Neidio i'r prif gynnwy

Diffinnir e-ddysgu fel 'defnyddio technoleg electronig i gynorthwyo, cyfoethogi neu gyflwyno dysgu'.

Nod y prosiect hwn yw penderfynu ar y canlynol:

  • gwybodaeth a chyfraniad y sector gwirfoddol mewn e-addysg
  • y manteision gwirioneddol a'r manteision posibl i'r sector gwirfoddol yn sgil defnyddio e-ddysgu
  • rhwystrau rhag defnyddio e-ddysgu'n effeithiol
  • y cryfderau, y gwendidau, y cyfleoedd a'r bygythiadau i'r sectorau gwirfoddol wrth ddefnyddio e-ddysgu
  • nifer o argymhellion ar gyfer camau gweithredu pellach gan y sector gwirfoddol a phartneriaid yn y dyfodol
  • yng Nghymru, mae'r sector gwirfoddol yn cynnwys 30,000 o sefydliadau gwirfoddol a rhynddynt, maent yn cynhyrchu incwm o £1.022 biliwn.  Mae o leiaf 30,000 o bobl yn gweithio yn y sector gwirofddol ac mae'r sector yn ffodus i gael gwasanaeth dros 1.2 miliwn o wirfoddolwyr.

Yr heriau penodol sy'n wynebu sefydliadau gwirfoddol yw ariannu, recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr a gweithio gyda sefydliadau eraill.

Yn rhan o'r prosiect, rhoddwyd hyrwyddwr e-ddysgu ym mhob Cyngor Gwirfoddol Sirol a'u swyddogaeth oedd cynnal gwaith ymchwil ar y camau gweithredu ar sail y briff ar gyfer y prosiect a blaenoriaethau lleol.

Adroddiadau

Rhwystrau rhag cynyddu’r defnydd o dechnoleg dysgu yn y sector gwirfoddol, Medi 2005 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 165 KB

PDF
165 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.