Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod) wedi cyhoeddi ei ystadegau blynyddol cyntaf ar gyfer y dreth trafodiadau tir, yn cynnwys data ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dechreuodd yr awdurdod treth gasglu a rheoli'r dreth trafodiadau tir ym mis Ebrill 2018, pan ddisodlodd y dreth newydd dreth tir y dreth stamp yng Nghymru.
 
Amcangyfrifir y bydd yr Awdurdod yn codi £1bn mewn refeniw dros gyfnod o bedair blynedd ar gyfer ariannu gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, yng nghymunedau Cymru.
 
Dyma'r tro cyntaf i’r Awdurdod gynhyrchu ystadegau blynyddol yn ôl ardaloedd daearyddol, gan gynnwys data ar lefel awdurdodau lleol ac etholaethau. Cyn Ebrill 2018 roedd CThEM yn cynhyrchu ystadegau ar gyfer treth dir y dreth stamp.

Mae'r datganiad ystadegol, a gyhoeddir ar wefan yr Awdurdod, yn cwmpasu'r cyfnod o fis Ebrill 2018 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2019 yn bennaf; mae’r prif benawdau’n cynnwys:

  • Cyfanswm o 61,750 o drafodiadau ar gyfer y dreth trafodiadau tir 
  • £226.9m o dreth yn ddyledus am werthiannau a lesoedd eiddo a thir yng Nghymru.  
  • £154.5m o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau preswyl. Roedd hyn yn cynnwys: 
    • £59.1m o refeniw ychwanegol a godwyd o gyfraddau uwch 
    • £6.7m o ad-daliadau cyfradd uwch. Mae’r ad-daliadau eisoes wedi'u tynnu o’r ffigurau treth sy'n ddyledus, uchod. 
  • £72.5m o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Noder bod y prif ffigurau ar lefel Cymru hefyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer Ebrill a Mai 2019 yn y datganiad hwn.

Ar lefel awdurdodau lleol, mae data’r Awdurdod yn amlygu rhai amrywiadau ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl. Er enghraifft, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, roedd trafodiadau cyfradd uwch yn amrywio rhwng 16% yn Nhorfaen a 37% yng Ngwynedd. Gall cyfraddau uwch fod yn:

  • berthnasol i’r trafodiadau hyn am amryw o resymau, gan gynnwys:  
  • pryniant eiddo prynu-i-osod  
  • ail gartrefi neu gartrefi gwyliau;  
  • pontio rhwng dau eiddo; a  
  • phryniannau gan gwmnïau e.e. darparwyr tai cymdeithasol   

Meddai Dyfed Alsop, Prif Weithredwr yr Awdurdod:

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â'n blwyddyn weithredu gyntaf, yn casglu ac yn rheoli'r dreth trafodiadau tir. Rydym yn falch bod y refeniw yr ydym yn ei godi yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol mewn cymunedau ledled Cymru.

Fel sefydliad sy'n cael ei lywio gan ddata, rydym am ddysgu o'r data yma er mwyn gwella ein gwasanaethau i drethdalwyr yn y dyfodol. Rydym yn credu fod data’n ganolog i'n dull o weithredu trethi, sy'n golygu helpu pobl i dalu'r swm cywir o dreth ar yr adeg iawn.

Meddai Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Data a Dadansoddi’r Awdurdod:

Nodwedd ddiddorol y datganiad hwn yw bod gennym ddata ardal leol ar gyfer y dreth trafodiadau tir am y tro cyntaf. Gellir gweld yr amrywiad yn y data rhwng awdurdodau lleol yn hawdd iawn yn yr ystadegau preswyl ac amhreswyl.

Rydym hefyd wedi gallu datblygu'r set ddata breswyl ymhellach i gynnwys ffigurau ar lefel etholaethau'r Cynulliad ac ar gyfer ardaloedd o amddifadedd, fel y’u mesurwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, rydym yn gobeithio y gallwn ddarparu data tebyg ar drafodion amhreswyl.

Sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru fel awdurdod treth gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2017. Yr awdurdod treth yw adran anweinidogol gyntaf Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod.