Neidio i'r prif gynnwy
Jennifer Jones

Trawsblaniad dwbl yn dod â gobaith a sicrwydd.

Cafodd Jennifer Jones o Bwllheli wybod ei bod hi’n dioddef o gyflwr difrifol ar ei llygaid bum mlynedd yn ôl, a gwaethygodd y cyflwr yn gyflym. Doedd hi ddim yn gallu gweithio mwyach, na mwynhau ei diddordeb, sef ffotograffiaeth. Ar ôl iddi gael dau drawsblaniad cornea, mae ei golwg yn dychwelyd ac mae hi mor ddiolchgar am haelioni’i rhoddwr, sydd yn ei helpu hi i fyw ei bywyd yn normal unwaith eto. Dyma hi i esbonio: 

“Pan oeddwn i mond yn 24 mlwydd oed cefais wybod fy mod i’n dioddef o Keratoconus, cyflwr sy’n arwain at deneuo’r cornea (haenen allanol y llygad sy’n gorchuddio blaen y llygad) a gwneud i fy ngolwg fod yn aneglur. Roeddwn i’n gwisgo lensys cyffwrdd (contact lenses) oedd yn help, ac fe gefais i driniaeth i helpu i gryfhau’r cornea. Ond dim ond rhywbeth dros dro oedd hynny, ac yn y pen draw fe aeth fy ngolwg mor ddrwg nes bod angen i mi newid y lensys cyffwrdd bob rhyw ddwy awr. 

“Roedd yn gyfnod arbennig o anodd i mi a’r teulu. Roeddwn i’n brwydro am fod fy ngolwg mor ddrwg, ac roeddwn i’n teimlo mod i wedi fy nghyfyngu i’r fath raddau nad oeddwn i prin yn gadael y tŷ. Cyn i mi gael y diagnosis, roeddwn i’n ffotograffydd amatur, ac roeddwn i’n arfer treulio pob eiliad sbâr allan yn tynnu lluniau. Roedd hi’n ofnadwy methu canlyn fy niddordeb mwyach; roedd hi’n teimlo fel pe bai popeth roeddwn i’n mwynhau’i wneud yn cael ei gymryd oddi wrtha i. 

“Cefais fy rhoi ar y rhestr drawsblannu ym mis Tachwedd 2015 ac yn fuan wedyn fe ges i fy nhrawsblaniad cornea cyntaf. Roedd hi’n anodd credu cymaint o wahaniaeth wnaeth hynny i fy ngolwg. Y manylion bach oedd yn bosib eu gweld eto, fel gweld fy nheulu’n glir, a chofio mor llachar y mae lliwiau’n gallu bod. Ychydig wythnosau’n ôl, fe ges i drawsblaniad cornea yn y llygad arall. Rydw i’n dal i wella ar ôl hwnnw, ond mae’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud wedi fy syfrdanu, ac rydw i’n barod i ailgydio yn fy mywyd go iawn eto. Rydw i’n gobeithio mynd yn ôl i’r gwaith cyn bo hir a dechrau tynnu lluniau eto. Rydw i’n teimlo’n llawn cyffro at y dyfodol ac mae’r ddau drawsblaniad wedi gwneud i mi deimlo mor gadarnhaol.

“Cyn i mi wybod bod angen trawsblaniad arna i, roeddwn i fel llawer o bobl eraill wedi arwyddo’r gofrestru rhoi organau, ond doeddwn i ddim eisiau rhoi fy llygaid. Ar ôl i mi gael fy niagnosis, fe wnaeth fy nharo i nad oes digon o ymwybyddiaeth o gwmpas sut mae trawsblaniadau cornea’n gweithio. Baswn i’n bendant yn annog pobl eraill i arwyddo’r gofrestr rhoi organau a rhoi gwybod i’w hanwyliaid am eu penderfyniad; gall peth mor fach â hynny achub a thrawsnewid bywydau hyd at 9 o bobl. Rydw i wedi cael sgwrs am y peth efo fy nheulu ac mae fy mhrofiad i wedi gwneud i ni sylweddoli pa mor bwysig y gall hi fod i wneud y penderfyniad o roi organau. Trawsblaniad cornea yw’r ateb olaf i lawer o bobl sy’n dioddef o glefydau llygaid, neu bobl sydd wedi cael damwain ar eu llygaid, ond mae wir yn beth sy’n trawsnewid bywyd, ac mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau bob-dydd pobl.” 

A ydych chi eisiau dysgu mwy am roi organau?

Mae ein canllawiau yn cynnwys popeth sydd angen gwybod arnoch am roi organau.