Neidio i'r prif gynnwy
Dylan Williams

Wedi cael blas ar fywyd unwaith eto diolch i'r broses rhoi organau

Mae Dylan Williams, o Borth-y-rhyd, wedi bod yn byw gyda diabetes Math 1 ers yn 12 oed ac fe achosodd y clefyd i’w arennau fethu. O ganlyniad, aeth bywyd yn anodd iawn tan iddo dderbyn organau 20 mlynedd yn ôl a newidiodd ei fywyd. 

Roedd y gŵr 66 oed yn dathlu 20 mlynedd o fywyd priodasol pan ddaeth yr alwad i ddweud bod organau ar gael a oedd yn cyfateb. 

Meddai: “Gallaf gofio’r eiliad fel petai wedi digwydd ddoe. Carol, fy ngwraig a atebodd a rhoddodd y ffôn i fi. Cathy Blackmore, y cydgysylltydd trawsblannu oedd yno. Fe ddywedodd hi, Dylan rydyn ni wedi dod o hyd i organau sy’n cyfateb ac rydyn ni’n anfon ambiwlans ar unwaith.

“O fewn 10 munud roeddwn i mewn ambiwlans ar fy ffordd i Gaerdydd lle'r oedd yna bum meddyg yn disgwyl amdana i. Roeddwn i’n teimlo’n ofnus. Roeddwn am deimlo’n well, ond doeddwn i ddim am fynd drwy’r llawdriniaeth enfawr hon.”

Roedd Dylan wedi bod yn disgwyl ar y rhestr trawsblannu am bedair blynedd a saith mis cyn iddo gael yr alwad a newidiodd ei fywyd.
 
Ychwanegodd: “Roedd byw gyda diabetes yn anodd ac yn mynd yn anoddach. Datblygodd madredd yn fy nhroed chwith a cael a chael oedd hi i achub y droed. Roeddwn yn cael problemau gyda fy llygaid hefyd, fe wnaeth y pibellau gwaed fyrstio ac arllwys dros lensys fy llygaid felly roedd rhaid i fi gael fy nhrosglwyddo i ysbyty llygaid Bryste lle cefais driniaeth laser ddwys. 

“Yna dechreuodd fy aren fethu, ac roedd rhaid i fi gael dialysis bob dydd am bron i bum mlynedd.”

“Ers i fi gael y trawsblaniad, rydw i wedi dechrau mwynhau bywyd unwaith eto. Cyn y llawdriniaeth, roeddwn ar ddeiet a ddim yn cael bwyta braster, siwgr na halen. Os oeddwn yn cael cinio rhost, byddai’n rhaid i ni ferwi’r llysiau a’r tatws ddwywaith er mwyn tynnu’r holl botasiwm allan ohonyn nhw. Doedd gen i ddim syniad beth oedd gwir flas bwyd gan mai bwyta i fyw oeddwn i, yn hytrach na mwynhau.

“Ond ers cael yr organau, rydw i’n teimlo fel petai modd i fi gael blas ar fywyd unwaith eto. Does gen i ddim diabetes rhagor a does dim rhaid i fi gael dialysis.

“Rydw i’n mwynhau bywyd nawr, ac yn treulio amser gwerthfawr gyda’m gwraig a’m gefail sy’n fy nghefnogi drwy ganu yn y Gifted Organs Choir, a sefydlwyd gan James Tottle, sy’n gôr o bobl sydd wedi rhoi neu dderbyn organau.

“Eleni, rydyn ni wedi recordio cân yn yr un stiwdio â lle cafodd Bohemian Rhapsody gan Queen ei recordio. Pe bai chi wedi dweud wrthyf 20 mlynedd yn ôl, fyddwn i ddim wedi’ch credu.”

“Hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i siarad am roi organau. Rydw i bob amser yn dweud bod siarad am roi organau yn bwysicach na rhoi organau. Mae pawb ar ryw adeg yn eistedd i lawr wrth fwrdd y gegin gyda’u teulu, felly defnyddiwch yr amser hwnnw i wneud yn siŵr bod pawb yn gwybod beth yw eich penderfyniad am roi organau.”
 

A ydych chi eisiau dysgu mwy am roi organau?

Mae ein canllawiau yn cynnwys popeth sydd angen gwybod arnoch am roi organau.