Mae ceidwaid moch yn cael eu hatgoffa i beidio â rhoi crafion cegin i'w hanifeiliaid rhag lledaenu clefyd anifeiliaid.
Daw'r rhybudd ar ôl i'r risg y gallai clwy Affricanaidd y moch ddod i'r DU gynyddu yn yr haf ar ôl i'r haint ledaenu yn Nwyrain a Chanolbarth Ewrop.
Ni fu erioed achos o glwy Affricanaidd y moch yn y DU. Nid yw'n effeithio ar bobl, ond gall ladd moch. Pe bai'r clefyd yn cyrraedd y DU, gallai gael effaith aruthrol ar y farchnad allforio a byddai'n rhaid difa moch ar safleoedd heintiedig i rwystro'r clefyd rhag lledaenu.
Mae ceidwaid yn cael eu hatgoffa i beidio â rhoi gwastraff arlwyo o unrhyw fath na gwastraff bwyd domestig i anifeiliaid fferm, gan gynnwys moch anwes, yn y DU gan i rai o'r achosion o glwy Affricanaidd y moch ar faeddod gwyllt a moch domestig yn Ewrop ddeillio, mae'n debyg, o fwyta porc a chynhyrchion porc. Mae hyn yn cynnwys bwyd o erddi gan fod dal perygl o'u traws-heintio â chynnyrch sy'n dod o anifeiliaid fel llaeth.
Rhaid wrth fesurau hylendid llym i rwystro clefydau - ni ddylai pobl fynd â chig na chynnyrch cig i fannau lle mae moch yn cael eu cadw a dylent fwyta mewn lleoedd penodedig fel ystafelloedd staff neu yng nghegin y fferm. Dylai ceidwaid moch, staff y fferm ac unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â moch olchi'u dwylo cyn ac ar ôl bwyta neu baratoi bwyd.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol y DU, Nigel Gibben :
"Pe bai clwy Affricanaidd y moch yn dod i'r wlad, byddai'n cael effaith aruthrol ar ein diwydiant moch. Waeth faint o foch rydych yn eu cadw, mae angen ichi fod yn ymwybodol o ganlyniadau posib bwydo gwastraff bwyd i'ch anifeiliaid. Yn ogystal â bod yn anghyfreithlon, mae perygl ichi ledaenu clefyd a all fod yn angheuol i dda byw.
"Gallwch brynu amrywiaeth o fwyd moch sy'n ddiogel i'w fwydo i foch yn eich siop amaethyddol leol. Dyma'r bwyd gorau hefyd i sicrhau bod eich moch yn cael diet gytbwys. Rhaid wrth y mesurau bioddiogelwch gorau i leihau'r risg o ledaenu'r clefyd, mesurau fel darparu dillad ac esgidiau penodol i weithwyr a rhwystro cerbydau rhag mynd i safleoedd cadw moch."
Meddai'r Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:
"Mae clwy Affricanaidd y moch yn glefyd hynod heintus. Gall ceidwaid moch ein helpu i atal yr haint trwy gadw at fesurau bioddiogelwch llym ar eu safleoedd. Rhan bwysig o hyn yw sicrhau nad yw'ch moch yn cael unrhyw fwyd y gall fod cig neu gynnyrch cig heintus ynddo, gan gynnwys gwastraff ceginau."
Dioddefodd y DU ganlyniadau bwydo gwastraff bwyd anghyfreithlon i foch yn yr achos o glwy'r traed a'r genau yn 2001. Credir mai o foch oedd wedi cael gwastraff arlwyo heintiedig o'r tu allan i'r DU i'w fwyta y daeth y clefyd y tro hwnnw. Bu'n rhaid difa mwy na 10 miliwn o wartheg a defaid gan gostio miliynau o bunnau i'r DU.
Dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Foch Genedlaethol:
"Mae iechyd ein moch yn gwbl sylfaenol i'n sector. Yn ogystal â lladd llawer o foch heb eisiau a dinistrio marchnad allforio sydd ar hyn o bryd ar gynnydd, byddai cael achos o glefyd hysbysadwy nawr yn cael effaith sylweddol ar deuluoedd dirifedi, eu staff, busnesau lleol a thwristiaeth am fisoedd. Nid yw'n werth mentro bwydo gwastraff anghyfreithlon i foch, waeth pa mor ddiniwed y gall hynny ymddangos ar y pryd."