweiniau a achosodd anafiadau personol ac ni chafwyd unrhyw ddamweiniau lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
  • Ar yr A55 yr oedd y nifer mwyaf o safleoedd clwstwr damweiniau, 4 ohonynt, ac nid oedd unrhyw safleoedd clwstwr damweiniau ar yr A5, yr A483 na'r A550.
  • Cofnodwyd bod 9 wedi'u lladd ar ffyrdd y Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd.

Yn y De

  • Mae 8 ffordd (9 llwybr gwahanol gan fod yr A40 wedi cael ei rhannu'n ddwy ran) ar lwybr y Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd. Mae 5 ohonynt yn y De-ddwyrain a 4 yn y De-orllewin.
  • Roedd 35 safle clwstwr damweiniau a arweiniodd at 147 damwain a achosodd anafiadau personol ac roedd 17 o'r rheini'n ddamweiniau lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
  • Roedd 16 safle clwstwr damweiniau ar yr M4, a arweiniodd at 63 damwain a achosodd anafiadau personal ac roedd 4 o'r rheini'n ddamweiniau lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.
  • Ar wahân i'r M4, ar yr A40 yr oedd y nifer mwyaf o safleoedd clwstwr - 5 ohonynt, ac nid oedd unrhyw safleoedd clwstwr damweiniau ar yr M48.
  • Cofnodwyd bod 28 wedi'u lladd ar ffyrdd y Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd.

Adroddiadau

Safleoedd clwstwr damweiniau a damweiniau angheuol ar Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd Cymru, 2014 i 2016 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Safleoedd clwstwr damweiniau a damweiniau angheuol ar Rhwydwaith Ffyrdd Traws-Ewropeaidd Cymru, 2014 i 2016: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 22 KB

ODS
Saesneg yn unig
22 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.