Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r thriller HAVOC, gafodd ei chynhyrchu gyda chymorth Cymru Greadigol, yn cael ei rhyddhau heddiw ar Netflix. Dyma'r ffilm fwyaf erioed i gael ei saethu'n llwyr yng Nghymru, yn ôl adroddiad diweddar gan y cwmni ffrydio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae HAVOC, sydd â Tom Hardy yn actio ynddi a’r Cymro Gareth Evans (The Raid, Apostle, Gangs of London) yn awdur/cyfarwyddwr arni, yn adrodd hanes bargen aeth yn chwalfa a hen law o dditectif â'i daith helbulus trwy is-fyd troseddwyr i achub mab gwleidydd. Cafodd y cynhyrchiad ei ffilmio yn Great Point Studios yng Nghaerdydd, Dragon Studios Pen-y-bont ar Ogwr ac mewn lleoliadau ledled y De.

Cymru bellach yw un o brif ganolfannau cynhyrchu Netflix, a chafodd sioeau eiconig eu ffilmio yma, fel y gyfres Netfix boblogaidd wreiddiol, Sex Education, a gafodd ei ffilmio mewn lleoliadau gwahanol ledled y De dros ei phedwar tymor hynod lwyddiannus. Diolch i gymorth Cymru Greadigol, gwnaeth y ddrama gomedi i bobl ifanc greu llawer o waith yn lleol, yn ogystal â thros 60 o gyfleoedd i hyfforddeion a phrentisiaid creadigol ifanc, gyda llawer ohonynt yn mynd yn eu blaenau i swyddi llawn amser.

Yn ôl adroddiad diweddar gan Netflix ar ei effaith economaidd, mae ei gynyrchiadau yng Nghymru wedi cyfrannu dros £200 miliwn i economi'r DU ers 2020, gan gefnogi dros 500 o fusnesau o bob cwr o Gymru yn y cyfnod hwnnw.

Gan gydnabod ei wreiddiau Cymreig, mae Netflix wedi sicrhau y bydd HAVOC ar gael gydag isdeitlau Cymraeg, fel yr oedd The Adam Project gyda Ryan Reynolds a Dal y Mellt, y ddrama S4C Gymraeg gyntaf i Netflix ei chodi.

HAVOC yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o gynyrchiadau teledu a ffilm mawr sydd wedi cael eu ffilmio yng Nghymru diolch i gymorth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol: o House of the Dragon gan HBO, i Young Sherlock gan Amazon a Mr Burton, ffilm uchel ei chlod sydd newydd ei rhyddhau yn y sinemâu.

Rydym yn rhagweld y bydd y £28.6 miliwn o gyllid cynhyrchu y mae Cymru Greadigol wedi'i fuddsoddi hyd yma yn sbarduno £342 miliwn o wariant ychwanegol yn economi Cymru, sy'n golygu am bob £1 y mae Cymru Greadigol wedi'i buddsoddi yn y sector sgrin, mae bron £12 arall yn cael ei fuddsoddi yn economi Cymru.

Mae'r buddsoddiad hwn wedi darparu lleoedd i 420 o brentisiaid a hyfforddeion, gan sicrhau cyflenwad o weithwyr proffesiynol crefftus.

Dywedodd Anna Mallet, Is-lywydd Cynhyrchu Netflix yn y DU:

O Sex Education i The Crown, a nawr HAVOC, cafodd rhai o'n teitlau mwyaf poblogaidd eu ffilmio neu eu cynhyrchu yng Nghymru. Mae gan Gymru lwyth o dalent greadigol a thirweddau naturiol hardd, gan ei gwneud yn lle ardderchog i greu adloniant. Mae Netflix felly'n falch iawn bod ein cynyrchiadau Cymreig yn dal i greu cyfleoedd diwylliannol ac economaidd sy'n para.

Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant:

Rydym yn hynod falch o'n diwydiannau creadigol yng Nghymru, sy'n cyflogi dros 35,000 o bobl dalentog, ac o'r seilwaith ardderchog sydd gennym ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu. Testun balchder yw cael gweithio'n agos gyda Netflix, HBO, Amazon ac eraill i ddod â chynyrchiadau mawr i Gymru. Mae cyweithiau fel hyn yn creu swyddi, hyfforddiant a gwariant mawr yn ein heconomi ac yn cynnig llwyfan i'r byd i ddangos popeth rydyn ni'n ei gynnig fel gwlad.