Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi nodi ei blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn datganiad i'r Senedd y prynhawn yma, ar ddechrau sesiwn yr hydref, ymrwymodd y Prif Weinidog i wneud cynnydd ar draws pedwar maes allweddol:

  • 'Iechyd da' – lleihau amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys ar gyfer iechyd meddwl; a gwella mynediad at ofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd menywod
  • Swyddi gwyrdd a thwf – creu swyddi gwyrdd sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac yn adfer natur, gan sicrhau bod teuluoedd ar eu hennill; a chyflymu penderfyniadau cynllunio i dyfu economi Cymru
  • Cyfle i bob teulu – hybu safonau mewn ysgolion a cholegau a darparu rhagor o gartrefi ar gyfer y sector rhent cymdeithasol, gan sicrhau bod pob teulu yn cael cyfle i lwyddo
  • Cysylltu cymunedau – trawsnewid ein rheilffyrdd a darparu gwell rhwydwaith bysiau; a thrwsio ein ffyrdd a grymuso cymunedau lleol i benderfynu ar y terfyn cyflymder 20mya. 

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Dros yr haf, dw i wedi siarad â channoedd o bobl ym mhob cwr o Gymru. Dw i eisiau diolch i bawb wnaeth roi o'u hamser i rannu eu gobeithion, eu pryderon a'u barn â mi a'm cydweithwyr, boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb.

"Iechyd a gofal cymdeithasol, yn benodol mynd i'r afael â'r amseroedd aros hir am driniaeth, yw'r prif flaenoriaethau. Mae awydd cryf hefyd inni wella safonau addysg, a chreu swyddi a thyfu'r economi'n gynt dros y deunaw mis nesaf. Mae pryder gwirioneddol hefyd ynghylch cyflwyno'r terfynau cyflymder ugain milltir yr awr ac awydd i weld newidiadau ar ffyrdd penodol.

"Cyflawni, sicrhau atebolrwydd a gwella cynhyrchiant fydd flaenllaw ym meddwl fy llywodraeth. Cyflawni blaenoriaethau'r bobl, gan gynnwys bod yn fwy tryloyw a gweladwy i'r cyhoedd, fel bod trethdalwyr yn gwybod pan fydd pethau'n mynd yn dda a phan fydd lle i wella.

"Drwy ganolbwyntio ar flaenoriaethau pobl Cymru, fe fyddwn i'n creu cenedl lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u clywed.

"Ry'n ni wedi gwrando, ry'n ni wedi dysgu ac ry'n ni'n mynd i gyflawni."