Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhieni'n mewngofnodi i'r gwasanaeth hwn i:

  • diweddaru manylion eich cais
  • cadarnhau eich cymhwysedd parhaus
  • trefnu gofal plant gyda’r darparwr(wyr) o’ch dewis
  • gwneud cais am blentyn newydd

Dim ond os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru y gallwch chi fewngofnodi yma.

Dylai fod gennych ID defnyddiwr a chyfrinair Government Gateway eisoes.

Defnyddiwch eich cyfrif presennol Government Gateway. Peidiwch â chreu cyfrif arall.

Mae’n rhaid i chi ddiweddaru manylion eich cais os bydd eich manylion neu’ch amgylchiadau chi neu bartner eich cartref yn newid. Er enghraifft, newid swydd neu fudd-daliadau.

Cyn ichi ddechrau

Ni all darparwyr gofal plant fewngofnodi yma. Rhaid iddynt fewngofnodi i’w cyfrif darparwr ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.