Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynllun £98m Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth Cymru yn cael ei ymestyn ar gyfer 2017-18, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynlluniau estynedig a newydd yn chwarae rhan allweddol i gyflawni'r addewid maniffesto i dorri trethi busnesau bach.

Gwnaed y cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wrth i'r ddau gyfarfod tîm siop fara Bortiwgaleg Nata & Co yn Stryd Bute, Caerdydd.  

Mae Nata & Co ymysg y 70% o fusnesau bach Cymru a fydd yn elwa yn sgil rhyddhad ardrethi busnesau bach – ni fydd tua hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. 

Dan y cynllun presennol, bydd eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn derbyn 100% o ryddhad, a'r rhai â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad yn amrywio rhwng 100% a dim. Mae'r trefniadau hyn yn cael eu hymestyn i 2017-18.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Roedd torri trethi busnesau bach yn un o'r prif addewidion yn ein maniffesto. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wneud hyn yw drwy wneud ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach yn gynllun parhaol. 

“Rydyn ni'n gwybod y gall ardrethi busnes fod yn gyfran uchel o gostau busnesau bach, a dyna pam rydyn ni am roi sicrwydd iddyn nhw y bydd y ffynhonnell hanfodol hon o gymorth yn parhau yn 2017-18.

“Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn ystyried sut i wella'r drefn ar gyfer 2018 er mwyn i ni dargedu cymorth yn well i fusnesau bach ac, yn unol â’r adborth a ddaeth i law, sicrhau  bod y lleiafrif bach sy'n ceisio osgoi talu ardrethi yn talu cyfran deg.”

Gan groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

“Mae Nata & Co  yn enghraifft ardderchog o fusnes bach sy'n ffynnu –  mae gan y cwmni enw da yng Nghaerdydd a thu hwnt am ei gynnyrch Portiwgaleg.

“Rwy'n falch iawn bod modd i ni barhau i helpu'r busnes bach hwn a miloedd o rai eraill drwy'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach.

“Rydyn ni am weld twf economaidd ym mhob rhan o Gymru, ac mae cynlluniau fel hyn yn werthfawr iawn i helpu'n busnesau bach i gryfhau ac ehangu.”   

Dywedodd perchennog Nata & Co, Filipe Brito:

“Y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yw un o'r mathau gorau o gymorth rydyn ni wedi'i gael - mae wedi'n helpu ni i dyfu ac ehangu'r cwmni. Mae’r math hwn o gymorth yn brin iawn mewn gwledydd eraill." 

Ceir rhagor o fanylion am gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn busnescymru.llyw.cymru.