Neidio i'r prif gynnwy

Yn yr Arolwg Cenedlaethol Ebrill 2016 i Mawrth 2017, gofynnwyd i bobl a oedd ganddynt gyflwr iechyd hirdymor a oedd yn cyfyngu ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Ar gyfer y adroddiad hwn, mae oedolyn yn cael ei ddiffinio fel person 'anabl' os oes ganddo gyflwr o'r fath. Yn yr arolwg, gofynnwyd i'r bobl hyn wedyn am eu defnydd o wahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus. Gofynnwyd iddynt hefyd am unrhyw anawsterau wrth fynd i adeiladau cyhoeddus, swyddfeydd, siopau, ysgolion a chartrefi pobl.

Prif bwyntiau

  • Tacsi oedd y math o drafnidiaeth gyhoeddus mwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio - roedd 44% o bobl anabl wedi defnyddio tacsi yn y flwyddyn flaenorol, o gymharu â 16% oedd wedi defnyddio coets.
  • Y rheswm mwyaf cyffredin, o bell, dros beidio defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oedd 'dim angen neu ddim eisiau'. Yr ail reswm mwyaf cyffredin dros beidio defnyddio bysiau neu drenau lleol oedd y ffaith nad oedd trafnidiaeth o’r fath ar gael, a'r gost oedd yr ail reswm mwyaf cyffredin dros beidio â theithio mewn tacsi neu drên dros bellter hir.
  • Roedd y rhan fwyaf o bobl anabl yn dweud nad oeddent erioed wedi cael trafferth mynd i mewn i adeilad, symud o amgylch adeilad neu ddefnyddio cyfleusterau mewn adeilad.
  • Siopau oedd y math mwyaf cyffredin o adeilad yr oedd pobl yn cael trafferth mynd iddynt neu eu defnyddio, yn ôl 45% o'r rhai gafodd drafferthion. Yn ail agos roedd ysbytai, yn ôl 38%.
  • Roedd 41% o'r rhai gafodd anhawster mynd i mewn i adeilad yn dweud bod y drafferth yn gysylltiedig â 'symud o amgylch yr adeilad'. 25% yn dweud 'problemau parcio' a 22% yn dweud nad oedd digon o lifftiau neu gyfleusterau tai bach.

 

Adroddiadau

Rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Ebrill 2016 i Mawrth 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 895 KB

PDF
Saesneg yn unig
895 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.