Heddiw cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans y bydd adeiladau toiledau cyhoeddus sy'n sefyll ar eu pennau eu hunain yng Nghymru'n cael eu heithrio rhag talu ardrethi annomestig o 1 Ebrill 2020.
Bydd lleihau'r ardrethi ar gyfer adeiladau'r toiledau hyn i sero yn helpu'r awdurdodau lleol a darparwyr eraill i gadw'r cyfleusterau hyn ar agor, gan arbed tua £450,000 y flwyddyn.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
“Rwy'n falch o gyhoeddi y byddwn yn lleihau ardrethi ar adeiladau toiledau cyhoeddus i sero o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Byddwn yn gwneud hyn mewn ymdrech i gadw'r gwasanaethau lleol pwysig hyn ar agor.
“Rydyn ni’n gwybod mor bwysig yw hi i allu cael gafael ar doiledau cyhoeddus yn gyfleus, a’r effaith ar iechyd, urddas ac ansawdd bywyd pobl os nad oes rhai ar gael. Mae'r cyfleusterau hyn yn cael eu gwerthfawrogi gan drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”
Mae cyhoeddiad heddiw'n rhan o Fil Ardrethi Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) Llywodraeth y DU a gyflwynwyd yn gynharach y mis hwn ac mae'n ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i ddarparu mynediad at doiledau i'w defnyddio gan y cyhoedd o dan Ran 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Mae adeiladau toiledau cyhoeddus sy'n sefyll ar eu pennau eu hunain yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hasesu at ddibenion ardrethu annomestig yn yr un ffordd ag eiddo annomestig eraill.