Neidio i'r prif gynnwy

Mae tirwedd lechi gogledd-orllewin Cymru wedi'i hychwanegu at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, sy'n golygu mai dyma’r pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:

"Mae cyhoeddiad heddiw yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae'r rhan hon o Ogledd Cymru wedi'i wneud i dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol Cymru, yn ogystal â’r byd ehangach.  Gellir dod o hyd i lechi Cymreig ledled y byd.

“Mae chwarela a chloddio am lechi wedi gadael gwaddol unigryw yng Ngwynedd, ac mae'r cymunedau'n falch iawn ohono. Bydd y gydnabyddiaeth fyd-eang hon heddiw gan UNESCO yn helpu i ddiogelu'r gwaddol a'r hanes hwnnw yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod a’u helpu i adfywio yn y dyfodol.”

Dan arweiniad Cyngor Gwynedd, mae’r dynodiad hwn yn benllanw dros 15 mlynedd o waith caled gan bartneriaid, gan gynnwys Cadw, i gofnodi, diogelu a chydnabod gwaddol byw tirwedd lechi Gwynedd.

Yn ddiweddar, ymwelodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, ag Amgueddfa Lechi Cymru, a dywedodd.

"Mae hyn yn newyddion mor wych i'r ardal ac i Gymru. Mae paratoi a chyflwyno'r cais wedi bod yn ymdrech tîm go iawn a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan.  Mae'r newyddion hyn wedi gwneud yr holl waith caled yn werth chweil!

"Mae ennill Statws Safle Treftadaeth y Byd yn ddathliad ardderchog o'r balchder yn ein cymunedau llechi ac yn sbardun ar gyfer adfywio yn y dyfodol."

Mae chwe rhan i’r Safle Treftadaeth hwn, gan gynnwys tirweddau chwareli ysblennydd fel Penrhyn, Dinorwig, Dyffryn Nantlle a Ffestiniog. Mae hefyd yn cynnwys Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, Castell Penrhyn a Rheilffyrdd enwog Ffestiniog a Thalyllyn. Cawsant eu hadeiladu i gludo'r llechi o’r chwarel i farchnadoedd ledled y byd a’u trawsnewid yn ddiweddarach drwy ymroddiad gwirfoddolwyr i reilffyrdd treftadaeth. 

Gellir gweld manylion llawn Safle Treftadaeth newydd y Byd ar ei wefan benodedig: Llechi Cymru: Enwebiad Safle Treftadadaeth y Byd