Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Sarah Murphy, wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau cymorth tosturiol ar gael i bawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad a phrofedigaeth pan fydd eu hangen arnynt.
I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi, mae Llywodraeth Cymru yn lansio gwasanaeth cynghori cenedlaethol i geisio helpu pawb sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad, a chanllawiau newydd ar gyfer asiantaethau a sefydliadau.
Mae'r gwasanaeth a'r canllawiau wedi'u dylanwadu gan anghenion a phrofiadau pobl sydd mewn profedigaeth yn sgil hunanladdiad yng Nghymru.
Daw'r lansiad yn dilyn data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dangos cynnydd yn nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad yng Nghymru yn ystod 2023.
Bydd y Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol arbenigol newydd yn ymateb i bawb sydd wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad, wedi'u heffeithio gan hunanladdiad neu mewn profedigaeth wedi hunanladdiad a marwolaethau sydyn heb esboniad a allai fod yn hunanladdiad.
Bydd yn sicrhau y gall unrhyw un yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gael cymorth sensitif a thosturiol ar unwaith, gan gynnwys cyswllt rheolaidd gan swyddog cyswllt penodedig cyhyd ag y bo angen, yn ogystal â chymorth i gael gafael ar wasanaethau ehangach.
Mae'r gwasanaeth cymorth cyfrinachol rhad ac am ddim ar gael i unigolion a theuluoedd dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo.
Mae Sefydliad Jac Lewis, elusen Gymreig sydd wedi bod yn darparu gwasanaeth yn lleol, wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i letya'r gwasanaeth cenedlaethol.
Mae'r canllawiau newydd wedi'u hanelu at ystod o asiantaethau a sefydliadau "cyswllt" sy'n gyson yn rhan o daith profedigaeth pobl yn dilyn marwolaeth sydyn neu farwolaeth heb esboniad, gan gynnwys hunanladdiad posibl.
Mae'r rhain yn cynnwys ymatebwyr cyntaf, corffdai a swyddfeydd crwneriaid, yn ogystal ag ymarferwyr cyffredinol a thimau gofal sylfaenol, cyflogwyr a gweithleoedd.
Lluniwyd y canllawiau hyn drwy ymwneud ag unigolion ac asiantaethau sy'n gweithio yn y sector.
Cafodd y canllawiau eu dylunio i sicrhau ymateb mwy tosturiol, gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol yn ystod y gwahanol gyfnodau wedi profedigaeth.
Gwnaeth y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar, Sarah Murphy, ymweld â gwasanaeth Sefydliad Jac Lewis yn Abertawe i weld sut y maent yn helpu pobl.
Dywedodd:
Mae profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn gallu bod yn ofnadwy ac mae'n hanfodol bod pawb sydd wedi'u heffeithio yn gallu cael gafael ar gymorth tosturiol pan fyddan nhw ei angen.
Bydd y Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol yn bwynt cyswllt cyntaf amhrisiadwy i'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad a bydd yn rhoi cymorth hanfodol i unigolion o bob oed a theuluoedd yng Nghymru wrth iddyn nhw lywio'u ffordd drwy'r broses.
Bydd y canllawiau hyn yn helpu sefydliadau i ddeall eu rôl yn well o ran helpu pobl mewn profedigaeth wedi hunanladdiad neu sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad.
Rydyn ni eisiau sicrhau bod y rhai sydd wedi'u heffeithio yn cael cymorth amserol, tosturiol ac effeithiol ble bynnag a phryd bynnag maen nhw ei angen.
Drwy ddatblygu ein strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio a'i rhoi ar waith yn barhaus, byddwn yn ystyried beth arall allwn ni ei wneud i atal hunanladdiad yng Nghymru.
Dywedodd Liz Thomas-Evans, prif swyddog gweithredol Sefydliad Jac Lewis:
Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddarparu'r Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol yng Nghymru.
Bydd y gwasanaeth hwn yn sicrhau bod cymorth hanfodol ar gael i unigolion a theuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan hunanladdiad ledled Cymru, gan weithio gyda gwasanaethau profedigaeth eraill i ddarparu'r cymorth, arweiniad ac adnoddau hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw yn ystod eu cyfnodau mwyaf anodd.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau unigolion a theuluoedd, gan helpu i feithrin Cymru sy'n fwy tosturiol a chefnogol.