Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Chwefror 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 75 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn rhoi'r cyfle i randdeiliaid ledled Cymru gyfrannu at y set gyntaf o ymgynghoriadau er mwyn i ni gyflawni gofynion y Ddeddf.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Datblygwyd y rheoliadau a’r canllawiau statudol drafft drwy broses ymgynghori gyda’n prif randdeiliaid.
Cafodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Gydsyniad Brenhinol ar 1 Mai 2014. Y Ddeddf yw’r sylfaen i fframwaith statudol newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Caiff y rheoliadau eu gwneud o dan adrannau priodol y Ddeddf. Caiff y codau ymarfer eu cyhoeddi o dan adran 145 a chyhoeddir y canllawiau statudol o dan adrannau 131 ac 139.
Mae rhan 2 (diogelu) y Ddeddf yn ymdrin â:
- cryfhau’r trefniadau ar gyfer plant mewn perygl
- deddfwriaeth newydd i amddiffyn oedolion mewn perygl gan gynnwys dyletswydd i adrodd ac ymchwilio
- Gorchymyn Amddiffyn a Chefnogi Oedolion newydd
- Byrddau Diogelu Oedolion newydd
- Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y crynodeb gweithredol.