Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka, wedi amlinellu ei chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y proffesiynau Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghynhadledd Prif Swyddog Nyrsio Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymysg y meysydd i ganolbwyntio arnynt dros y ddwy flynedd nesaf fydd cefnogi a chynyddu’r gweithlu, sicrhau tegwch yn y proffesiwn ac o ran gofal iechyd, a gwella canlyniadau i gleifion.

Y pum blaenoriaeth, a ddatblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid, yw:

  • Arwain y proffesiwn - buddsoddi mewn nyrsys a bydwragedd sy’n arweinwyr a’u datblygu, a hynny ar bob lefel ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, drwy raglenni arweinyddiaeth pwrpasol
  • Y gweithlu - cau’r bwlch o ran swyddi gwag, a denu, recriwtio a chadw gweithlu medrus sy’n llawn cymhelliant
  • Creu proffesiynau deniadol - ysbrydoli pobl i ymuno â’r proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth, a sicrhau mai hwn fydd y dewis mwyaf deniadol o ran gyrfa mewn gofal iechyd yng Nghymru
  • Gwella canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol - darparu gofal teg o ansawdd da, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Tegwch yn y proffesiwn a chydraddoldeb gofal iechyd - creu gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth sy’n adlewyrchu’r boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu ac sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau

Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka:

“Dyma’r tro cyntaf i flaenoriaethau’r Prif Swyddog Nyrsio gael eu pennu drwy gydweithio â’r Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio o fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau iechyd arbennig y GIG yng Nghymru. O ystyried y bydd angen mynd ati’n ddiymdroi er mwyn gwireddu’r blaenoriaethau hyn dros y ddwy flynedd nesaf, roedd yn bwysig i mi ein bod yn mabwysiadu dull gwirioneddol gydweithredol o’u dylunio, er mwyn sicrhau bod pawb yn cymryd perchenogaeth drostynt.”

“Mae fy mlaenoriaethau’n amlinellu nifer o gamau y byddaf yn eu cefnogi ac yn eu hyrwyddo fel pennaeth y proffesiynau , ond rwy’n deall yn iawn hefyd na fyddaf yn arwain y gwaith hwn ar fy mhen fy hun. Mae’r themâu a’r meysydd y mae’r blaenoriaethau hyn yn eu cwmpasu yn rhychwantu sawl rhan o’r GIG, a bydd llawer o’r gwaith yn cael ei gefnogi, ei hyrwyddo a’i weithredu gan y rhai sy’n gweithio yn y system.”

“Mae’n glir i mi fod arweinyddiaeth y proffesiynau  yn ganolog i’r datblygiadau i’r system sydd eu hangen fel y gall ein gwasanaethau iechyd barhau i ddarparu gofal o safon uchel i’n cleifion i’r dyfodol. Felly, rwy’n awyddus i lywio’r gweithlu drwy’r cyfnodau pontio anochel sydd o’n blaenau ac i ysbrydoli mwy o bobl i ddewis maes nyrsio neu bydwreigiaeth, a fydd yn yrfa ddeinamig ac yn rhoi boddhad mawr iddynt.”

Bydd y digwyddiad hwn, sef cynhadledd gyntaf y Prif Swyddog Nyrsio yng Nghymru ers y pandemig, yn gyfle i’r rhai sy’n gweithio yn y proffesiynau  i fyfyrio, rhannu eu profiadau, a dathlu llwyddiannau yn dilyn cyfnod heriol i nyrsys a bydwragedd.

Yn ogystal â hynny, bydd y gynhadledd yn lansio Gwobr Ragoriaeth y Prif Swyddog Nyrsio yn swyddogol, er mwyn cydnabod a dathlu’r rhai sy’n gwneud cyfraniad eithriadol a gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.