Bydd rôl ganolog pobl hŷn yn ein cymunedau’n cael ei chydnabod wrth i Gymru ddod yn genedl sydd o blaid pobl hŷn. Dyna gyhoeddiad Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Heddiw [Dydd Iau 7 Hydref], mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio. Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y bydd pobl o bob oed yn cael eu cefnogi i fyw ac i heneiddio yn dda ac mae’n herio’r ffordd rydym yn meddwl am heneiddio, a’r ffordd rydym yn teimlo amdano.
Bydd Cymru o Blaid Pobl Hŷn yn gweithio ar draws adrannau’r llywodraeth i fynd i’r afael ag ystod eang o ffactorau sy'n dylanwadu ar sut yr ydym yn heneiddio - o'n systemau iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth i'r ffordd yr ydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Pedwar prif nod y strategaeth yw:
- Gwella llesiant
- Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau
- Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl
- Trechu tlodi sy’n gysylltiedig ag oedran
Cefnogi cynlluniau ar gyfer heneiddio’n iach, mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol a thlodi tanwydd, cydnabod pwysigrwydd gofal diwedd oes o ansawdd uchel, a gwella’r cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl yw rhai o’r camau gweithredu a nodwyd yn y strategaeth i gyflawni’r nodau hyn.
Yn ogystal, dyrannwyd £550,000 i awdurdodau lleol i gefnogi eu gwaith i sicrhau eu bod o blaid pobl hŷn, creu cysylltiadau â phobl hŷn ac ymuno â Rhwydwaith Dinasoedd a Chymunedau o Blaid Pobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd. Rhoddir £100,000 yn ogystal i wella ymwybyddiaeth o hawliau a chydraddoldeb pobl hŷn.
I sicrhau y gellir adnabod y materion allweddol sy’n effeithio ar bobl hŷn, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi pum grŵp a fforwm cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn dan arweiniad Age Cymru.
Wrth lansio’r strategaeth ar Daith Gerdded Nordig Age Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
Rwyf eisiau i Gymru fod yn genedl sy’n dathlu oedran ac yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn. Yn llawer rhy aml, mae pobl yn cysylltu heneiddio â salwch a dirywiad, ac yn anwybyddu’r cyfraniad y gall pobl hŷn ei wneud i gymdeithas. Mae pobl hŷn yn rhoi cymorth hanfodol i’w teuluoedd; i economi ehangach Cymru ac i system iechyd a gofal Cymru ac yn rhoi cymorth emosiynol ac ymarferol drwy wirfoddoli.
Byddwn yn sicrhau bod llais a phrofiadau pobl hŷn yn ganolog i’n polisïau ac yn datgloi potensial pobl hŷn heddiw, a chymdeithas hŷn yfory. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau’r holl bobl hŷn yng Nghymru, gallwn ymwrthod â rhagfarn ar sail oedran a gweithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.
Dywedodd prif weithredwr Age Cymru Victoria Lloyd:
Rydym yn croesawu’r sylw y mae Llywodraeth Cymru’n ei roi i wella bywydau pobl hŷn a chydnabod y cyfraniad enfawr y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n cymunedau.
Rydym hefyd yn croesawu cwmpas ehangach y Strategaeth, sy’n cynnwys pob agwedd o fywyd person hŷn o iechyd a llesiant i dlodi a hawliau.
Yr her i bob un ohonom nawr yw ceisio gwneud yn siŵr bod yr uchelgeisiau’n cael eu rhoi ar waith ar bob lefel o’r llywodraeth, yn ein gwasanaethau cyhoeddus a phreifat, ac yn ein cymunedau.