Bydd Eluned Morgan, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, yn dweud heddiw bod y camau cadarnhaol y mae Cymru yn eu cymryd i wneud y byd yn lle gwell yn rhan allweddol o strategaeth ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang.
Wrth siarad yn Uwchgynhadledd Datblygu Rhyngwladol Cymru yng Nghaerdydd, bydd y Gweinidog yn amlinellu ei huchelgais i wneud yn siŵr bod y byd yn gwybod bod Cymru yn wlad sydd wir yn gyfrifol yn fyd-eang, wedi ymrwymo i fod yn gynaliadwy a diogelu cenedlaethau'r dyfodol.
Yn 2006, lansiodd Llywodraeth Cymru y rhaglen Cymru o blaid Affrica, sy'n annog pobl i gymryd rhan mewn prosiectau sydd yn fuddiol i Gymru ac i Affrica, gan helpu i wneud y byd yn lle gwell.
Drwy'r rhaglen hon, mae cannoedd o grwpiau llawr gwlad Masnach Deg a Chymru o blaid Affrica wedi cael cefnogaeth i helpu i gyflawni nodau datblygiad cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig mewn partneriaeth â chyfoedion yn Affrica.
Diolch i brosiect Cymru o blaid Affrica:
- Yn 2008 cafodd Cymru ei chydnabod fel Gwlad Masnach Deg gyntaf y byd. Mae bod yn Wlad Masnach Deg yn golygu bod pobl, sefydliadau a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwybod pa mor bwysig yw trin pawb yn deg a sicrhau bod ffermwyr a gweithwyr mewn cadwyni cyflenwi yn cael eu trin ag urddas a pharch
- Mae prosiect Maint Cymru bellach yn diogelu ardal o goedwig law ddwywaith maint Cymru ac, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, mae'n plannu 10 miliwn o goed yn ardal Mbale yn Uganda. Mae'r coed hyn, a gaiff eu plannu yng ngerddi coffi ffermwyr tlawd, yn darparu ffrwythau, cysgod, coed tân a phren, gan ddiogelu a gwella ansawdd y pridd ac amsugno a sefydlogi lefelau carbon - mae dros 9 miliwn o goed wedi cael eu plannu hyd yma
- Mae grwpiau datblygu cymunedol a rhyngwladol ar lawr gwlad yn gweithio i gyflawni nodau datblygu cynaliadwy yng Nghymru ac mewn dros 25 o wledydd Affrica ym meysydd iechyd, dysgu gydol oes, bywoliaeth gynaliadwy a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd
Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan:
"Mae penderfyniad y DU i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn golygu newid sylfaenol yn ein hamgylchedd rhyngwladol, ac mae galw clir yn sgil hynny am strategaeth ryngwladol newydd sy'n dangos yn glir ein dull ymgysylltu â gweddill y byd.
"Felly, fel rhan o'r strategaeth ryngwladol newydd honno, rwyf am i'r byd wybod bod Cymru yn cymryd ei chyfrifoldeb fyd-eang o ddifri. Rydw i am i'r byd wybod bod Cymru wedi bod yn genedl agored erioed, ac yn parhau i fod felly, ac yn wlad sydd yn falch o'i hanes o ryngwladoli a sefyll gyda chymunedau tlawd ar draws y byd.
"Rydyn ni'n wlad sy'n llawn o bobl sy'n rhoi amser ac egni i feithrin cymunedau gwell, Cymru well, a byd gwell i'n plant ac i blant ein plant.
"Dyma'r Gymru rydw ei heisiau - gwlad sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac sydd wedi ymrwymo i fod yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."