Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething yn annog pobl i ystyried bod yn rhoddwyr organau byw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Penderfynodd 31 o bobl Cymru fod yn rhoddwyr byw yn 2017-18, ac mae tua 1,100 o drawsblaniadau arennau gan roddwyr byw yn digwydd yn y DU bob blwyddyn. 

Arennau yw'r organau mwyaf cyffredin i gael eu rhoi gan bobl byw; ond mae tua 5,000 o bobl yn aros am aren newydd ar y rhestr drawsblaniadau yn y DU. 

Trawsblaniad llwyddiannus gan roddwr byw (yn hytrach na gan rywun sydd wedi marw) yw'r driniaeth orau i'r rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef methiant yr arennau. Dyma sy'n cynnig y cyfle gorau i'r derbynnydd, gan fod 82% o arennau sy'n cael eu rhoi gan roddwyr byw yn parhau i weithio ar ôl 10 mlynedd. Mae hyn o gymharu â 75% ar gyfer arennau wedi'u trawsblannu o roddwr sydd wedi marw.

Mae manteision eraill hefyd, gan gynnwys: 

  • llai o amser aros gan fod modd i'r trawsblaniadau ddigwydd yn gynt, pan fo’r sawl sy’n derbyn yr aren yn iachach – a gall hynny yn ei dro ei helpu i wella’n gynt
  • y posibilrwydd o osgoi dialysis yn llwyr, gan gynyddu hyd oes y derbynnydd ar ôl cael trawsblaniad. 
Ymysg yr organau eraill y gall person byw eu rhoi mae darn o'r afu/iau, darn o ysgyfaint a rhan o'r coluddyn bach. Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae rhoddwyr byw yn chwarae rhan hanfodol yn achub ac yn trawsnewid bywydau, gan roi'r cyfle i fwy o gleifion sy'n dioddef methiant yr arennau neu glefydau eraill gael trawsblaniad llwyddiannus. 

“Yn aml mae rhoddwyr byw yn berthnasau agos neu'n ffrindiau ond gallwch roi i rywun nad ydych yn ei adnabod.

"Rwy'n falch iawn ein bod yn arwain y ffordd ar roi organau yng Nghymru, ond tra bod pobl yn marw wrth aros am drawsblaniad, rhaid i ni weithio'n galetach i godi ymwybyddiaeth am y posibilrwydd o roi organau gan roddwyr byw.” 

Mae Mike Stephens yn Llawfeddyg Ymgynghorol Trawsblannu a Thynnu Organau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac mae ganddo brofiad personol o weld y ffordd y mae rhoi organau yn trawsnewid bywydau. Dywedodd:

"Mae rhoi aren yn benderfyniad personol iawn, ac nid yw'n rhywbeth sy'n dod yn hawdd i bawb. Chi yn unig all benderfynu a yw'n rhywbeth yr hoffech wirfoddoli i'w wneud.

"Gall pobl iach sydd am helpu anwyliaid neu ddieithriaid â chlefyd yr arennau wirfoddoli i roi aren.

“Fel rheol mae pobl sy'n cael aren gan roddwr byw yn byw yn hirach na'r rhai sy'n cael un oddi wrth roddwr ymadawedig, ac yn llawer hirach nag y byddai disgwyl iddynt fyw pe na baent wedi cael trawsblaniad.

“Mae hefyd yn caniatáu i’r llawdriniaeth gael ei threfnu ar adeg gyfleus i’r person sy’n rhoi a’r person sy’n derbyn yr organ, a’r tîm clinigol.”

Mae Ann Marsden, sy'n gweithio fel Cydgysylltydd Trawsblaniadau gan Roddwyr Byw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi helpu i hwyluso dros 500 o drawsblaniadau arennau gan roddwyr byw dros yr 16 mlynedd ddiwethaf. Dywedodd:

"Rydw i wedi gweld y weithred anhunanol hon yn trawsnewid bywyd rhywun sy'n dioddef o glefyd yr arennau.

"Aren gan roddwr byw yw'r driniaeth orau yn y tymor hir i glaf â chlefyd yr arennau, yn arbennig os oes modd cynnal y trawsblaniad cyn bod angen dialysis. 

"Mae cyfraddau llwyddiant y llawdriniaeth yn ardderchog, a gall cleifion sy'n derbyn aren gan roddwr byw ddisgwyl manteisio ar aren gwbl weithredol am 15 i 20 mlynedd ar gyfartaledd."