Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynlluniau newydd i roi llais i fwy o bobl mewn democratiaeth leol yn cael eu cyhoeddi'r wythnos hon (dydd Mawrth 30 Ionawr).

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cynlluniau'n adlewyrchu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru llynedd ar ddiwygio'r system etholiadol yng Nghymru, a gafodd bron i 1000 o ymatebion.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies: 

"Mae democratiaeth leol yn dibynnu'n llwyr ar y rhai sy'n cymryd rhan. Rydyn ni am roi hwb i'r nifer sydd wedi cofrestru fel etholwyr, ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio, a rhoi'r hawl i fwy o bobl gymryd rhan."

Dan y cynigion sydd i'w cyhoeddi'r wythnos hon, byddai pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau cyngor, ynghyd â gwladolion tramor y cydnabyddir yn gyfreithiol eu bod yn preswylio yng Nghymru. Byddai cofrestru awtomatig yn help i sicrhau bod llai o bobl ar goll o'r gofrestr etholwyr.

Dywed Alun Davies ei fod am weld cynghorau'n profi dulliau pleidleisio newydd, arloesol sy'n adlewyrchu bywydau prysur pobl. Gallai hyn gynnwys pleidleisio digidol o bell, gorsafoedd pleidleisio symudol a phleidleisio mewn mannau megis archfarchnadoedd, llyfrgelloedd lleol, canolfannau hamdden a gorsafoedd trên.

Er mwyn sicrhau bod pobl yn cael dewis clir, byddai'n rhaid i gynghorau osod datganiadau polisi'r ymgeiswyr ar-lein, ac fe fyddai'n rhaid i bawb sy'n sefyll ddatgan unrhyw ymlyniad i blaid. Bydd pleidleiswyr yn gwybod beth yw daliadau'r ymgeiswyr ac â mwy o reswm dros bleidleisio.

Dywedodd Alun Davies: 

"Rwy'n poeni bod llawer gormod o bobl, yn arbennig pobl ifanc, wedi ymddieithrio o'r broses wleidyddol. 

"Mae nifer o resymau am hyn, ond mae'n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod y broses yn fwy deniadol, croesawgar a thryloyw. Bydd y cynigion sy'n cael eu cyhoeddi'r wythnos hon, gobeithio, yn help i annog mwy i gymryd rhan a gwella'r broses ddemocrataidd i bawb yng Nghymru.

"Hoffwn i weld mwy o awdurdodau yng Nghymru'n arwain a phrofi nifer o ddulliau pleidleisio arloesol, rhywbeth sydd wedi bod ar stop ar lefel y Deyrnas Unedig ers canol y degawd diwethaf. Rydw i am weld, er enghraifft, os byddai pleidleisio a chyfri electronig, neu bleidleisio ar fwy nag un diwrnod neu mewn llefydd eraill ar wahân i'r gorsafoedd pleidleisio traddodiadol, yn helpu i sicrhau bod mwy yn cymryd rhan ac yn gwella'r profiad cyffredinol i etholwyr Cymru."

Dywedodd Jessica Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru: 

“Rydyn ni'n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r syniadau arloesol hyn i foderneiddio ein democratiaeth. Dyma gyfle i Gymru arwain y ffordd wrth greu system wleidyddol sy'n gweithio i bawb – ac mae hynny'n arbennig o briodol wrth i ni ddathlu canmlwyddiant rhoi'r hawl i fenywod bleidleisio.

"Llynedd buom yn siarad â bron i 1,000 o bobl ledled Cymru am wleidyddiaeth a phleidleisio yn ein prosiect Lleisiau Coll, ac fe welwyd bod awydd gwneud pethau'n wahanol. Yn ein barn ni, y cynigion hyn yw'r cam cyntaf i wneud hynny."