Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Ionawr 2015.

Cyfnod ymgynghori:
5 Hydref 2014 i 16 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am gael eich barn ar ein cynigion manwl ar gyfer y gweithdrefnau cyn ymgeisio newydd sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Cynllunio (Cymru).

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Nod y gweithdrefnau newydd yw gwneud y system rheoli datblygu (y broses ceisiadau cynllunio) yn fwy effeithiol ac effeithlon drwy roi pwyslais ar brosesau cychwynnol - sicrhau bod ymgeiswyr yn ymwybodol o unrhyw faterion arwyddocaol cyn cyflwyno cais cynllunio.

Rydym hefyd yn awyddus i gael eich barn ar sut y gall y pwerau a ddarperir yn y Bil Cynllunio (Cymru) a Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 helpu i wella'r gwasanaethau a ddarperir gan ymgyngoreion statudol.

Mae'r Bil Cynllunio (Cymru) yn cyflwyno darpariaethau cyn ymgeisio newydd sy'n:

  1. rhoi dyletswydd ar ymgeiswyr i gynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio â'r gymuned ac ymgyngoreion statudol ar gyfer datblygiadau sylweddol
  2. ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol (ACLl) ddarparu gwasanaethau cyn ymgeisio i ymgeiswyr.  

Mae darpariaethau eraill yn y Bil Cynllunio (Cymru) a Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gosod dyletswyddau ar ymgyngoreion statudol i ddarparu ymatebion ymgynghori "o sylwedd" o fewn amserlenni penodol.

Diben y darpariaethau hyn yw rhoi pwyslais ar brosesau cychwynnol y system rheoli datblygu er mwyn rhoi cyfle i faterion arwyddocaol gael eu codi cyn i geisiadau cynllunio gael eu cyflwyno a rhoi cyfle i aelodau'r gymuned roi eu barn i ddatblygwyr ar gam cynnar yn y broses gynllunio.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 109 KB

PDF
109 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.