Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Ionawr 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 374 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cyflwyno cynigion i wella'r system CPH (Sir, Plwyf, Daliad) yng Nghymru a'i gwneud yn fwy effeithiol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r rhif CPH yn sail i nifer o systemau rheoli gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i adnabod daliadau fferm. Ei brif ddiben yw nodi lleoliad da byw ac olrhain symudiadau’r da byw hynny yn unol â’r Rheoliadau Ewropeaidd ar gyfer gwartheg defaid geifr a moch. Y CPH yw’r sail ar gyfer cofnodi symudiadau da byw gan ein galluogi i olrhain symudiadau da byw trwy bob cam o’r gadwyn gyflenwi.
Rydym wedi datblygu’r cynigion dros amser ar y cyd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol y diwydiant sy’n aelodau o’r Grŵp Cynghori ar Adnabod Da Byw (LIDAG).