Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros 216,000 o dunelli o halen ac un deg tri o wasgarwyr halen ar gael i sicrhau y bydd ffyrdd Cymru’n parhau i weithio yn ystod misoedd y gaeaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2010, roedd stociau rhai awdurdodau lleol yn beryglus o isel. Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi yn awyddus iawn i sicrhau bod Cymru’n barod, beth bynnag fo’r tywydd.

Dywedodd Mr Skates:

"Rwyf wedi canmol sawl tro’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud i gadw ein ffyrdd mor ddiogel â phosib ddydd a nos yn ddi-ffael a, heb os, misoedd y gaeaf yw’r rhai mwyaf heriol. 

Boed ar lefel leol neu genedlaethol, mae’n holl bwysig bod gan bobl yn ein cymunedau a’n busnesau’r hyder i barhau gyda’u gweithgareddau bob dydd yn ddiogel heb fawr o broblemau. I’r perwyl hwn, mae nifer o fesurau ar waith. 

“Ar ôl ail-lenwi’n stordai â halen ledled Cymru mae gennym 216,000 o dunelli ar hyn o bryd. Mae trefniadau wrth gefn hefyd i ddefnyddio stociau halen Llywodraeth Cymru os bydd angen. 

“Hefyd, mae un deg tri o wasgarwyr halen ar gael i’w defnyddio ar y draffordd a’r cefnffyrdd gerllaw cyn tymor y gaeaf er mwyn ein paratoi ar gyfer tywydd gwael. Mae’r holl gyfarpar a pheiriannau wedi cael gwasanaeth i sicrhau y gellir eu rhoi ar waith yn gyflym.

"Mae gorsafoedd tywydd wrth ochr y ffordd wedi cael gwasanaeth, ac mae gorsafoedd tywydd ychwanegol wedi’u gosod mewn lleoliadau penodol eleni i sicrhau bod yr wybodaeth fwyaf cywir ar gael o ran cyflwr y ffyrdd a’r tywydd.  

“Hefyd, fel arfer, bydd patrolau ar gefnffyrdd cyn ac ar ôl tywydd drwg er mwyn sicrhau bod systemau draenio’n gweithio, a bydd ein cytundeb â chwmnïau bysiau ac eraill yn sicrhau bod Traveline Cymru yn cael ei hysbysu ar unwaith am anawsterau teithio fel bod y cyhoedd yn cael gwybod amdanyn nhw cyn gynted â phosib."

Wrth sôn am baratoi’r rheilffyrdd ar gyfer y Gaeaf, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:

“Cafodd gormod o drenau eu canslo’r llynedd oherwydd dail ar y cledrau a dw i’n teimlo y gallai Network Rail ac Arriva fod wedi cydweithio’n well i osgoi hyn. Er nad yw seilwaith y rhwydwaith trên yn gyfrifoldeb datganoledig, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion annog Network Rail yn daer i glirio’r cledrau’n amlach ac Arriva Cymru i ddefnyddio mwy o drenau a staff. 

“Rwy'n deall bod Network Rail eisoes wedi cydweithio ag Arriva Cymru i glirio llystyfiant er mwyn lleihau effeithiau cwymp dail, ac mae Arriva Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi rhoi mesurau ychwanegol ar waith i sicrhau bod y nifer mwyaf o drenau ar gael yn ystod y gaeaf. Rwy’n gobeithio y bydd y mesurau hyn yn llwyddo i leihau unrhyw aflonyddwch yn ystod y misoedd nesaf.