Neidio i'r prif gynnwy

Yn egluro ein cyfrifoldebau a sut yr ydym yn gweithio gyda chyrff eraill yn ystod pandemig coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rôl Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ymateb iechyd y cyhoedd i bandemig y coronafeirws yng Nghymru.

Mae'n gwneud hyn drwy arfer ei phwerau cyfreithiol i osod cyfyngiadau sy'n atal neu'n arafu lledaeniad y coronafeirws, a thrwy oruchwylio GIG Cymru, sy'n trin y rhai sydd wedi eu taro’n wael.

Mae hefyd yn rhoi cymorth ychwanegol ar ben yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU i fusnesau ac unigolion sydd wedi eu taro gan effaith economaidd mesurau iechyd y cyhoedd a gymerwyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r llywodraethau eraill yn y DU i ddilyn dull gweithredu "pedair gwlad" cyson pan fo hynny’n fuddiol ac yn briodol. Cydlynir hyn gan Lywodraeth y DU drwy gyfarfodydd y pwyllgor argyfwng wrth gefn “COBRA”, sydd yn ei dro yn derbyn cyngor gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE).

Gwnaed y penderfyniad i osod cyfyngiadau symud (“lockdown”) ar draws y DU ar 23 Mawrth 2020 yn dilyn cyfarfod COBRA, ar sail cyngor gan SAGE. Fodd bynnag, mae gweithredu'r cyfyngiadau symud yn fater i Lywodraeth y DU o ran Lloegr yn unig.  Llywodraeth Cymru sydd â’r pŵer i osod y cyfyngiadau symud yng Nghymru, ac mae gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn ynghylch sut y dylid gweithredu’r cyfyngiadau hynny.

Beth sy'n digwydd yn Llywodraeth Cymru?

Gweinidogion Cymru

Yn Llywodraeth Cymru, caiff yr holl benderfyniadau pwysig mewn perthynas ag argyfwng y coronafeirws eu cymryd neu eu cymeradwyo gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, mewn ymgynghoriad â Chabinet Llywodraeth Cymru. Mae'r Cabinet yn cwrdd yn ffurfiol o leiaf unwaith yr wythnos ond mae Gweinidogion hefyd yn cyfarfod yn ddyddiol i asesu'r sefyllfa ddiweddaraf.

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AS, sy'n bennaf gyfrifol am y GIG yng Nghymru. Ef hefyd sy'n gyfrifol am faterion iechyd y cyhoedd, gan ystyried cyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton. Y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles AS, sy'n gyfrifol am faterion cyfreithiol (yn enwedig y ddeddfwriaeth a wneir mewn ymateb i'r argyfwng). Mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn gyfrifol am gydlynu ymdrechion Llywodraeth Cymru i adfer Cymru dros yr hir dymor yn sgil effaith y pandemig.

Fodd bynnag, mae effaith eang argyfwng iechyd y cyhoedd yn golygu ei fod yn cael effaith ar bortffolios holl Weinidogion Llywodraeth Cymru.

Y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru

Yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru, mae Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, y Fonesig Shan Morgan, wedi creu pwyllgor gweithredol o uwch swyddogion sydd â'r dasg unswydd o ymdrin â materion sy’n ymwneud â’r coronafeirws. Mae'r pwyllgor hwn yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos ac ymhlith pethau eraill mae wedi goruchwylio'r gwaith helaeth o adleoli swyddogion i waith sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws.

Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli ymateb iechyd y cyhoedd i'r coronafeirws yng Nghymru. Mae'r adran yn cael ei harwain gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Andrew Goodall, sydd hefyd yn Brif Weithredwr GIG Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sefydlu tîm prosiect COVID-19 i gefnogi dull gweithredu cydgysylltiedig o ran ymateb cyffredinol Llywodraeth Cymru.

Yn ogystal, mae Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) yn cydgysylltu ymateb Llywodraeth Cymru i argyfyngau mawr yng Nghymru sy'n galw am ddull gweithredu amlasiantaeth. Mae ei rôl yn canolbwyntio'n bennaf ar ymwybyddiaeth sefyllfaol – sef casglu a lledaenu gwybodaeth a hysbysu Gweinidogion Cymru, uwch swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth i sefyllfaoedd ddatblygu. Mae Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) hefyd yn lledaenu gwybodaeth i Grwpiau Cydgysylltu Strategol yng Nghymru, a allai gynnwys, er enghraifft, yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau trafnidiaeth a'r lluoedd arfog, ac yn derbyn gwybodaeth ganddynt. Mae hefyd yn fodd i Grwpiau Cydgysylltu Strategol godi pryderon gyda Llywodraeth Cymru ac, os oes angen, Llywodraeth y DU.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r asiantaeth genedlaethol yng Nghymru sy’n ymdrin ag iechyd y cyhoedd, ac mae'n un o'r cyrff cyhoeddus sy'n ffurfio rhan o GIG Cymru. Un o'i swyddogaethau yw diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a darparu cyngor ar epidemioleg (mynychder clefyd a nifer yr achosion ohono). Er ei fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru o safbwynt gweithredol, mae'n gweithredu yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.

GIG Cymru

Mae’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau gofal iechyd ac iechyd meddwl y GIG yn y gymuned ac yn yr ysbyty ar gyfer eu poblogaethau lleol. Maent yn sefydliadau annibynnol ond pennir eu cyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r byrddau iechyd, ynghyd ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre (sy'n darparu gofal canser arbenigol) ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn rhoi eu cynlluniau ar waith i ymateb i bandemig y coronafeirws. Mae'r cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar gynyddu capasiti gofal critigol, cynyddu nifer y peiriannau anadlu a chynyddu niferoedd cyffredinol gwelyau ysbytai, gan gynnwys drwy ddatblygu ysbytai maes dros dro.

Rhannu’r dudalen hon