Mae Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi heddiw, y bydd rhyddhad ardrethi busnes o 100% yn parhau yn 2019-20 ar gyfer prosiectau ynni dŵr cymunedol sydd â gwerth ardrethol o hyd at £50,000.
Bydd y ffaith bod y cynllun grant yn parhau yn golygu y bydd prosiectau cymwys yn gallu sicrhau'r budd mwyaf posibl i’w hardal leol ac ailfuddsoddi yn eu cymunedau lleol.
Cafodd y cynllun ei lansio'n wreiddiol ym mis Chwefror 2018 er mwyn lliniaru effaith y prisiadau newydd a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2017 ar gyfer ardrethi annomestig. Bydd y prisiadau hynny'n parhau tan 2021.
Cafodd bron 50 o brosiectau ynni dŵr eu helpu y llynedd, gan gynnwys saith prosiect sy'n eiddo i gymunedau. Mae hyd at £308,000 ar gael er mwyn parhau'r â'r cynllun grant yn 2019-20. Mae hefyd yn cynnwys cymorth i roi cap ar y cynnydd i ardrethi busnes ar gyfer prosiectau ynni dŵr nad ydynt yn eiddo i gymunedau (hyd at 10% neu £1,000 pan nad oedd unrhyw rwymedigaeth arnynt o’r blaen).
Bydd gofyn cyflwyno ceisiadau o dan y cynllun hwn a bydd prosiectau ynni dŵr yn gallu gwneud cais am grant i helpu gyda'r rhwymedigaeth ardrethi a fydd arnynt ar gyfer 2019-20. Mae ystod o gymorth a chyllid ar gael hefyd i grwpiau ynni cymunedol drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Dwi'n falch iawn o gael cyhoeddi bod y cynllun hwn i gynnig cymorth i brosiectau ynni dŵr yn parhau. Rhoddodd y cynllun grant gymorth gwerthfawr i bron 50 o brosiectau ynni dŵr y llynedd.
“Mae ynni adnewyddadwy'n rhan hollbwysig o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru. Mae prosiectau ynni sy'n eiddo i gymunedau o fudd mawr i'r cymunedau hynny ac rydyn ni wedi nodi yn ein Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb, fod hwn yn sector y dylid ei gefnogi.”
Un o'r prosiectau cymunedol a gafodd gymorth o dan y cynllun y llynedd oedd Prosiect Ynni Dŵr Cymunedol Ynni Ogwen ym Methesda yng Ngwynedd. Menter gymdeithasol yw hon sy'n eiddo i dri Chyngor Cymunedol − Bethesda, Llandygái a Llanllechid. Mae'r tyrbinau sy'n cael eu defnyddio yn harneisio'r pŵer Afon Ogwen ac mae'r trydan a gynhyrchir yn mynd yn syth i'r Grid Cenedlaethol.
Dywedodd Dr Paul Rowlinson, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd prosiect Ynni Ogwen:
“Mae'r cymorth a gafwyd oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol i helpu gyda chost ardrethi busnes wedi bod yn help mawr inni, gan arbed £14,000 inni yn ystod ein dwy flynedd gyntaf a sicrhau bod y gwaith caled a wnaeth ein gwirfoddolwyr wrth sefydlu'r cynllun wedi dwyn ffrwyth.
“Dwi'n falch iawn bod y cymorth hwn yn parhau ar ôl 1 Ebrill. Bydd hyn yn rhoi tipyn o hyder inni wrth inni bwyso a mesur a allwn ni fwrw 'mlaen â'n hail gynllun y flwyddyn nesa'.”
Dywedodd Gideon Carpenter, Uwch-gynghorydd ar Ynni Dŵr yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, rydyn ni wedi bod yn ymateb i gynnydd mawr yn nifer y ceisiadau am gynlluniau ynni dŵr bach.
“Yn 2010, roedd 57 trwydded ar gyfer cynlluniau a oedd yn bodoli eisoes yng Nghymru ond ers hynny, rydyn ni wedi rhoi 301 o drwyddedau eraill – llawer ohonyn nhw ar gyfer cynlluniau cymunedol – ac rydyn ni wrthi hefyd yn ystyried 20 arall.
“Mae cynlluniau a ddyluniwyd yn dda ac sy'n cael eu rhedeg yn dda yn enghraifft wych o sut gallwn ni harneisio'r adnoddau naturiol sydd ar gael inni er budd cymunedau lleol, ond gan wneud yn siŵr ar yr un pryd ein bod yn gwarchod amgylchedd yr afon.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r sector ynni dŵr i helpu i sicrhau'r datblygiadau iawn yn y lle iawn, gan gyfrannu at gyrraedd targedau Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy a gwarchod amgylchedd yr afon ar yr un pryd.”
Ychwanegodd Lesley Griffiths:
“Fe osodon ni dargedau uchelgeisiol y llynedd ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru, gan gynnwys targedau'n ymwneud â pherchenogaeth gymunedol a lleol, er mwyn sicrhau bod Cymru hefyd yn elwa ar y newid i systemau ynni carbon isel.
“Dywedais hefyd fod disgwyl i bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd gynnwys o leiaf elfen o berchnogaeth leol erbyn 2020. Bydd hynny'n helpu i gadw cyfoeth yn y cymunedau, a bydd o fudd gwirioneddol iddyn nhw.”
Bydd modd cyflwyno ceisiadau o ddechrau mis Ebrill ymlaen. Bydd rhagor o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru yn y man.