Neidio i'r prif gynnwy
Brenda Roberts

Fe wnaeth y trawsblaniad achub fy mywyd mewn mwy nag un ffordd.

Prin ddeuddydd oedd ganddi ar ôl i fyw. Dyna pa mor agos oedd Brenda Roberts, 55 oed o Ruthun, Sir Ddinbych, i ddarfod o glefyd yr iau, cyflwr o’r enw siriosis bustlog sylfaenol. Yn ffodus i Brenda, cafwyd organ iddi mewn pryd a chafodd lawdriniaeth yr iau i achub ei bywyd yn 2012.

“Roedd y cyfan yn dipyn o syndod,” meddai Brenda. “Roeddwn i wedi bod yn teimlo’n dda iawn. Roeddwn i’n iach ac yn heini, yn gweithio’n llawn amser ac yn chwara golff pan ddaeth canlyniadau profion gwaed rheolaidd yn ôl yn dangos bod gen i broblem. Ar ôl mwy fyth o brofion, gwelwyd bod fy iau yn dirywio’n gyflym a dim ond trawsblaniad allai achub fy mywyd. Roeddwn i newydd ddathlu fy mhen-blwydd yn drigain oed, a chyn gynted ag yr oeddwn i wedi cyrraedd y garreg filltir honno, es i lawr allt yn sydyn iawn. Es i’r ysbyty yn St James, Leeds, a dywedwyd wrthyf na fyddwn i’n gadael heb drawsblaniad.

"Fe wnaeth y trawsblaniad achub fy mywyd mewn mwy nag un ffordd. Fe wnaethon nhw ddweud bod gen i goden (cyst) ar y pancreas, ac y bydden nhw’n ei thynnu yn ystod y llawdriniaeth. Erbyn deall, roedd gan y goden gelloedd cyn-ganseraidd a oedd yn rhwystro dwythell y bustl. Byddai clefyd yr iau wedi cuddio’r broblem hon, a all fod wedi arwain at oblygiadau a chymhlethdodau difrifol.
“Un o’r ffyrdd gorau i ddiolch i’m rhoddwr organau yw dal ati i fod mor iach â phosib - dw i’n olffwraig frwd ac yn chwarae yng nghlwb golff Pwllglas, Rhuthun. Dw i wedi chwarae golff yng Ngemau Trawsblaniad Prydain, ac wedi fy newis i chwarae mewn dwy gystadleuaeth Gemau Trawsblaniad y Byd yn yr Ariannin a Malaga, Sbaen. Eleni, byddaf yn cymryd rhan yn fy nhrydedd Gemau’r Byd yn Newcastle Gateshead ym mis Awst. Mae’n anrhydedd chwarae i Team GB.

Dw i’n meddwl bod deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar roi organau yn hollol wych. Mae angen mwy o organau i achub bywydau. Mae gormod o deuluoedd yn gwrthod rhoi organau ar ôl colli eu hanwyliaid, weithiau hyd yn oed os ydyn nhw’n gwybod bod ganddyn nhw gerdyn rhoddwr organau - felly mae’n bwysig sgwrsio â’ch anwyliaid fel eu bod nhw’n deall beth yw’ch penderfyniad chi, ac yn parchu hynny.

A ydych chi eisiau dysgu mwy am roi organau?

Mae ein canllawiau yn cynnwys popeth sydd angen gwybod arnoch am roi organau.