Heddiw, mae’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters wedi pennu’r cyfeiriad ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru mewn datganiad sy'n rhoi newid hinsawdd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog wrth y Senedd
'fyddwn ni ddim yn cyrraedd Sero Net os na fyddwn ni’n stopio gwneud yr un peth drosodd a throsodd',
a rhoddodd wybod am ganfyddiadau rhai dogfennau allweddol sy'n llywio dyfodol adeiladu ffyrdd yng Nghymru.
Mae'r dogfennau newydd yn cynnwys canfyddiadau Panel yr Adolygiad Ffyrdd – grŵp o arbenigwyr annibynnol sydd â'r dasg o asesu dros 50 o brosiectau adeiladu ffyrdd – a Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn dangos statws 59 o brosiectau i gyd – sy’n cynnwys rhai sy'n cael eu gyrru yn eu blaen, rhai nad ydynt yn cael eu symud ymlaen ar hyn o bryd, a rhai sy'n cael eu disodli gan waith newydd.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Lee Waters:
“Pan wnaethon ni gyhoeddi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ddwy flynedd yn ôl, roedden ni’n ymrwymo i ddechrau ar lwybr newydd.
“Mae cyhoeddi'r Adolygiad Ffyrdd hwn, ynghyd â'r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth, a'n Datganiad Polisi newydd ar Ffyrdd, yn gam mawr ymlaen ar y llwybr hwnnw.
“Gadewch i mi fod yn hollol glir o’r cychwyn, byddwn ni’n dal i fuddsoddi mewn ffyrdd. Yn wir, rydyn ni wrthi’n adeiladu ffyrdd newydd ar hyn o bryd! Ond rydyn ni codi'r bar o ran penderfynu mai ffyrdd newydd yw’r ateb cywir i’r problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.
“Rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn, gan gynnwys buddsoddi mewn prosiectau rheilffyrdd, bysiau, cerdded a seiclo.
“Wrth gwrs, mae gwneud hynny mewn cyfnod o gyni yn heriol iawn. Dydyn ni ddim yn cael ein cyfran o fuddsoddiad HS2. Ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn gwthio llawer o wasanaethau bysiau dros ymyl y dibyn, yn ogystal â thorri ein cyllidebau buddsoddi cyfalaf.
“Hyd yn oed pe bydden ni am fwrw ymlaen â'r holl gynlluniau ffyrdd sydd ar y gweill, dyw’r arian ddim gyda ni i wneud hynny. Bydd ein cyllideb gyfalaf 8% yn is y flwyddyn nesaf o ganlyniad i gyllideb ddiwethaf Llywodraeth y DU.”
“Gyda llai o adnoddau daw yn bwysicach fyth blaenoriaethu, ac mae'r Adolygiad Ffyrdd yn ein helpu ni i wneud hynny.”
Cafodd yr adolygiad ffyrdd ei gyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog ym mis Mehefin 2021 gan rewi pob prosiect adeiladu ffyrdd.
Yna cafodd panel annibynnol ei greu â'r dasg o adolygu'r prosiectau a ystyriwyd yn rhan o'r adolygiad.
O dan arweiniad yr ymgynghorydd trafnidiaeth, y Dr Lynn Sloman MBE, cyflwynodd y panel ei ganfyddiadau i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2022 a chawsant eu cyhoeddi heddiw.
Ochr yn ochr â’r canfyddiadau, cyflwynwyd rhai argymhellion allweddol gan y panel, gan gynnwys pedwar prawf ar gyfer adeiladu ffyrdd newydd.
O hyn ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru ond yn ystyried buddsoddiad ffyrdd yn y dyfodol ar gyfer prosiectau sy'n:
- lleihau allyriadau carbon a chefnogi newid o ran trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio
- gwella diogelwch drwy newid ar raddfa fach
- helpu Llywodraeth Cymru i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd
- darparu cysylltiadau â swyddi ac ardaloedd o weithgarwch economaidd mewn ffordd sy'n gwneud y defnydd mwyaf o drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio
Wrth ddatblygu cynlluniau, dylid canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, peidio â chynyddu capasiti ffyrdd, peidio â chynyddu allyriadau drwy atal cerbydau rhag teithio ar gyflymder uwch, a pheidio â chael effaith andwyol ar safleoedd ecolegol werthfawr.
Aeth y Dirprwy Weinidog yn ei flaen:
“Dyw ein dull gweithredu dros y 70 mlynedd diwethaf ddim yn gweithio.
“Fel y mae’r adolygiad yn ei nodi, mae’r ffordd osgoi a fynnwyd i leddfu tagfeydd yn aml yn creu traffig ychwanegol, sydd yn ei dro yn dod â galwadau pellach am lonydd ychwanegol, cyffyrdd ehangach a mwy o ffyrdd.
“Rownd a rownd â ni, yn allyrru mwy a mwy o garbon yn y broses, a wnawn ni ddim cyrraedd Sero Net nes inni stopio gwneud yr un peth drosodd a throsodd.
“Pan wnaeth Julie James a fi ddechrau ar ein swyddi newydd, fe wnaethon ni ei gwneud yn glir bod yn rhaid i Gymru wneud mwy o doriadau yn ei hallyriadau y degawd hwn nag yr ydyn ni wedi’u gwneud yn y tri degawd diwethaf gyda'i gilydd.
“Mwy o doriadau yn y deg mlynedd nesaf na'r 30 diwethaf i gyd - dyna mae'r wyddoniaeth yn dweud y mae angen inni ei wneud os ydyn ni am ddiogelu Cymru i’r dyfodol.
“Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio, oni bai ein bod ni’n gweithredu mewn ffordd bendant nawr, ein bod ni’n wynebu trychineb hinsawdd.
“Os mai ein bwriad yw datgan Argyfwng Hinsawdd a Natur, deddfu i ddiogelu Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a'i gwneud yn ofyniad cyfreithiol cyrraedd Sero Net erbyn 2050, mae’n rhaid inni fod yn barod i fynd â'r maen i'r wal.”
Mae nifer fach o'r 59 prosiect wedi'u nodi’n gynlluniau awdurdodau lleol neu’n gynlluniau datblygu economaidd.
Bydd y 15 cynllun awdurdod lleol yn cael eu hystyried mewn cylchoedd grant trafnidiaeth yn y dyfodol, cyn belled â’u bod yn bodloni profion adeiladu ffyrdd ac ymrwymiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Bydd y Cynghorydd Anthony Hunt a'r Cynghorydd Llinos Medi yn arwain grŵp i ddatblygu canllawiau ar sut rydym yn cysylltu safleoedd datblygu economaidd â'r rhwydwaith trafnidiaeth, sy'n gyson â'r profion yn y dyfodol ar gyfer adeiladu ffyrdd a Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Mae adroddiad y Panel hefyd yn sôn am gynnal a chadw'r ffyrdd presennol a chefnogi cludo nwyddau.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Ddatganiad Ysgrifenedig heddiw ar sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â chynnal a chadw ffyrdd, ac mae wedi ymrwymo i gyhoeddi cynllun cludo nwyddau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.