Mae The Novello Orchestra yn newid ei henw i The Not New Novello Orchestra am ddiwrnod er mwyn lansio cynllun peilot Llywodraeth Cymru ‘Offerynnau i Blant’.
Heddiw (2 Tach), mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, yn galw ar bobl yng Nghymru i sychu’r llwch oddi ar eu hen offerynnau segur ar gyfer cynllun peilot newydd Llywodraeth Cymru, Offerynnau i Blant.
Bydd Offerynnau i Blant yn casglu’r holl offerynnau sydd wedi bod yn cuddio yn yr atig, y garej a chypyrddau ledled Cymru a’u dosbarthu, drwy’r awdurdodau lleol, i blant ac ysgolion lle mae angen darpariaeth gerddoriaeth.
Lansiwyd y cynllun peilot yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 2 Tachwedd, gyda pherfformiad arbennig gan aelodau’r gerddorfa sydd ag enw newydd dros-dro Not New Novello Orchestra, o dan arweiniad David Mahoney, drwy ddefnyddio offerynnau a roddwyd gan Aelodau Cynulliad.
Mae’r cynllun peilot yn dilyn ymgyrch yn gynharach eleni gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru, lle cafodd dros 50 o offerynnau eu rhoi gan Aelodau Cynulliad a staff.
Mae pobl ar draws Cymru yn cael eu hannog rhwng 20-24 Tachwedd i roi offerynnau sydd ddim yn cael eu defnyddio mwyach – sef Wythnos Amnest Offerynnau Cerdd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:
“Hyd yn oed os mai rhoi cynnig arni wnaethon ni, mae gan y rhan fwyaf ohonom atgofion o ddysgu sut i chwarae offeryn cerdd yn blentyn.
“Rydym yn credu y dylai pob plentyn gael cyfle i ddysgu chwarae offeryn. Dyna pam, gyda’n gilydd, ein bod yn ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o sicrhau bod plant ar draws Cymru yn cael mynediad i gerddoriaeth. Mae Offerynnau i Blant yn rhan o hynny.
“Gobeithiwn y bydd cariad Cymru at gerddoriaeth yn ysbrydoli pobl i sychu’r llwch oddi ar eu hen offerynnau ym mis Tachwedd a rhoi bywyd newydd iddyn nhw a’u trosglwyddo er mwyn i blant allu eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd):
“Fel cyn athrawes, rwy’n gwybod yn iawn sut gall cerddoriaeth gyfoethogi profiadau dysgu plant a rhoi pleser a mwynhad drwy gydol eu bywydau. Bydd nifer ohonom ni wedi cael cyfle i ddysgu i chwarae offeryn cerdd o oed cynnar, a pha ffordd well o drosglwyddo’r sgiliau hynny na sychu’r llwch oddi ar eich hen offerynnau a helpu’r genhedlaeth nesaf o maestros cerddorol a’r rheini sydd ond eisiau rhoi cynnig arni!”
Mae David Mahoney, sylfaenydd The Novello Orchestra ac aelod o Only Men Aloud, yn un o sawl cerddor yng Nghymru sy’n cefnogi’r ymgyrch:
“Mae cerddoriaeth yn rhan mor bwysig o ddiwylliant Cymru a dylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i gydio mewn offeryn a rhoi cynnig arni. Mae manteision creu cerddoriaeth yn ddi-ddiwedd a bydd y cynllun hwn yn gyfle perffaith i gyflwyno perfformiad cerddorol i’r rheini na fyddent wedi dod ar ei draws fel arall.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag Offerynnau i Blant ac i gael gwybod sut gallwch roi eich hen offerynnau rhwng 20 a 24 Tachwedd, ewch i: Addysg Cymru ar Facebook (dolen allanol)