Bydd dau safle yn Amlwch yn ymuno ag Ardal Fenter Ynys Môn gan helpu i ysgogi'r economi a chefnogi swyddi yng ngogledd yr ynys, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates, heddiw.
Y ddau safle i'w cynnwys yw:
- ystâd Ddiwydiannol Llwyn Onn, safle 15 hectar a oedd yn gartref i weithrediadau Rehau ar yr ynys. Ar hyn o bryd mae uned 20,000 troedfedd sgwâr yn wag ar y safle.
- hen waith bromin Octel, a ddaeth i ben yn 2004. Roedd y safle ar waith ers dros 50 mlynedd ond ers hynny mae wedi dadfeilio, gyda llawer o'r adeiladau bellach yn adfeilion.
Mae'r ddau ychwanegiad yn dilyn cyngor gan Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Ynys Môn.
Mae sefyllfa economaidd Amlwch wedi newid ers i ffiniau'r Ardal Fenter gael eu llunio'n wreiddiol, yn dilyn cau Rehau a phenderfyniadau ar ddatgomisiynu Magnox a Wylfa Newydd. Mae'r cyfraddau cyflogaeth ar gyfer yr ardal yn is na'r rhai ar gyfer Ynys Môn a Chymru gyfan, ond mae gweithlu medrus yn parhau i fyw'n lleol.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru:
"Rwy'n falch heddiw o allu cyhoeddi y bydd y ddau safle allweddol yma yn Amlwch yn cael eu cynnwys yn ardal Fenter Ynys Môn. Bydd hyn yn hwb i economi gogledd Ynys Môn, ardal sydd wedi wynebu sawl her yn ddiweddar gyda chau Rehau ac ansicrwydd ynghylch Wylfa.
"Rydym yn gwybod bod yr ardal yn parhau i elwa o weithlu medrus yn ogystal â'r potensial ar gyfer datblygu ar y ddau safle yma. Bydd cael cefnogaeth yr ardal Fenter yn helpu i ddenu cyfleoedd buddsoddi a gwella seilwaith. Bydd hefyd yn cyfrannu at lefelu economi'r ynys.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr Cyngor Ynys Môn:
"Cyflwynodd ein tîm Datblygu Economaidd achos busnes cryf dros gynnwys y ddau safle pwysig yma o fewn Ardal Fenter Ynys Môn.
"Mae'r dref ac ardal ehangach gogledd Ynys Môn wedi cael eu taro'n galed gan golledion swyddi diweddar a siom gyda newyddion diweddar am brosiect Wylfa Newydd. Mae'r cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog yn newyddion gwych i Amlwch, gogledd Ynys Môn a’r ynys gyfan; ac mae'n rhoi hwb sylweddol i gynllun Adfywio Economaidd presennol y Cyngor yng ngogledd Ynys Môn.
"Bydd ein swyddogion nawr yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i benderfynu beth a sut y gellir sicrhau cymorth i weld buddsoddi a chreu swyddi ar y ddau safle yma. Rydyn ni’n awyddus i weld gweithgarwch yn dechrau cyn gynted â phosibl, fel rhan o'r ymdrechion i adfer yr economi ar ôl Covid.
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi:
"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi twf economaidd yn Amlwch a gogledd Ynys Môn. Bydd hyn yn cymryd amser a llawer iawn o waith, ond mae'r cyhoeddiad heddiw'n rhoi hwb gwirioneddol i adfywiad economaidd yn y dref. Bydd hefyd yn caniatáu i ni neu'r rhai yn y sector preifat sicrhau cyllid i ddatblygu'r safleoedd hyn i ddiwallu anghenion cwmnïau lleol a darpar fuddsoddwyr.
"Dwi'n edrych ymlaen yn awr at weld statws Ardal Fenter yn helpu i ysgogi buddsoddiad a thwf swyddi yn nhref Amlwch a'r cyffiniau, a fydd yn cefnogi cymunedau lleol.
Dywedodd Neil Rowlands Cadeirydd Ardal Fenter Ynys Môn:
"Mae'r cyhoeddiad heddiw gan y gweinidog yn newyddion da iawn i ogledd Ynys Môn.
"Drwy ddyfarnu statws ardal fenter i ystad diwydiannol Llwyn Onn a safle Octel yn Amlwch mae'n dangos nid yn unig ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn gyflym ac yn sylweddol drwy'r Ardal Fenter, i fynd i'r afael ag anghenion yr economi, mae hefyd yn cadarnhau ac yn cydnabod bod angen ymrwymiad i ogledd Ynys Môn i helpu i greu swyddi a thwf i'r gweithlu lleol sydd eisoes yn fedrus, rhywbeth a gefnogir gan fwrdd Ardal Fenter Ynys Môn.
"Mae Gogledd Ynys Môn wedi cael ei daro'n arbennig o galed yn ddiweddar gyda cholli swyddi, cau cwmnïau a'r heriau o ddarparu Wylfa newydd.
"Gyda statws Ardal Fenter, mae hyn bellach yn rhoi mwy o broffil i ogledd Ynys Môn, cymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ffrydiau ariannu ardaloedd menter unigryw, cyfleoedd hyfforddi a chyfleoedd mewnfuddsoddi.
Mae statws Ardal Fenter Ynys Môn eisoes wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad i'r Ynys a mwy na 1,000 o swyddi wedi'u creu, eu diogelu neu eu cynorthwyo ers ei sefydlu yn 2012.