RPW Ar-Lein: sut i gofrestru
Canllaw manwl ar sut i gofrestru ar RPW Ar-lein.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cofrestru Cwsmeriaid
Cyflwyniad
Ar ôl cofrestru ar One Login, bydd cwsmeriaid yn gallu cofrestru am Gyfeirnod Cwsmer (CRN).
Mae RPW Ar-lein yn cynnig ffordd gyflym a hwylus o ddelio â Taliadau Gwledig Cymru (RPW).
Ar ôl cofrestru gydag RPW, byddwch yn gallu defnyddio'ch cyfrif RPW Ar-lein i:
- ddatgan diddordeb a gwneud ceisiadau
- cael yr wybodaeth ddiweddaraf trwy neges destun neu e-bost
- gweld ble ydych chi arni gyda'ch holl hawliadau
- holi RPW ac ateb eu cwestiynau, gan gynnwys lanlwytho dogfennau
- diweddaru manylion eich busnes
- rhoi caniatâd i gynrychiolwyr Undebau Ffermwyr ac Asiantwyr i lenwi manylion eich busnes ar eich rhan os dyna’ch dymuniad
- ychwanegu a rheoli’ch CPH (Rhif eich Daliad).
Mewngofnodi ar RPW Ar-lein
Ewch i’r dudalen Mewngofnodi ar RPW Ar-lein.
Hefyd, fe welwch y canllaw a’r wybodaeth ddiweddaraf i ddefnyddwyr yn yr adran Taliadau Gwledig Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.
RPW Ar-lein: canllaw i gwsmeriaid | LLYW.CYMRU
Er mwyn gallu mynd ar RPW Ar-lein, efallai y bydd angen ichi gael system weithredu neu borwr rhyngrwyd mwy diweddar. Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid. Mae’r manylion yn adran Mwy o Arweiniad a Help yn y canllaw hwn.
One Login GOV.UK
Mae One Login GOV.UK yn cynnig ffordd ddiogel ichi ddefnyddio RPW Ar-lein. Pan fyddwch yn clicio ar y ddolen “Mynd at RPW Ar-lein”, cewch eich anfon i dudalen One Login GOV.UK. Efallai bod gennych gyfrif One Login GOV.UK eisoes neu efallai y bydd angen ichi greu un. Bydd angen ichi logio i mewn (mewngofnodi) i One Login GOV.UK i fynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein.
Creu cyfrif One Login GOV.UK
Er mwyn cofrestru i gael cyfrif ar-lein, bydd angen ichi roi cyfeiriad e-bost i ni i’w gysylltu â’ch cyfrif. Drwy hwn y byddwch chi’n rheoli’ch cyfrif ar-lein.
Ewch i’r dudalen gofrestru trwy www.llyw.cymru/RPWArlein.
Cewch eich anfon i dudalen lansio RPW ac yno dewiswch fewngofnodi neu gofrestru gan ddefnyddio One Login GOV.UK. I gofrestru, bydd angen ichi glicio ar yr opsiwn hwnnw ac yna clicio parhau.
Bydd angen ichi glicio ar ‘Creu’ch One Login GOV.UK’ a pharhau, yna rhowch eich cyfeiriad e-bost a chlicio ar Parhau. Trwy glicio ar Parhau byddwch yn cytuno â hysbysiad preifatrwydd One Login GOV.UK a’r telerau a’r amodau.
Byddwn yn anfon cod diogelwch chwe digid i’ch cyfeiriad e-bost. Teipiwch y cod yn y man priodol gan wedyn clicio ar Parhau (daw’r cod hwn i ben mewn 1 awr).
Yna crëwch gyfrinair oleiaf 8 nod, yn gyfuniad o lythrennau a rhifau. Yna cliciwch ar Parhau.
Bydd angen ichi fwydo cod diogelwch bob tro y byddwch yn mewngofnodi i One Login GOV.UK. Dewiswch a ydych am dderbyn y cod fel neges destun neu drwy ap dilysu. Yna cliciwch ar Parhau.
Os ydych wedi dewis neges destun, yna rhowch rif eich ffôn symudol a chlicio ar Parhau. Pan gewch chi’r cod 6 digid, rhowch y cod a chliciwch ar Parhau.
Bydd cadarnhad yn ymddangos ar y sgrin bod y cyfrif wedi’i greu.
Pan fyddwch wedi cymryd y camau hyn ar sgrin, bydd eich cyfrif One Login GOV.UK wedi’i greu.
Pan fyddwch yn clicio ar Parhau, cewch eich anfon i dudalen hafan RPW Ar-lein. Yno, byddwn yn gofyn ichi gytuno ar delerau ac amodau RPW Ar-lein. I’w gweld, cliciwch ar y ddolen ar y sgrin.
I gytuno ar y telerau a’r amodau, cliciwch ar y blwch ac yna cliciwch ar Parhau.
Dechrau'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid
Pan fyddwch wedi derbyn y telerau a’r amodau, bydd angen ichi greu CRN newydd ar gyfer eich busnes.
Cliciwch ar ‘Mae angen creu CRN newydd arna i’.
Bydd hynny’n lansio’r sgrin Dechrau’r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid lle byddwn yn dangos gwybodaeth ichi am y ffurflen.
Pwysig: bydd y CRN sydd wedi’i greu dros dro ar eich cyfer i’w weld ar dop y dudalen ar y bar llwyd. Mae hwn yn rhif unigryw i chi, yn dechrau gydag ‘A’ a rhif 7 digid yn dilyn.
Ni chaiff y CRN ei gadarnhau nes ichi gyflwyno’r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid a bod RPW wedi archwilio holl fanylion eich busnes.
Cliciwch ar ‘Dechrau’ i barhau.
Ar y dudalen nesaf, byddwn yn rhoi rhai negeseuon pwysig ichi cyn ichi fwrw yn eich blaen i gofrestru.
Llenwi'r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid
Bydd y ddewislen ar ochr chwith y sgrin yn gadael ichi:
- weld eich CRN. Bydd angen hwn arnoch chi pan fyddwch chi'n cysylltu â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am help i lenwi'r ffurflen. Fe welwch y manylion cysylltu yn adran Mwy o Arweiniad a Help y canllaw hwn
- clicio ar y ddolen "help" fydd yn mynd â chi i ganllaw RPW Ar-lein
- mynd o un rhan o'r ffurflen i'r llall trwy glicio ar y rhan rydych chi am ei llenwi
- bydd tic gwyrdd yn dangos bod yr adran wedi'i llenwi
- bydd croes goch yn dangos naill ai nad ydych wedi gorffen llenwi'r adran neu fod camgymeriad yn yr wybodaeth rydych wedi'i rhoi
- newid i'r ffurflen Saesneg trwy glicio ar English.
Fe welwch y symbol (?) wrth rai o'r cwestiynau ar y ffurflen. Trwy glicio arni, fe gewch gyngor ar sut i ateb y cwestiwn.
Bydd * wrth bob cwestiwn ar y ffurflen y mae'n rhaid ichi ei ateb. Fyddwch chi ddim yn cael cyflwyno'r ffurflen nes eich bod wedi ateb pob un.
Cliciwch ar y botymau Nesaf ac Yn ôl i gael mynd ymlaen ac yn ôl ar y ffurflen. Bydd y botwm Safio yn cadw'r holl wybodaeth rydych wedi'i rhoi hyd yma.
Mae'r botwm Gadael ar ochr chwith isa'r dudalen yn mynd â chi i'r sgrin Parhau â'r Ffurflen Gofrestru. Bydd yr holl wybodaeth rydych wedi'i chofnodi yn cael ei harbed yn awtomatig, hyd yn oed os nad ydych wedi clicio ar y botwm Safio.
Gallwch ddewis bwrw ymlaen i lenwi'r ffurflen Gofrestru trwy glicio ar "Parhau" neu gallwch glicio "Allgofnodi" i adael y ffurflen. Trwy glicio "Yn ôl", byddwch yn mynd i'r sgrin Agor Cyfri'r Cwsmer neu Gofrestru'r Cwsmer.
Cofiwch, chewch chi ddim mynd i RPW Ar-lein tan ichi gyflwyno ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid.
Ar ôl ichi gadarnhau bod eich gwybodaeth yn gywir, cliciwch ‘Nesaf’ i barhau.
Dewis eich math o gyfrif
Bydd y cwestiwn cyntaf yn adran Manylion Cyffredinol y ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid yn gofyn ichi ddewis eich cyfrif. Mae’n bwysig eich bod yn meddwl yn galed pa fath o gyfrif sydd ei angen arnoch.
- Gall cwsmer fod yn sefydliad, busnes neu unigolyn sydd am Ddatgan Diddordeb, hawlio arian, ychwanegu neu reoli CPH ac ati.
- Mae Asiant yn drydydd parti sydd wedi cael caniatâd i wneud pethau ar ran cwsmer neu fusnes, gan gynnwys hawlio arian.
- Mae Undeb Ffermwyr yn helpu cwsmeriaid, gan wneud pethau ar ran y cwsmer neu’r busnes.
Mae’r cwestiynau yn y ffurflen wedi’u llunio’n benodol ar gyfer mathau gwahanol o gyfrifon. Byddwn yn cadw ac yn rheoli’ch gwybodaeth chi yn unol â hysbysiad preifatrwydd y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu data (GDPR).
Darllenwch yr adran berthnasol yn y canllaw hwn os ydych wedi clicio ar Asiant neu Undeb Ffermwyr.
Cyfri'r cwsmer
Os ydych wedi dewis cyfrif Cwsmer, bydd angen i chi roi’r rheswm pam eich bod am gael cyfrif cwsmer. Dewiswch yr opsiwn sy’n berthnasol ichi.
- Os ydych am wneud cais am grant neu hawlio grant neu Ddatgan Diddordeb, dylech ddewis “Rwy’n bwriadu gwneud cais am grantiau neu hawlio”.
- Os yr unig reswm pam eich bod yn llenwi’r ffurflen Cofrestru yw er mwyn cael ychwanegu neu reoli CPH neu i gofrestru’ch gwybodaeth chi, dylech ddewis “Rwyf am reoli fy CPH neu gofrestru fy ngwybodaeth i yn unig”. Bydd angen ichi roi manylion eich cyfrif banc os ydych yn dewis yr opsiwn hwn.
- Os ydych am wneud y ddau, dewiswch “Rwy’n bwriadu gwneud cais neu hawlio a rheoli fy CPH”.
Darllenwch yr adran berthnasol yn y canllaw hwn am yr opsiwn rydych yn ei ddewis cyn mynd eich blaen.
Llenwi'r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid – Cwsmeriaid sydd am wneud cais am grant neu hawlio grant
Gan eich bod bellach wedi cadarnhau'ch bod yn gwsmer a'r rheswm pam yr hoffech gael cyfrif RPW Ar-lein, bydd angen ichi nawr ateb cyfres o gwestiynau cyn cyflwyno'ch ffurflen gofrestru.
Manylion cyffredinol
Beth yw’ch math o gwsmer?
Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio'ch prif waith orau. Peidiwch â dewis “Grŵp o Fusnesau” oni bai’ch bod yn bwriadu Datgan Diddordeb mewn grant sy'n caniatáu ceisiadau gan gwsmeriaid sy'n dod ynghyd i ffurfio grŵp.
Pwysig: ni wnaiff RPW brosesu’ch Ffurflen Cais Sengl (SAF) ond os ydych fel ateb i’r cwestiwn am Fath o Gwsmer yn ‘fusnes amaethyddol’ neu’n coedwigaeth’.
Beth yw eich statws busnes/cyfreithiol?
Dewiswch yr opsiwn sy debycaf i'ch prif statws cyfreithiol.
Dyddiad y Ffurfiwyd y Busnes
Cofnodwch y dyddiad pryd cafodd eich busnes ei ffurfio trwy deipio'r dyddiad â'r fformat dd/mm/bbbb neu drwy glicio ar y calendr.
A gafodd y busnes hwn ei sefydlu trwy rannu busnes sy'n bod eisoes?
Os ydy hwn yn fusnes newydd nad ydych wedi cael CRN ar ei gyfer eto, a gafodd ei ffurfio trwy hollti busnes?
Cyfeirnod y Cwmni a Chyfeirnod yr Elusen
Os mai Cwmni Cofrestredig neu Elusen Gofrestredig yw'ch statws busnes/cyfreithiol, yna rhowch y rhif cofrestru perthnasol inni.
Cliciwch ar "Nesaf" i fynd i adran Manylion Gohebu'r ffurflen.
Manylion gohebu
Teitl Masnachu / Busnes / Enw
Dyma'r enw fydd yn ymddangos ar bob gohebiaeth.
Cod Post a chyfeiriad gohebu
Dyma'r cyfeiriad rydych am i bob gohebiaeth gael ei anfon ato. Os byddwch yn nodi'ch cod post ac yn clicio ar "Chwilio am Gyfeiriad", gallwch ddewis eich cyfeiriad o'r rhestr. Os nad ydych yn gallu gweld eich cyfeiriad, gallwch ei deipio.
Rhif ffôn
Nodwch rif ffôn y prif gyfeiriad gohebu
Dewis iaith
Nodwch ym mha iaith yr hoffech inni ohebu â chi (Cymraeg neu Saesneg).
Dull a ffefrir ar gyfer hysbysu
Gallwch ddewis sut yr hoffech i RPW Ar-lein gysylltu â chi i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi'i ychwanegu at eich cyfrif.
Gan ddibynnu ar ba ddull y byddwch yn ei ddewis, gofynnir ichi roi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol neu'r ddau. Byddwn yn eu defnyddio i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi cyrraedd ichi ei weld ar eich cyfrif RPW Ar-lein.
A yw cyfeiriad eich prif fferm / adeilad yr un â'ch cyfeiriad gohebu
Os nad ydych yn cofrestru busnes ffermio, dyma'r cyfeiriad lle mae prif weithgaredd y busnes yn cael ei gynnal. Os "Nac ydy" yw'ch ateb, nodwch eich cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'ch cod post.
A yw eich cyfeiriad masnachu yr un â'ch cyfeiriad gohebu
Dyma'r cyfeiriad sydd ar eich cyfrifon busnes. Os "Nac ydy" yw'ch ateb, nodwch eich cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'ch cod post.
Ar ôl llenwi’r rhan hon, cliciwch ar ‘Nesaf’ i fynd yn eich blaen.
Prif gyswllt
Y prif gyswllt yw'r person y dylwn siarad ag e/hi os oes ymholiadau.
Enw cyntaf / enw(au) canol / enw olaf
Rhowch enw llawn y prif gyswllt.
Rôl yn y Busnes
Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio rôl yr unigolyn yn y busnes orau. Mae’r atodiadau a restrir isod yn disgrifio’r rolau o fewn y busnes a’r lefel mynediad y caiff pob rôl ar gyfer mynd ar RPW Ar-lein. Cewch ragor o wybodaeth a diffiniadau yn yr Atodiadau isod.
Atodiad 1 – Rolau yn y Busnes a Diffiniadau
Atodiad 2 – Cydsyniadau a Chyfyngiadau Gweinyddol
Atodiad 3 – Y lefel mynediad ar gyfer pob rôl
Bydd pob unigolyn o fewn y rolau isod yn cael mynd yn awtomatig i’ch cyfrif RPW Ar-lein a bydd ganddynt bwerau gweinyddol. Os ydych am wneud cais am Grant, rhaid bod o leiaf un person wedi’i gofrestru yn y rôl hon ar eich CRN. Dim ond y rolau hyn sy’n cael derbyn neu wrthod Grant:
- perchennog/unig fasnachwr
- partner busnes
- cyfarwyddwr
- ysgutor
- cadeirydd/ymddiriedolwr
- gweinyddwr personol
- ysgrifennydd cwmni
- gweithiwr â’r awdurdod wedi’i ddirprwyo iddo
Nid yw’r rolau a restrir isod yn aelodau o’ch busnes, ond rydych am iddynt allu mynd i’ch cyfrif ar-lein. Bydd gofyn ichi bennu’r lefel mynediad rydych am ei rhoi iddyn nhw.
- unigolyn preifat
- priod/aelod o’r teulu
- gwarcheidwad
- cyflogai
- trysorydd / aelod o’r pwyllgor
- rheolwr
- gweinyddwr busnes
- derbynnydd
- contractiwr
- asiant / trydydd parti
- defnyddiwr ar-lein
- ysgrifennydd
Ble mae'r unigolyn yn byw?
Os ydy'r prif gyswllt yn byw yn un o'r cyfeiriadau rydych eisoes wedi'u rhoi inni fel Cyfeiriad Gohebu, Cyfeiriad y Brif fferm neu Gyfeiriad Masnachu, dewiswch y blwch priodol. Os yw'n byw rywle arall, dewiswch y blwch "Arall". Nodwch y cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'r cod post.
Dyddiad Geni
Nodwch ddyddiad geni'r prif gyswllt gan ddefnyddio'r fformat dd/mm/bbbb. Neu gliciwch ar y calendr.
Rhif Yswiriant Gwladol
Nodwch rif Yswiriant Gwladol y prif gyswllt.
Cyfeiriad e-bost
Caiff y cyfeiriad e-bost ei anfon yn awtomatig at eich cyfeiriad e-bost One login GOV.UK.
Rhif Ffôn / Rhif Ffôn Symudol
Os ydy'r rhain fel y rhai a nodoch chi yn adran Manylion Gohebu'r ffurflen, does dim angen ichi eu nodi nhw yn y fan hon.
Buddiannau Busnes Eraill
Os oes gan y prif gyswllt fuddiannau mewn busnes arall sydd wedi'i gofrestru gydag unrhyw un o bedair Asiantaeth Dalu'r DU, datganwch nhw trwy glicio'r botwm "Ychwanegu Buddiannau Busnes Eraill" a llenwi’r rhannau sydd ar y sgrin. Os nad oes ganddo fuddiannau mewn busnesau eraill, ewch yn syth i Unigolion Eraill.
Bydd RPW yn archwilio'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu er mwyn sicrhau bod y busnes y mae gan y prif gyswllt fudd ynddo yn wahanol i'r busnes rydych yn ei gofrestru.
Asiantaeth dalu
Trwy glicio ar y botwm "Buddiannau Busnes Eraill", byddwch yn mynd i'r sgrin Prif Gyswllt - Buddiannau Busnes Eraill. Yn gyntaf, bydd angen ichi gadarnhau â pha un o'r pedair Asiantaeth Dalu y mae'r busnes wedi'i gofrestru.
Cyfeirnod
Os ydych chi'n gwybod beth yw'ch cyfeirnod gyda'r Asiantaeth Dalu arall, nodwch e. Efallai’r cyfeirnod yw'r Cyfeirnod Cwsmer (CRN), Rhif Adnabod y Busnes (Business ID), Rhif Adnabod Busnes Unigol (SBI) neu Gyfeirnod Busnes (BRN).
Teitl masnachu
Bydd yn rhaid ichi gadarnhau Teitl Masnachu'ch busnes arall.
Cod Post / Cyfeiriad Gohebu
Gallwch ddefnyddio'r cod post i chwilio am gyfeiriad gohebu'r busnes arall a'i nodi.
Rôl
Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio rôl yr unigolyn yn y busnes orau.
Caiff cofnod o’r buddiannau busnes eraill ei ddangos ar sgrin y Prif Gyswllt. Gallwch ychwanegu buddiannau mewn busnesau eraill o dan enw'r Prif Gyswllt trwy glicio'r botwm "Ychwanegu Buddiannau Busnes Eraill". Business Interest” button.
Unigolion Eraill
Yn yr adran Unigolion Eraill, gallwch ychwanegu unigolion. Gallan nhw fod yn aelodau o’r busnes neu’n unigolion rydych wedi dweud sy’n cael mynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Bydd RPW ond yn cysylltu ag unigolion o fewn y busnes mewn cysylltiad â phrosesau arferol y busnes e.e. newid manylion y busnes. Os nad ydych chi am ychwanegu unrhyw unigolion eraill, cliciwch ar “Nesaf” i fynd yn syth i’r adran Cyflwyno.
Ychwanegu unigolyn
I ychwanegu unigolyn, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu Unigolyn".
Rhowch fanylion yr unigolyn. Rhaid cynnwys y cyfeiriad e-bost y bydd yn ei ddefnyddio i greu ei gyfrif One Login. Wedyn, cliciwch ar “Cadw a Dychwelyd”.
Ar ôl cadarnhau bod y crynodeb o’r manylion yn gywir, cliciwch ar “Nesaf” i barhau a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Os ydych am ychwanegu unigolyn arall, cliciwch ar “Safio ac Ychwanegu Un Arall”. Bydd cofnod o’r unigolion y byddwch wedi’u hychwanegu yn cael ei ddangos. Gallwch newid manylion yr unigolion eraill trwy glicio ar “Addasu” neu gallwch ddileu unigolyn trwy ddewis “Dileu”.
Ar ôl llenwi’r rhan hon, cliciwch ar “Nesaf”.
Wedi ichi gyflwyno’ch cais, er mwyn i’r unigolion sydd wedi’u hychwanegu at eich CRN allu mynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein, bydd angen ichi eu gwahodd i greu cyfrif One Login GOV.UK. Gweler yr adran isod am “Gwahodd unigolion i’ch CRN”.
Datganiadau ac Ymrwymiadau
Rhaid ichi gytuno ar y datganiadau a'r ymrwymiadau trwy glicio yn y blwch cyn cael cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid. Ni fydd modd clicio ar y botwm Nesaf nes eich bod yn ticio'r blwch.
Cyflwyno
Os ydych chi'n fodlon fod yr wybodaeth ar eich ffurflen yn gywir, cliciwch ar y botwm "Cyflwyno". Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid, ni fyddwch yn cael gwneud rhagor o newidiadau iddi. Bydd neges â chopi o'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid rydych wedi'i chyflwyno ar gael ar dudalen eich Negeseuon ar-lein cyn pen un diwrnod gwaith.
Cadarnhad eich bod wedi cyflwyno ffurflen
Bydd sgrin Cadarnhau Cyflwyno'r Cais yn rhoi ychydig o wybodaeth am eich cyflwyniad, gan gynnwys pwy sydd wedi cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid a phryd. Os ydych yn gwsmer sy'n bwriadu gwneud cais am grantiau a hawlio taliadau, mae'n bwysig eich bod yn printio copi o Ffurflen Manylion eich Banc gan ddefnyddio’r ddolen https://www.llyw.cymru/rpw-ar-lein-manylion-banc
Os nad ydych yn gallu printio copi, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid - mae'r manylion cysylltu yn yr adran Mwy o Arweiniad a Help yn y canllaw hwn. Ni fyddwn yn gallu prosesu'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid yn llawn tan y cawn gopi caled o fanylion eich banc. Rhaid i bob unigolyn sydd wedi datgan ei fod yn rhan o'ch busnes lofnodi'r ffurflen er mwyn i RPW allu ei phrosesu.
Nid oes angen ichi gyflwyno unrhyw ddogfennau ar-lein i gefnogi'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid; os hoffech brintio'r sgrin Cadarnhad eich bod wedi Cyflwyno Ffurflen, cliciwch ar y botwm "Printio'r Sgrin hon". Fel arall, cliciwch ar "Gadael". Byddwch wedyn yn mynd i dudalen hafan RPW Ar-lein. Mae'r dudalen hafan yn wahanol i Gwsmeriaid ac Asiant/Undebau Ffermwyr.
Gwahodd unigolion i’ch CRN
I wahodd unigolyn i’ch CRN, bydd angen ichi logio i mewn i’ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein, cliciwch ar fanylion y CRN a dewis ‘Rheoli Unigolion’.
Ar y sgrin Rheoli Unigolion, fe welwch restr o’r bobl sydd wedi’u cysylltu â’ch CRN.
Dewiswch yr unigolyn rydych am ei wahodd a chadarnhau bod yr wybodaeth am yr unigolyn hwnnw’n gywir. Gallwch ddiweddaru’r wybodaeth trwy glicio ar y botwm ‘Diweddaru’r wybodaeth hon’.
Cliciwch ar y botwm “Gwahodd”.
Byddwn yn gofyn ichi a ydych am wahodd yr unigolyn hwn a chaniatáu mynediad iddo ar-lein i’ch CRN. Cliciwch i gadarnhau a pharhau.
Bydd y rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yn eich busnes yn pennu pa lefel mynediad fydd ganddo i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Gweler Atodiad 3.
Os mai’r rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yw “Nid yw’n Aelod o’r busnes”, bydd angen ichi ddewis y lefel mynediad ar gyfer yr unigolyn o blith yr opsiynau canlynol:
- Mynediad Llawn
- Mynediad wedi’i deilwra
- Dim Mynediad
Darllenwch Atodiad 3 i ddysgu mwy am y lefelau mynediad.
Pan fydd y lefel wedi’i gosod, cliciwch ar Parhau a chadarnhau bod yr wybodaeth ar y sgrin yn gywir.
Os yw’r wybodaeth yn gywir, cliciwch ar Parhau.
Bydd cod gwahoddiad yn cael ei ddangos ar y sgrin. Gofalwch eich bod yn gwneud nodyn ohono. Bydd angen ichi wedyn roi’r cod hwn i’r unigolyn rydych yn ei wahodd i’ch CRN.
Pwysig: bydd y cod hwn yn fyw am 7 niwrnod.
Llenwi’r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid – Cwsmer sy’n bwriadu rheoli ei CPH yn unig neu gofrestru ei gwybodaeth yn unig
Gan eich bod bellach wedi cadarnhau'ch bod yn gwsmer a'r rheswm pam yr hoffech gael cyfrif RPW Ar-lein, bydd angen ichi nawr ateb cyfres o gwestiynau cyn cyflwyno'ch ffurflen gofrestru.
Beth yw’ch Math o Gwsmer?
Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio'ch prif waith orau.
Dewiswch “Nesaf” i fynd i adran Manylion Gohebu’r ffurflen. Neu fel arall, cliciwch ar “Manylion Gohebu” ar y ddewislen ar ochr chwith eich sgrin.
Manylion Gohebu
Defnyddir yr wybodaeth yn yr adran hon i adnabod eich busnes.
Teitl Masnachu / Busnes / Enw
Dyma'r enw fydd yn ymddangos ar bob gohebiaeth.
Cod Post a Chyfeiriad Gohebu
Dyma'r cyfeiriad rydych am i bob gohebiaeth gael ei anfon ato. Os byddwch yn nodi'ch cod post ac yn clicio ar "Chwilio am Gyfeiriad", gallwch ddewis eich cyfeiriad o'r rhestr. Os nad ydych yn gallu gweld eich cyfeiriad, gallwch ei deipio.
Rhif Ffôn
Nodwch rif ffôn y prif gyfeiriad gohebu
Dewis iaith
Nodwch ym mha iaith yr hoffech inni ohebu â chi (Cymraeg neu Saesneg).
Dull a ffefrir ar gyfer hysbysu
Gallwch ddewis sut yr hoffech i RPW Ar-lein gysylltu â chi i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi'i ychwanegu at eich cyfrif.
Gan ddibynnu ar ba ddull y byddwch yn ei ddewis, gofynnir ichi roi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol neu'r ddau. Byddwn yn eu defnyddio i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi cyrraedd ichi ei weld ar eich cyfrif RPW Ar-lein.
A yw’r prif gyfeiriad lle rydych yn cadw’ch da byw yr un â'ch cyfeiriad gohebu
Dyma’r cyfeiriad lle mae’r rhan fwyaf o’ch da byw yn cael eu cadw. Os "Nac ydy" yw'ch ateb, nodwch eich cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'ch cod post.
Cliciwch ar “Nesaf” i fynd i adran Prif Gyswllt y ffurflen. Fel arall, cliciwch ar “Prif Gyswllt” ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
Prif gyswllt
Y prif gyswllt yw'r person y dylwn siarad ag e/hi os oes ymholiadau.
Enw cyntaf / enw(au) canol / enw olaf
Rhowch enw llawn y prif gyswllt.
Eyfeiriad e-bost
Caiff y cyfeiriad e-bost ei anfon yn awtomatig at eich cyfeiriad e-bost One login GOV.UK.
Rhif ffôn / rhif ffôn symudol
Os ydy'r rhain fel y rhai a nodoch chi yn adran Manylion Gohebu'r ffurflen, does dim angen ichi eu nodi nhw yn y fan hon.
Cliciwch ar “Nesaf” i fynd i adran Unigolion Eraill y ffurflen. Fel arall, cliciwch ar “Unigolion Eraill” ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
Unigolion eraill
Gan eich bod wedi cadarnhau’ch bod am reoli’ch CPH trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein, nid oes angen ichi roi rhagor o wybodaeth i ni yn yr adran hon. Bydd RPW ond yn cysylltu â’r prif gyswllt mewn cysylltiad â phrosesau arferol y busnes e.e. newid manylion y busnes.
Cliciwch ar “Nesaf” i fynd i adran Cyflwyno y ffurflen. Fel arall, cliciwch ar “Cyflwyno” ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
Datganiadau ac ymrwymiadau
Rhaid ichi gytuno ar y datganiadau a'r ymrwymiadau trwy glicio yn y blwch cyn cael cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid. Ni fydd modd clicio ar y botwm Nesaf nes eich bod yn ticio'r blwch.
Cyflwyno
Os ydych chi'n fodlon fod yr wybodaeth ar eich ffurflen yn gywir, cliciwch ar y botwm "Cyflwyno". Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid, ni fyddwch yn cael gwneud rhagor o newidiadau iddi. Bydd neges â chopi o'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid rydych wedi'i chyflwyno ar gael ar dudalen eich Negeseuon ar-lein cyn pen un diwrnod gwaith.
Cadarnhad eich bod wedi cyflwyno ffurflen
Bydd sgrin Cadarnhau Cyflwyno'r Cais yn rhoi ychydig o wybodaeth am eich cyflwyniad, gan gynnwys pwy sydd wedi cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid a phryd.
Nid oes angen ichi gyflwyno unrhyw ddogfennau ar-lein i gefnogi'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid; os hoffech brintio'r sgrin Cadarnhad eich bod wedi Cyflwyno Ffurflen, cliciwch ar y botwm "Printio'r Sgrin hon". Fel arall, cliciwch ar "Gadael". Byddwch wedyn yn mynd i dudalen hafan RPW Ar-lein. Mae'r dudalen hafan yn wahanol i Gwsmeriaid ac Asiant/Undebau Ffermwyr.
Llenwi’r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid – Cwsmer sy’n bwriadu gwneud cais neu hawliad neu reoli ei CPH
Gan eich bod bellach wedi cadarnhau'ch bod yn gwsmer a'r rheswm pam yr hoffech gael cyfrif RPW Ar-lein, bydd angen ichi nawr ateb cyfres o gwestiynau cyn cyflwyno'ch ffurflen gofrestru.
Manylion cyffredinol
Beth yw’ch math o gwsmer?
Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio'ch prif waith orau. Peidiwch â dewis “Grŵp o Fusnesau” oni bai’ch bod yn bwriadu Datgan Diddordeb mewn grant sy'n caniatáu ceisiadau gan gwsmeriaid sy'n dod ynghyd i ffurfio grŵp.
Pwysig: ni wnaiff RPW brosesu’ch Ffurflen Cais Sengl (SAF) ond os ydych fel ateb i’r cwestiwn am Fath o Gwsmer yn ‘fusnes amaethyddol’ neu’n coedwigaeth’.
Beth yw eich statws busnes/cyfreithiol?
Dewiswch yr opsiwn sy debycaf i'ch prif statws cyfreithiol.
Dyddiad y ffurfiwyd y busnes
Cofnodwch y dyddiad pryd cafodd eich busnes ei ffurfio trwy deipio'r dyddiad â'r fformat dd/mm/bbbb neu drwy glicio ar y calendr.
A gafodd y busnes hwn ei sefydlu trwy rannu busnes sy'n bod eisoes?
Os ydy hwn yn fusnes newydd nad ydych wedi cael CRN ar ei gyfer eto, a gafodd ei ffurfio trwy hollti busnes?
Cyfeirnod y Cwmni a Chyfeirnod yr Elusen
Os mai Cwmni Cofrestredig neu Elusen Gofrestredig yw'ch statws busnes/cyfreithiol, yna rhowch y rhif cofrestru perthnasol inni.
Cliciwch ar "Nesaf" i fynd i adran Manylion Gohebu'r ffurflen.
Manylion gohebu
Teitl masnachu / busnes / enw
Dyma'r enw fydd yn ymddangos ar bob gohebiaeth.
Cod post a chyfeiriad gohebu
Dyma'r cyfeiriad rydych am i bob gohebiaeth gael ei anfon ato. Os byddwch yn nodi'ch cod post ac yn clicio ar "Chwilio am Gyfeiriad", gallwch ddewis eich cyfeiriad o'r rhestr. Os nad ydych yn gallu gweld eich cyfeiriad, gallwch ei deipio.
Rhif ffôn
Nodwch rif ffôn y prif gyfeiriad gohebu
Dewis iaith
Nodwch ym mha iaith yr hoffech inni ohebu â chi (Cymraeg neu Saesneg).
Dull a ffefrir ar gyfer hysbysu
Gallwch ddewis sut yr hoffech i RPW Ar-lein gysylltu â chi i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi'i ychwanegu at eich cyfrif.
Gan ddibynnu ar ba ddull y byddwch yn ei ddewis, gofynnir ichi roi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol neu'r ddau. Byddwn yn eu defnyddio i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi cyrraedd ichi ei weld ar eich cyfrif RPW Ar-lein.
A yw cyfeiriad eich prif fferm / adeilad yr un â'ch cyfeiriad gohebu?
Os nad ydych yn cofrestru busnes ffermio, dyma'r cyfeiriad lle mae prif weithgaredd y busnes yn cael ei gynnal. Os "Nac ydy" yw'ch ateb, nodwch eich cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'ch cod post.
A yw eich cyfeiriad masnachu yr un â'ch cyfeiriad gohebu?
Dyma'r cyfeiriad sydd ar eich cyfrifon busnes. Os "Nac ydy" yw'ch ateb, nodwch eich cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'ch cod post.
Ar ôl llenwi’r rhan hon, cliciwch ar ‘Nesaf’ i fynd yn eich blaen.
Prif gyswllt
Y prif gyswllt yw'r person y dylwn siarad ag e/hi os oes ymholiadau.
Enw cyntaf / enw(au) canol / enw olaf
Rhowch enw llawn y prif gyswllt.
Rôl yn y busnes
Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio rôl yr unigolyn yn y busnes orau. Mae’r atodiadau a restrir isod yn disgrifio’r rolau o fewn y busnes a’r lefel mynediad y caiff pob rôl ar gyfer mynd ar RPW Ar-lein. Cewch ragor o wybodaeth a diffiniadau yn yr Atodiadau isod.
Atodiad 1 – Rolau yn y Busnes a Diffiniadau
Atodiad 2 – Cydsyniadau a Chyfyngiadau Gweinyddol
Atodiad 3 – Y lefel mynediad ar gyfer pob rôl
Bydd pob unigolyn o fewn y rolau isod yn cael mynd yn awtomatig i’ch cyfrif RPW Ar-lein a bydd ganddynt bwerau gweinyddol. Os ydych am wneud cais am Grant, rhaid bod o leiaf un person wedi’i gofrestru yn y rôl hon ar eich CRN. Dim ond y rolau hyn sy’n cael derbyn neu wrthod Grant:
- perchennog/unig fasnachwr
- partner busnes
- cyfarwyddwr
- ysgutor
- cadeirydd/ymddiriedolwr
- gweinyddwr personol
- ysgrifennydd cwmni
- gweithiwr â’r awdurdod wedi’i ddirprwyo iddo
Nid yw’r rolau a restrir isod yn aelodau o’ch busnes, ond rydych am iddynt allu mynd i’ch cyfrif ar-lein. Bydd gofyn ichi bennu’r lefel mynediad rydych am ei rhoi iddyn nhw.
- unigolyn preifat
- priod/aelod o’r teulu
- gwarcheidwad
- cyflogai
- trysorydd / aelod o’r pwyllgor
- rheolwr
- gweinyddwr busnes
- derbynnydd
- contractiwr
- asiant / trydydd parti
- defnyddiwr ar-lein
- ysgrifennydd
Ble mae'r unigolyn yn byw?
Os ydy'r prif gyswllt yn byw yn un o'r cyfeiriadau rydych eisoes wedi'u rhoi inni fel Cyfeiriad Gohebu, Cyfeiriad y Brif fferm neu Gyfeiriad Masnachu, dewiswch y blwch priodol. Os yw'n byw rywle arall, dewiswch y blwch "Arall". Nodwch y cyfeiriad neu chwiliwch amdano gan ddefnyddio'r cod post.
Dyddiad geni
Nodwch ddyddiad geni'r prif gyswllt gan ddefnyddio'r fformat dd/mm/bbbb. Neu gliciwch ar y calendr.
Rhif yswiriant gwladol
Nodwch rif Yswiriant Gwladol y prif gyswllt.
Cyfeiriad e-bost
Caiff y cyfeiriad e-bost ei anfon yn awtomatig at eich cyfeiriad e-bost One login GOV.UK.
Rhif ffôn / rhif ffôn symudol
Os ydy'r rhain fel y rhai a nodoch chi yn adran Manylion Gohebu'r ffurflen, does dim angen ichi eu nodi nhw yn y fan hon.
Buddiannau busnes eraill
Os oes gan y prif gyswllt fuddiannau mewn busnes arall sydd wedi'i gofrestru gydag unrhyw un o bedair Asiantaeth Dalu'r DU, datganwch nhw trwy glicio'r botwm "Ychwanegu Buddiannau Busnes Eraill" a llenwi’r rhannau sydd ar y sgrin. Os nad oes ganddo fuddiannau mewn busnesau eraill, ewch yn syth i Unigolion Eraill.
Bydd RPW yn archwilio'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu er mwyn sicrhau bod y busnes y mae gan y prif gyswllt fudd ynddo yn wahanol i'r busnes rydych yn ei gofrestru.
Asiantaeth dalu
Trwy glicio ar y botwm "Buddiannau Busnes Eraill", byddwch yn mynd i'r sgrin Prif Gyswllt - Buddiannau Busnes Eraill. Yn gyntaf, bydd angen ichi gadarnhau â pha un o'r pedair Asiantaeth Dalu y mae'r busnes wedi'i gofrestru.
Cyfeirnod
Os ydych chi'n gwybod beth yw'ch cyfeirnod gyda'r Asiantaeth Dalu arall, nodwch e. Efallai’r cyfeirnod yw'r Cyfeirnod Cwsmer (CRN), Rhif Adnabod y Busnes (Business ID), Rhif Adnabod Busnes Unigol (SBI) neu Gyfeirnod Busnes (BRN).
Teitl masnachu
Bydd yn rhaid ichi gadarnhau Teitl Masnachu'ch busnes arall.
Cod post / cyfeiriad gohebu
Gallwch ddefnyddio'r cod post i chwilio am gyfeiriad gohebu'r busnes arall a'i nodi.
Rôl
Dewiswch yr opsiwn sy'n disgrifio rôl yr unigolyn yn y busnes orau.
Caiff cofnod o’r buddiannau busnes eraill ei ddangos ar sgrin y Prif Gyswllt. Gallwch ychwanegu buddiannau mewn busnesau eraill o dan enw'r Prif Gyswllt trwy glicio'r botwm "Ychwanegu Buddiannau Busnes Eraill". Business Interest” button.
Unigolion Eraill
Yn yr adran Unigolion Eraill, gallwch ychwanegu unigolion. Gallan nhw fod yn aelodau o’r busnes neu’n unigolion rydych wedi dweud sy’n cael mynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Bydd RPW ond yn cysylltu ag unigolion o fewn y busnes mewn cysylltiad â phrosesau arferol y busnes e.e. newid manylion y busnes. Os nad ydych chi am ychwanegu unrhyw unigolion eraill, cliciwch ar “Nesaf” i fynd yn syth i’r adran Cyflwyno.
Ychwanegu unigolyn
I ychwanegu unigolyn, cliciwch ar y botwm "Ychwanegu Unigolyn".
Rhowch fanylion yr unigolyn. Rhaid cynnwys y cyfeiriad e-bost y bydd yn ei ddefnyddio i greu ei gyfrif One Login. Wedyn, cliciwch ar “Cadw a Dychwelyd”.
Ar ôl cadarnhau bod y crynodeb o’r manylion yn gywir, cliciwch ar “Nesaf” i barhau a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Os ydych am ychwanegu unigolyn arall, cliciwch ar “Safio ac Ychwanegu Un Arall”. Bydd cofnod o’r unigolion y byddwch wedi’u hychwanegu yn cael ei ddangos. Gallwch newid manylion yr unigolion eraill trwy glicio ar “Addasu” neu gallwch ddileu unigolyn trwy ddewis “Dileu”.
Ar ôl llenwi’r rhan hon, cliciwch ar “Nesaf”.
Wedi ichi gyflwyno’ch cais, er mwyn i’r unigolion sydd wedi’u hychwanegu at eich CRN allu mynd i’ch cyfrif RPW Ar-lein, bydd angen ichi eu gwahodd i greu cyfrif One Login GOV.UK. Gweler yr adran isod am “Gwahodd unigolion i’ch CRN”.
Datganiadau ac ymrwymiadau
Rhaid ichi gytuno ar y datganiadau a'r ymrwymiadau trwy glicio yn y blwch cyn cael cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid. Ni fydd modd clicio ar y botwm Nesaf nes eich bod yn ticio'r blwch.
Cyflwyno
Os ydych chi'n fodlon fod yr wybodaeth ar eich ffurflen yn gywir, cliciwch ar y botwm "Cyflwyno". Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid, ni fyddwch yn cael gwneud rhagor o newidiadau iddi. Bydd neges â chopi o'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid rydych wedi'i chyflwyno ar gael ar dudalen eich Negeseuon ar-lein cyn pen un diwrnod gwaith.
Cadarnhad eich bod wedi cyflwyno ffurflen
Bydd sgrin Cadarnhau Cyflwyno'r Cais yn rhoi ychydig o wybodaeth am eich cyflwyniad, gan gynnwys pwy sydd wedi cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid a phryd. Os ydych yn gwsmer sy'n bwriadu gwneud cais am grantiau a hawlio taliadau, mae'n bwysig eich bod yn printio copi o Ffurflen Manylion eich Banc gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://www.llyw.cymru/rpw-ar-lein-manylion-banc
Os nad ydych yn gallu printio copi, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid - mae'r manylion cysylltu yn yr adran Mwy o Arweiniad a Help yn y canllaw hwn. Ni fyddwn yn gallu prosesu'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid yn llawn tan y cawn gopi caled o fanylion eich banc. Rhaid i bob unigolyn sydd wedi datgan ei fod yn rhan o'ch busnes lofnodi'r ffurflen er mwyn i RPW allu ei phrosesu.
Nid oes angen ichi gyflwyno unrhyw ddogfennau ar-lein eraill i gefnogi'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid; os hoffech brintio'r sgrin Cadarnhad eich bod wedi Cyflwyno Ffurflen, cliciwch ar y botwm "Printio'r Sgrin hon". Fel arall, cliciwch ar "Gadael". Byddwch wedyn yn mynd i dudalen hafan RPW Ar-lein. Mae'r dudalen hafan yn wahanol i Gwsmeriaid ac Asiant/Undebau Ffermwyr.
Gwahodd unigolion i’ch CRN
I wahodd unigolyn i’ch CRN, bydd angen ichi logio i mewn i’ch cyfrif One Login GOV.UK. Ar dudalen hafan RPW Ar-lein, cliciwch ar fanylion y CRN a dewis ‘Rheoli Unigolion’.
Ar y sgrin Rheoli Unigolion, fe welwch restr o’r bobl sydd wedi’u cysylltu â’ch CRN.
Dewiswch yr unigolyn rydych am ei wahodd a chadarnhau bod yr wybodaeth am yr unigolyn hwnnw’n gywir. Gallwch ddiweddaru’r wybodaeth trwy glicio ar y botwm ‘Diweddaru’r wybodaeth hon’.
Cliciwch ar y botwm “Gwahodd”.
Byddwn yn gofyn ichi a ydych am wahodd yr unigolyn hwn a chaniatáu mynediad iddo ar-lein i’ch CRN. Cliciwch i gadarnhau a pharhau.
Bydd y rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yn eich busnes yn pennu pa lefel mynediad fydd ganddo i’ch cyfrif RPW Ar-lein. Gweler Atodiad 3.
Os mai’r rôl rydych wedi’i rhoi i’r unigolyn yw “Nid yw’n Aelod o’r busnes”, bydd angen ichi ddewis y lefel mynediad ar gyfer yr unigolyn o blith yr opsiynau canlynol:
Mynediad Llawn
Mynediad wedi’i deilwra
Dim Mynediad
Darllenwch Atodiad 3 i ddysgu mwy am y lefelau mynediad.
Pan fydd y lefel wedi’i gosod, cliciwch ar Parhau a chadarnhau bod yr wybodaeth ar y sgrin yn gywir.
Os yw’r wybodaeth yn gywir, cliciwch ar Parhau
Bydd cod gwahoddiad yn cael ei ddangos ar y sgrin. Gofalwch eich bod yn gwneud nodyn ohono. Bydd angen ichi wedyn roi’r cod hwn i’r unigolyn rydych yn ei wahodd i’ch CRN.
Pwysig: bydd y cod hwn yn fyw am 7 niwrnod.
Llenwi'r Ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid - Asiant neu Undeb Ffermwyr
Gan eich bod wedi cadarnhau'ch bod yn Asiant neu Undeb Ffermwyr, bydd angen ichi ateb cyfres o gwestiynau cyn cael cyflwyno'r ffurflen gofrestru.
Manylion cyffredinol
Nid oes rhagor o gwestiynau ichi eu hateb yn adran Manylion Cyffredinol y ffurflen.
Cliciwch ar "Nesaf" i fynd i adran Manylion Gohebu'r ffurflen. Neu dewiswch "Manylion Cofrestru" ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
Manylion gohebu
Defnyddir yr wybodaeth yn yr adran hon i adnabod eich busnes.
Teitl masnachu / busnes / enw
Dyma'r enw fydd yn ymddangos ar bob gohebiaeth.
Cod post a chyfeiriad gohebu
Dyma'r cyfeiriad rydych am i bob gohebiaeth gael ei anfon ato. Os byddwch yn nodi'ch cod post ac yn clicio ar "Chwilio am Gyfeiriad", gallwch ddewis eich cyfeiriad o'r rhestr. Os nad ydych yn gallu gweld eich cyfeiriad, gallwch ei deipio.
Rhif ffôn
Nodwch rif ffôn y prif gyfeiriad gohebu
Dewis iaith
Nodwch ym mha iaith yr hoffech inni ohebu â chi (Cymraeg neu Saesneg).
Dull a ffefrir ar gyfer hysbysu
Gallwch ddewis sut yr hoffech i RPW Ar-lein gysylltu â chi i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi'i ychwanegu at eich cyfrif.
Gan ddibynnu ar ba ddull y byddwch yn ei ddewis, gofynnir ichi roi cyfeiriad e-bost neu rif ffôn symudol neu'r ddau. Byddwn yn eu defnyddio i roi gwybod ichi bod dogfen/llythyr newydd wedi cyrraedd ichi ei weld ar eich cyfrif RPW Ar-lein.
Prif gyswllt
Y prif gyswllt yw'r person y dylwn siarad ag e/hi os oes ymholiadau.
Enw cyntaf / enw(au) canol / enw olaf
Rhowch enw llawn y prif gyswllt.
Caiff y cyfeiriad e-bost ei anfon yn awtomatig at eich cyfeiriad e-bost One login GOV.UK.
Cyfeiriad e-bost
Caiff y cyfeiriad e-bost ei anfon yn awtomatig at eich cyfeiriad e-bost One login GOV.UK.
Rhif ffôn / rhif ffôn symudol
Os ydy’r rhain fel y rhai a nodoch chi yn adran Manylion Gohebu’r ffurflen, does dim angen ichi eu nodi nhw yn y fan hon.
Cliciwch ar “Nesaf” i fynd i adran Unigolion Eraill y ffurflen. Fel arall, cliciwch ar “Unigolion Eraill” ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
Unigolion eraill
Gan eich bod wedi cadarnhau’ch bod yn Asiant neu Undeb Ffermwyr, nid oes angen ichi roi rhagor o wybodaeth i ni yn yr adran hon. Bydd RPW ond yn cysylltu â’r prif gyswllt mewn cysylltiad â phrosesau arferol y busnes e.e. newid manylion y busnes.
Cliciwch ar “Nesaf” i fynd i adran Cyflwyno y ffurflen. Fel arall, cliciwch ar “Cyflwyno” ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin
Cyflwyno
Cyn cyflwyno’ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid, cewch gyfle i weld yr holl wybodaeth rydych wedi’i nodi. Bydd y crynodeb yn dangos unrhyw gamgymeriadau sydd ar y ffurflen. Bydd yn rhaid ichi gywiro’r camgymeriadau cyn cyflwyno’r ffurflen.
Sgroliwch i lawr y dudalen i weld y crynodeb.
Dewiswch “Yn ôl” i fynd i adrannau blaenorol y ffurflen os ydych am wneud newidiadau, neu dewiswch yr adran berthnasol ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
Pan fyddwch chi'n hapus bod yr wybodaeth ar y ffurflen yn gywir, gallwch ddewis "Nesaf" i fynd i adran Datganiadau ac Ymrwymiadau'r ffurflen. Neu dewiswch "Datganiadau ac Ymrwymiadau" ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin.
Os ydy’r system wedi cael hyd i gamgymeriadau, fe welwch y sgrin ganlynol:
Gallwch sgrolio i lawr i weld y camgymeriadau; byddan nhw wedi'u lliwio'n goch.
Dewiswch "Yn ôl" i fynd i adrannau'r ffurflen lle mae yna gamgymeriadau neu dewiswch yr adran berthnasol ar y ddewislen ar ochr chwith y sgrin (bydd croes goch yn hytrach na thic gwyrdd wrth yr adrannau sydd â chamgymeriadau).
Pan fydd yr holl gamgymeriadau wedi'u cywiro a'ch bod yn hapus bod yr wybodaeth ar y ffurflen yn gywir, gallwch ddewis "Nesaf" i fynd i adran Datganiadau ac Ymrwymiadau'r ffurflen.
Datganiadau ac ymrwymiadau
Rhaid ichi gytuno ar y datganiadau a'r ymrwymiadau trwy glicio yn y blwch cyn cael cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid. Ni fydd modd clicio ar y botwm Nesaf nes eich bod yn ticio'r blwch.
Cyflwyno
Os ydych chi'n fodlon fod yr wybodaeth ar eich ffurflen yn gywir, cliciwch ar y botwm "Cyflwyno". Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid, ni fyddwch yn cael gwneud rhagor o newidiadau iddi. Bydd neges â chopi o'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid rydych wedi'i chyflwyno ar gael ar dudalen eich Negeseuon ar-lein cyn pen un diwrnod gwaith.
Cadarnhad eich bod wedi cyflwyno ffurflen
Bydd sgrin Cadarnhau Cyflwyno'r Cais yn rhoi ychydig o wybodaeth am eich cyflwyniad, gan gynnwys pwy sydd wedi cyflwyno'r ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid a phryd. Os ydych yn gwsmer sy'n bwriadu gwneud cais am grantiau a hawlio taliadau, mae'n bwysig eich bod yn printio copi o Ffurflen Manylion eich Banc gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://www.llyw.cymru/rpw-ar-lein-manylion-banc Os nad ydych yn gallu printio copi, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid - mae'r manylion cysylltu yn yr adran Mwy o Arweiniad a Help yn y canllaw hwn. Ni fyddwn yn gallu prosesu'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid yn llawn tan y cawn gopi caled o fanylion eich banc. Rhaid i bob unigolyn sydd wedi datgan ei fod yn rhan o'ch busnes lofnodi'r ffurflen er mwyn i RPW allu ei phrosesu.
Nid oes angen ichi gyflwyno unrhyw ddogfennau ar-lein i gefnogi'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid; os hoffech brintio'r sgrin Cadarnhad eich bod wedi Cyflwyno Ffurflen, cliciwch ar y botwm "Printio'r Sgrin hon". Fel arall, cliciwch ar "Gadael". Byddwch wedyn yn mynd i dudalen hafan RPW Ar-lein. Mae'r dudalen hafan yn wahanol i Gwsmeriaid ac Asiant/Undebau Ffermwyr.
Tudalen Hafan RPW Ar-lein - Cwsmeriaid
Dyma'r dudalen gyntaf welwch chi pan fyddwch chi'n mynd i'ch cyfrif RPW Ar-lein. Cofiwch, fel cwsmer dros dro, ni chaiff unrhyw gais neu Ddatganiad o Ddiddordeb y byddwch yn ei gyflwyno yn cael ei brosesu'n llawn tan ichi glywed gan RPW ei fod wedi archwilio'ch ffurflen Cofrestru Cwsmeriaid.
Os mai'r cyfan rydych am ei wneud yw rheoli'ch CPH, ni fydd ceisiadau neu Ddatganiadau o Ddiddordeb y byddwch yn eu cyflwyno yn cael eu prosesu gan eich bod wedi dangos nad ydych am geisio am grant na hawlio taliad.
Os oes gennych fwy nag un CRN, yna byddwch yn gallu gweld a chlicio ar bob un o’ch CRNs ar eich tudalen hafan. Os ydych am fynd yn ôl i’r sgrin ddewis, yna cliciwch ar ‘Eich proffil’ a dewiswch yr opsiwn ‘Gweld neu greu CRN’.
Bar dewislenni
Ar hyd y bar dewislenni gwyrdd ar dop y sgrin, fe welwch yr opsiynau canlynol:
Manylion fy CRN
Dewiswch yr opsiwn hwn i weld neu newid eich manylion. Gall hynny gynnwys ychwanegu unigolion, newid manylion cysylltu ac ychwanegu'ch buddiannau busnes. Dyma ble welwch chi fanylion eich hawliau a pha rai sydd ar gael a ddim ar gael ichi eu defnyddio i gael taliad.
Gallwch weld eich manylion bancio a manylion y taliadau sydd wedi'u gwneud. Fe welwch ei manylion cysylltu yn adran Mwy o Arweiniad a Help y canllaw hwn. Gallwch newid eich Dewisiadau Ar-lein neu ychwanegu neu newid eich asiantwyr, cynghorwyr neu gynrychiolwyr undebau ffermwyr.
Tra’ch bod yn gwsmer dros dro, ni fyddwch yn cael newid eich manylion. Byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch Cyfrif RPW Ar-lein pan fyddwn wedi prosesu’ch cais i Gofrestru fel Cwsmer.
Tir
Dyma ble cewch chi weld a chyflwyno’ch ffurflen Rheoli fy Nhir i reoli manylion eich CPH (rhif daliad) ac ychwanegu manylion newydd. Fe welwch wybodaeth hefyd ar eich map SAF a’r Map Rhyngweithiol.
Gohebiaeth
Dyma ble mae holl ddogfennau Taliadau Gwledig Cymru diweddar yn cael eu cadw. Gallwch ateb cwestiynau a lanlwytho gwybodaeth ategol o'r dudalen Negeseuon. Bydd y rhif wrth ochr dde'r teitl Negeseuon yn dangos faint o negeseuon sydd gennych heb eu darllen.
Ffurflenni
Dylech glicio ar yr opsiwn hwn i wneud cais neu hawliad newydd neu i weld beth sy'n digwydd i gais rydych wedi'i wneud eisoes.
Contractau a Grantiau Bach
Dyma ble gwelwch chi restr o'ch contractau a'u statws. Gallwch Ddatgan Diddordeb neu weld Datganiadau sydd wedi'u gwneud eisoes. Byddwch hefyd yn gallu lanlwytho dogfennau o'r fan hon i gefnogi'ch hawliadau. Dyma elfennau pwysig eraill ar dudalen hafan RPW Ar-lein:
Planiau coetir
Dyma ble y gallwch weld a diweddaru’ch plan coetir.
Negeseuon
I weld eich negeseuon i gyd, ewch i'r tab Gohebiaeth.
Dolenni defnyddiol
Ar ochr dde'r dudalen hafan, mae rhestr o ddolenni defnyddiol.
Dechrau ffurflen
Fe welwch ddolenni cyflym at rai o'ch ceisiadau a hawliadau ar waelod y dudalen hafan. I weld yr holl geisiadau, ewch i'r dudalen Ffurflenni.
Tudalen Hafan RPW Ar-lein – Asiantau ac Undebau Ffermio
Y dudalen gyntaf welwch chi ar RPW Ar-lein yw'r sgrin Dewiswch y Cwsmer. Bydd y sgrin yn dangos yr holl gwsmeriaid rydych yn delio â nhw.
Gan eich bod yn Asiant neu’n Undeb Ffermwyr newydd, ni fydd gennych unrhyw gysylltiadau ar hyn o bryd. Ni fyddwch yn cael creu cysylltiadau tan y bydd RPW wedi cynnal ei archwiliad o’ch busnes. Cewch wybod pan fydd y rhain wedi'u cynnal trwy'r dull cyfathrebu y byddwch wedi'i ddewis.
Am ragor o arweiniad ynghylch cysylltiadau, ewch i www.llyw.cymru/rpwarlein.
Fel cwsmer sydd â sawl CRN, bydd asiant sydd â sawl CRN yn agor sgrin i ddewis CRN.
Cliciwch ar y botwm ‘Hafan Asiant’ i weld manylion Asiant:
Bar dewislenni
Ar hyd y bar dewislenni gwyrdd ar dop y sgrin, fe welwch yr opsiynau canlynol:
Manylion fy CRN
Dewiswch yr opsiwn hwn i weld neu newid eich manylion. Gall hynny gynnwys ychwanegu unigolion, newid manylion cysylltu ac ychwanegu'ch buddiannau busnes.
Dyma ble welwch chi fanylion eich hawliau a pha rai sydd ar gael a ddim ar gael ichi eu defnyddio i gael taliad. Gallwch weld eich manylion bancio a manylion y taliadau sydd wedi'u gwneud. I newid eich manylion bancio, dylech lenwi ffurflen manylion eich banc gan nad oes modd newid manylion eich banc ar-lein.
I gael copi, ewch i www.llyw.cymru/rpwarlein neu holwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid. Fe welwch ei manylion cysylltu yn adran Mwy o Arweiniad a Help y canllaw hwn. Gallwch newid eich Dewisiadau Ar-lein neu ychwanegu neu newid eich asiantwyr, cynghorwyr neu gynrychiolwyr undebau ffermwyr. Tra’ch bod yn gwsmer dros dro, ni fyddwch yn cael newid eich manylion.
Byddwn yn rhoi gwybod ichi trwy’ch Cyfrif RPW Ar-lein pan fyddwn wedi prosesu’ch cais i Gofrestru fel Cwsmer.
Gohebiaeth
Dyma ble mae holl ddogfennau Taliadau Gwledig Cymru diweddar yn cael eu cadw. Gallwch ateb cwestiynau a lanlwytho gwybodaeth ategol o'r dudalen Negeseuon. Bydd y rhif wrth ochr dde'r teitl Negeseuon yn dangos faint o negeseuon sydd gennych heb eu darllen.
Mwy o arweiniad a help
I gael mwy o help ar-lein, ewch i www.llyw.cymru/rpwarlein.
I siarad â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid, ffoniwch 0300 062 5004. Ei horiau agor yw:
Llun - Gwener 9.00am tan 4.00pm.
Gallwch anfon neges atyn nhw hefyd trwy'ch cyfrif RPW Ar-lein.
Gall ein Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid siarad â chi hefyd am weithdai a'r cymorth un i un sydd ar gael yn ystod cyfnod y SAF ac ar adegau pwysig eraill.
Am ragor o wybodaeth am gynlluniau Taliadau Gwledig Cymru, ewch i: www.llyw.cymru/ffermio
Defnyddio a hyfforddiant mewn cyfrifiaduron
Mae'r wefan yn www.computercourseswales.co.uk rhestru cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus yn ogystal â chyrsiau hyfforddi sydd ar gael ledled Cymru.
Mae yna nifer fach o gyfrifiaduron ar gael hefyd yn rhai o swyddfeydd Llywodraeth Cymru.
Band eang
Mae band eang cyflym wrthi’n cael ei ddarparu ledled Cymru neu gallwch wneud cais am grant i gysylltu â band eang cyflym trwy ffyrdd eraill.
Ewch i www.llyw.cymru/bandeang am ragor o wybodaeth.
Atodiad 1: rolau yn y busnes a diffiniadau
Perchennog / unig fasnachwr: unigolyn sy'n berchen ar y busnes heb unrhyw bartneriaid busnes cysylltiedig
Partner busnes: unigolyn sy'n gyd-berchennog ar y busnes
Cyfarwyddwr Unigolyn sy'n goruchwylio'r gwaith o redeg y busnes a'i amcanion
Unigolyn preifat: unigolyn nad yw'n gysylltiedig â busnes
Priod/aelod o'r teulu Gŵr/gwraig neu aelod agos arall o'r teulu
Gwarcheidwad: unigolyn sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am ofalu am rywun nad yw'n gallu rheoli ei faterion ei hun e.e. plentyn o dan 18 oed
Cyflogai: unigolyn a gyflogir gan y busnes
Gweithiwr gydag awdurdod dirprwyedig: unigolyn sy’n derbyn yr awdurdod ffurfiol gan y busnes i gyflawni tasgau a gwneud penderfyniadau ar ran y busnes
Ysgutor: unigolyn sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am gyflawni dyletswyddau ewyllys
Cadeirydd/ymddiriedolwr: unigolyn sy'n cymryd cyfrifoldeb am reoli arian neu asedau sydd wedi'u neilltuo mewn ymddiriedolaeth er budd y busnes
Trysorydd/aelod o'r pwyllgor: unigolyn a benodir i weinyddu neu reoli asedau ariannol a rhwymedigaethau busnes/aelod o bwyllgor
Rheolwr: unigolyn sy'n gyfrifol am reoli neu weinyddu sefydliad neu grŵp o staff
Ysgrifennydd y cwmni: unigolyn sydd ag arbenigedd mewn llywodraethiant corfforaethol, cydymffurfedd cyfreithiol a rheolaeth weinyddol
Gweinyddwr busnes: unigolyn sy'n cymryd camau ar ran y busnes ond nad yw'n aelod o'r busnes (nid yw'n bartner/cyfarwyddwr ac ati)
Gweinyddwr personol: unigolyn sy'n cynrychioli'r busnes yn dilyn hysbysiad o farwolaeth
Derbynnydd: unigolyn sy'n gysylltiedig â'r busnes pe bai'r busnes yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr
Contractwr: unigolyn neu gwmni sy'n ymgymryd â chontract i ddarparu gwasanaeth neu wneud swydd
Asiant / trydydd parti: unigolyn sy'n gweithredu ar ran person neu grŵp/busnes arall
Defnyddiwr ar-lein: unigolyn sydd â chaniatâd cyfyngedig ar-lein
Ysgrifennydd: unigolion a gyflogir i gyflawni tasgau gweinyddol
Atodiad 2: cydsyniadau a chyfyngiadau gweinyddwyr
Rôl yr aelod
Rolau Aelodau’r Busnes – bob un yn cael bod yn Weinyddwyr Ar-lein
- perchennog/unig fasnachwr
- partner busnes
- cyfarwyddwr
- ysgutor
- cadeirydd/ymddiriedolwr
- gweinyddwr personol
- ysgrifennydd cwmni
- gweinyddwr y mae awdurdod wedi’i ddirprwyo iddo
Rolau’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes – Gweinyddwr y Busnes sy’n rheoli pwy sy’n cael bod yn Weinyddwr Ar-lein
- unigolyn preifat
- priod/aelod o’r teulu
- gwarcheidwad
- cyfogai
- trysorydd/aelod o’r pwyllgor
- rheolwr
- gweinyddwr y busnes
- derbynnydd
- contractiwr
- asiant / trydydd parti
- defnyddiwr ar-lein
- ysgrifennydd
Rolau Aelodau’r busnes a’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes
Cydsyniadau gweinyddol
- gweinyddwr fydd y cyntaf i gofrestru fel defnyddiwr One Login, waeth beth yw ei rôl yn y busnes. (Yr unigolyn wnaeth greu’r CRN neu symud iddo)
- mae gan Weinyddwr yr hawl i wahodd unigolion a rheoli’r mynediad/cydsyniadau.
- gweinyddwyr sy’n gyfrifol am ddweud pwy sydd â hawl gweinyddol i fynd ar gyfrifon ar-lein
- caiff Gweinyddwyr ddiddymu hawliau gweinyddu’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes
- caiff Gweinyddwyr newid rolau’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes i fod yn Rolau Aelodau’r Busnes
- ni cheir newid rôl Aelod o’r Busnes ond i Rôl arall Aelod o’r Busnes
- caiff unigolyn nad yw’n Aelod o’r busnes adael y busnes ar-lein
- caiff Gweinyddwr ofyn i’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes adael y cyfrif ar-lein.
Rolau Aelodau’r busnes a’r rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes
Cyfyngiadau gweinyddol
- ni chaiff gweinyddwr arall ddileu hawliau gweinyddu unigolyn sydd â Rôl Aelod o’r Busnes i fynd i gyfrif ar-lein
- ni chaiff gweinyddwr newid rôl aelod o’r busnes i fod yn rôl unigolyn nad yw’n Aelod o’r busnes
- ni chaiff Aelod o’r Busnes adael y busnes ar-lein
- ni chaiff Gweinyddwr ofyn i Aelod o’r busnes adael y CRN
Am ragor o arweiniad am y cyfyngiadau uchod, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Atodiad 3 – Lefel Mynediad yn ôl y Rôl yn y Busnes
Mynediad diogelwch a gweinyddwr
Aelod o’r busnes
Mynediad Llawn ac yn Weinyddwr Ar-lein
Dim ond Aelod o’r Busnes sy’n cael Derbyn neu Wrthod Dyfarniad Grant.
Rôl y cwsmer yn y busnes
- perchennog/unig fasnachwr
- partner busnes
- cyfarwyddwr
- ysgutor
- cadeirydd/ymddiriedolwr
- gweinyddwr personol
- ysgrifennydd cwmni
- gweinyddwr y mae awdurdod wedi’i ddirprwyo iddo
Cydsyniadau
Mae gan Aelod o’r Busnes yn cael mynd i’r cyfrif RPW llawn a gweld a newid manylion sy’n gysylltiedig â’r CRN gan gynnwys:
- manylion y busnes/unigolion
- ffurflenni a cheisiadau
- dyfarniadau grant – gan gynnwys eu derbyn neu eu gwrthod.
- dogfennau ariannol a hanes taliadau
- plan coetir
- negeseuon
Mynediad diogelwch a gweinyddwr
Rheini nad ydynt yn Aelod o’r busnes
Mynediad llawn (ond nid hawl i dderbyn/gwrthod grantiau)
Gweinyddwr y Busnes sy’n rheoli pwy nad yw’n aelod o’r busnes sy’n cael bod yn Weinyddwr Ar-lein
Rôl y cwsmer yn y busnes
- unigolyn preifat
- priod/aelod o’r teulu
- gwarcheidwad
- cyflogai cyflog
- trysorydd/aelod o’r pwyllgor
- rheolwr
- gweinyddwr y busnes
- derbynnydd
- contractiwr
- asiant / trydydd parti
- defnyddiwr ar-lein
- ysgrifennydd
Cydsyniadau
Mae gan y rheini sydd â hawliau mynediad llawn ond nad ydynt yn Aelod o’r busnes yr un cydsyniadau ag aelodau’r busnes, ac eithrio: nid ydynt yn cael derbyn neu wrthod dyfarniad grant. Maen nhw’n cael gweld, newid a chyflwyno manylion y CRN gan gynnwys:
- manylion y busnes/unigolion
- ffurflenni a cheisiadau
- dyfarniadau grant – gan gynnwys eu derbyn neu eu gwrthod.
- dogfennau ariannol a hanes taliadau
- plan coetir
- negeseuon
Mynediad diogelwch a gweinyddwr
Y rheini nad ydynt yn aelod o’r busnes
Mynediad wedi’i deilwra
Mae’r opsiwn yn caniatáu ichi greu cydsyniadau yn arbennig i’r unigolyn (ond nid i dderbyn/gwrthod grant )
Gweinyddwr y Busnes sy’n rheoli pwy nad yw’n Aelod o’r busnes sy’n cael bod yn Weinyddwr Ar-lein
Rôl y cwsmer yn y busnes
- unigolyn preifat
- priod/aelod o’r teulu
- gwarcheidwad
- cyflogai cyflog
- trysorydd/aelod o’r pwyllgor
- rheolwr
- gweinyddwr y busnes
- derbynnydd
- contractiwr
- asiant / trydydd parti
- defnyddiwr ar-lein
- ysgrifennydd
Cydsyniadau
Pan fyddwch chi’n dewis ‘Mynediad wedi’i deilwra’, fe welwch y dudalen ‘Newid Mynediad’ gyda’r teitlau canlynol:
- cwsmer
- dyfarnu grantiau (eu gweld yn unig)
- ceisiadau
- hawliadau
- gwybodaeth ariannol
- planiau
- negeseuon
Mae tair lefel mynediad o dan yr opsiwn Mynediad wedi’i Deilwra, sef:
- Mynediad cyfyngedig, sef gweld yn unig.
- Mynediad llawn, sy’n caniatáu Ceisiadau a Hawliadau, gyda chyflwyniad neu heb gyflwyniad. Bydd yn rhoi mynediad llawn i rannau eraill cyfrif y busnes fel a ddangosir ar y rhestr uchod.
- Dim Mynediad. Ni chewch fynd i unrhyw ran o’r cyfrif
Fe welwch y cydsyniadau ar gyfer pob lefel mynediad trwy glicio ar y ddolen las o dan bob cwymplen, ar y dudalen Mynediad wedi’i deilwra
Wrth ddewis Mynediad wedi’i Deilwra, rydych yn cael addasu’r cydsyniadau yn ôl yr unigolyn. Gallwch roi cydsyniad i unigolyn gyflwyno Cais neu Hawliad trwy ddewis yr opsiwn priodol. Mae’r cydsyniadau Ceisio a Hawlio i’w gweld isod.
Ceisiadau gyda Mynediad Llawn – gan gynnwys eu cyflwyno
- Dechrau/parhau/cyflwyno ffurflen (heb hawlio)
- Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
- Lanlwytho dogfennau
- Gweld mapiau
- Trosglwyddo hawliau BPS (gan gynnwys eu cyflwyno)
- Rheoli CPH
- Creu a chyflwyno Prosiect grantiau Bach yr Amgylchedd
- Dechrau/parhau/cyflwyno Rheoli fy Nhir.
Ceisiadau gyda Mynediad Llawn – ond nid eu cyflwyno
- Dechrau/parhau ffurflen (heb hawlio)
- Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
- Lanlwytho dogfennau
- Gweld mapiau
- Trosglwyddo hawliau BPS (nid eu cyflwyno)
- Rheoli CPH (nid eu cyflwyno)
- Creu Prosiect Grantiau Bach yr Amgylchedd
- Dechrau/parhau Rheoli fy Nhir.
Hawliadau gyda Mynediad Llawn – gan gynnwys eu cyflwyno.
- Dechrau/parhau/cyflwyno ffurflen (hawliadau)
- Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
- Lanlwytho dogfennau
Hawliadau gyda Mynediad Llawn – ond nid eu cyflwyno
- Dechrau/parhau ffurflen (hawliadau)
- Gweld dogfennau (heb fod yn rhai ariannol)
- Lanlwytho dogfennau