Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi set newydd o fesurau arbrofol ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y tri mesur newydd, sydd wedi’u datblygu ar y cyd â chlinigwyr y rheng flaen, yn cynnig llawer mwy o gyd-destun am brydlondeb ac ansawdd gofal mewn adrannau brys.

Bydd y mesurau’n cynnig gwell cofnod o’r hyn sy’n digwydd i gleifion wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau gofal brys na’r targedau presennol, a dylent helpu i sicrhau gwell gofal i gleifion. Bydd y data’n cael eu cyhoeddi bob mis, ar sail genedlaethol i ddechrau, o heddiw ymlaen (dydd Iau, 19 Tachwedd).

Dywedodd Mr Gething:

“Bydd y mesurau newydd hyn, sydd wedi’u datblygu ar y cyd â chlinigwyr, yn rhoi darlun llawer gwell inni i gyd o’r gofal sy’n cael ei ddarparu gan staff mewn adrannau brys na’r targedau pedair a deuddeg awr sylfaenol yn unig. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu byrddau iechyd i neilltuo’r adnoddau yn y mannau cywir, ar yr adeg gywir, er mwyn gwella profiadau a chanlyniadau.”

Arweiniodd Dr Jo Mower, Is-lywydd Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys Cymru a Chyfarwyddwr Clinigol y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Heb ei Drefnu, dîm o staff y rheng flaen a ddatblygodd y mesurau newydd, ar ôl iddynt ofyn am farn staff a chleifion.
Dywedodd:

“Yn ystod ein trafodaethau gyda nyrsys, meddygon a staff allweddol eraill – a thrwy ymgysylltu â’r cyhoedd – gwelsom fod pobl yn gwerthfawrogi cael asesiad cychwynnol amserol a chysur wrth gael gofal mewn adrannau argyfwng.

Roedd staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn teimlo’n gyffredinol nad yw’r targedau amseroedd aros presennol ar eu pennau eu hunain yn disgrifio faint o ofal a roddir i gleifion, faint o gyswllt a gânt gyda chleifion na phrydlondeb ac ansawdd y gofal a ddarperir. Roeddent am weld llawer mwy o gyd-destun.

Ynghyd â’r targedau presennol a gwybodaeth newydd yn ymwneud â phrofiad cleifion, byddant hefyd yn cynnig gwell tryloywder, drwy amlygu amseroedd aros hirach na fyddent wedi dod i’r amlwg yn y gorffennol. Yn y pen draw, bydd y tri mesur newydd yn cael eu hategu gan fesurau eraill a ddylai helpu i wella gwasanaethau drwy neilltuo’r adnoddau yn y mannau cywir a gwella llif cleifion drwy’r system ysbyty.”

Dyma’r set gyntaf o fesurau newydd:

  • Amser cyn brysbennu. Yr amser cyfartalog (canolrif) y mae pobl yn ei dreulio’n aros i gael eu brysbennu gan glinigydd ar ôl cyrraedd, a pherfformiad fesul ‘categori brysbennu’ sy’n cynnwys ‘sylw ar unwaith’, ‘brys iawn’ a ‘brys’.
  • Amser cyn gweld clinigydd. Yr amser cyfartalog (canolrif) y mae claf yn ei dreulio’n aros am asesiad mwy trylwyr gan glinigydd.
  • Gwybodaeth ynglŷn â lle mae pobl yn mynd ar ôl cael eu brysbennu, eu hasesu a’u trin yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Bydd hyn yn gwella dealltwriaeth o’r modd y caiff gwasanaethau eu defnyddio i helpu byrddau iechyd i reoli cleifion yn fwy effeithiol yn y gymuned neu mewn gwahanol rannau o’r ysbyty.

Mae’r data’n cael eu hystyried yn arbrofol ar hyn o bryd, a dylid cymryd gofal wrth eu hystyried tra bo ansawdd a chywirdeb y data yn gwella. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i wella ansawdd data a’r dulliau a ddefnyddir i’w casglu.

Gellir gweld y data yma o 09.30 dydd Iau 19 Ionawr: https://nccu.nhs.wales/npuc/edqdf

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i ddatblygu mesurau eraill, gan adlewyrchu’r llwybr gofal brys ac argyfwng ehangach, ac i gyhoeddi gwybodaeth am brofiad cleifion.