Neidio i'r prif gynnwy

Mae rownd Cynllun Ardrethi Busnes yr Ardaloedd Menter wedi agor ar gyfer busnesau yn wyth Ardal Fenter Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar fentrau bach a chanolig sy’n tyfu, busnesau nwydd neu fusnesau sy’n cynyddu maint eu gweithlu. 

Rhoddir ystyriaeth hefyd i weithgareddau busnes eraill sy’n ymwneud â sectorau penodol, cynyddu cynhyrchiant ac arloesi/ymchwil a datblygu. 

Bydd cyfle ichi ymgeisio am ostyngiad ym mlwyddyn ariannol 2016/17 tan ddydd Gwener, 31 Mawrth 2017.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Mae gan rownd ddiweddaraf Cynllun Ardrethi’r Ardaloedd Menter y potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fusnesau trwy eu helpu i dorri’n sylweddol ar eu biliau ardrethi.  Byddai hynny’n gwella’u llif arian ac yn eu galluogi i fuddsoddi i helpu’u busnesau i dyfu. 

“Lansion ni’r cynllun yn 2012 a rhwng 2012-2016, mae rhyw £9miliwn wedi’i gynnig i ragor na 200 o fusnesau cymwys yn saith o’n Hardaloedd Menter.  Estynnwyd y cynnig i Ardal Fenter Glannau Port Talbot ar ôl ei dynodi’r llynedd.” 

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun, gall busnesau ffonio llinell gymorth Busnes Cymru ar radffôn 03000 6 03000 neu e-bostio tîm yr EZBRS yn EZBRS@wales.gsi.gov.uk am ffurflen gais.