Mae Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, yn dweud bod gamblo yn fater iechyd y cyhoedd sy'n dod yn fwyfwy difrifol yng Nghymru.
Yn ei ail adroddiad, Gamblo â'n Hiechyd, mae Dr Atherton yn galw am fwy o gymorth i'r rheini sy'n cael eu niweidio gan gamblo yng Nghymru. Mae'n gofyn am well ymchwil a monitro i weld beth yw effaith gamblo ar iechyd, ac am fwy o reoleiddio ar gamblo yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig yn gyfan.
Yng Nghymru, mae 61% o oedolion wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd 1.1% o'r boblogaeth, sef 30,000 o bobl, fod ganddynt broblem gamblo. Amcangyfrif bod 3.8% arall o bobl yng Nghymru mewn perygl o ddatblygu problem gamblo.
Nid oes unrhyw wadu yn yr adroddiad bod gamblo yn gallu bod yn ffordd o gael hwyl. Ond mae gamblo hefyd yn gallu arwain at drafferthion ariannol a niwed, gan gynnwys gorbryder, straen, iselder ac at gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Nid dim ond yr unigolyn sy'n cael ei effeithio gan gamblo. Mae gamblo’n gallu effeithio ar deulu, a ffrindiau'r unigolyn sy’n cymryd rhan, ac ar gymdeithas yn ehangach.
Mae Dr Atherton yn galw ar Lywodraeth Cymru i gytuno ar gynllun gweithredu cadarn ac uchelgeisiol i leihau niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ar draws Cymru. Mae’n awyddus i’r llywodraeth wneud defnydd effeithiol o'i phwerau presennol i leihau'r niwed sy'n dod yn sgil gamblo, a cheisio ymestyn y pwerau hynny. Yn ogystal â hynny, mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cadarnach i gyfyngu ar hysbysebu cynnyrch gamblo, diogelu defnyddwyr yn well, a rhoi ardoll ar y diwydiant i ymchwilio i effeithiau niweidiol gamblo, eu hatal a'u hunioni.
Lansiodd y Prif Swyddog Meddygol ei adroddiad blynyddol yng Nghanolfan Cyngor ar Bopeth Casnewydd heddiw. Ymunodd Tim Miller o'r Comisiwn Hapchwarae a oedd yn croesawu'r adroddiad.
Dywedodd Dr Atherton:
“Rwy'n falch o gyflwyno fy ail adroddiad fel Prif Swyddog Meddygol Cymru. Rwy'n bwriadu eu defnyddio fel platfform ar gyfer tynnu sylw at feysydd sy'n dod yn fwyfwy amlwg o safbwynt iechyd y cyhoedd, a meysydd nad ydyn nhw wedi cael digon o sylw yn y gorffennol. Dyma'r rheswm pam dewisais i ganolbwyntio ar niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.
“Efallai mai hwyl ddiniwed yw gamblo i rai ond mae’n gallu achosi niwed i eraill. Mae’n gallu cael effaith gwbl ddinistriol ar y bobl sydd agosaf at yr unigolion hyn, ac ar gymunedau.
“Mae bylchau mawr yn parhau yn ein dealltwriaeth o'r mater hwn, ac mae angen inni leihau'r stigma sy'n cael ei gysylltu â gamblo fel bod mwy o bobl sydd angen help yn gallu gofyn amdano.
“Rwy'n gobeithio y bydd fy adroddiad blynyddol yn helpu i dynnu sylw at y mater hwn, sy'n rhaid delio ag e, cyn iddo ddod yn fwy difrifol fel mater iechyd y cyhoedd.”
Dywedodd Tom Miller, Cyfarwyddwr Gweithredol y Comisiwn Hapchwarae:
“Mae niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn fater iechyd y cyhoedd ac mae'r Comisiwn Hapchwarae wedi ymrwymo i atal y niwed hwn. Rydyn ni'n falch bod Dr Atherton yn codi ymwybyddiaeth o'r effeithiau y gall gamblo eu cael ar unigolion ac ar y rheini sy'n agos atyn nhw.
“Fel y rheoleiddiwr gamblo, byddwn yn parhau i weithio gyda gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd, y llywodraeth a'r diwydiant i feithrin dull cynaliadwy, a fydd yn torri tir newydd, i sicrhau bod gamblo yn fwy diogel i bobl ym mhob cwr o Gymru ac yng ngweddill Prydain Fawr.”