Parciau a gerddi y mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn eu harchwilio i wirio iechyd planhigion.
Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn cynnal archwiliadau iechyd planhigion mewn parciau a gerddi cyhoeddus ddwywaith y flwyddyn.
Mae'r parciau'n cynnwys miloedd o blanhigion a choed cyffredin a rhai llai adnabyddus. Mae'r archwiliadau'n nodi problemau posibl gyda phlâu a chlefydau planhigion niweidiol a rheoleiddiedig.
Mae 22 o safleoedd sentinel, wedi'u lleoli ym mhob rhanbarth awdurdod lleol. Mae'r gerddi a pharciau yn ffurfio rhwydwaith Safle Sentinel. Maent yn safleoedd monitro pwysig sy'n gweithredu fel system rhybudd cynnar ar gyfer plâu a chlefydau planhigion sy'n ffurfio rhwydwaith gwyliadwriaeth.
Os ydych yn gyfrifol am barc neu ardd sydd â mynediad i'r cyhoedd ac os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni: Plant.Health@llyw.cymru.
Gerddi a pharciau yn ôl sir
- Blaenau Gwent - Parc Bedwellte
- Caerffili - Parc Penallta
- Caerdydd - Parc Bute
- Merthyr Tudful - Parc Cyfarthfa
- Sir Fynwy – Gerddi Linda Vista
- Casnewydd - Tŷ Tredegar (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Torfaen - Parc Pont-y-pŵl
- Pen-y-bont ar Ogwr - Parc Gwledig Bryngarw
- Sir Gaerfyrddin - Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol
- Ceredigion – Llanerchaeron (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Castell-nedd Port Talbot - Parc Margam
- Sir Benfro - Gardd Goedwig Colby (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Rhondda Cynon Taf - Parc Aberdâr
- Abertawe - Gerddi Clun
- Bro Morgannwg - Gerddi Dyffryn (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Conwy - Gardd Bodnant (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Sir Ddinbych - Bodelwyddan
- Sir y Fflint - Parc Gwledig Loggerheads
- Gwynedd - Castell Penrhyn (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Ynys Môn - Plas Newydd (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Powys - Castell Powis (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Wrecsam - Castell y Waun (Ymddiriedolaeth Genedlaethol)