Archwilio cyflwyno system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) mewn etholiadau lleol yng Nghymru yn y dyfodol fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nodau'r ymchwil hon oedd asesu rhagoriaethau cymharol gwahanol amrywiadau ar STV a sut i’w rhoi ar waith.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio’n fanwl ar chwe agwedd ar systemau etholiadol STV.
- System gwotâu
- System drosglwyddo
- Dull cyfrif
- Strwythur y papur pleidleisio
- Maint y dosbarth
- Dealltwriaeth y pleidleiswyr a’r rhanddeiliaid
Prif ganfyddiadau
- Ni welodd yr efelychiadau ddim gwahaniaeth sylweddol bron o ran canlyniadau’r etholiadau wrth ddefnyddio cwota Droop neu cwota Hare.
- Mae'n hymchwil ni'n nodi dau ddull sy'n addas i'w defnyddio yn etholiadau lleol Cymru: Dull Gregory Cynhwysol wedi'i Bwysoli a Dull Gregory Syml.
- Cafwyd consensws yn y llenyddiaeth bresennol ac ymysg y bobl y cyfwelwyd â nhw fod cyfrif yn electronig yn well na chyfrif pleidleisiau â llaw.
- Mae nifer o wahanol ffyrdd i reoleiddio trefn yr ymgeiswyr er mwyn i’r pleidleiswyr fynegi eu dewisiadau etholiadol mewn etholiadau STV, bob un â'i sgil-effeithiau ei hun.
- Y consensws yn y llenyddiaeth ac ymysg y bobl y cyfwelwyd â nhw oedd bod dosbarth o faint mwy yn well gan fod hynny’n arwain at ganlyniadau etholiadol mwy cymesur.
Adroddiadau
Rhoi system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar waith ar gyfer etholiadau lleol Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Nerys Owens
Rhif ffôn: 0300 025 8586
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.