Mae dau blentyn sy'n rhagweld robot feddygon a rocedi'n rhan o ddyfodol y gwasanaeth iechyd wedi cael eu dyfarnu'n brif enillwyr cystadleuaeth tynnu lluniau i ddathlu 70 mlwyddiant y GIG.
Roedd y gystadleuaeth a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru yn gofyn i blant ysgolion cynradd dynnu llun i ddangos sut olwg fyddai ar y GIG adeg ei ganmlwyddiant yn 2048.
Cerith Hiorns, 9 oed, sy'n ddisgybl Blwyddyn 4 yn Ysgol Gymraeg Llangennech yn Llanelli, enillodd yn y categori oedran 7-9 am ddarlun o ysbyty ag awyrennau jet a rocedi.
Cari Megan Lloyd, 11 oed, sy'n ddisgybl Blwyddyn 6 yn Ysgol Dolgarrog yn Llanrwst, enillodd yn y categori oedran 10-11 am ddarlun o robot feddyg gyda'r slogan “mae pobl yn bwysig”.
Fe gafodd y ddau enillydd eu llongyfarch heddiw gan yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn ystod ymweliad â'r Bathdy Brenhinol, lle cawsant gyfle i fathu darn arian arbennig o Gasgliad Ceiniogau A i Z y Bathdy Brenhinol, ag N i ddynodi NHS.
Yn ystod yr ymweliad fe gafodd y plant gwmni Aneira Thomas, y baban cyntaf i'w geni dan y GIG, ar eu taith o amgylch y Bathdy Brenhinol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Cefais lawer o hwyl yn edrych ar y cynigion ar gyfer ein cystadleuaeth tynnu lluniau i ddathlu 70 mlwyddiant y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Roedd yn ddiddorol gweld sut olwg mae plant heddiw yn dychmygu fydd ar y gwasanaeth iechyd pan fyddan nhw'n oedolion. Gyda'r holl awyrennau jet, rocedi a robot feddygon, mae'n amlwg bod ganddyn nhw syniadau cyffrous ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf!
"Doedd hi ddim yn hawdd dewis enillwyr, ac fe ddylai Cerith a Cari deimlo'n falch iawn o'u llwyddiant.
Dywedodd Aneira Thomas:
"Roedd yn bleser cyfarfod Cerith a Cari a gweld sut maen nhw'n dychmygu y bydd y gwasanaeth iechyd ymhen 30 o flynyddoedd. Roeddwn i'n ddigon ffodus o gael fy ngeni yn ystod munudau cyntaf 5 Gorffennaf 1948, ar ddechrau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Rydw i wedi gweld sawl newid a gwelliant yn y Gwasanaeth Iechyd drwy gydol fy mywyd a'm gyrfa. Roedd yn hyfryd cyfarfod Cerith a Cari i siarad am y newidiadau hynny."
Dywedodd Anne Jessopp, Prif Weithredwr y Bathdy Brenhinol - sydd wedi'i leoli yn Llantrisant yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf:
“Mae'r ‘N’ am NHS wedi bod yn ddewis poblogaidd iawn gyda'r cyhoedd fel thema ar gyfer ein casgliad darnau deg ceiniog A i Z. Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn sefydliad cenedlaethol uchel ei barch - bydd y rhan fwyaf o bobl Prydain yn dod i gysylltiad â'r gwasanaeth ar ryw adeg yn eu bywydau, felly roedd yn ddewis naturiol. Llongyfarchiadau i Cerith a Cari ar ennill y gystadleuaeth hon."
Dewiswyd cyfanswm o ddeg llun o bob cwr o Gymru i gael canmoliaeth arbennig. Gwahoddwyd yr enillwyr i ymuno â gwasanaeth diolchgarwch i ddathlu 70 mlwyddiant y GIG yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar 4 Gorffennaf, lle byddant yn derbyn darn arian arbennig o gasgliad A i Z y Bathdy Brenhinol gan westai arbennig.