Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Seren yn cyhoeddi ysgoloriaeth fythgofiadwy gyda Phrifysgol Yale, wrth i adroddiad annibynnol ddod i’r casgliad bod y prosiect yn ‘ychwanegu gwerth’ ac yn ‘cau bylchau’

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y bartneriaeth yw ehangu gorwelion academaidd myfyrwyr o Gymru trwy roi blas iddynt ar fywyd mewn prifysgol yn yr Unol Daleithiau. Bydd prif gost yr ysgol haf – sef $6,000 o ddoleri fel arfer – yn cael ei thalu ar y cyd gan Seren a Yale.

Mae gan fyfyrwyr Seren Blwyddyn 12 hyd at 13 Chwefror i wneud cais, a byddant yn cael eu dewis trwy broses ymgeisio gystadleuol.

Oherwydd llwyddiant cydweithrediad tebyg rhwng Seren a Choleg yr Iesu Rhydychen yr haf diwethaf, a arweiniodd at 73% o’r rhai a gymerodd ran yn gwneud cais i fynd i Brifysgol Rhydychen, penderfynwyd treblu maint y prosiect, gan roi cyfle i oddeutu 70 o ddisgyblion gael blas ar fywyd yn y sefydliad enwog ym mis Awst.

Daw’r newyddion hwn wrth i adroddiad annibynnol ar lwyddiant rhaglen mynediad i brifysgolion flaengar Llywodraeth Cymru hyd yma, a gyhoeddwyd ddoe, ddod i’r casgliad bod y rhaglen yn darparu gwerth clir i ddisgyblion Cymru ac yn codi eu huchelgeisiau.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod Rhwydwaith Seren yn gwella hyder disgyblion o Gymru ac yn eu hannog i feddwl yn fwy uchelgeisiol am eu dewisiadau prifysgol.

Daeth i’r casgliad hefyd fod Seren wedi bod yn werthfawr o ran helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau mwy gwybodus a darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud ceisiadau cystadleuol.

Meddai Liam Rahman, a raddiodd o Yale ac sydd bellach yn gweithio fel cynrychiolydd Yale yng Nghymru:

“Ers dychwelyd i Gymru y llynedd, mae hi wedi bod yn fraint cael gweithio gyda darpar fyfyrwyr o Gymru trwy Rwydwaith Seren a Phwyllgor Ysgolion Cyn-fyfyrwyr Yale. Dros y misoedd diwethaf, rydw i wedi gweithio i feithrin y berthynas rhwng Yale a Rhwydwaith Seren, gan greu’r bartneriaeth a’r ysgoloriaeth wych hon. Bydd yr ysgoloriaeth hon yn gyfle i newid bywyd rhai o ddisgyblion chweched dosbarth disgleiriaf Cymru, ac mae’n gyfle i Yale fanteisio ar rai o’r doniau gorau yng Nghymru."

Mae Lowri Morgan yn fyfyriwr chweched dosbarth o Abercynon sydd wedi derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae hi’n rhan o ganolfan Seren Rhondda Cynon Taf/Merthyr Tudful. Meddai:

“Roedd y cymorth a gefais i trwy Seren yn ddefnyddiol iawn; mae fy ngradd mewn Ffiseg ac Athroniaeth, sy’n faes eithaf arbenigol – ond trwy Seren cefais i’r cyfle i gymryd rhan mewn sawl gweithdy gyda Phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, gan ddysgu beth i’w ddisgwyl yn y cyfweliadau.

“Un o’r gweithdai oedd gweithdy ymarfer arholiad gyda Rhydychen ac, er bod yr arholiadau a sefais yn y pen draw ychydig yn wahanol, roedd yr elfennau ysgrifennu traethawd a meddwl yn feirniadol mor wahanol. Yna, cyn y cyfweliad ei hun, fe fues i yn Ysgol Howell’s yng Nghaerdydd ar gyfer sesiwn baratoi, gan ymarfer gyda disgyblion eraill yn ein maes pwnc.

“Ar ôl hynny, cefais gyfweliad ffug gyda Stephen Parry Jones, cydgysylltydd fy nghanolfan Seren, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Heb y cyfleoedd hyn trwy Seren, a’r help gan fy mhennaeth chweched dosbarth, mi fyddwn i wedi bod yn y niwl yn llwyr. Fyddwn i ddim wedi bod â’r hyder oedd gen i yn y cyfweliad hwnnw, ac rwy’n hynod ddiolchgar am hynny.”

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams:

“Ers ei lansio yn 2015, mae Seren wedi tyfu i fod yn gyfrwng cydnabyddedig a gwerthfawr lle mae mwy na 2,000 o ddisgyblion yng Nghymru yn meithrin eu doniau a’u huchelgeisiau academaidd.

“Mae’r adroddiad yn nodi llwyddiant cynnar sylweddol y Rhwydwaith, o gau bylchau mewn cymorth ledled Cymru i greu partneriaethau strategol newydd rhwng Cymru a rhai o’r sefydliadau academaidd gorau yn y byd, gan gynnwys Yale.

“Wrth gwrs, mae’r adroddiad yn nodi rhai meysydd i’w gwella, gan gynnwys amryw rydyn ni eisoes yn gweithio arnyn nhw. Er hynny, mae’n gadarnhaol gweld trosolwg cadarnhaol mor gynnar yn y broses.”

Meddai Dr Matthew Williams, Cymrawd Mynediad a Datblygu Gyrfa, Coleg yr Iesu Rhydychen:

"Mae Seren yn rhwydwaith gwych. Mae wedi bod o fudd mawr i’w gyfranogwyr ac yn hynod werthfawr i academyddion fel fi sydd eisiau cyfarfod â’r bobl orau a disgleiriaf o bob cwr o Gymru.

“Gyda help Seren, byddwn ni yn Rhydychen yn gallu cynnal ein hysgol haf Cymru gyfan gyntaf erioed ym mis Awst 2017. Heb arbenigedd a help Seren, fydden ni ddim wedi gwneud cymaint o gysylltiadau ystyrlon â myfyrwyr o Gymru."

Meddai Stephen Parry Jones, Cadeirydd Grŵp Llywio a Chydgysylltydd Canolfan  Seren Rhondda Cynon Taf:

“Mae’r adroddiad yn hwb mawr. Dim ond tair blynedd yn ôl, roedd gen i a’r cydgysylltwyr eraill ddalenni gwag o bapur a briff i droi adroddiad yr Arglwydd Murphy yn rhyw fath o realiti. Roedden ni braidd yn ansicr ar y cychwyn, ond mae’r cynnydd mewn hyder ac uchelgais ymhlith myfyrwyr o Gymru a nodir yn yr adroddiad yn galonogol iawn.

“Roeddwn i’n falch iawn o fod yn bresennol yn ysgol haf Coleg yr Iesu. Fel cydgysylltwyr, creodd gallu deallusol myfyrwyr o bob cwr o Gymru gryn argraff arnom ni. Mae cynnig Yale yn ddatblygiad cyffrous arall. Wrth gwrs, mae gwaith i’w wneud o hyd, ond rydyn ni mor falch o weld bod Seren yn dangos ei werth yn barod.”

Mae meysydd i’w gwella a amlinellir yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Mwy o gydweithrediad ar draws y canolfannau i sicrhau bod gweithgareddau o fudd i gymaint o ddisgyblion â phosibl
  • Mae angen mwy o ddata ar gyrchfannau cyffredinol cyfranogwyr, er y cydnabuwyd nad yw’r data hwn ar gael eto gan fod y Rhwydwaith yn ei ddyddiau cynnar
  • Er bod hyblygrwydd yn bwysig o un ganolfan i’r llall, dylai fod cynnig gofynnol ar draws y canolfannau fel bod cyfranogwyr yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl dros eu rhaglen 2 flynedd pan fyddant yn ymuno â’r Rhwydwaith
  • Mae’r adroddiad yn nodi y dylid ymestyn model Seren i ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 3 a 4 er mwyn dylanwadu arnynt yn gynharach yn eu taith academaidd