Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau i wella bywydau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru.
Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn amlinellu agenda uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid y byd er budd pobl, y blaned a ffyniant erbyn 2030.
Ni yw’r unig genedl – hyd yn hyn - i fod wedi troi Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn gyfraith.
Thema Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl eleni (3 Rhagfyr) yw:
"Unedig yn ein gwaith i achub a chyflawni'r Nodau Datblygu Cynaliadwy ar gyfer pobl anabl ac ar y cyd â nhw, a sicrhau eu bod nhw eu hunain yn rhan o'r broses".
Wrth siarad yn ystod ymweliad â swyddfeydd Anabledd Cymru a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain i nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, dywedodd y Gweinidog:
"Rydyn ni'n rhannu'r uchelgais hwn i gyflawni nodau datblygu cynaliadwy ar gyfer pobl anabl ledled Cymru. Rydyn ni wedi eu cynnwys yn ein penderfyniadau ac maen nhw wedi dylanwadu ar ein gwaith o ddrafftio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
"Rydyn ni'n gwneud penderfyniadau er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ac yn tynnu ar ddoniau pawb i alluogi ein cenedl i ffynnu."
Ychwanegodd:
"Mae ymweld ag Anabledd Cymru a Chymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi bod yn gyfle i gwrdd â staff yn y ddau sefydliad sy'n ymdrechu i ddatgymalu'r rhwystrau sy'n cael eu profi gan bobl anabl ledled Cymru.
"Mae wedi bod yn fraint clywed sut maen nhw'n cefnogi pobl anabl a sut maen nhw wedi ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn eu gwaith."
Dywedodd Rhian Davies o Anabledd Cymru:
"Rydyn ni'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r gymuned ryngwladol i hyrwyddo'r Nodau Datblygu Cynaliadwy.
"Mae'r Nodau Datblygu Cynaliadwy ac amcanion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn hanfodol i sicrhau cydraddoldeb llawn i bobl anabl yng Nghymru."
Ychwanegodd:
"Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych i gwrdd â'r Gweinidog a thrafod ein rôl wrth frwydro dros hawliau pobl anabl drwy bandemig - a nawr argyfwng costau byw - tra hefyd yn ymdrechu am Gymru fwy cynhwysol sy'n gwarantu'r gallu i bawb gael byw'n annibynnol."
Ychwanegodd Rebecca Mansell o Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain:
“Mae’n anrhydedd inni gael y Gweinidog yn ymweld â ni heddiw, ac rydyn ni wrth ein bodd. Mae ein Cymuned Fyddar yng Nghymru yn parhau i gael ei llethu gan rwystrau niferus wrth geisio cael gafael ar wybodaeth a gwasanaeth Iaith Arwyddion Prydain.
“Fel y corff cenedlaethol sy’n cynrychioli Iaith Arwyddion Prydain o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn brwydro dros gydraddoldeb a hawliau i Gymuned Fyddar Cymru.”
Sefydlwyd y Tasglu Hawliau Pobl Anabl yn 2021 yn sgil adroddiad 'Drws Ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.'
Pwrpas y Tasglu yw diffinio nodau allweddol a'r camau sydd eu hangen i gyflawni gwelliannau, y bydd Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth cyhoeddus ehangach a phobl anabl yn gweithio gyda'i gilydd i'w gwneud yn realiti.
Mae'r tasglu yn cynnwys gwahanol weithgorau, sy'n edrych ar yr heriau y mae pobl anabl yn eu hwynebu ac yn gweithio tuag at ein huchelgais o sicrhau Cymru fwy cyfartal. Mae'r holl adroddiadau a gyhoeddir yn seiliedig ar waith y gweithgorau ac yn cael eu llunio ar y cyd â phobl anabl.