Ysgol Grove Park, wedi’i ddyfarnu’n adeilad rhestredig a hynny am ansawdd a chymeriad ei nodweddion pensaernïol arbennig
Penderfynodd yr Ysgrifennydd Cabinet roi statws rhestredig i’r safle ar ôl iddo ystyried yn ofalus, o’r newydd, yr holl sylwadau a gyflwynwyd. Gwnaed hynny wedi i gais gael ei gyflwyno i Cadw yn gynharach eleni i restru adeilad unigol ac ar ôl ymgynghori wedyn â’r perchennog, yr awdurdod cynllunio lleol a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
O dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, rhaid i adeilad rhestredig fod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
Mae’r canllawiau (Cylchlythrau’r Swyddfa Gymreig 61/96 a 1/98) sy’n ategu’r ddeddfwriaeth yn esbonio’r meini prawf a ddefnyddir i asesu adeiladau. Mae’r meini prawf ar gyfer rhestru adeiladau yn esbonio’r prif ffactorau y dylid rhoi sylw iddynt wrth ystyried cais i restru adeilad. Er enghraifft, gellir ystyried rhestru adeilad ar sail diddordeb pensaernïol os bernir bod ei gynllun pensaernïol, ei grefftwaith a’r modd y mae wedi’i addurno o bwysigrwydd cenedlaethol.
Gwnaeth Ken Skates ystyried yr amrywiaeth o wybodaeth a gyflwynwyd i Cadw gan y rhai oedd yn cefnogi ac yn herio’r cais i roi statws rhestredig i’r adeilad. Roedd hyn yn cynnwys tystiolaeth ysgrifenedig a thystiolaeth weledol ynghyd â chyngor arbenigol. Roedd hefyd yn cynnwys adolygiad gan gymheiriaid a’r cyngor a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Wrth benderfynu, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gydnabod dadleuon y ddwy ochr ond yn gyffredinol, roedd yn ystyried bod digon o reswm dros gymeradwyo’r cais i restru’r adeilad unigol a oedd yn gartref i Ysgol Grove Park.
Dywedodd Ken Skates:
“Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd imi, ac o ystyried manteision rhestru’r adeilad yn erbyn y meini prawf a gyhoeddwyd a’r holl safbwyntiau a’r cyngor sydd wedi’u cyflwyno, rydw i wedi cytuno i restru’r adeilad ar sail ei nodweddion pensaernïol arbennig. Mae iddo ansawdd a chymeriad ac mae’n enghraifft allweddol o ysgol ramadeg i ferched yn ystod y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Mae’r adeilad yn yr arddull neo-glasurol traddodiadol (yn ôl dehongliad y 1930au o’r arddull hwnnw) ac mae wedi goroesi gyda rhannau helaeth ohono’n gyfan.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Credaf fod yr adeilad yn enghraifft allweddol o’i fath. Ceir yno nifer o nodweddion cain. Mae’r rhain yn cynnwys y brics coch deniadol ar y tu allan, yr addurnwaith rhwng y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf a’r ffenestri ar y llawr cyntaf gyda’r gwaith brics patrwm igam ogam. Ceir hefyd nodweddion o ansawdd y tu mewn megis grisiau dwbl mawreddog gyda golau dydd yn treiddio drwy lusernau yn y to. Hefyd, ceir lloriau parquet a terazzo, mowldinau pren llyfn ac mae’r brif neuadd yn gymesur ac wedi’i goleuo’n dda.”
Bydd y penderfyniad i restru’r adeilad yn dod i rym yn syth. Yn sgil hynny, bydd angen caniatâd adeilad rhestredig i ddymchwel neu newid yr adeilad, neu i’w estyn mewn modd a allai effeithio ar ei gymeriad fel adeilad o ddiddordeb pensaerniol neu hanesyddol.
Ewch i: Gwefan Cadw (dolen allanol)