Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion polisi

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu tynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion annibynnol yn ôl, gan eu rhoi ar sail debyg i ysgolion annibynnol nad oes ganddynt statws elusennol at ddibenion ardrethi annomestig. Prif effaith y cynnig hwn fydd cynnydd ariannol bach yn atebolrwydd yr ysgolion annibynnol yr effeithir arnynt i dalu ardrethi annomestig. Bydd y cynnydd o ran yr atebolrwydd yn amrywio a byddai pob ysgol yn gallu dewis sut i addasu ei model busnes i ymateb i'r gost honno, fel y mae ysgolion annibynnol eraill eisoes yn ei wneud. Amcangyfrifir y bydd cyfanswm yr atebolrwydd ychwanegol ar gyfer yr ysgolion annibynnol yr effeithir arnynt yn cyfateb i lai na 2% o'r incwm ffioedd cyffredinol. 

Nododd rhai o'r ymatebwyr i ymgynghoriad blaenorol ar y mater hwn y byddai risg y byddai disgyblion yn symud i'r sector a gynhelir, pe byddai cynnydd mewn ffioedd yn arwain at benderfyniadau gan rieni i symud eu plant allan o ysgolion annibynnol. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae ysgolion annibynnol yn gyffredinol wedi cynyddu eu ffioedd flwyddyn ar ôl blwyddyn ar lefel uwchlaw chwyddiant, heb i gwymp yn niferoedd y disgyblion gael effaith andwyol ar eu hyfywedd (Cyfrifiad Cyngor Ysgolion Annibynnol 2023). Mae'n bosibl y bydd ysgolion yn dod o hyd i ffyrdd eraill o amsugno'r cynnydd yn eu hatebolrwydd yn llawn neu'n rhannol (e.e. lleihau gwargedau, cronfeydd wrth gefn neu wariant nad yw'n wariant hanfodol) yn hytrach na throsglwyddo’r costau ychwanegol i’r rhieni drwy gynyddu ffioedd.

Fel y cyfryw, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld bod y cynnig yn debygol o arwain at effeithiau anuniongyrchol y gellir eu nodi ar blant, oherwydd lefel isel y goblygiadau ariannol. Cydnabyddir y potensial y gallai fod cynnydd bach yn y costau i rai rhieni. O ganlyniad, mae'n bosibl y bydd nifer bach o ddisgyblion yn symud i'r sector a gynhelir. Yn hynny o beth, ni fydd yn bosibl datgysylltu effaith y cynnig hwn oddi wrth effaith cynlluniau Llywodraeth y DU mewn perthynas â TAW (y byddai disgwyl iddynt gael mwy o effaith bosibl ar ffioedd). 

Mae nifer y disgyblion a fydd o bosibl yn symud ysgolion, o ganlyniad i effaith gyfunol cynigion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn cynrychioli cyfran fach iawn o nifer cyffredinol y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir (mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi amcangyfrif ei bod hi'n bosibl y byddai 3-7% o ddisgyblion yn yr ysgolion yr effeithir arnynt yn symud, sy'n cyfateb i lai na 0.1% o boblogaeth yr ysgolion a gynhelir yng Nghymru). Mae'r amcangyfrif hwn yn ymwneud yn bennaf â'r newidiadau TAW ac ni ddisgwylir y bydd y cynnig i dynnu rhyddhad elusennol yn ôl yn gwneud cyfraniad sylweddol.  Mae gan bob plentyn o oedran ysgol gorfodol hawl i le mewn ysgol a ariennir gan y wladwriaeth.

Nid yw unrhyw effeithiau ar blant yn anochel. Byddai'r effeithiau hynny yn gwbl anuniongyrchol ac yn dibynnu'n llwyr ar y penderfyniadau busnes a wneir gan ysgolion, y byddai disgwyl iddynt geisio lleihau'r effeithiau posibl ar eu disgyblion neu eu prosesau recriwtio. Byddent hefyd yn dibynnu ar benderfyniadau rhieni unigol, mewn ymateb i unrhyw gynnydd mewn ffioedd (na fyddant o reidrwydd yn digwydd neu na fyddant o reidrwydd yn uwch na chodiadau blynyddol blaenorol). 

Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i effeithiau posibl mewn perthynas â holl erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Ym mhob achos, ni ragwelir y bydd unrhyw effaith. Mae'n ddisgwyliad sylfaenol y caiff yr hawliau hyn eu cynnal i blant, os byddant yn parhau i fynychu eu hysgol bresennol, neu yn unrhyw ysgol arall y byddant o bosibl yn ei mynychu yn y sector preifat neu'r sector a gynhelir. 

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar gymhwystra ysgolion i gael rhyddhad elusennol yng Nghymru yn 2020. Cafodd yr ymgynghoriad 51 o ymatebion, gyda'r ymatebwyr yn cynrychioli unigolion, ysgolion annibynnol, ysgolion a gynhelir, llywodraeth leol a chyrff cynrychioliadol. Cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau, yr oedd rhai ohonynt o blaid cynnal y trefniadau presennol ac eraill o blaid newid.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, cadarnhawyd y byddai angen llunio dull gweithredu arfaethedig ar gyfer unrhyw newid polisi yn y maes hwn ac y byddai angen iddo fod yn destun ymgynghoriad pellach. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cynnig i dynnu rhyddhad elusennol ar gyfer ysgolion preifat yn ôl. Mae'r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i randdeiliaid dynnu sylw at effeithiau posibl y cynnig ar y sector addysg. 

Ni chynhaliwyd unrhyw weithgareddau penodol i gasglu barn plant a phobl ifanc. Ni wnaed hynny gan mai cyfrifoldeb yr ysgolion unigol fydd penderfynu sut i ymateb i'r newid arfaethedig yn eu hatebolrwydd o ran ardrethi annomestig (fel sy'n wir ar gyfer unrhyw newid arall a all effeithio ar eu sefyllfa ariannol a'u costau). Byddai unrhyw effeithiau ar blant yn gwbl anuniongyrchol ac yn dibynnu'n llwyr ar y penderfyniadau busnes a wneir gan ysgolion, y byddai disgwyl iddynt geisio lleihau'r effeithiau posibl ar eu disgyblion neu eu prosesau recriwtio. Byddent hefyd yn dibynnu ar benderfyniadau rhieni unigol, mewn ymateb i unrhyw gynnydd mewn ffioedd (na fyddant o reidrwydd yn digwydd neu na fyddant o reidrwydd yn uwch na chodiadau blynyddol blaenorol). Ni ragwelir y byddai disgwyl i blant feddu ar ddealltwriaeth fanwl o'r materion hyn cyn y gellid ymgysylltu'n uniongyrchol â nhw. 

Nid yw'n anochel y bydd effeithiau y gellir eu nodi ar blant ac nid ystyrir bod effeithiau o'r fath yn debygol o ddigwydd. Fodd bynnag, byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r ysgolion yr effeithir arnynt gan y cynnig roi ystyriaeth briodol i effaith unrhyw newidiadau y byddant o bosibl yn eu gwneud o ganlyniad i gynnydd yn eu hatebolrwydd ar blant. Lle bydd yr ysgolion yn gwneud unrhyw benderfyniadau y byddai disgwyl iddynt gael effaith ar blant, disgwylir iddynt rannu'r penderfyniadau hyn â phlant a'u rhieni.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Caiff erthyglau perthnasol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) eu hystyried isod. Ystyriwyd nodweddion yr ysgol annibynnol y byddai'r cynnig yn effeithio arni mewn perthynas â'r erthyglau perthnasol. 

Yn gryno, ni nodwyd y byddai'r polisi yn cael unrhyw effeithiau ar yr hawliau hyn. Mae'n ddisgwyliad sylfaenol iddynt gael eu cynnal o fewn yr addysg a gaiff pob plentyn ysgol yn y sector annibynnol a'r sector a gynhelir yng Nghymru. 

Sut mae eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y dynodwyd yn erthyglau CCUHP a'i Brotocolau Dewisol? 

Erthygl 12 

Rhaid i’r Gwladwriaethau sy’n Barti roi sicrwydd i’r plentyn sy’n gallu ffurfio ei farn ei hun o’r hawl i leisio’r farn honno’n ddirwystr ym mhob mater sy’n effeithio ar y plentyn, a bydd sylw dyledus yn cael ei roi i farn y plentyn yn ôl ei oedran a’i aeddfedrwydd. 

At y diben hwn, rhaid rhoi cyfle i’r plentyn yn benodol i gael ei glywed mewn unrhyw achosion barnwrol a gweinyddol sy’n effeithio ar y plentyn, naill ai’n uniongyrchol, neu drwy gynrychiolydd neu gorff priodol, mewn modd sy’n gyson â rheolau gweithdrefnol y gyfraith genedlaethol.

Dim effaith. 

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â phlant am y cynnig am y rhesymau a nodir uchod. Bydd p’un a fydd unrhyw effaith ar blant ai peidio yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan yr ysgolion unigol yr effeithir arnynt y maent yn eu mynychu. Byddai disgwyl i unrhyw ysgol sy'n gwneud penderfyniad a all effeithio ar blant ystyried safbwyntiau'r plant hynny yn unol â'r erthygl hon ac mewn perthynas â'r effeithiau penodol a allai ddeillio o'r penderfyniad hwnnw. 

Erthygl 14 

Rhaid i’r Gwladwriaethau sy'n Barti barchu hawl y plentyn i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd. 

Rhaid i’r Gwladwriaethau sy’n Barti barchu hawliau a dyletswyddau’r rhieni a phan fo’n berthnasol, gwarcheidwaid cyfreithiol, i roi cyfarwyddyd i’r plentyn i arfer ei hawl mewn modd sy’n gyson â galluedd datblygol y plentyn. 

Yr unig gyfyngiadau y gall rhyddid unigolyn i amlygu ei grefydd neu ei gredoau fod yn ddarostyngedig iddynt yw’r cyfyngiadau sydd wedi eu rhagnodi gan y gyfraith ac sy’n angenrheidiol i warchod diogelwch cyhoeddus, cyfraith a threfn, iechyd neu foesau, neu hawliau a rhyddidau sylfaenol personau eraill. 

Dim effaith.

Mae gan rai ysgolion annibynnol y byddai'r polisi yn effeithio arnynt gymeriad crefyddol penodol (ac mae'n bosibl y byddant yn dethol eu disgyblion yn unol â hynny). Nid yw'r polisi wedi'i dargedu at sefydliadau o'r fath ac nid yw'n effeithio ar eu rhyddid parhaus i fynegi'r cymeriad hwnnw ychwaith. Mae'n ddisgwyliad sylfaenol y caiff yr hawliau hyn eu cynnal i blant, os byddant yn parhau i fynychu eu hysgol bresennol, neu mewn unrhyw ysgol arall y byddant o bosibl yn ei mynychu yn y sector preifat neu'r sector a gynhelir. 

Ystyrir mai bach iawn yw’r posibilrwydd y bydd disgyblion yn symud o ysgolion annibynnol a byddai'r hawliau penodol hyn yn cael eu cynnal mewn unrhyw ysgol, felly ni chynigir unrhyw gamau lliniaru. 

Erthygl 23 

Mae’r Gwladwriaethau sy’n Barti yn cydnabod y dylai plentyn sydd ag anabledd meddyliol neu gorfforol fwynhau bywyd llawn a gweddus, mewn amodau sy’n sicrhau urddas, yn hybu hunanddibyniaeth ac yn hwyluso cyfranogiad gweithredol y plentyn yn y gymuned. 

Mae’r Gwladwriaethau sy’n Barti yn cydnabod hawl y plentyn anabl i gael gofal arbennig a rhaid iddynt hyrwyddo a sicrhau, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael, yr estynnir i’r plentyn cymwys a’r rhai sy’n gyfrifol am ofalu amdano, y cymorth y gwneir cais amdano ac sy’n briodol i gyflwr y plentyn ac i amgylchiadau’r rhieni neu’r personau eraill sy’n gofalu am y plentyn.

Gan gydnabod anghenion arbennig plentyn anabl, rhaid i gymorth a estynnir yn unol â pharagraff 2 o’r erthygl bresennol gael ei roi yn ddi-dâl, pryd bynnag y bo’n bosibl, gan ystyried adnoddau ariannol y rhieni neu’r personau eraill sy’n gofalu am y plentyn, a rhaid iddo fod wedi ei gynllunio i sicrhau bod gan y plentyn anabl fynediad effeithiol at addysg, hyfforddiant, gwasanaethau gofal iechyd, gwasanaethau adsefydlu, cyfleoedd i baratoi ar gyfer cyflogaeth a chyfleoedd hamdden, a bod y plentyn yn eu cael, a hynny mewn modd sy’n hwyluso integreiddiad cymdeithasol y plentyn a’i ddatblygiad fel unigolyn i’r graddau llawnaf posibl, gan gynnwys ei ddatblygiad diwylliannol ac ysbrydol. 

Rhaid i’r Gwladwriaethau sy’n Barti hyrwyddo, yn ysbryd cydweithrediad rhyngwladol, gyfnewid gwybodaeth briodol ym maes gofal iechyd ataliol ac ym maes triniaeth feddygol, seicolegol a swyddogaethol plant anabl, gan gynnwys lledaenu gwybodaeth ynghylch dulliau adsefydlu, addysg a gwasanaethau galwedigaethol, a darparu mynediad at yr wybodaeth honno, gan anelu at alluogi’r Gwladwriaethau sy’n Barti i wella eu galluoedd a’u sgiliau ac ehangu ar eu profiad yn y meysydd hyn. Yn hyn o beth, rhaid rhoi sylw penodol i anghenion gwledydd sy’n datblygu. 

Dim effaith.

Mae'r system ardrethi annomestig yn cynnwys eithriad llawn ar gyfer eiddo, neu rannau o eiddo, os yw'n cynnwys eiddo a ddefnyddir yn llwyr i ddarparu cyfleusterau i hyfforddi pobl anabl neu bobl sy'n dioddef o salwch neu sydd wedi bod yn dioddef o salwch, neu i ddarparu gweithgareddau addas i'r bobl hynny. Yn hynny o beth, mae'n bosibl y bydd rhai ysgolion annibynnol â darpariaeth arbenigol iawn o'r fath wedi'u heithrio'n llwyr rhag ardrethi annomestig (ac na fydd newid y rhyddhad elusennol yn effeithio arnynt). Ni nodwyd unrhyw ysgolion annibynnol sy'n cael rhyddhad elusennol sydd wedi'u trefnu'n benodol i ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (nid yw'r rhan fwyaf o'r ysgolion hyn wedi'u cofrestru fel elusennau). 

Er bod gan rai o'r ysgolion y byddai'r polisi hwn yn effeithio arnynt ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, mae cyfran y disgyblion hynny yn llawer is na'r gyfran yng ngweddill y sector ysgolion annibynnol ac yn y sector a gynhelir. Bydd atebolrwydd o ran ardrethi annomestig ysgolion eraill tebyg nad ydynt yn elusennau cofrestredig eisoes yn uwch. Mae'n ddisgwyliad sylfaenol y caiff yr hawliau hyn eu cynnal i blant, os byddant yn parhau i fynychu eu hysgol bresennol, neu mewn unrhyw ysgol arall y byddant o bosibl yn ei mynychu yn y sector preifat neu'r sector a gynhelir. 

Ystyrir mai bach iawn yw’r posibilrwydd y bydd disgyblion yn symud o ysgolion annibynnol a byddai'r hawliau penodol hyn yn cael eu cynnal mewn unrhyw ysgol, felly ni chynigir unrhyw gamau lliniaru. Mae'n bosibl na all rhai ysgolion prif ffrwd gynnig y ddarpariaeth dysgu ychwanegol y gall ysgol annibynnol ei chynnig. Mewn achos o'r fath, lle na all y rhiant fforddio anfon plentyn i'r ysgol annibynnol mwyach, bydd dyletswydd ar yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am y plentyn i drefnu'r ddarpariaeth. 

Erthygl 28 

Mae’r Gwladwriaethau sy’n Barti yn cydnabod hawl y plentyn i addysg, a chyda golwg ar sicrhau’r hawl hon yn raddol ac ar sail cynnig cyfle cyfartal, rhaid iddynt, yn benodol: 

  1. Gwneud addysg gynradd yn orfodol ac ar gael yn ddi-dâl i bawb
  2. Hybu datblygiad gwahanol ffurfiau ar addysg uwchradd, gan gynnwys addysg gyffredinol a galwedigaethol, trefnu iddynt fod ar gael ac yn hygyrch i bob plentyn, a chymryd mesurau priodol megis cyflwyno addysg ddi-dâl a chynnig cymorth ariannol pan fo angen
  3. Gwneud addysg uwch yn hygyrch i bawb ar sail galluedd drwy bob dull posibl
  4. Gwneud gwybodaeth a chanllawiau addysgol a galwedigaethol yn hygyrch i bob plentyn, a sicrhau eu bod ar gael i bob plentyn
  5. Cymryd mesurau i annog presenoldeb rheolaidd mewn ysgolion ac i leihau cyfraddau gadael yn gynnar

Rhaid i’r Gwladwriaethau sy’n Barti gymryd pob mesur priodol i sicrhau y caiff disgyblaeth ysgol ei gweinyddu mewn modd sy’n gyson ag urddas dynol y plentyn ac yn cydymffurfio â’r Confensiwn presennol. 

Rhaid i’r Gwladwriaethau sy’n Barti hybu ac annog cydweithrediad rhyngwladol mewn materion sy’n ymwneud ag addysg, yn enwedig gyda golwg ar gyfrannu at y broses o gael gwared ar anwybodaeth ac anllythrennedd ledled y byd a hwyluso mynediad at wybodaeth wyddonol a thechnegol a dulliau addysgu modern. Yn hyn o beth, rhaid rhoi sylw penodol i anghenion gwledydd sy’n datblygu.

Dim effaith.

Ni fydd y polisi yn dileu'r hawliau hyn i unrhyw blentyn. Bydd addysg breifat ddetholus ar gael o hyd i'r rhai hynny sy'n gallu manteisio arni a bydd y mwyafrif helaeth yn parhau i fanteisio ar yr addysg statudol a ddarperir yn y sector a gynhelir ledled Cymru. 

Nid yw'r hawl i addysg yn rhoi'r hawl i berson ddysgu beth bynnag a fynno, ble bynnag a fynno. Mae'r llysoedd wedi dyfarnu bod yr hawl i addysg yn gysylltiedig â'r system addysg sy'n bodoli eisoes. Nid yw'n ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth ddarparu unrhyw fath penodol o addysg nac i roi cymhorthdal ar gyfer unrhyw fath penodol o addysg. 

Mae'r cynnig yn cydnabod yr annhegwch sy'n bodoli yn y system addysg, drwy ddileu budd y mae rhai ysgolion annibynnol yn ei gael, ond nad yw pob ysgol ar draws y sector yn ei gael. Mae'r budd gyfystyr â chyfraniad cyllid cyhoeddus tuag at gostau addysg breifat sydd ar gael i'r rhai hynny a all fforddio talu amdani. Bydd y cynnig yn darparu swm bach o gyllid ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys addysg. 

Ystyrir mai bach iawn yw’r posibilrwydd y bydd disgyblion yn symud o ysgolion annibynnol a byddai'r hawliau penodol hyn yn cael eu cynnal mewn unrhyw ysgol, felly ni chynigir unrhyw gamau lliniaru.

Erthygl 29 

Mae’r Gwladwriaethau sy’n Barti yn cytuno y bydd addysg y plentyn yn canolbwyntio ar gyflawni’r canlynol: 

  1. Datblygu personoliaeth, doniau a gallu meddyliol a chorfforol y plentyn hyd eithaf ei botensial
  2. Magu parch at hawliau dynol a rhyddidau sylfaenol, ac at yr egwyddorion sydd wedi eu hymgorffori yn Siarter y Cenhedloedd Unedig
  3. Magu parch at rieni’r plentyn, ei hunaniaeth ddiwylliannol, ei iaith a’i werthoedd ei hun, at werthoedd cenedlaethol y wlad lle mae’r plentyn yn byw, y wlad y gall ei fod yn tarddu ohoni, ac at wareiddiadau sy’n wahanol i’w un ei hun
  4. Paratoi’r plentyn ar gyfer bywyd cyfrifol mewn cymdeithas rydd, yn ysbryd dealltwriaeth, heddwch, goddefgarwch, cydraddoldeb rhywedd, a chyfeillgarwch ymhlith yr holl bobloedd, grwpiau ethnig, cenedlaethol a chrefyddol a phersonau o darddiad brodorol
  5. Magu parch at yr amgylchedd naturiol

Rhaid peidio â dehongli unrhyw ran o’r erthygl bresennol nac Erthygl 28 yn y fath fodd ag i amharu ar ryddid unigolion a chyrff i sefydlu a chyfarwyddo sefydliadau addysgol, a bydd hynny’n ddarostyngedig bob amser i’r rheidrwydd i ddilyn yr egwyddor a nodwyd ym mharagraff 1 o’r erthygl bresennol ac i’r gofynion bod rhaid i’r addysg a roddir mewn sefydliadau o’r fath gydymffurfio ag unrhyw safonau gofynnol a osodir gan y Wladwriaeth. 

Dim effaith.

Mae'n ddisgwyliad sylfaenol y caiff yr hawliau hyn eu cynnal o fewn yr addysg a gaiff pob plentyn. Mae gan rai ysgolion y byddai'r polisi yn effeithio arnynt gymeriad crefyddol penodol. Nid yw'r polisi wedi'i dargedu at sefydliadau o'r fath ac nid yw'n effeithio ar eu rhyddid parhaus i fynegi'r cymeriad hwnnw ychwaith. 

O ran y Gymraeg, mae'r ddarpariaeth ddysgu yn y sector ysgolion annibynnol yn fwy cyfyngedig nag yn y sector a gynhelir. Fel y cyfryw, byddai'r cynnig yn dileu swm bach o gyllid cyhoeddus sydd ar gael i ysgolion annibynnol sy'n gwneud cyfraniad mwy cyfyngedig at y Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru nag ysgolion a gynhelir. 

Ystyrir mai bach iawn yw’r posibilrwydd y bydd disgyblion yn symud o ysgolion annibynnol a byddai'r hawliau penodol hyn yn cael eu cynnal mewn unrhyw ysgol, felly ni chynigir unrhyw gamau lliniaru.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Ni ragwelir unrhyw effeithiau uniongyrchol ar blant a phobl ifanc, felly ni fwriedir cynnal unrhyw waith cyfathrebu penodol â phlant a phobl ifanc. Ystyrir mai bach iawn yw’r posibilrwydd y bydd unrhyw effeithiau anuniongyrchol, ac mae hyn yn gwbl ddibynnol ar benderfyniadau a wneir gan yr ysgolion yr effeithir arnynt ac ar benderfyniadau a wneir (os bydd unrhyw effaith ar ffioedd) gan rieni disgyblion yr ysgolion hynny. Fel y cyfryw, disgwylir y byddai ysgolion yn cyfathrebu â phlant a phobl ifanc ynghylch unrhyw newidiadau a allai effeithio arnynt. 

Monitro ac adolygu

Ni nododd yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant unrhyw effeithiau ar hawliau plant i'w monitro a'u hadolygu. 

Yn fwy cyffredinol, byddwn yn parhau i gael data ar ardrethi annomestig gan awdurdodau lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio bob blwyddyn. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fonitro nifer a chost yr eiddo sy'n cael rhyddhad elusennol. 

Bydd Cyfrifiad Ysgolion Annibynnol blynyddol Llywodraeth Cymru yn darparu data i fonitro nifer y dysgwyr yn yr ysgolion annibynnol yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y cynnig hwn. Mewn perthynas â'r posibilrwydd y bydd nifer bach iawn o ddisgyblion yn symud o ysgolion annibynnol, ni fydd yn bosibl datgysylltu effaith y cynnig hwn oddi wrth effaith cynlluniau Llywodraeth y DU mewn perthynas â TAW (y byddai disgwyl iddynt gael fwy o effaith). Nid yw'n debygol ychwaith y byddai modd gwahaniaethu rhwng y nifer bach o ddisgyblion a fyddai'n symud a'r amrywiadau arferol o ran niferoedd disgyblion. Bydd yr ymgynghoriad ar y cynnig hwn hefyd yn cynnig cyfle i ystyried unrhyw effeithiau posibl na nodwyd ac nad ydynt wedi’u cynnwys eisoes yn yr asesiad hwn.