Neidio i'r prif gynnwy

Bydd prosiectau dŵr cymunedol gyda gwerth ardrethol o hyd at £50,000 yn derbyn rhyddhad ardrethi o £100% o dan gynllun grant newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rhyddhad ardrethi busnes yn galluogi prosiectau cymwys i gadw'r manteision posib mwyaf i'w hardal leol, gan alluogi iddynt ail-fuddsoddi yn eu cymuned leol.

Bydd y cynllun grant hefyd yn rhoi cymorth i bennu uchafswm ar y cynnydd mewn ardrethi busnes ar gyfer datblygiadau bychain eraill i 10% neu £1,000 ble nad oedd rhwymedigaeth flaenorol.

Bydd y cynllun grant newydd, fydd yn dechrau ym mis Ebrill, yn rhoi mwy o gymorth i ddatblygwyr canolfannau pŵer dŵr yng Nghymru o gymharu ag ardaloedd eraill ym Mhrydain. Mae gwaith ar y gweill gyda datblygwyr cymunedol ac eraill i sicrhau bod yn hawdd cael gafael ar yr arian.

Bydd yn rhaid gwneud cais a bydd prosiectau dŵr yn gallu gwneud cais am grant tuag at eu rhwymedigaethau ardrethi ar gyfer 2018-19 ac yn ôlweithredol ar gyfer 2017-18.

Bu i Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, agor y prosiect dŵr cymunedol 'Croeso i'n Coedwig' ddoe yn Treherbert, sy'n creu lle a chyfleusterau carbon isel yn yr awyr agored i gynhyrchu incwm i'r gymuned leol.  Mae'n enghraifft o brosiect fydd yn elwa o'r rhyddhad ardrethi newydd o 100%.

Dywedodd Lesley Griffiths:  

"Dwi'n falch iawn o gyhoeddi cynllun grant newydd hael i brosiectau pŵer dŵr.  

"Bydd ein cynllun newydd yn darparu rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer cynlluniau cymunedol ac yn rhoi cymorth tuag at eu hardrethi annomestig i brosiectau bychain eraill. Yr hyn sy'n bwysig yw y bydd yn rhoi mwy o gefnogaeth i ddatblygwyr pŵer dŵr yng Nghymru nac unrhyw le arall ym Mhrydain.  

"Mae cynhyrchu trydan o ynni adnewyddadwy yng Nghymru wedi treblu ers 2010 ac mae datblygwyr cymunedol wedi chwarae rhan bwysig yn y llwyddiant hwn.

"Ddoe agorodd Gweinidog yr Amgylchedd y prosiect dŵr cymunedol 'Croeso i'n Coedwig' yn swyddogol, fydd yn cynnig incwm i'r ardal leol.  Mae'r prosiect yn enghraifft wych o gymuned yn cydweithio ar ddyfodol ei hynni a bydd yn elwa o'r cynllun newydd yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw."

Ychwanegodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid:

"Dwi'n falch ein bod, drwy'r cynllun grant hwn, wedi gallu darparu rhyddhad ardrethi o 100% i helpu i sicrhau y gall prosiectau dŵr gadw cymaint o fanteision â phosib i'w hardaloedd lleol."

Mae'r cynllun rhyddhau ardrethi annomestig 100% ar gyfer prosiectau dŵr cymunedol yn rhan o gytundeb Cyllideb 2018-19 gyda Plaid Cymru.

Dywedodd Ian Thomas, Cyfarwyddwr Cwmni Croeso i'n Coedwig:

"Mae'r cymorth parhaus yr ydym wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hollol hanfodol i ddatblygiad ein cynllun ac mae wedi galluogi inni ail-fuddsoddi yn ein cymuned leol. Rydym yn croesawu'r cymorth ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw - bydd yn helpu inni barhau i gyflawni ein prosiect ynni glân."