Neidio i'r prif gynnwy
Ruth Crowder, Prif Gynghorydd y therapiau

Bywgraffiad a chyfrifoldebau Prif Gynghorydd y Proffesiynau Perthynol i Iechyd.

Penodwyd Ruth Crowder i rôl Prif Gynghorydd y Proffesiynau Perthynol i Iechyd ym mis Chwefror 2018. Mae’n cynghori Llywodraeth Cymru a gweinidogion ar y Proffesiynau Perthynol i Iechyd yng Nghymru.

Dyma’r 13 o Broffesiynau Perthynol i Iechyd:

  • therapi celf
  • therapi galwedigaethol
  • deieteg
  • therapi drama
  • therapi cerdd
  • parafeddygaeth
  • orthoteg
  • orthopteg
  • ffisiotherapi
  • podiatreg
  • prostheteg
  • seicoleg
  • therapi lleferydd ac Iaith

Cymhwysodd Ruth fel therapydd galwedigaethol yng Nghaerdydd ym 1983. Mae wedi gweithio yn y GIG ac yng ngwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae wedi gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac fel swyddog polisi ar gyfer Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol. Mae Ruth yn noddi Pwyllgor Cynghorol Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn gwasanaethau ataliol a galluogi sy’n helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl mor hir â phosibl.

Ruth Crowder

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.