Fe wnaeth y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans gyfarfod â Pennaeth y Consortiwm Manwerthu Cymru, Sara Jones, heddiw [dydd Mercher 12 Mehefin] er mwyn ystyried y cyfleoedd i gydweithio er mwyn hybu strydoedd mawr a chanol trefi yng Nghymru sy’n dioddef.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu sector manwerthu Cymru, ac mae eisoes yn darparu nifer o becynnau pwrpasol er mwyn helpu busnesau cymwys i dalu eu biliau.
Datblygwyd cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr ar y cyd ag awdurdodau lleol, ac mae wedi bod yn rhoi cefnogaeth i fusnesau ers 2017. Darparwyd £23.6m yn ychwanegol ar gyfer y cynllun eleni, gan roi cefnogaeth i 15,000 o fusnesau manwerthu bach a chanolig eu maint. Mae’r gefnogaeth hon yn ychwanegol at y rhyddhad o £210m y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae dros dri chwarter y rhai sy’n talu ardrethi yng Nghymru yn elwa ar y gostyngiadau hyn.
Ac mae £2.4m ychwanegol wedi ei ddyrannu i awdurdodau lleol yn 2019-20 er mwyn darparu rhyddhad ardrethi dewisol atodol i fusnesau lleol, gan ganiatáu iddynt ymateb i anghenion lleol penodol.
Ar gyfer busnesau llai, mae ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol yn cynnig sicrwydd a diogelwch i tua 70,000 o dalwyr ardrethi ar draws Cymru. Mae’n darparu rhyddhad gwerth dros £110m iddynt ac nid yw dros eu hanner yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Mae ein cynlluniau rhyddhad yn canolbwyntio ar anghenion talwyr ardrethi yng Nghymru ac yn adlewyrchu’r gwahaniaethau rhwng y sylfaen drethu yng Nghymru a gwledydd eraill y DU.
“Maent wedi eu cynllunio’n benodol i helpu i leddfu’r pwysau sy’n wynebu sector manwerthu Cymru mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Rydw i wedi ymrwymo i gydweithio â’r sector er mwyn gwella a diweddaru ein system a sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol.
“Rwy’n cydnabod pa mor bwysig yw cael sector manwerthu iach yng Nghymru, felly roedd y cyfarfod heddiw yn gyfle da i glywed barn manwerthwyr Cymru ar sut y gallem wneud y defnydd gorau o’n hadnoddau er mwyn cynnal sector manwerthu cynaliadwy.”
Bydd y broses ailbrisio ardrethi annomestig nesaf yn digwydd yng Nghymru yn 2021, flwyddyn yn gynharach nag a fwriadwyd. Bydd y newid hwn yn sicrhau y bydd y gwerthoedd ardrethol y mae biliau ardrethi yn seiliedig arnynt yn adlewyrchu amodau cyfredol y farchnad ac yn helpu’r rhai sy’n talu ardrethi i gynllunio ar gyfer y dyfodol.